xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
27 Mehefin 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
30 Mehefin 2017
Yn dod i rym
1 Medi 2017
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(8) a 120(1) o Ddeddf Addysg 2005(1) a pharagraff 6(b) o Atodlen 4 iddi, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2017.
(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006(2), yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)trefnu i’r cyfarfod gael ei gynnal heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail diwrnod gwaith yn dilyn cychwyn yr arolygiad;”.
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Deddf Addysg 2005 (“Deddf 2005”) yn nodi’r fframwaith statudol ar gyfer arolygu ysgolion. Mae Deddf 2005 yn gadael i lawer o’r manylion gael eu rhagnodi mewn Rheoliadau. Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 (“Rheoliadau 2006”) yn nodi llawer o’r manylion hynny.
Mae paragraff 6 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod priodol (a ddiffinnir yn adran 43 o Ddeddf 2005) ar gyfer yr ysgol gynnal cyfarfod rhwng yr arolygydd sy’n arwain yr arolygiad a rhieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol. Mae rheoliad 8 o Reoliadau 2006 yn rhagnodi manylion y trefniadau ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Yn benodol mae rheoliad 8(a) yn darparu bod rhaid i’r cyfarfod gael ei gynnal cyn yr amser y mae’r arolygiad i fod i gychwyn. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 8(a) fel bod rhaid i’r cyfarfod gael ei gynnal heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail diwrnod gwaith yn dilyn cychwyn yr arolygiad (rheoliad 2(a)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2005 p. 18. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2006/1714 (Cy. 176), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101), O.S. 2010/1436 (Cy. 127), O.S. 2014/1212 (Cy. 128), O.S. 2016/135 (Cy. 65) ac O.S. 2016/211 (Cy. 84).