Diwygio Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016
2.—(1) Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rheoliad 3 (dehongli: offerynnau Ewropeaidd) yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb” rhodder—
“ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd(2);”.
(3) Yn Rhan 1 o Atodlen 2 (labeli swyddogol a dogfennau swyddogol), ar ôl paragraff 7(b)(i), mewnosoder—
“(ia)rhif cyfresol wedi ei neilltuo yn swyddogol;”.
(2)
OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2016/317 (OJ L 60, 5.3.2016, t. 72).