Search Legislation

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2017

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 711 (Cy. 168)

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

27 Mehefin 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Mehefin 2017

Yn dod i rym

1Hydref 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 7(1), 8(1), 15(4), 25, 32(2), 32(3), 34(7) a 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2017.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2017.

Diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

2.  Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010(2) wedi ei ddiwygio yn unol â’r Atodlen.

Arbedion a phontio

3.  Bydd unrhyw hysbysiad neu drwydded a ddyroddwyd, neu gymeradwyaeth neu ganiatâd a roddwyd, o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 ac sy’n cael effaith pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym yn parhau mewn grym.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

27 Mehefin 2017

Erthygl 2

YR ATODLENDiwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010

1.  Yn erthygl 2, yn y mannau priodol, mewnosoder—

ystyr “ardal TB ganolradd” (“intermediate TB area”) yw’r holl dir sydd wedi ei liwio a’i ddynodi fel “TB Canolradd” ar y map a adneuwyd;

ystyr “ardal TB isel” (“low TB area”) yw’r holl dir sydd wedi ei liwio a’i ddynodi fel “TB Isel” ar y map a adneuwyd;

ystyr “ardal TB uchel” (“high TB area”) yw’r holl dir sydd wedi ei liwio a’i ddynodi fel “TB Uchel” ar y map a adneuwyd;

ystyr “canolfan gasglu” (“collection centre”) yw mangre a ddefnyddir ar gyfer cael, yn y tymor byr, anifeiliaid y bwriedir eu symud i rywle arall (ond nid yw’n cynnwys marchnad na rhywle arall a ddefnyddir ar gyfer gwerthiant neu fasnach anifeiliaid oni fwriedir i’r holl anifeiliaid sydd yno gael eu cigydda yn syth)”;

ystyr “map a adneuwyd” (“deposited map”) yw’r map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru” a lofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru ac sy’n ddyddiedig 23 Mehefin 2017(3);

ystyr “prawf ar ôl symud” (“post-movement test”) yw prawf croen a gynhelir yn unol ag erthygl 13A;

ystyr “uned besgi drwyddedig” (“licensed finishing unit”) yw daliad hunangynhaliol ar wahân—

(a)

lle y mae’r holl anifeiliaid buchol yn cael eu lletya’n barhaol yn yr uned hyd nes y gellir eu symud i’w cigydda; a

(b)

sydd wedi ei drwyddedu gan arolygydd i dewhau a phesgi anifeiliaid buchol nad ydynt yn dod o fuchesi dan gyfyngiadau;.

2.  Ym mharagraff (3)(b) o erthygl 10 (ymchwiliad milfeddygol i bresenoldeb clefyd)—

(a)ar ôl “ferwi” mewnosoder “neu’i basteureiddio”; a

(b)ar ôl “rywfodd arall,” mewnosoder “oni chaiff ei waredu rywfodd arall,”.

3.  Yn erthygl 11A (hysbysiad gwella bioddiogelwch)—

(a)yn y pennawd, yn lle “gwella” rhodder “gofynion”; a

(b)ym mharagraff (2) yn lle “(“hysbysiad gwella bioddiogelwch”) (“biosecurity improvement notice”)” rhodder “(“hysbysiad gofynion bioddiogelwch”) (“biosecurity requirements notice”)”.

4.  Yn erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis), ar ôl paragraff (2)(ch) mewnosoder—

(d)cigydda’r anifail hwnnw ar y fferm a’i symud wedi hynny,.

5.  Yn erthygl 13 (profion cyn symud) —

(a)yn lle paragraff 2(c) rhodder—

(c)unrhyw symudiadau a bennir yn Atodlen 2; ac; a

(b)yn lle paragraff (3) rhodder—

(3) At ddibenion paragraff (1)(a)—

(a)mae’r cyfnod o 60 diwrnod yn cychwyn gyda’r diwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir pigiad gyda thwbercwlin i’r anifail; a

(b)ni chaniateir i’r prawf croen fod yn un a gyflawnir ar anifail sy’n ddarostyngedig i hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 16 (ynysu a gwahardd symud anifeiliaid) oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo hynny.

6.  Ar ôl erthygl 13 (profion cyn symud) mewnosoder—

Profion ar ôl symud

13A.(1) Ceir tair ardal twbercwlosis yng Nghymru, sef—

(a)ardal TB isel;

(b)ardal TB ganolradd;

(c)ardal TB uchel.

(2) Pan symudir anifail buchol i’r ardal TB isel o fuches a leolir yn—

(a)yr ardal TB ganolradd;

(b)yr ardal TB uchel;

(c)Lloegr; neu

(ch)Gogledd Iwerddon,

rhaid i’r ceidwad sy’n cael yr anifail drefnu i brawf ar ôl symud gael ei gynnal arno gan filfeddyg cymeradwy ddim llai na 60 diwrnod, ond ddim mwy na 120 diwrnod, ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd yr anifail y fangre sy’n ei gael.

(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i—

(a)anifeiliaid buchol sy’n cael eu cigydda o fewn 120 diwrnod i gyrraedd y fangre sy’n cael yr anifail;

(b)symud anifail buchol i le ar gyfer triniaeth filfeddygol, ar yr amod y’i dychwelir yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y driniaeth, neu y’i lleddir neu y’i hanfonir yn uniongyrchol i’w gigydda;

(c)unrhyw symudiadau a bennir yn Atodlen 3; ac

(ch)unrhyw symudiad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru.

(4) Pan fo’n ofynnol i anifail buchol gael prawf ar ôl symud o dan baragraff (2), ni chaiff neb symud yr anifail hwnnw o’r fangre sy’n cael yr anifail hyd nes y bydd y prawf croen wedi ei gwblhau, a bod canlyniad y prawf yn negyddol, oni bai bod yr anifail hwnnw yn cael ei symud—

(a)yn uniongyrchol (neu drwy grynhoad cigydda) i’w gigydda;

(b)i uned besgi gymeradwy; neu

(c)o dan awdurdod trwydded symud a ddyroddir gan arolygydd.

(5) Pan fo’n ofynnol i anifail buchol gael prawf ar ôl symud, ond ei fod yn parhau heb ei brofi ar ôl 120 diwrnod ers cyrraedd y fangre sy’n cael yr anifail—

(a)bydd y prawf yn cael ei drin fel prawf hwyr gan Weinidogion Cymru; a

(b)rhaid i arolygydd osod cyfyngiadau ar symud ar yr holl anifeiliaid buchol yn y fangre hyd nes y bydd y prawf ar ôl symud hwyr wedi ei gwblhau, a bod canlyniad y prawf yn negyddol.

(6) Rhaid trefnu’r prawf ar ôl symud gyda milfeddyg cymeradwy ar draul ceidwad yr anifail buchol oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd yn unol ag erthygl 12(1) i gynnal prawf ar gyfer twbercwlosis o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (2).

7.  Yn erthygl 26 (iawndal am anifeiliaid buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis)—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “â’r Atodlen” rhodder “ag Atodlen 1”; a

(b)ym mharagraff (3), yn lle “o’r Atodlen” rhodder “ o Atodlen 1”.

8.  Yn yr Atodlen (cyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis), ym mhennawd yr Atodlen, yn lle “Atodlen” rhodder “Atodlen 1”.

9.  Ym mharagraff 1 (cyfrifiad) o’r Atodlen (cyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis)—

(a)yn is-baragraff (1), yn lle “£15,000” rhodder “£5,000, oni bai bod SV yn fwy na £5,000,”; a

(b)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Pan na fo anifail buchol yn cael ei adnabod drwy gyfrwng tagiau clust a phasbort gwartheg yn unol â gofynion Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007, C yw £1.

10.  Ym mharagraff 3 (methu â chydymffurfio â hysbysiad) o’r Atodlen (cyfrifo gwerth anifail buchol a gigyddir oherwydd twbercwlosis)—

(a)yn is-baragraff (1)(a)(iii) yn lle “gwella” rhodder “gofynion”; a

(b)yn is-baragraff (2)(d), yn lle “gwella” rhodder “gofynion”.

11.  Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder—

Erthygl 13

"ATODLEN 2Symudiadau a ganiateir heb brofion cyn symud

Symud anifail i’w gigydda

1.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i’w gigydda.

Symud i farchnadoedd cigydda

2.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i farchnad y mae’r holl anifeiliaid yn mynd yn uniongyrchol ohoni i’w cigydda.

Symud i farchnadoedd

3.  Symud anifail buchol i farchnad ar yr amod y’i dychwelir yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol oni chaiff ei werthu, neu ei fod yn symudiad i farchnad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 13.

Symud i ganolfannau casglu

4.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i ganolfan gasglu mewn symudiad a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 13.

Symud i unedau pesgi eithriedig

5.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi eithriedig a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A.

Symud i unedau pesgi cymeradwy

6.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi gymeradwy a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A.

Symud i sioeau amaethyddol

7.  Symud anifail buchol i sioe amaethyddol nad yw’n golygu aros am fwy na 24 awr na lletya’r anifail hwnnw ar faes y sioe, ar yr amod bod yr anifail naill ai’n mynd yn uniongyrchol o’r sioe i’w gigydda neu’n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y sioe.

Symud o fewn yr ardal TB isel neu ohoni

8.  Symud anifail buchol o fewn yr ardal TB isel neu ohoni, oni bai bod yr anifail buchol mewn—

(a)buches dan gyfyngiadau;

(b)uned besgi drwyddedig;

(c)buches sydd wedi bod â statws rhydd rhag twbercwlosis am lai na 18 mis; neu

(ch)buches mewn mangre sy’n ffinio â mangre arall lle y mae’r fuches yn fuches dan gyfyngiadau.

Erthygl 13A

ATODLEN 3Symudiadau a ganiateir heb brofion ar ôl symud

Symud anifail i’w gigydda

1.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i’w gigydda.

