- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
57.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael gwybodaeth gan Wladwriaeth AEE arall, yn unol ag Erthygl 7(1) neu (2) o’r Gyfarwyddeb, a gasglwyd oddi wrth ddatblygwr prosiect arfaethedig yn y Wladwriaeth AEE arall gan y Wladwriaeth AEE honno, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yng Nghymru, rhaid iddynt, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb—
(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE honno ynghylch effeithiau sylweddol posibl y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a
(b)cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect, penderfynu ar gyfnod rhesymol ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE honno pryd y caniateir i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru gyflwyno sylwadau i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, yn unol ag Erthygl 7(3)(b) o’r Gyfarwyddeb.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—
(a)trefnu i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) fod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol ac am gyfnod nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau, i’r awdurdodau yng Nghymru sy’n debygol o fod â phryderon ynghylch y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol, ac i’r cyhoedd dan sylw yng Nghymru hefyd;
(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd at yr awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE berthnasol o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect; ac
(c)sicrhau bod unrhyw wybodaeth a geir gan awdurdod cymwys y Wladwriaeth AEE berthnasol ar gael i’r cyhoedd dan sylw er mwyn cydymffurfio ag Erthygl 9(2) o’r Gyfarwyddeb.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: