Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016LL+C

2.—(1Mae Gorchymyn 2016 wedi ei ddiwygio yn unol â’r paragraff hwn.

(2Yn erthygl 2—

(a)yn y diffiniad o “y Rheoliadau AEA” (“EIA Regulations”), yn lle “2016”, rhodder “2017”; a

(b)yn y lleoedd perthnasol, mewnosoder—

(i)“mae i “datblygiad AEA” (“EIA development”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;

(ii)“mae i “datblygiad Atodlen 1” (“Schedule 1 development”) a “datblygiad Atodlen 2” (“Schedule 2 development”) yr ystyron a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;

(iii)“mae i “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;

(iv)“mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”.

(3Yn erthygl 18—

(a)ar ôl paragraff (3)(b), mewnosoder—

(ba)yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol—

(i)y ffaith bod y datblygiad yn ddarostyngedig i weithdrefn asesu effaith amgylcheddol;

(ii)y datganiad amgylcheddol, unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu perthnasol, ac unrhyw wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall;

(iii)yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 1998, y prif adroddiadau a chyngor a ddyroddwyd i Weinidogion Cymru ar yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth (os oes rhai);

(iv)yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(1), gwybodaeth heblaw am yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan unrhyw is-baragraff arall sy’n berthnasol i’r penderfyniad ac sydd ond yn dod ar gael ar ôl yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth sy’n ofynnol gan y paragraff hwn am y tro cyntaf;

(v)sut y gellir cael copïau o’r datganiad amgylcheddol a chost y fath gopïau;

(vi)manylion eraill y trefniadau ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd yn y weithdrefn gwneud penderfyniadau gan gynnwys disgrifiad o’r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyflwynir wedi hynny gan y ceisydd;

(vii)manylion yr awdurdod sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad;;

(b)ym mharagraff (3)(c), ar ôl “cais”, mewnosoder “, na chaiff, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, fod cyn diwrnod olaf y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad diweddaraf y rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r cais yn unol ag erthygl 18(2), (3) neu 19(2)”;

(c)ym mharagraff (4), yn y lle priodol, mewnosoder—

mae i “gwybodaeth bellach” (“further information”) ac “unrhyw wybodaeth arall” (“any other information”) yr un ystyron ag yn y Rheoliadau AEA;.

(4Yn erthygl 19—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “21 diwrnod” rhodder “30 diwrnod, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, ac 21 diwrnod mewn unrhyw achos arall”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “21 diwrnod” rhodder “21 neu 30 diwrnod, fel y bo’n briodol,”.

(5Yn erthygl 22(4)(b), ar ôl “21 diwrnod” mewnosoder “, neu yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, 30 diwrnod,”.

(6Yn erthygl 23(2)(a), yn lle “21 diwrnod”, rhodder “30 diwrnod, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, a 21 diwrnod mewn unrhyw achos arall, yn y naill achos neu’r llall”.

(7Yn erthygl 29, hepgorer paragraffau (4) a (5).

(8Yn y ffurflen yn Atodlen 4—

(a)ar ôl “+Mae’r cais wedi ei gyflwyno ynghyd â Datganiad Amgylcheddol”, mewnosoder “+Mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effeithiau sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall”;

(b)yn nodyn j)—

(i)yn lle “21” rhodder “30”; a

(ii)ar ôl “chyhoeddi”, mewnosoder “, neu yn achos cais nad yw’n ofynnol i ddatganiad amgylcheddol ddod gydag ef yn unol â’r Rheoliadau AEA, rhaid i’r cyfnod hwnnw fod yn 21 diwrnod”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)