27.—(1) Pan fo manylion am gais cynllunio neu gais dilynol yn cael eu gosod yn Rhan 1 o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod copi yn cael eu gosod yn y Rhan honno hefyd o unrhyw—
(a)barn sgrinio;
(b)cyfarwyddyd sgrinio;
(c)barn gwmpasu;
(d)cyfarwyddyd cwmpasu;
(e)hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 11(1), 12(2) neu 13(5);
(f)cyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) neu (5);
(g)datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall;
(h)datganiad o resymau sy’n dod gydag unrhyw rai o’r uchod.
(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol—
(a)yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu; neu
(b)yn cael gofyniad o dan reoliad 14(1), neu 15(1), neu gopi o gyfarwyddyd sgrinio, cyfarwyddyd cwmpasu, neu gyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) cyn y gwneir cais am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol ar gyfer y datblygiad dan sylw,
rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn, y cais neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n dod gydag ef neu hi yn cael eu rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu ran berthnasol o’r gofrestr honno).
(3) Rhaid i gopïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) barhau i fod ar gael yn y modd hwn am gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad y gosodir hwy ar y gofrestr.
28.—(1) Pan fo cais neu apêl AEA y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi yn cael ei benderfynu neu ei phenderfynu gan awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, rhaid i’r person sy’n gwneud y penderfyniad hwnnw ddarparu i’r ceisydd neu’r apelydd yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).
(2) Yr wybodaeth honno yw—
(a)gwybodaeth ynghylch yr hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny; a
(b)os yw’n benderfyniad i roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol—
(i)casgliad rhesymedig yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, ynghylch effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd, gan ystyried canlyniadau’r archwiliad y cyfeirir ato yn rheoliad 25(1)(a) a (b);
(ii)unrhyw amodau y mae’r penderfyniad yn ddarostyngedig iddynt sy’n ymwneud ag effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd;
(iii)disgrifiad o unrhyw un neu ragor o nodweddion y datblygiad ac unrhyw fesurau a ragwelir er mwyn osgoi, atal neu leihau effeithiau andwyol sylweddol tebygol ar yr amgylchedd, a gwrthbwyso’r effeithiau hynny os yw’n bosibl; a
(iv)unrhyw fesurau monitro y mae’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ystyried eu bod yn briodol; neu
(c)os yw’n benderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol, y prif resymau dros wrthod.
29.—(1) Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan awdurdod cynllunio lleol, rhaid i’r awdurdod wneud y canlynol yn brydlon—
(a)hysbysu Gweinidogion Cymru am y penderfyniad drwy ddulliau electronig;
(b)hysbysu’r ymgynghoreion am y penderfyniad;
(c)hysbysu’r cyhoedd am y penderfyniad, drwy hysbyseb leol, neu drwy’r fath ddull arall sy’n rhesymol dan yr amgylchiadau; a
(d)sicrhau bod datganiad yn cael ei roi ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu’r rhan berthnasol o’r gofrestr honno), sy’n cynnwys—
(i)manylion y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 28(2);
(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y mae’r penderfyniad wedi ei seilio arnynt gan gynnwys, os yw’n berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;
(iii)crynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd a’r wybodaeth a gasglwyd, mewn cysylltiad â’r cais a sut y mae’r canlyniadau hynny, yn enwedig y sylwadau a gafwyd gan Wladwriaeth AEE yn unol ag ymgynghoriad o dan reoliad 56, wedi eu hymgorffori neu sut yr ymdriniwyd â hwy fel arall.
(2) Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru neu arolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol am y penderfyniad; a
(b)darparu datganiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(c) i’r awdurdod.
(3) Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dan baragraff (2)(a), gydymffurfio ag is-baragraffau (b) i (d) o baragraff (1) mewn perthynas â’r penderfyniad yr hysbyswyd amdano yn y modd hwn fel pe bai’n benderfyniad yr awdurdod.