Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 642 (Cy. 148)

Henebion Hynafol, Cymru

Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017

Gwnaed

4 Mai 20177

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mai 2017

Yn dod i rym

31 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2 a 60 o Ddeddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979(1), ac Atodlen 1 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 60 o’r Ddeddf honno ac Atodlen 1 iddi ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 31 Mai 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais am gydsyniad heneb gofrestredig o dan adran 2 o’r Ddeddf;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais, neu sydd wedi gwneud cais;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979.

Ceisiadau

3.—(1Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys a phan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu disgresiwn o dan baragraff (3), rhaid i gais—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig yn y ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru (neu ffurf sylweddol debyg ei heffaith);

(b)cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt yn y ffurf;

(c)datgan enw a chyfeiriad perchennog yr heneb gofrestredig(3), os nad y ceisydd yw’r perchennog;

(d)datgan enw a chyfeiriad meddiannydd yr heneb, os nad y ceisydd yw’r meddiannydd; ac

(e)dod gyda—

(i)plan neu luniad sy’n ddigonol i nodi’r darn o dir y mae’r gwaith yn ymwneud ag ef; a

(ii)unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r gwaith ac effaith y gwaith ar yr heneb.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys i geisiadau mewn cysylltiad â gwaith sydd—

(a)yn fân ei natur; a

(b)at ddiben symud ymaith neu atgyweirio heneb gofrestredig neu unrhyw ran ohoni, neu at ddiben gwneud unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau i’r heneb fel y cyfeirir ato yn adran 2(2)(b) o’r Ddeddf.

(3Pan fo paragraff (2) yn gymwys, caniateir gwneud cais, yn ôl disgresiwn Gweinidogion Cymru, heb fod yn unol â’r darpariaethau ym mharagraff (1).

(4Mewn unrhyw achos, rhaid i’r ceisydd roi’r fath wybodaeth bellach i Weinidogion Cymru sy’n ofynnol ganddynt ar unrhyw adeg i’w galluogi i benderfynu ar y cais.

Personau sydd i gael eu trin fel perchnogion henebion

4.  Mewn perthynas ag unrhyw heneb, mae person i gael ei drin, at ddibenion paragraff 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf, fel perchennog yr heneb os y person, am y tro, yw perchennog ystad y ffi syml yn yr heneb neu os oes ganddo hawl i denantiaeth yr heneb a roddwyd neu a estynnwyd am dymor blynyddoedd sicr nad oes llai na saith mlynedd ohono yn dal heb ddod i ben.

Cydsyniad heneb gofrestredig

5.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad heneb gofrestredig(4), rhaid i’r cydsyniad—

(a)cael ei roi yn ysgrifenedig; a

(b)nodi unrhyw amodau y mae’r cydsyniad yn ddarostyngedig iddynt.

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992

6.—(1Mae Rheoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y lle priodol mewnosoder—

“the 2017 Regulations” means the Ancient Monuments (Applications for Scheduled Monument Consent) (Wales) Regulations 2017;.

(3Yn rheoliad 4(2), yn lle “and the Ancient Monuments Regulations” rhodder “, the Ancient Monuments Regulations and the 2017 Regulations”.

(4Yn Atodlen 2—

(a)ym mhennawd yr Atodlen, yn lle “and the Ancient Monuments Regulations”, rhodder “, the Ancient Monuments Regulations and the 2017 Regulations”; a

(b)ar ôl paragraff 2, mewnosoder—

3.(1) The 2017 Regulations are modified as follows.

(2) For regulation 3(1)(e) substitute—

(e)be accompanied by—

(i)a plan identifying the monument to which the application relates;

(ii)such other plans and drawings as are necessary to describe the works and which may include—

(aa)detailed plans, drawings and sections; or

(bb)extracts from the plans, drawings and sections submitted with the concurrent application; or

(cc)where no plans, drawings or sections have been prepared, a clear written description of the works supported by such other materials as the applicant is reasonably able to provide;

(iii)a statement that the application is made for the purpose of proposals included in the concurrent application, which must give (where known) the date and reference number of the concurrent application.

(3) After regulation 3(4) insert—

(5) In this regulation, “concurrent application” has the meaning given by paragraph 2(4A) of Schedule 1 to the Act(6).

(4) After regulation 3 insert—

Certificate

3A.(1) A certificate which by virtue of paragraph 2(1)(aa) of Schedule 1 to the Act accompanies an application must be in the form set out in paragraph (2).

(2) The form of certificate is as follows—

(5) For regulation 4 substitute—

4.  In relation to any monument, a person is to be treated for the purpose of paragraph 2 of Schedule 1 to the Act as the owner of the monument if the person, not being a mortgagee not in possession, is for the time being entitled to dispose of the fee simple of the monument (whether in possession or reversion) or is a person holding, or entitled to the rents and profits of the land under a lease or agreement the unexpired term of which exceeds three years.

Diwygiad canlyniadol i Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016

7.—(1Yn Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016(7), yn lle paragraff 1(2)(b) o Atodlen 2, rhodder—

(b)yr eitemau a restrir neu y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Cymru) 2017.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wneir o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(8) cyn 31 Mai 2017.

Dirymiadau a darpariaeth arbed

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) 1981(9), i’r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru; a

(b)Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 2001(10).

(2Mae’r Rheoliadau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â cheisiadau a wneir cyn 31 Mai 2017.

Ken Skates

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, un o Weinidogion Cymru

4 Mai 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gydsyniad heneb gofrestredig, ac ar gyfer rhoi’r cydsyniad hwnnw, gan gynnwys gweithdrefn symlach ar gyfer gwneud ceisiadau.

Mae rheoliadau 3 i 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch ceisiadau a’r ffurf a’r dull y rhoddir cydsyniad heneb gofrestredig ynddo gan Weinidogion Cymru.

Mae rheoliadau 6 a 7 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992 a Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016.

Mae rheoliad 8 yn dirymu Rheoliadau Henebion Hynafol (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) 1981 o ran Cymru a Rheoliadau Henebion (Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig) (Ffurflenni a Manylion Cymraeg) 2001 ac mae’n cynnwys darpariaeth arbed.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Mae’r Asesiad Effaith a luniwyd ar gyfer Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 yn berthnasol ac mae copïau ohono ar gael gan Wasanaethau’r Amgylchedd Hanesyddol (Cadw), Llywodraeth Cymru, Plas Carew, Caerdydd, CF15 7QQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

1979 p. 46; diwygiwyd adran 2 ac Atodlen 1 gan adran 5(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (dccc 4) (“Deddf 2016”). Diwygiwyd adran 60 gan adran 40(1) o Ddeddf 2016. Gwnaed diwygiadau eraill i adran 2 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Gweler adran 1(11) o’r Ddeddf am y diffiniad o “scheduled monument”.

(4)

Gweler adran 2(3)(a) o’r Ddeddf am y diffiniad o “scheduled monument consent”.

(6)

Ar gyfer paragraff 2(4A) gweler paragraff 1(4) o Atodlen 2 i O.S. 1992/3138.

(8)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).