xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Cyhoeddusrwydd a Gweithdrefnau ar Gyflwyno Datganiadau Amgylcheddol

Cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio

19.—(1Pan fo cais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol wedi ei wneud heb ddatganiad amgylcheddol a bod y ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad o’r fath, rhaid i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (2) i (5) cyn ei gyflwyno.

(2Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle y mae’r tir wedi ei leoli sy’n nodi—

(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu neu ei fod yn destun apêl i Weinidogion Cymru os gwnaed hynny;

(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(d)bod—

(i)copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill a gyflwynir ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol, a

(ii)yn achos cais dilynol, copi o’r caniatâd cynllunio y gwnaed y cais hwnnw mewn cysylltiad ag ef a dogfennau ategol,

ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a’r dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais wneud hynny, cyn y dyddiad diweddaraf a nodir yn unol ag is-baragraff (e) neu (f), i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu (yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl) i Weinidogion Cymru; a

(k)yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl, y cyfeiriad, gan gynnwys cyfeiriad electronig, y dylid anfon sylwadau iddo.

(3Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 11(2), 12(4) neu 13(6) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn unrhyw un o’r rheoliadau hynny gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

(4Rhaid i’r ceisydd arddangos ar y tir hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), lle mae ganddo hawl i wneud hynny, neu lle y gellir caffael yn rhesymol yr hawl i wneud hynny.

(5Rhaid i’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (4)—

(a)cael ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 o ddiwrnodau yn union cyn y dyddiad y cyflwynir y datganiad; a

(b)cael ei osod yn gadarn ar rywbeth ar y tir a’i leoli a’i arddangos mewn modd sy’n golygu bod modd i aelodau o’r cyhoedd ei weld a’i ddarllen yn rhwydd heb fynd ar y tir.

(6Rhaid i’r canlynol ddod gyda’r datganiad amgylcheddol pan y’i cyflwynir—

(a)copi o’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (2) wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd ei fod wedi ei gyhoeddi mewn papur newydd a enwir ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif; a

(b)tystysgrif gan neu ar ran y ceisydd sy’n nodi naill ai—

(i)bod hysbysiad wedi ei arddangos ar y tir er mwyn cydymffurfio â’r rheoliad hwn a pha bryd y gwnaed hyn, a bod yr hysbysiad wedi ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 o ddiwrnodau yn union cyn y dyddiad y cyflwynwyd y datganiad, neu ei fod, heb unrhyw fai na bwriad ar ran y ceisydd, wedi ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn diwedd y 7 diwrnod a bod y ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i’w ddiogelu neu roi un newydd yn ei le, gan nodi’r camau a gymerwyd; neu

(ii)nad oedd modd i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (4) a (5) am nad oedd gan y ceisydd yr hawliau angenrheidiol i wneud hynny; bod unrhyw gamau rhesymol ar gael i gaffael yr hawliau hynny wedi eu cymryd ond yn aflwyddiannus, gan nodi’r camau a gymerwyd.

(7Pan fo ceisydd yn dynodi bod y ceisydd yn bwriadu darparu datganiad o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd, (oni bai y penderfynir gwrthod y caniatâd neu’r cydsyniad dilynol a geisir) ohirio ystyried y cais neu’r apêl hyd nes y ceir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllir ym mharagraff (6); ac ni chaniateir penderfynu ar y cais na’r apêl yn ystod y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad diweddaraf y cyhoeddir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllwyd felly yn unol â’r rheoliad hwn.

(8Pan fwriedir cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag apêl, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr apelydd.