Symud i farchnadoedd cigydda

2.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i farchnad y mae’r holl anifeiliaid yn mynd yn uniongyrchol ohoni i’w cigydda.

Symud i unedau pesgi eithriedig

3.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi eithriedig a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A.

Symud i unedau pesgi cymeradwy

4.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi gymeradwy a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 14A.

Symud i unedau pesgi trwyddedig

5.  Symud anifail buchol yn uniongyrchol i uned besgi drwyddedig.

Symud i sioeau amaethyddol

6.  Symud anifail buchol i sioe amaethyddol yn yr ardal TB isel, neu ddychwelyd anifail i’r ardal TB isel o sioe amaethyddol y tu allan i’r ardal TB isel, ar yr amod—

(a)nad yw’r symud yn golygu aros am fwy na 24 awr neu letya’r anifail hwnnw ar faes y sioe; a

(b)bod yr anifail naill ai’n mynd yn uniongyrchol o’r sioe i’w gigydda neu’n cael ei ddychwelyd yn uniongyrchol i’w fangre wreiddiol ar ôl y sioe.

Symud o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel

7.  Symud anifail buchol o’r ardal risg isel yn Lloegr i’r ardal TB isel. Ystyr “yr ardal risg isel yn Lloegr (“the low risk area in England”) yw’r ardal a ddiffinnir yn erthygl 9A o Orchymyn Twbercwlosis (Lloegr) 2014(4).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1379 (Cy. 122)) (“Gorchymyn 2010”).

Mae’r diwygiadau wedi eu cynnwys yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Mae paragraff 1 yn cyflwyno diffiniadau o “canolfan gasglu”, y gwahanol ardaloedd twbercwlosis yng Nghymru, “uned besgi drwyddedig” a “prawf ar ôl symud”.

Mae paragraff 2 yn gwneud darpariaeth sy’n egluro’r rhagofalon rhag lledaenu clefyd.

Mae paragraffau 3 a 10 yn disodli hysbysiadau gwella bioddiogelwch â hysbysiadau gofynion bioddiogelwch.

Mae paragraff 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer hwyluso cigydda anifail a brofir ar gyfer twbercwlosis ar y fferm a’i symud wedi hynny.

Mae paragraff 5 yn egluro’r amgylchiadau pan na chaniateir defnyddio prawf croen fel prawf cyn symud, a phan na fydd prawf cyn symud yn ofynnol.

Mae paragraff 6 yn mewnosod erthygl 13A newydd yng Ngorchymyn 2010 sy’n ei gwneud yn ofynnol i geidwaid yn yr ardal TB isel sy’n cael anifeiliaid buchol o fuchesi mewn ardaloedd lle y mae nifer uwch o achosion o dwbercwlosis, neu o Loegr neu Ogledd Iwerddon, i drefnu i brawf croen ar ôl symud gael ei gynnal gan filfeddyg cymeradwy, a thalu amdano. Mae’r erthygl newydd hefyd yn nodi pryd na fydd prawf croen ar ôl symud yn ofynnol. Rhaid cynnal y prawf ddim llai na 60 diwrnod ond ddim mwy na 120 diwrnod ar ôl i’r anifeiliaid gyrraedd y fangre. Os na chynhelir y prawf rhaid i arolygydd osod cyfyngiadau ar symud ar yr holl anifeiliaid buchol yn y fangre. Dangosir y gwahanol ardaloedd twbercwlosis yng Nghymru ar y map o’r enw “ardaloedd TB Rhanbarthol Cymru”. O ganlyniad i raddfa’r map, nid yw’n bosibl ei gynnwys fel atodiad i’r Gorchymyn hwn. Gellir gweld y map ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru/tbmewngwartheg.

Mae paragraffau 7 ac 8 yn diwygio rhif yr Atodlen i Orchymyn 2010 yn dilyn cyflwyno Atodlenni 2 a 3 gan y Gorchymyn hwn.

Mae paragraff 9 yn diwygio paragraff 1 o’r Atodlen i Orchymyn 2010. Mae’n diwygio uchafswm gwerth yr iawndal ar gyfer anifail a gigyddir oherwydd twbercwlosis, ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer swm yr iawndal pan na fo anifail yn cael ei adnabod yn unol â gofynion Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 (O.S. 2007/842 (Cy. 74)).

Mae paragraff 11 yn mewnosod Atodlenni 2 a 3 newydd sy’n nodi’r symudiadau a ganiateir heb brofi cyn symud neu ar ôl symud.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1981 p. 22. Mae swyddogaethau o dan y Ddeddf yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru) yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044); ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Mae’r map wedi ei adneuo ac ar gael i edrych arno yn Swyddfa Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Gellir gweld copi o’r map ar www.llyw.cymru/tbmewngwartheg.

(4)

O.S. 2014/2383 fel yʼi diwygiwyd gan O.S. 2015/1838 ac O.S. 2016/347.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources