- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
65.—(1) Mae Rheoliadau 2016 wedi eu dirymu, ond mae hynny’n ddarostyngedig i baragraffau (2) i (8).
(2) Pan fo’r amod ym mharagraff (3) yn gymwys mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)cais am ganiatâd cynllunio;
(b)cais ROMP y mae Rheoliadau 2016 yn gymwys iddo;
(c)apêl mewn perthynas â chais o fewn is-baragraff (a) neu (b);
(d)mater y mae awdurdod cynllunio lleol wedi dyroddi hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ef o dan adran 172 o Ddeddf 1990.
(3) At ddibenion paragraff (2), yr amod yw bod y ceisydd neu’r apelydd (yn ôl y digwydd), cyn 16 Mai 2017, wedi—
(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu
(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol,
mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r cais neu’r apêl yn ymwneud ag ef.
(4) Pan fo’r amod ym mharagraff (5) yn gymwys mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a)gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;
(b)gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 arfaethedig.
(5) At ddibenion paragraff (4), yr amod yw fod yr awdurdod cynllunio lleol, y corff cychwyn neu’r ceisydd (yn ôl y digwydd), cyn 16 Mai 2017, wedi—
(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu
(b)llunio datganiad amgylcheddol,
mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r gorchymyn arfaethedig yn ymwneud ag ef.
(6) Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â cham gweithredu arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990 pan fo’r ceisydd, fel y’i diffinnir ym mharagraff 3 o Atodlen 7, cyn 16 Mai 2017, wedi—
(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu
(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol,
mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r cam gweithredu arfaethedig yn ymwneud ag ef.
(7) Mae Rhannau 1 a 2 o Reoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â—
(a)gofyniadau am farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio;
(b)barnau sgrinio a fabwysiedir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol; ac
(c)cyfarwyddydau sgrinio a wneir gan Weinidogion Cymru,
pan fo, cyn 16 Mai 2017, y fath ofyniadau wedi eu gwneud, neu pan fo’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) wedi cychwyn gwneud barnau sgrinio neu gyfarwyddydau sgrinio neu wedi cychwyn mabwysiadu barnau neu gyfarwyddydau o’r fath.
(8) Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith at ddibenion Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(1).
(9) Yn unol â hynny, nid yw’r Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn) yn gymwys mewn cysylltiad â datblygiad y mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith arno yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o baragraffau (2) i (8).
(10) Yn y rheoliad hwn—
mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”), “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) a “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2016;
mae i “cais ROMP” (“ROMP application”) a “ROMP” (“ROMP”) yr un ystyr ag yn rheoliad 55(1); ac
ystyr “Rheoliadau 2016” (“2016 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(2).
O.S. 2009/3342 (Cy. 293) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2003/755 (Cy. 90) ac O.S. 2016/58 (Cy. 28) gweler ar gyfer ceisiadau ROMP a wnaed cyn 15 Tachwedd 2000.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: