2017 Rhif 710 (Cy. 167)
Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(8) a 120(1) o Ddeddf Addysg 20051 a pharagraff 6(b) o Atodlen 4 iddi, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2017.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2017.
3
Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 20062
Yn rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 20062, yn lle paragraff (a) rhodder—
a
trefnu i’r cyfarfod gael ei gynnal heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail diwrnod gwaith yn dilyn cychwyn yr arolygiad;
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)