RHAN 4Llunio Datganiadau Amgylcheddol
Gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddol16
1
Caiff unrhyw berson sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn roi hysbysiad i’r awdurdod hwnnw neu i Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn.
2
Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn adnabod y tir a natur a diben y datblygiad, a rhaid iddo ddangos y prif ganlyniadau amgylcheddol y mae’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn bwriadu cyfeirio atynt yn y datganiad amgylcheddol.
3
Rhaid i dderbynnydd—
a
hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu
b
i
hysbysu’r ymgynghoreion am enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r person hwnnw; a
ii
hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd felly.
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw ymgynghorai a hysbysir yn unol â pharagraff (3), ymgynghori â’r person, os bydd y person hwnnw sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol yn gofyn am hynny, er mwyn penderfynu a oes gan yr awdurdod neu’r ymgynghorai unrhyw wybodaeth yn eu meddiant y mae’r person hwnnw, neu y maent hwy, yn ei hystyried yn berthnasol ar gyfer llunio’r datganiad amgylcheddol. Os oes ganddynt, rhaid i’r awdurdod neu’r ymgynghorai sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i’r person hwnnw.
5
Rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol neu ymgynghorai sy’n cael gofyniad am wybodaeth o dan baragraff (4) ei drin fel gofyniad am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 200429.