"ATODLEN 2Symudiadau a ganiateir heb brofion cyn symud
Symud anifail i’w gigydda1
Symud anifail buchol yn uniongyrchol i’w gigydda.
Symud i farchnadoedd cigydda2
Symud anifail buchol yn uniongyrchol i farchnad y mae’r holl anifeiliaid yn mynd yn uniongyrchol ohoni i’w cigydda.
Symud i farchnadoedd3
Symud anifail buchol i farchnad ar yr amod y’i dychwelir yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol oni chaiff ei werthu, neu ei fod yn symudiad i farchnad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 13.
Symud i ganolfannau casglu4
Symud anifail buchol yn uniongyrchol i ganolfan gasglu mewn symudiad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 13.
Symud i unedau pesgi eithriedig5
Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi eithriedig a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A.
Symud i unedau pesgi cymeradwy6
Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi gymeradwy a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A.
Symud i sioeau amaethyddol7
Symud anifail buchol i sioe amaethyddol nad yw’n golygu aros am fwy na 24 awr na lletya’r anifail hwnnw ar faes y sioe, ar yr amod bod yr anifail naill ai’n mynd yn uniongyrchol o’r sioe i’w gigydda neu’n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y sioe.
Symud o fewn yr ardal TB isel neu ohoni8
Symud anifail buchol o fewn yr ardal TB isel neu ohoni, oni bai bod yr anifail buchol mewn—
a
buches dan gyfyngiadau;
b
uned besgi drwyddedig;
c
buches sydd wedi bod â statws rhydd rhag twbercwlosis am lai na 18 mis; neu
ch
buches mewn mangre sy’n ffinio â mangre arall lle y mae’r fuches yn fuches dan gyfyngiadau.