xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Cyhoeddusrwydd a Gweithdrefnau ar Gyflwyno Datganiadau Amgylcheddol

Datganiadau amgylcheddol

17.—(1Rhaid i gais AEA ddod gyda datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Pan fo rheoliad 9(1) a (2) yn gymwys, nid yw paragraff (1) yn gymwys.

(3Mae datganiad amgylcheddol yn ddatganiad sy’n cynnwys o leiaf—

(a)disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig sef gwybodaeth ynghylch y safle, y dyluniad, maint y datblygiad a’i nodweddion perthnasol eraill;

(b)disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd;

(c)disgrifiad o unrhyw un neu ragor o nodweddion y datblygiad arfaethedig, neu fesurau a ragwelir er mwyn osgoi, atal neu leihau effeithiau andwyol sylweddol tebygol ar yr amgylchedd, a gwrthbwyso’r effeithiau hynny os yw’n bosibl;

(d)disgrifiad o’r dewisiadau amgen rhesymol a astudiwyd gan y ceisydd neu’r apelydd, sy’n berthnasol i’r datblygiad arfaethedig a’i nodweddion penodol, a mynegiad o’r prif resymau dros y dewis a wnaed, gan ystyried effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd;

(e)crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraffau (a) i (d); a

(f)unrhyw wybodaeth ychwanegol a bennir yn Atodlen 4 sy’n berthnasol i nodweddion penodol y datblygiad penodol neu’r math o ddatblygiad ac i’r nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol.

(4Rhaid i ddatganiad amgylcheddol—

(a)cael ei lunio gan bersonau sydd, ym marn yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol, yn meddu ar arbenigedd digonol i sicrhau bod y datganiad yn gyflawn ac yn safonol;

(b)cynnwys datganiad gan neu ar ran y ceisydd neu’r apelydd sy’n disgrifio arbenigedd y person a luniodd y datganiad amgylcheddol;

(c)pan fo barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu wedi ei dyroddi neu ei ddyroddi yn unol â rheoliad 14 neu 15, fod yn seiliedig ar y farn gwmpasu neu’r cyfarwyddyd cwmpasu diweddaraf a ddyroddwyd (i’r graddau y mae’r datblygiad arfaethedig yn parhau i fod yr un datblygiad arfaethedig yn ei hanfod â’r datblygiad arfaethedig a fu’n destun y farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw);

(d)cynnwys yr wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol ar gyfer dod i gasgliad rhesymedig ynghylch effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd, gan roi sylw i’r wybodaeth gyfredol a’r dulliau asesu cyfredol; ac

(e)rhoi sylw i asesiadau amgylcheddol perthnasol eraill sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth yr Undeb neu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth ddomestig, gyda’r nod o osgoi dyblygu asesiadau.

Y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i awdurdod cynllunio lleol

18.—(1Rhaid i geisydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol ei gyflwyno yn electronig ac ar bapur, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

(2Os yw’r ceisydd yn cyflwyno copi o’r datganiad i unrhyw gorff arall ar yr un pryd ag y mae’n gwneud cais AEA, rhaid i’r ceisydd—

(a)cyflwyno gyda’r datganiad gopi o’r cais ac unrhyw blan a gyflwynir gyda’r cais (oni bai eu bod wedi eu darparu i’r corff dan sylw eisoes);

(b)hysbysu’r corff y caniateir cyflwyno sylwadau i’r awdurdod cynllunio perthnasol; ac

(c)hysbysu’r awdurdod am enw pob corff y cyflwynwyd datganiad iddo felly a dyddiad y cyflwyno.

(3Pan fo awdurdod cynllunio perthnasol yn cael datganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod—

(a)anfon un copi electronig o’r datganiad, copi o’r cais perthnasol ac o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais i Weinidogion Cymru o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl cael y datganiad;

(b)hysbysu’r ceisydd am nifer y copïau sy’n ofynnol er mwyn galluogi’r awdurdod i gydymffurfio ag is-baragraff (c);

(c)anfon copi o’r datganiad ymlaen at unrhyw ymgynghorai nad yw wedi cael copi yn uniongyrchol gan y ceisydd, a hysbysu unrhyw ymgynghorai o’r fath y caniateir iddo gyflwyno sylwadau;

(d)pan fo’r awdurdod yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol sy’n cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, neu drwy hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, anfon hysbysiad at berson o’r fath yn cynnwys y manylion a nodir yn rheoliad 19(2)(b) i (k) ac enw a chyfeiriad yr awdurdod.

(4Rhaid i’r ceisydd anfon y copïau sy’n ofynnol at ddibenion paragraff (3)(c) i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(5Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1), mae darpariaethau erthygl 12 o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) ac Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw yn gymwys i gais dilynol fel y maent yn gymwys i gais cynllunio sy’n dod o fewn erthygl 12(2) o Orchymyn 2012 fel pe bai’r cyfeiriad yn yr hysbysiad yn Atodlen 3 i Orchymyn 2012 at “ganiatâd cynllunio i” yn darllen “gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth i”.

(6Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol beidio â phenderfynu ar y cais hyd nes y daw 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad olaf y cyflwynwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn i ben.

Cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio

19.—(1Pan fo cais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol wedi ei wneud heb ddatganiad amgylcheddol a bod y ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad o’r fath, rhaid i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (2) i (5) cyn ei gyflwyno.

(2Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle y mae’r tir wedi ei leoli sy’n nodi—

(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu neu ei fod yn destun apêl i Weinidogion Cymru os gwnaed hynny;

(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(d)bod—

(i)copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill a gyflwynir ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol, a

(ii)yn achos cais dilynol, copi o’r caniatâd cynllunio y gwnaed y cais hwnnw mewn cysylltiad ag ef a dogfennau ategol,

ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a’r dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais wneud hynny, cyn y dyddiad diweddaraf a nodir yn unol ag is-baragraff (e) neu (f), i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu (yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl) i Weinidogion Cymru; a

(k)yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl, y cyfeiriad, gan gynnwys cyfeiriad electronig, y dylid anfon sylwadau iddo.

(3Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 11(2), 12(4) neu 13(6) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn unrhyw un o’r rheoliadau hynny gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

(4Rhaid i’r ceisydd arddangos ar y tir hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), lle mae ganddo hawl i wneud hynny, neu lle y gellir caffael yn rhesymol yr hawl i wneud hynny.

(5Rhaid i’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (4)—

(a)cael ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 o ddiwrnodau yn union cyn y dyddiad y cyflwynir y datganiad; a

(b)cael ei osod yn gadarn ar rywbeth ar y tir a’i leoli a’i arddangos mewn modd sy’n golygu bod modd i aelodau o’r cyhoedd ei weld a’i ddarllen yn rhwydd heb fynd ar y tir.

(6Rhaid i’r canlynol ddod gyda’r datganiad amgylcheddol pan y’i cyflwynir—

(a)copi o’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (2) wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd ei fod wedi ei gyhoeddi mewn papur newydd a enwir ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif; a

(b)tystysgrif gan neu ar ran y ceisydd sy’n nodi naill ai—

(i)bod hysbysiad wedi ei arddangos ar y tir er mwyn cydymffurfio â’r rheoliad hwn a pha bryd y gwnaed hyn, a bod yr hysbysiad wedi ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 o ddiwrnodau yn union cyn y dyddiad y cyflwynwyd y datganiad, neu ei fod, heb unrhyw fai na bwriad ar ran y ceisydd, wedi ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn diwedd y 7 diwrnod a bod y ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i’w ddiogelu neu roi un newydd yn ei le, gan nodi’r camau a gymerwyd; neu

(ii)nad oedd modd i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (4) a (5) am nad oedd gan y ceisydd yr hawliau angenrheidiol i wneud hynny; bod unrhyw gamau rhesymol ar gael i gaffael yr hawliau hynny wedi eu cymryd ond yn aflwyddiannus, gan nodi’r camau a gymerwyd.

(7Pan fo ceisydd yn dynodi bod y ceisydd yn bwriadu darparu datganiad o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd, (oni bai y penderfynir gwrthod y caniatâd neu’r cydsyniad dilynol a geisir) ohirio ystyried y cais neu’r apêl hyd nes y ceir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllir ym mharagraff (6); ac ni chaniateir penderfynu ar y cais na’r apêl yn ystod y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad diweddaraf y cyhoeddir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllwyd felly yn unol â’r rheoliad hwn.

(8Pan fwriedir cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag apêl, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr apelydd.

Darparu copïau o ddatganiadau amgylcheddol a gwybodaeth bellach i Weinidogion Cymru pe byddai atgyfeiriad neu apêl

20.—(1Pan fo ceisydd am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol, neu wybodaeth bellach, i’r awdurdod cynllunio perthnasol mewn cysylltiad â’r cais hwnnw ac—

(a)mae’r cais yn cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol); neu

(b)mae’r ceisydd yn apelio o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath),

rhaid i’r ceisydd ddarparu’r datganiad i Weinidogion Cymru a, phan fo’n berthnasol, yr wybodaeth bellach oni bai, yn achos cais sydd wedi ei atgyfeirio, bod yr awdurdod eisoes wedi gwneud hynny.

(2Rhaid darparu’r datganiad a’r wybodaeth bellach a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn electronig ac ar bapur oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

Y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru

21.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisydd neu apelydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â chais AEA—

(a)sydd gerbron Gweinidogion Cymru neu arolygydd er mwyn penderfynu arno; neu

(b)sy’n destun apêl i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd gyflwyno’r datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru a’r awdurdod cynllunio perthnasol yn electronig ac ar bapur, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

(3Caiff ceisydd neu apelydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru ddarparu copi ohono i unrhyw gorff arall, ac os gwneir hynny rhaid iddo—

(a)cydymffurfio ag is-baragraffau (a) a (b) o reoliad 18(2) fel pe bai’r cyfeiriad yn rheoliad 18(2)(b) at yr awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru; a

(b)hysbysu Gweinidogion Cymru o’r materion a grybwyllir yn rheoliad 18(2)(c).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rheoliad 18(3) (heblaw is-baragraff (a) o’r rheoliad hwnnw) a rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd gydymffurfio â rheoliad 18(4) fel pe bai—

(a)cyfeiriadau yn y darpariaethau hynny at yr awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a

(b)yn achos apêl, cyfeiriadau at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr apelydd,

a rhaid i Weinidogion Cymru neu’r arolygydd gydymffurfio â rheoliad 18(6) fel pe bai’n cyfeirio at Weinidogion Cymru neu’r arolygydd yn hytrach na’r awdurdod cynllunio perthnasol.

Argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol

22.  Rhaid i geisydd neu apelydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â chais neu apêl, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a osodir yn unol ag erthygl 12 o Orchymyn 2012 neu reoliad 19(2)(g) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o’r fath.

Tâl am gopïau o ddatganiadau amgylcheddol

23.  Caniateir codi tâl rhesymol sy’n adlewyrchu costau argraffu a dosbarthu ar aelod o’r cyhoedd am gopi o ddatganiad a roddir ar gael yn unol â rheoliad 22.

Gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol

24.—(1Os yw awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd sy’n ymdrin â chais neu apêl y mae’r ceisydd neu’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi, o’r farn, er mwyn bodloni gofynion rheoliad 17(3), ei bod yn angenrheidiol ategu’r datganiad gyda gwybodaeth ychwanegol sy’n uniongyrchol berthnasol i ddod i gasgliad rhesymedig ar effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad a ddisgrifir yn y cais, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd hysbysu’r ceisydd neu’r apelydd yn unol â hynny a rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd ddarparu’r wybodaeth ychwanegol honno ar bapur ac yn electronig, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig; a chyfeirir at wybodaeth ychwanegol o’r fath yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).

(2Mae paragraffau (3) i (9) yn gymwys mewn perthynas â gwybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall ac eithrio i’r graddau—

(a)y mae’r wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall yn cael ei darparu at ddibenion ymholiad neu wrandawiad a gynhelir o dan Ddeddf 1990; a

(b)bod y cais am yr wybodaeth bellach a wnaed yn unol â pharagraff (1) yn nodi ei bod i’w darparu at ddibenion o’r fath.

