ATODLEN 5Gorchmynion Datblygu Lleol

6

Rhaid darllen rheoliad 15 fel pe bai’n darparu—

Cyfarwyddydau cwmpasu15

1

Rhaid i ofyniad o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 14(5) gynnwys—

a

yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(2)(a)(i) i (iii); a

b

unrhyw sylwadau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn dymuno eu cyflwyno.

2

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol.

3

Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

4

Rhaid i Weinidogion Cymru—

a

ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a

b

gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 5 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y daeth y gofyniad hwnnw i law neu’r fath gyfnod hwy sy’n rhesymol ofynnol.

5

Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a bennir yn rheoliad 14(4).