- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
7.—(1) Pan fo’r awdurdod, Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn ymdrin â chais ROMP neu apêl sy’n codi o gais ROMP ac yn hysbysu’r ceisydd neu’r apeliwr, yn ôl y digwydd, ei bod—
(a)yn ofynnol dan reoliad 11(1), 12(3) neu 13(5) i gyflwyno datganiad amgylcheddol, yna mae’n rhaid i hysbysiad o’r fath bennu’r cyfnod y mae’r datganiad amgylcheddol a chydymffurfiad â rheoliad 19(6) yn ofynnol; neu
(b)y dylai datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol o dan reoliad 24(1), yna mae’n rhaid i hysbysiad o’r fath bennu’r cyfnod y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth ynddo.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff y caniatâd cynllunio y mae’r cais ROMP yn ymwneud ag ef ond awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau (heblaw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw datblygiad ROMP yn ddatblygiad AEA) os yw’r ceisydd neu’r apelydd wedi—
(a)ysgrifennu at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru o fewn y 6 wythnos neu gyfnod arall y cytunir arno yn unol â rheoliadau 11(3) ac 11(4), 12(4) a 12(6) neu 13(7);
(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol a chydymffurfio â rheoliad 19(6) o fewn y cyfnod a bennir gan yr awdurdod neu Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1) neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig;
(c)darparu gwybodaeth ychwanegol o fewn y cyfnod a bennir gan yr awdurdod, Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn unol â pharagraff (1) neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig; neu
(d)pan fo hysbysiad o dan reoliad 6(5), 7(3), 14(3) neu 15(3) wedi ei gael, ar yr amod bod yr wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani o fewn 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad, neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys, ni chaiff y caniatâd cynllunio awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd—
(a)y cyfnod perthnasol a bennir yn rheoliadau 11(3) a 11(4), 12(4) a 12(6) neu 13(7) neu gyfnod y cytunir arno yn unol â’r rheoliadau hynny; a
(b)y cyfnod a bennir neu y cytunir arno yn ysgrifenedig fel y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b), (c), a (d),
hyd nes bod y ceisydd wedi cydymffurfio â’r holl ddarpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) sy’n berthnasol i’r cais neu’r apêl dan sylw.
(4) Rhaid i fanylion atal datblygiad mwynau dros dro a dyddiad y bydd yr ataliad hwnnw’n dod i ben gael eu nodi yn y rhan briodol o’r gofrestr(1) cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.
(5) Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar unrhyw ddatblygiad mwynau a gynhelir o dan y caniatâd cynllunio cyn dyddiad atal y datblygiad mwynau dros dro.
(6) At ddibenion paragraffau (2) i (5), ystyr “datblygiad mwynau” (“minerals development”) yw datblygiad sy’n cynnwys tynnu mwynau a gweithio ar fwynau, neu’n cynnwys gwaddodi gwastraff mwynol.
Gweler paragraff 8(2) o’r Atodlen hon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: