Erthygl 13
1. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i’w gigydda.
2. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i farchnad y mae’r holl anifeiliaid yn mynd yn uniongyrchol ohoni i’w cigydda.
3. Symud anifail buchol i farchnad ar yr amod y’i dychwelir yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol oni chaiff ei werthu, neu ei fod yn symudiad i farchnad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 13.
4. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i ganolfan gasglu mewn symudiad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 13.
5. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi eithriedig a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A.
6. Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi gymeradwy a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A.
7. Symud anifail buchol i sioe amaethyddol nad yw’n golygu aros am fwy na 24 awr na lletya’r anifail hwnnw ar faes y sioe, ar yr amod bod yr anifail naill ai’n mynd yn uniongyrchol o’r sioe i’w gigydda neu’n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y sioe.
8. Symud anifail buchol o fewn yr ardal TB isel neu ohoni, oni bai bod yr anifail buchol mewn—
(a)buches dan gyfyngiadau;
(b)uned besgi drwyddedig;
(c)buches sydd wedi bod â statws rhydd rhag twbercwlosis am lai na 18 mis; neu
(ch)buches mewn mangre sy’n ffinio â mangre arall lle y mae’r fuches yn fuches dan gyfyngiadau.