11. Mae rheoliad 18 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—
“18.—(1) Pan fo datganiad, y cyfeirir ato fel datganiad amgylcheddol, wedi ei lunio gan gorff cychwyn mewn perthynas â datblygiad sy’n ymwneud â gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102, rhaid i’r corff hwnnw—
(a)anfon copi o’r gorchymyn adran 97 drafft neu’r gorchymyn adran 102 drafft a’r datganiad at yr ymgynghoreion a’u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau; a
(b)hysbysu unrhyw berson penodol y mae’r corff yn ymwybodol ohono ac sy’n debygol o gael ei effeithio gan y gorchymyn drafft, neu sydd â diddordeb yn y gorchymyn drafft, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, o—
(i)cyfeiriad swyddfa’r corff cychwyn lle gellir cael copi o’r gorchymyn drafft a’r datganiad; a
(ii)y cyfeiriad y caniateir anfon sylwadau iddo.
(2) Ni chaiff y corff cychwyn wneud y gorchymyn hyd nes diwedd 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad diweddaraf y cyhoeddwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 19.
(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn llunio datganiad amgylcheddol, rhaid iddo anfon at Weinidogion Cymru, o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl anfon y datganiad at yr ymgynghoreion, un copi o bob un o unrhyw farn sgrinio, datganiad o resymau a gorchymyn drafft perthnasol yn electronig ac ar bapur oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.”