Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2017

Erthygl 13

"ATODLEN 2Symudiadau a ganiateir heb brofion cyn symud

Symud anifail i’w gigydda

1.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i’w gigydda.

Symud i farchnadoedd cigydda

2.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i farchnad y mae’r holl anifeiliaid yn mynd yn uniongyrchol ohoni i’w cigydda.

Symud i farchnadoedd

3.  Symud anifail buchol i farchnad ar yr amod y’i dychwelir yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol oni chaiff ei werthu, neu ei fod yn symudiad i farchnad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 13.

Symud i ganolfannau casglu

4.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i ganolfan gasglu mewn symudiad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 13.

Symud i unedau pesgi eithriedig

5.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi eithriedig a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A.

Symud i unedau pesgi cymeradwy

6.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi gymeradwy a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A.

Symud i sioeau amaethyddol

7.  Symud anifail buchol i sioe amaethyddol nad yw’n golygu aros am fwy na 24 awr na lletya’r anifail hwnnw ar faes y sioe, ar yr amod bod yr anifail naill ai’n mynd yn uniongyrchol o’r sioe i’w gigydda neu’n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y sioe.

Symud o fewn yr ardal TB isel neu ohoni

8.  Symud anifail buchol o fewn yr ardal TB isel neu ohoni, oni bai bod yr anifail buchol mewn—

(a)buches dan gyfyngiadau;

(b)uned besgi drwyddedig;

(c)buches sydd wedi bod â statws rhydd rhag twbercwlosis am lai na 18 mis; neu

(ch)buches mewn mangre sy’n ffinio â mangre arall lle y mae’r fuches yn fuches dan gyfyngiadau.