(3Rhaid i dderbynnydd gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb leol sy’n nodi—

(a)enw’r ceisydd am ganiatâd cynllunio neu am gydsyniad dilynol, neu’r apelydd (yn ôl y digwydd), ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y cais at Weinidogion Cymru, os gwnaed hynny, er mwyn penderfynu arno neu ei fod yn destun apêl i Weinidogion Cymru;

(c)yn achos cais dilynol, digon o wybodaeth i alluogi adnabod y caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad;

(d)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(e)bod gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu eisoes;

(f)y caiff aelodau’r cyhoedd edrych ar gopi o’r wybodaeth bellach neu o unrhyw wybodaeth arall ac unrhyw ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud ag unrhyw ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar bob adeg resymol;

(g)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(h)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(i)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir yn unol ag is-baragraffau (g) ac (h) ai peidio) lle gellir cael copïau o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall;

(j)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(k)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(l)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd (yn ôl y digwydd) cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (g); ac

(m)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.

(4Rhaid i’r sawl sy’n derbyn gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall anfon copi ohoni at bob un o’r personau yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(5Pan mai’r awdurdod cynllunio perthnasol yw’r sawl sy’n derbyn yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, rhaid iddo anfon un copi o’r wybodaeth bellach at Weinidogion Cymru.

(6Caiff y sawl sy’n derbyn yr wybodaeth bellach ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd drwy hysbysiad i ddarparu’r cyfryw nifer o gopïau o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall a bennir yn yr hysbysiad (sef y nifer sy’n ofynnol at ddibenion paragraff (4) neu (5)).

(7Pan ofynnir am wybodaeth o dan baragraff (1) neu pan ddarperir unrhyw wybodaeth arall, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd,—

(a)atal y penderfyniad ar y cais neu’r apêl dros dro; a

(b)rhaid peidio â phenderfynu arno cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o blith—

(i)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi;

(ii)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani mewn papur newydd lleol; neu

(iii)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani ar y wefan.

(8Rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, yn unol â pharagraff (1)—

(a)sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd yn unol â pharagraff (3)(i) fel y cyfeiriad lle gellir cael copïau o’r fath; a

(b)cymryd unrhyw gamau rhesymol sy’n ofynnol gan yr awdurdod i sicrhau bod copïau o’r wybodaeth bellach neu wybodaeth arall ar gael i’w gweld ar y wefan y cyfeirir ati yn yr hysbysiad a gyhoeddir yn unol â pharagraff (3).

(9Caniateir codi tâl rhesymol sy’n adlewyrchu costau argraffu a dosbarthu ar aelod o’r cyhoedd am gopi o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a roddir ar gael yn unol â pharagraff (8)(a).

(10Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru neu arolygydd ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd ddangos pa bynnag dystiolaeth y gallant ofyn amdani yn rhesymol i wirio unrhyw wybodaeth yn y datganiad amgylcheddol.

Ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio

25.—(1Wrth benderfynu ar gais neu apêl y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd—

(a)archwilio’r wybodaeth amgylcheddol;

(b)dod i gasgliad rhesymedig ynghylch effeithiau sylweddol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd, gan ystyried yr archwilio y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) a, phan fo’n briodol, eu harchwiliad ategol eu hunain;

(c)integreiddio’r casgliad hwnnw yn y penderfyniad o ran pa un ai i roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol; a

(d)os rhoddir caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol, ystyried pa un a yw’n briodol gosod mesurau monitro.

(2Rhaid i’r casgliad rhesymedig y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gyfoes pan wneir y penderfyniad; a rhaid tybio bod y casgliad hwnnw yn gyfoes os ydyw, ym marn yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ymdrin â’r effeithiau sylweddol sy’n debygol o ddigwydd o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig.

(3Wrth ystyried pa un ai i osod mesur monitro o dan baragraff (1)(d), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol—

(a)os ystyrir bod monitro yn briodol, ystyried pa un ai i wneud darpariaeth ar gyfer camau unioni posibl;

(b)cymryd camau i sicrhau bod y math o baramedrau sydd i’w monitro, a hyd y cyfnod monitro, yn gymesur â natur, lleoliad a maint y datblygiad arfaethedig ac arwyddocâd ei effeithiau ar yr amgylchedd; ac

(c)ystyried, er mwyn osgoi dyblygu monitro, pa un a yw trefniadau monitro sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth yr Undeb (ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb) neu ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys yng Nghymru yn fwy priodol na gosod mesurau monitro.

(4Mewn achosion pan nad oes amserlen statudol wedi ei phennu, rhaid i benderfyniad yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol, gan ystyried natur a chymhlethdod y datblygiad arfaethedig, o’r dyddiad y darparwyd yr wybodaeth amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru.