xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 567 (Cy. 136)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Gwnaed

20 Ebrill 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Ebrill 2017

Yn dod i rym

16 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru, gan eu bod wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â’r gofyniad i asesu’r effaith ar yr amgylchedd y mae prosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn ei chael, i’r graddau y mae a wnelo â chynllunio gwlad a thref(2), drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno, adran 71A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3), ac wedi ystyried y meini prawf dethol yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2011/92/EU(4) Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(5), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Mai 2017.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru, mae Rhannau 2 i 7 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r graddau ac yn y ffordd a nodir yn Rhan 7 yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ardal sensitif” (“sensitive area”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(a)

tir hysbysedig o dan adran 28(1) (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(6);

(b)

Parc Cenedlaethol o fewn ystyr Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(7);

(c)

eiddo sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan Erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ynghylch Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd 1972(8);

(d)

heneb gofrestredig o fewn ystyr Deddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979(9);

(e)

ardal a ddynodwyd yn ardal o harddwch naturiol eithriadol gan orchymyn a wnaed o dan adran 82(2) (ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(10);

(f)

safle Ewropeaidd;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar apêl;

ystyr “asesiad o’r effaith amgylcheddol” (“environmental impact assessment”) yw’r broses a ddisgrifir yn rheoliad 4(1);

ystyr “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”) yw’r corff sy’n gyfrifol, a oedd yn gyfrifol neu a fyddai’n gyfrifol am benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw, oni bai—

(a)

bod y datblygiad yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990(11); neu

(b)

am gyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)(12);

mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”) yr ystyr a roddir iddi gan reoliad 14(1);

ystyr “barn sgrinio” (“screening opinion”) yw barn ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio perthnasol ynghylch a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA:

ystyr “cais AEA” (“EIA application”) yw—

(a)

cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA; neu

(b)

cais dilynol mewn cysylltiad â datblygiad AEA;

ystyr “cais Atodlen 1” (“Schedule 1 application”) a “cais Atodlen 2” (“Schedule 2 application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 1 a datblygiad Atodlen 2 yn ôl eu trefn;

ystyr “cais dilynol” (“subsequent application”) yw cais am gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth ar fater—

(a)

sy’n ofynnol gan neu o dan amod y mae caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddi; a

(b)

y mae’n rhaid ei gael neu ei chael cyn y caniateir dechrau ar y datblygiad cyfan neu ar ran ohono a ganiateir gan y caniatâd cynllunio;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw cofrestr a gedwir yn unol ag adran 69 o Ddeddf 1990 (cofrestrau o geisiadau etc.)(13) ac ystyr “cofrestr briodol” (“appropriate register”) yw’r gofrestr y rhoddwyd manylion am gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad perthnasol arni neu y byddent yn cael eu rhoi arni pe gwnaed cais o’r fath;

ystyr “corff cychwyn” (“initiating body”) yw’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol, pan fônt yn bwriadu gwneud gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;

ystyr “cydsyniad dilynol” (“subsequent consent”) yw cydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth a roddir yn unol â chais dilynol;

mae i “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 14(7);

ystyr “cyfarwyddyd sgrinio” (“screening direction”) yw cyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch pa un a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA;

ystyr “datblygiad AEA” (“EIA development”) yw datblygiad sydd naill ai—

(a)

yn ddatblygiad Atodlen 1; neu

(b)

yn ddatblygiad Atodlen 2 sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn rhinwedd ffactorau fel ei natur, ei faint neu ei leoliad;

ystyr “datblygiad Atodlen 1” (“Schedule 1 >development”) yw datblygiad, heblaw datblygiad esempt, o ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 1;

ystyr “datblygiad Atodlen 2” (“Schedule 2 development”) yw datblygiad, heblaw datblygiad esempt, o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 2—

(a)

pan fo’n rhaid cyflawni unrhyw ran o’r datblygiad hwnnw mewn ardal sensitif; neu

(b)

pan fodlonir neu y rhagorir ar unrhyw drothwy neu faen prawf cymwys yn rhan gyfatebol Colofn 2 o’r tabl hwnnw mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw;

ystyr “datblygiad esempt” (“exempt development”) yw datblygiad y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 5(4);

ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad fel y’i disgrifir yn rheoliad 17;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Cynllunio a Digolledu 1991(14);

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995(15);

ystyr “deddfwriaeth yr Undeb” (“Union legislation”) yw unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys o ran Cymru sy’n rhoi effaith i un o rwymedigaethau’r UE;

ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”), mewn perthynas â hysbysiad, yw—

(a)

drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli; a

(b)

drwy gyhoeddi’r hysbysiad ar wefan yr awdurdod cynllunio perthnasol;

ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(16);

ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(17);

ystyr “gorchymyn adran 97” (“section 97 order”) yw—

(a)

gorchymyn awdurdod cynllunio lleol o dan adran 97(1) o Ddeddf 1990 (pŵer i ddirymu neu addasu caniatâd cynllunio); neu

(b)

gorchymyn Gweinidogion Cymru o dan adran 100(1) o Ddeddf 1990 (dirymu ac addasu caniatâd cynllunio);

ystyr “gorchymyn adran 102” (“section 102 order”) yw—

(a)

gorchymyn awdurdod cynllunio lleol o dan adran 102 o Ddeddf 1990; neu

(b)

gorchymyn Gweinidogion Cymru i’r perwyl hwnnw yn unol ag adran 104(1) o Ddeddf 1990 (gorchmynion sy’n ei gwneud yn ofynnol peidio â pharhau i ddefnyddio adeiladau neu weithfeydd neu eu haddasu neu eu diddymu);

ystyr “gorchymyn datblygu lleol” (“local development order”) yw gorchymyn datblygu lleol a wneir yn unol ag adran 61A o Ddeddf 1990(18);

ystyr “gwybodaeth amgylcheddol” (“environmental information”) yw’r datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall, unrhyw sylwadau a wneir gan unrhyw ymgynghorai ac unrhyw sylwadau a wneir yn briodol gan unrhyw berson arall ynghylch effeithiau amgylcheddol y datblygiad;

mae i “gwybodaeth bellach” (“further information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 24(1);

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(19);

ystyr “mesur monitro” (“monitoring measure”) yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i fonitro unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar amgylchedd datblygiad arfaethedig, gan gynnwys unrhyw fesurau sydd wedi eu cynnwys—

(a)

mewn amod a osodir ar roi’r caniatâd cynllunio; neu

(b)

mewn rhwymedigaeth gynllunio;

mae i “prif gyngor” yr ystyr a roddir i “principal council” gan adran 270(1) (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(20);

ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw safle o fewn ystyr rheoliad 8(3) o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(21);

ystyr “y tir” (“the land”) yw’r tir y byddai’r datblygiad yn digwydd arno neu, mewn perthynas â datblygiad sydd wedi digwydd yn barod, y tir y mae’r datblygiad wedi digwydd arno;

ystyr “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yw adeilad neu ran o adeilad sy’n cael ei ddefnyddio fel annedd preifat sengl ac i ddim diben arall;

mae “unrhyw berson penodol” (“any particular person”) yn cynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo diogelu’r amgylchedd;

ystyr “unrhyw wybodaeth arall” (“any other information”) yw unrhyw wybodaeth arall o sylwedd sy’n ymwneud â’r datganiad amgylcheddol ac a ddarparwyd gan y ceisydd neu’r apelydd yn ôl y digwydd;

ystyr “yr ymgynghoreion” (“the consultees”) yw—

(a)

mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru, unrhyw awdurdod, corff neu berson y mae’n ofynnol iddynt ymgynghori ag ef yn rhinwedd erthygl 22 o Orchymyn 2016 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniad), neu y byddai’n ofynnol iddynt ymgynghori â hwy pe bai cais am ganiatâd cynllunio ger eu bron, a’r cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) os na chyfeiriwyd atynt yn barod yn yr is-baragraff hwn;

(b)

unrhyw gorff y mae’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio perthnasol ymgynghori ag ef, neu y byddai’n ofynnol iddo ymgynghori ag ef, pe byddai cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw ger ei fron, yn rhinwedd erthygl 14 o Orchymyn 2012 (ymgynghoriadau cyn rhoi caniatâd) neu o unrhyw gyfarwyddyd o dan yr erthygl honno a’r cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) os na chyfeirir atynt yn barod yn yr is-baragraff hwn;

(c)

y cyrff canlynol—

(i)

unrhyw brif gyngor ar gyfer yr ardal lle mae’r tir wedi ei leoli, os nad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(ii)

Corff Adnoddau Naturiol Cymru(22);

(iii)

cyrff eraill a ddynodir gan ddarpariaeth statudol fel cyrff sydd â chyfrifoldebau amgylcheddol penodol ac y mae’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ystyried ei bod yn debygol y bydd ganddynt ddiddordeb yn y cais.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr un ystyr sydd i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion Deddf 1990.

(3Yr un ystyr sydd i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb at ddibenion y Rheoliadau hyn (pa un a ydynt yn cael eu defnyddio yn Neddf 1990 ai peidio) ag sydd iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.

(4Yn y Rheoliadau hyn, rhaid peidio â dehongli cyfeiriadau at Weinidogion Cymru fel cyfeiriadau at arolygydd.

(5Pan ganiateir i berson, neu pan fo’n ofynnol i berson nodi, rhoi gwybod, gofyn, cadarnhau, hysbysu neu gyflwyno sylwadau, rhaid i’r person hwnnw wneud hynny’n ysgrifenedig.

(6Caniateir cyflwyno neu roi unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n rhaid eu hanfon, eu cyflwyno neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn mewn modd a bennir yn adran 329 o Ddeddf 1990 (cyflwyno hysbysiadau)(23).

Gwaharddiad ar roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol heb asesiad o’r effaith amgylcheddol

3.  Ni chaniateir i awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru nac arolygydd roi caniatâd cynllunio na chydsyniad dilynol ar gyfer datblygiad AEA oni bai y cynhaliwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

Asesiad o’r effaith amgylcheddol

4.—(1Mae’r asesiad o’r effaith amgylcheddol yn broses sy’n cynnwys—

(a)llunio datganiad amgylcheddol gan y person sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio neu’n cychwyn caniatâd cynllunio;

(b)unrhyw ymgynghoriad, cyhoeddiad a hysbysiad sy’n ofynnol gan Rannau 5, 9 a, phan fo’n berthnasol, Rhan 12 o’r Rheoliadau hyn, Gorchymyn 2012 neu Orchymyn 2016, mewn cysylltiad â datblygiad AEA; ac

(c)y camau sy’n ofynnol o dan reoliad 25(1).

(2Rhaid i’r asesiad o’r effaith amgylcheddol nodi, disgrifio ac asesu mewn modd priodol, yng ngoleuni pob achos unigol, effeithiau sylweddol uniongyrchol ac anuniongyrchol datblygiad arfethedig ar y canlynol—

(a)y boblogaeth ac iechyd pobl;

(b)bioamrywiaeth, gan roi sylw penodol i rywogaethau a chynefinoedd a warchodir o dan Gyfarwyddeb 92/43/EEC(24) a Chyfarwyddeb 2009/147/EC(25);

(c)tir, pridd, dŵr, aer a’r hinsawdd;

(d)asedau perthnasol, treftadaeth ddiwylliannol a’r dirwedd; ac

(e)y rhyngweithio rhwng y ffactorau a restrir yn is-baragraffau (a) i (d).

(3Rhaid i’r effeithiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ar y ffactorau a nodir yn y paragraff hwnnw gynnwys—

(a)effeithiau gweithredol y datblygiad arfaethedig, pan fydd y datblygiad arfaethedig yn cael effeithiau gweithredol; a

(b)yr effeithiau disgwyliedig sy’n deillio o’r graddau y mae’r datblygiad arfaethedig yn agored i’r perygl o ddamweiniau difrifol a thrychinebau sy’n berthnasol i’r datblygiad hwnnw.

(4Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, sicrhau eu bod yn meddu ar arbenigedd digonol i archwilio’r datganiad amgylcheddol, neu sicrhau bod y fath arbenigedd ar gael iddynt fel y bo angen.

RHAN 2Sgrinio

Darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â sgrinio

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), bydd digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (2) yn penderfynu at ddiben y Rheoliadau hyn bod datblygiad yn ddatblygiad AEA.

(2Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)cyflwyno datganiad mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw gan y ceisydd neu’r apelydd y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn cyfeirio ato fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; neu

(b)mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA gan yr awdurdod cynllunio perthnasol.

(3Mae cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru yn penderfynu pa un a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA ai peidio at ddiben y Rheoliadau hyn.

(4Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â datblygiad arfaethedig penodol a bennir yn y cyfarwyddyd—

(a)yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb (heb leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb) pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai cymhwyso’r Rheoliadau hyn yn cael effaith andwyol ar ddiben y datblygiad;

(b)os yw’r datblygiad yn brosiect, neu’n ffurfio rhan o brosiect, sydd â’r diben o ymateb i argyfyngau sifil yn unig, a bod Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yn cael effaith andwyol ar y diben hwnnw.

(5Pan roddir cyfarwyddyd o dan baragraff (4)(a) neu (4)(b) rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd o’r fath i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(6Pan roddir cyfarwyddyd o dan baragraff (4)(a) rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)sicrhau bod yr wybodaeth a ystyriwyd wrth wneud y cyfarwyddyd a’r rhesymau dros wneud y cyfarwyddyd ar gael i’r cyhoedd;

(b)ystyried pa un a fyddai math arall o asesiad yn briodol; a

(c)cymryd unrhyw gamau y maent yn ystyried sy’n briodol er mwyn dod â’r wybodaeth a gafwyd o dan y math arall o asesiad i sylw’r cyhoedd.

(7Mewn achosion pan fabwysiedir datblygiad(26) o dan un o Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu fesur a wnaed o dan bwerau sydd wedi eu cynnwys mewn Deddf o’r fath, caiff Gweinidogion Cymru (heb leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb) eithrio’r datblygiad hwnnw rhag darpariaethau’r Gyfarwyddeb sy’n ymwneud ag ymgynghoriad cyhoeddus, ar yr amod y cyflawnir amcanion y Gyfarwyddeb.

(8Pan fo’n rhaid i awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru benderfynu o dan y Rheoliadau hyn pa un a yw datblygiad Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru ystyried y canlynol wrth wneud y penderfyniad hwnnw—

(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y person sy’n bwriadu gwneud datblygiad;

(b)y canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb; ac

(c)y fath meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 3 sy’n berthnasol i’r datblygiad.

(9Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu pan wneir cyfarwyddyd sgrinio gan Weinidogion Cymru—

(a)rhaid i’r farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw ddatgan y prif resymau dros ddod i’r casgliad hwnnw gan yr awdurdod neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol, gan gyfeirio at y meini prawf perthnasol a restrir yn Atodlen 3;

(b)os penderfynir nad yw’r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw ddatgan unrhyw nodweddion sy’n perthyn i’r datblygiad arfaethedig a’r mesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(10Rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol, anfon copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd at y person sy’n bwriadu gwneud y datblygiad dan sylw, neu sydd wedi gwneud y datblygiad hwnnw.

(11Caiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio naill ai—

(a)o’u hewyllys eu hunain; neu

(b)os gofynnir iddynt wneud hynny gan unrhyw berson.

(12Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod datblygiad penodol o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA er gwaethaf y ffaith nad yw’r naill na’r llall o is-baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “datblygiad Atodlen 2” wedi eu bodloni mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.

(13Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd sgrinio yn unol â pharagraff (11), rhaid iddynt—

(a)cymryd y fath gamau sy’n ymddangos yn rhesymol iddynt hwy o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw i ofynion rheoliad 6(2) a (4), i gael gwybodaeth am y datblygiad arfaethedig er mwyn hysbysu cyfarwyddyd sgrinio;

(b)cymryd i ystyriaeth wrth wneud y cyfarwyddyd hwnnw—

(i)yr wybodaeth a gesglir yn unol ag is-baragraff (a);

(ii)y canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb; a

(iii)y fath rai o’r meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 3 sy’n berthnasol i’r datblygiad; ac

(c)dyroddi cyfarwyddyd sgrinio o fewn 90 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru wedi cael digon o wybodaeth i wneud cyfarwyddyd.

(14Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud ag amgylchiadau’r datblygiad arfaethedig, nad yw’n ymarferol iddynt fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (13)(c), caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir i’r person a ofynodd am gyfarwyddyd sgrinio.

(15Rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan mewn unrhyw hysbysiad a roddir o dan baragraff (14) y rhesymau sy’n cyfiawnhau’r estyniad a dyddiad disgwyliedig y penderfyniad.

(16Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

Achosion o ofyn am farnau sgrinio

6.—(1Caiff person sy’n bwriadu cynnal datblygiad ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol fabwysiadu barn sgrinio.

(2Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio ddod gyda—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—

(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;

(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt;

(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o’u cael ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae gwybodaeth ar gael ar yr effeithiau hynny, o ganlyniad i—

(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a

(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth; ac

(e)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno gan gynnwys unrhyw rai o nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(3Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais dilynol ddod gyda—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad y gwnaed cais dilynol mewn cysylltiad ag ef;

(c)yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2)(c) a (d), ond dim ond i’r graddau y mae hyn yn ymwneud ag effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd nas nodwyd yn flaenorol; a

(d)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno, gan gynnwys unrhyw rai o nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(4Rhaid i’r person sy’n gwneud y cais am y farn sgrinio, pan fo’r person hwnnw yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (2) neu (3), gymryd i ystyriaeth y meini prawf yn Atodlen 3 a’r canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth o dan y Gyfarwyddeb.

(5Os nad yw awdurdod y gofynnir iddo am farn sgrinio yn ystyried ei fod wedi cael digon o wybodaeth i fabwysiadu barn, rhaid iddo roi gwybod i’r person sy’n gwneud y cais am ba bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol arno.

(6Rhaid i awdurdod fabwysiadu barn sgrinio o fewn—

(a)21 o ddiwrnodau; neu

(b)y fath gyfnod hwy nad yw’n hwy na 90 o ddiwrnodau fel y cytunir yn ysgrifenedig â’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio,

yn y naill achos neu’r llall, o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (2) neu (3).

(7Rhaid i awdurdod sy’n mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (6) anfon copi at y person a ofynodd amdani.

(8Pan fo awdurdod—

(a)yn methu â mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (6); neu

(b)yn mabwysiadu barn i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA;

caiff y person a ofynnodd am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio.

(9Caiff y person ofyn am farn sgrinio yn unol â pharagraff (8) hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (5).

Achosion o ofyn am gyfarwyddydau sgrinio oddi wrth Weinidogion Cymru

7.—(1Rhaid i berson sy’n gofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 6(8) (“person sy’n gwneud cais”) gyflwyno’r canlynol gyda’r cais—

(a)copi o’r cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 6(1) a’r dogfennau a ddaeth ynghyd â’r cais;

(b)copi o unrhyw hysbysiad a gafwyd o dan reoliad 6(5) ac unrhyw ymateb a anfonwyd;

(c)copi o unrhyw farn sgrinio a gafwyd gan yr awdurdod ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau a ddaeth ynghyd â’r farn; a

(d)unrhyw sylwadau y dymuna’r person eu gwneud.

(2Rhaid i berson sy’n gwneud cais anfon copi o’r cais hwnnw a’r sylwadau a wneir gan y person hwnnw i Weinidogion Cymru i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y cais.

(4Rhaid i’r hysbysiad bennu’r pwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn—

(a)21 o ddiwrnodau; neu

(b)y fath gyfnod hwy nad yw’n fwy na 90 o ddiwrnodau a all fod yn rhesymol ofynnol,

yn y naill achos neu’r llall, o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y farn yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (1).

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig, nad yw’n ymarferol iddynt fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau, caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person a ofynodd am gyfarwyddyd sgrinio.

(8Rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan mewn unrhyw hysbysiad o dan baragraff (7) y rhesymau sy’n cyfiawnhau’r estyniad a dyddiad disgwyliedig y penderfyniad.

(9Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (6) at y person a ofynnodd amdano, yr apelydd (os nad hwy yw’r person a ofynnodd amdano) a’r awdurdod cynllunio perthnasol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

RHAN 3Gweithdrefnau Ynghylch Ceisiadau am Ganiatâd Cynllunio

Ceisiadau pan ymddengys bod barn sgrinio yn ofynnol

8.—(1Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i benderfynu arno yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2;

(b)nad yw’r datblygiad dan sylw wedi bod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; a

(c)nad oes ynghyd â’r cais datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai cael neu gofnodi’r cais yn gais a wnaed o dan reoliad 6(1).

(2Pan fo rheoliad 6(4) yn gymwys yn rhinwedd y rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2), ac i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol, ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi barn sgrinio.

Ceisiadau dilynol pan ddarparwyd gwybodaeth amgylcheddol yn flaenorol

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i’w benderfynu—

(i)yn gais dilynol mewn perthynas â datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2;

(ii)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio ei hun; a

(iii)heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

(b)bod y cais gwreiddiol wedi ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol bod yr wybodaeth amgylcheddol sydd eisoes ger ei fron yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd, rhaid iddo gymryd yr wybodaeth honno i ystyriaeth yn ei benderfyniad ynglŷn â chydsyniad dilynol.

(3Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol nad yw’r wybodaeth amgylcheddol a gyflwynwyd ger ei fron eisoes yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau sylweddol y datblygiad ar y amgylchedd, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad yn ceisio gwybodaeth bellach yn unol â rheoliad 24(1).

Ceisiadau dilynol pan na ddarparwyd gwybodaeth amgylcheddol ynghyd â hwy yn flaenorol

10.—(1Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i’w benderfynu—

(i)yn gais dilynol mewn perthynas â datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2;

(ii)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio ei hun; a

(iii)heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

(b)bod y cais gwreiddiol heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai cael neu gofnodi’r cais yn ofyniad a wnaed o dan reoliad 6(1).

(2Pan fo paragraff (5) o reoliad 6 yn gymwys yn rhinwedd y rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2), ac i’r graddau sy’n angenrheidiol i sicrhau hynny, ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi barn sgrinio ac mae rheoliad 6(4) yn gymwys fel pe bai cael y cais neu ei gofnodi yn rhywbeth y gofynnwyd amdano o dan reoliad 6(1).

Cais a wnaed i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddol

11.—(1Pan nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cael ei gyflwyno â chais AEA i awdurdod cynllunio lleol er mwyn penderfynu arno, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol.

(2Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(3Rhaid i awdurdod hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1)—

(a)o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno’n ysgrifenedig gyda’r ceisydd; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl terfyn y 21 diwrnod hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y cytunwyd arno, yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, o fewn 7 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cafodd yr awdurdod gopi o’r cyfarwyddyd sgrinio hwnnw.

(4Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad yn unol â pharagraff (1) ysgrifennu at yr awdurdod o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, i ddatgan—

(a)bod y ceisydd yn derbyn ei farn ac yn darparu datganiad amgylcheddol; neu

(b)oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn cael ei fodloni, bod y ceisydd yn ysgrifennu at Weinidogion Cymru i ofyn am gyfarwyddyd sgrinio.

(5At ddiben paragraff (4)(b) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio mewn cysylltiad â’r datblygiad—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu

(b)yn unol â chais dilynol,

yn ôl y digwydd.

(6Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu at yr awdurdod yn unol â pharagraff (4), tybir bod y caniatâd neu’r cydsyniad dilynol a geisir wedi ei wrthod ar ddiwedd y cyfnod perthnasol o 21 o ddiwrnodau, oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yn cael ei fodloni a bod y gwrthodiad tybiedig—

(a)yn cael ei drin fel penderfyniad yr awdurdod at ddibenion erthygl 29(3)(c) (cofrestr o geisiadau) o Orchymyn 2012; ond

(b)nad yw’n arwain at apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)(27).

(7At ddibenion paragraff (6) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu

(b)yn unol â chais dilynol,

yn ôl y digwydd.

(8Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i awdurdod sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (1) benderfynu ar y cais perthnasol drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol os nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19(6).

(9Rhaid i berson sy’n gofyn am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â pharagraff (4)(b) anfon copïau o’r canlynol at Weinidogion Cymru gyda’r gofyniad—

(a)y gofyniad i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad >6(1) a’r dogfennau a oedd yn dod gydag ef;

(b)unrhyw hysbysiad a wnaed o dan reoliad 6(4) ac unrhyw ymateb a anfonwyd gan y person hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

(c)y cais;

(d)pob dogfen a anfonwyd i’r awdurdod yn rhan o’r cais;

(e)pob gohebiaeth rhwng y ceisydd a’r awdurdod sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig;

(f)unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad; ac

(g)yn achos cais dilynol, dogfennau neu wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r caniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad,

ac mae paragraffau (2) i (9) o reoliad 7 yn gymwys i ofyniad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i ofyniad a wneir yn unol â rheoliad 6(8).

Cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

12.—(1Pan fo cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru)(28), ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—

(a)ei fod yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2;

(b)bod y datblygiad dan sylw—

(i)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; neu

(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r perwyl nad oedd yn ddatblygiad AEA; ac

(c)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflwyno ynghyd â’r cais,

mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai atgyfeiro’r cais yn gais a wnaed gan y ceisydd yn unol â rheoliad 6(8).

(2Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu—

(a)yn achos ceisiadau, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2),

(b)yn achos ceisiadau dilynol, yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6(3),

wneud cais am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio ac mae rheoliad 6(4) yn gymwys fel pe bai atgyfeirio’r cais yn rhywbeth y mae’r ceisydd wedi gofyn amdano o dan reoliad 6(1).

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod cais a atgyfeiriwyd atynt i’w benderfynu yn gais AEA ond nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn dod gyda’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (3) o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cafwyd y cais neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.

(6Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (3) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y darperir datganiad amgylcheddol.

(7Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu yn unol â pharagraff (6), nid oes gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd o ran y cais.

(8Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (3), a

(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol sy’n cydymffurfio â rheoliad 19(6),

rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais perthnasol drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.

Apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

13.—(1Pan ymddengys i Weinidogion Cymru, wrth ystyried apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) bod—

(a)y cais perthnasol yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2; a

(b)y datblygiad dan sylw—

(i)heb fod yn destun barn sgrinio na chyfarwyddyd sgrinio; neu

(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo i’r perwyl nad yw’n ddatblygiad AEA; ac

(c)y cais perthnasol heb gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r apêl yn rhywbeth y gofynnodd yr apelydd amdani yn unol â rheoliad 6(8).

(2Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl ac mae cwestiwn yn codi ynghylch pa un a yw’r cais perthnasol yn gais AEA ac yr ymddengys i’r arolygydd y gallai fod yn gais o’r fath, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw at Weinidogion Cymru ac ni chaiff benderfynu ar yr apêl cyn y gwneir cyfarwyddyd sgrinio, ac eithrio drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.

(3Mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys i gwestiwn a atgyfeirir o dan baragraff (2) fel pe bai atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw yn gais a wneir gan yr apelydd yn unol â rheoliad 6(8).

(4Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd paragraff (1) neu (3), rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu, yn achos—

(a)ceisiadau, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2); a

(b)ceisiadau dilynol, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(3),

ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio ac mae rheoliad 6(4) yn gymwys fel pe bai atgyfeirio’r cais yn rhywbeth y mae’r ceisydd wedi gofyn amdano o dan reoliad 6(8).

(5Pan ymddengys i Weinidogion Cymru bod y cais perthnasol yn gais AEA ac nad yw’n cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol.

(6Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd am unrhyw berson o’r fath.

(7Caiff apelydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (5), gadarnhau i Weinidogion Cymru o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.

(8Os nad yw’r apelydd yn cadarnhau yn unol â pharagraff (7), nid oes gan Weinidogion Cymru, na’r arolygydd pan fo hynny’n berthnasol, ddyletswydd i ymdrin â’r apêl; ac ar ddiwedd y 21 o ddiwrnodau, rhaid i Weinidogion Cymru, neu’r arolygydd, hysbysu’r apelydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd o ran yr apêl.

(9Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (5), a

(b)nad yw’r apelydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19(6),

rhaid i Weinidogion Cymru neu, pan fo hynny’n berthnasol, yr arolygydd benderfynu ar yr apêl drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.

RHAN 4Llunio Datganiadau Amgylcheddol

Barnau cwmpasu

14.—(1Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais AEA ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddatgan ei farn o ran cwmpas a manylder yr wybodaeth i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).

(2Rhaid i’r gofyniad o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio—

(i)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(ii)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;

(iii)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd; a

(iv)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno;

(b)mewn perthynas â chais dilynol—

(i)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(ii)digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad mewn cysylltiad â chais dilynol sydd wedi ei wneud;

(iii)disgrifiad o’r effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd na chanfuwyd ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd cynllunio; a

(iv)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno.

(3Os nad yw awdurdod sy’n cael cais o dan baragraff (1) yn ystyried ei fod wedi cael ei ddarparu â digon o wybodaeth i fabwysiadu barn sgrinio, rhaid iddo roi gwybod i’r person sy’n gwneud y cais am y pwyntiau lle y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnynt.

(4Rhaid i awdurdod beidio â mabwysiadu barn gwmpasu mewn ymateb i gais o dan baragraff (1) hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion, ond rhaid iddo, yn ddarostyngedig i baragraff (5), fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi at y person a wnaeth y cais o fewn 8 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.

(5Pan fo person wedi gofyn i’r awdurdod am farn o dan baragraff (1) uchod ar yr un pryd â gwneud cais am farn sgrinio o dan reoliad 6(1), ac mae’r awdurdod wedi mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi at y person a wnaeth y cais o fewn 8 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y mabwysiadwyd y farn sgrinio honno neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.

(6Cyn mabwysiadu barn gwmpasu, rhaid i’r awdurdod gymryd y canlynol i ystyriaeth—

(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y ceisydd ynghylch y datblygiad arfaethedig;

(b)nodweddion neilltuol y datblygiad penodol;

(c)nodweddion neilltuol y datblygiad o’r math dan sylw; a

(d)y nodweddion amgylcheddol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio’n sylweddol arnynt.

(7Pan fo awdurdod yn methu â mabwysiadu barn gwmpasu o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (4) neu (5), caiff y person a ofynnodd am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd o dan reoliad 15(1) ynghylch yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“cyfarwyddyd cwmpasu”).

(8Mae paragraff (7) yn gymwys hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (3).

(9Nid oes unrhyw beth yn atal awdurdod sydd wedi mabwysiadu barn gwmpasu rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth y cais ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

(10Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.

Cyfarwyddydau cwmpasu

15.—(1Rhaid i ofyniad a wneir o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 14(7) gynnwys—

(a)copi o’r gofyniad i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 14(1);

(b)copi o unrhyw hysbysiad perthnasol o dan reoliad 14(3) ac o unrhyw ymateb;

(c)copi o unrhyw farn sgrinio berthnasol a gafwyd gan y person sy’n gwneud y gofyniad ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n dod gyda’r farn; a

(d)unrhyw sylwadau y dymuna’r person sy’n gwneud y gofyniad eu gwneud.

(2Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad anfon copi o’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol, ond nid oes angen i’r copi hwnnw gynnwys y materion a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) i (c).

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol er mwyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y cais.

(4Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall ar unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi at y person sy’n gwneud y gofyniad ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn y 5 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y gofyniad hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.

(7Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a bennir yn rheoliad 14(6).

(8Nid oes dim yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) na’r awdurdod cynllunio perthnasol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y gofyniad ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

(9Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (8) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.

Gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddol

16.—(1Caiff unrhyw berson sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn roi hysbysiad i’r awdurdod hwnnw neu i Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn adnabod y tir a natur a diben y datblygiad, a rhaid iddo ddangos y prif ganlyniadau amgylcheddol y mae’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn bwriadu cyfeirio atynt yn y datganiad amgylcheddol.

(3Rhaid i dderbynnydd—

(a)hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu

(b)datganiad neu gadarnhad a wneir yn unol â rheoliad 11(4)(a), 12(6) neu 13(7)

(i)hysbysu’r ymgynghoreion am enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r person hwnnw; a

(ii)hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd felly.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw ymgynghorai a hysbysir yn unol â pharagraff (3), ymgynghori â’r person, os bydd y person hwnnw sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol yn gofyn am hynny, er mwyn penderfynu a oes gan yr awdurdod neu’r ymgynghorai unrhyw wybodaeth yn eu meddiant y mae’r person hwnnw, neu y maent hwy, yn ei hystyried yn berthnasol ar gyfer llunio’r datganiad amgylcheddol. Os oes ganddynt, rhaid i’r awdurdod neu’r ymgynghorai sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i’r person hwnnw.

(5Rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol neu ymgynghorai sy’n cael gofyniad am wybodaeth o dan baragraff (4) ei drin fel gofyniad am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(29).

RHAN 5Cyhoeddusrwydd a Gweithdrefnau ar Gyflwyno Datganiadau Amgylcheddol

Datganiadau amgylcheddol

17.—(1Rhaid i gais AEA ddod gyda datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Pan fo rheoliad 9(1) a (2) yn gymwys, nid yw paragraff (1) yn gymwys.

(3Mae datganiad amgylcheddol yn ddatganiad sy’n cynnwys o leiaf—

(a)disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig sef gwybodaeth ynghylch y safle, y dyluniad, maint y datblygiad a’i nodweddion perthnasol eraill;

(b)disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd;

(c)disgrifiad o unrhyw un neu ragor o nodweddion y datblygiad arfaethedig, neu fesurau a ragwelir er mwyn osgoi, atal neu leihau effeithiau andwyol sylweddol tebygol ar yr amgylchedd, a gwrthbwyso’r effeithiau hynny os yw’n bosibl;

(d)disgrifiad o’r dewisiadau amgen rhesymol a astudiwyd gan y ceisydd neu’r apelydd, sy’n berthnasol i’r datblygiad arfaethedig a’i nodweddion penodol, a mynegiad o’r prif resymau dros y dewis a wnaed, gan ystyried effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd;

(e)crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraffau (a) i (d); a

(f)unrhyw wybodaeth ychwanegol a bennir yn Atodlen 4 sy’n berthnasol i nodweddion penodol y datblygiad penodol neu’r math o ddatblygiad ac i’r nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol.

(4Rhaid i ddatganiad amgylcheddol—

(a)cael ei lunio gan bersonau sydd, ym marn yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol, yn meddu ar arbenigedd digonol i sicrhau bod y datganiad yn gyflawn ac yn safonol;

(b)cynnwys datganiad gan neu ar ran y ceisydd neu’r apelydd sy’n disgrifio arbenigedd y person a luniodd y datganiad amgylcheddol;

(c)pan fo barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu wedi ei dyroddi neu ei ddyroddi yn unol â rheoliad 14 neu 15, fod yn seiliedig ar y farn gwmpasu neu’r cyfarwyddyd cwmpasu diweddaraf a ddyroddwyd (i’r graddau y mae’r datblygiad arfaethedig yn parhau i fod yr un datblygiad arfaethedig yn ei hanfod â’r datblygiad arfaethedig a fu’n destun y farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw);

(d)cynnwys yr wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol ar gyfer dod i gasgliad rhesymedig ynghylch effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd, gan roi sylw i’r wybodaeth gyfredol a’r dulliau asesu cyfredol; ac

(e)rhoi sylw i asesiadau amgylcheddol perthnasol eraill sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth yr Undeb neu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth ddomestig, gyda’r nod o osgoi dyblygu asesiadau.

Y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i awdurdod cynllunio lleol

18.—(1Rhaid i geisydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol ei gyflwyno yn electronig ac ar bapur, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

(2Os yw’r ceisydd yn cyflwyno copi o’r datganiad i unrhyw gorff arall ar yr un pryd ag y mae’n gwneud cais AEA, rhaid i’r ceisydd—

(a)cyflwyno gyda’r datganiad gopi o’r cais ac unrhyw blan a gyflwynir gyda’r cais (oni bai eu bod wedi eu darparu i’r corff dan sylw eisoes);

(b)hysbysu’r corff y caniateir cyflwyno sylwadau i’r awdurdod cynllunio perthnasol; ac

(c)hysbysu’r awdurdod am enw pob corff y cyflwynwyd datganiad iddo felly a dyddiad y cyflwyno.

(3Pan fo awdurdod cynllunio perthnasol yn cael datganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod—

(a)anfon un copi electronig o’r datganiad, copi o’r cais perthnasol ac o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais i Weinidogion Cymru o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl cael y datganiad;

(b)hysbysu’r ceisydd am nifer y copïau sy’n ofynnol er mwyn galluogi’r awdurdod i gydymffurfio ag is-baragraff (c);

(c)anfon copi o’r datganiad ymlaen at unrhyw ymgynghorai nad yw wedi cael copi yn uniongyrchol gan y ceisydd, a hysbysu unrhyw ymgynghorai o’r fath y caniateir iddo gyflwyno sylwadau;

(d)pan fo’r awdurdod yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol sy’n cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, neu drwy hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, anfon hysbysiad at berson o’r fath yn cynnwys y manylion a nodir yn rheoliad 19(2)(b) i (k) ac enw a chyfeiriad yr awdurdod.

(4Rhaid i’r ceisydd anfon y copïau sy’n ofynnol at ddibenion paragraff (3)(c) i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(5Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1), mae darpariaethau erthygl 12 o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) ac Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw yn gymwys i gais dilynol fel y maent yn gymwys i gais cynllunio sy’n dod o fewn erthygl 12(2) o Orchymyn 2012 fel pe bai’r cyfeiriad yn yr hysbysiad yn Atodlen 3 i Orchymyn 2012 at “ganiatâd cynllunio i” yn darllen “gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth i”.

(6Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol beidio â phenderfynu ar y cais hyd nes y daw 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad olaf y cyflwynwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn i ben.

Cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio

19.—(1Pan fo cais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol wedi ei wneud heb ddatganiad amgylcheddol a bod y ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad o’r fath, rhaid i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (2) i (5) cyn ei gyflwyno.

(2Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle y mae’r tir wedi ei leoli sy’n nodi—

(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu neu ei fod yn destun apêl i Weinidogion Cymru os gwnaed hynny;

(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(d)bod—

(i)copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill a gyflwynir ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol, a

(ii)yn achos cais dilynol, copi o’r caniatâd cynllunio y gwnaed y cais hwnnw mewn cysylltiad ag ef a dogfennau ategol,

ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a’r dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais wneud hynny, cyn y dyddiad diweddaraf a nodir yn unol ag is-baragraff (e) neu (f), i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu (yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl) i Weinidogion Cymru; a

(k)yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl, y cyfeiriad, gan gynnwys cyfeiriad electronig, y dylid anfon sylwadau iddo.

(3Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 11(2), 12(4) neu 13(6) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn unrhyw un o’r rheoliadau hynny gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

(4Rhaid i’r ceisydd arddangos ar y tir hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), lle mae ganddo hawl i wneud hynny, neu lle y gellir caffael yn rhesymol yr hawl i wneud hynny.

(5Rhaid i’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (4)—

(a)cael ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 o ddiwrnodau yn union cyn y dyddiad y cyflwynir y datganiad; a

(b)cael ei osod yn gadarn ar rywbeth ar y tir a’i leoli a’i arddangos mewn modd sy’n golygu bod modd i aelodau o’r cyhoedd ei weld a’i ddarllen yn rhwydd heb fynd ar y tir.

(6Rhaid i’r canlynol ddod gyda’r datganiad amgylcheddol pan y’i cyflwynir—

(a)copi o’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (2) wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd ei fod wedi ei gyhoeddi mewn papur newydd a enwir ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif; a

(b)tystysgrif gan neu ar ran y ceisydd sy’n nodi naill ai—

(i)bod hysbysiad wedi ei arddangos ar y tir er mwyn cydymffurfio â’r rheoliad hwn a pha bryd y gwnaed hyn, a bod yr hysbysiad wedi ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 o ddiwrnodau yn union cyn y dyddiad y cyflwynwyd y datganiad, neu ei fod, heb unrhyw fai na bwriad ar ran y ceisydd, wedi ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn diwedd y 7 diwrnod a bod y ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i’w ddiogelu neu roi un newydd yn ei le, gan nodi’r camau a gymerwyd; neu

(ii)nad oedd modd i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (4) a (5) am nad oedd gan y ceisydd yr hawliau angenrheidiol i wneud hynny; bod unrhyw gamau rhesymol ar gael i gaffael yr hawliau hynny wedi eu cymryd ond yn aflwyddiannus, gan nodi’r camau a gymerwyd.

(7Pan fo ceisydd yn dynodi bod y ceisydd yn bwriadu darparu datganiad o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd, (oni bai y penderfynir gwrthod y caniatâd neu’r cydsyniad dilynol a geisir) ohirio ystyried y cais neu’r apêl hyd nes y ceir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllir ym mharagraff (6); ac ni chaniateir penderfynu ar y cais na’r apêl yn ystod y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad diweddaraf y cyhoeddir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllwyd felly yn unol â’r rheoliad hwn.

(8Pan fwriedir cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag apêl, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr apelydd.

Darparu copïau o ddatganiadau amgylcheddol a gwybodaeth bellach i Weinidogion Cymru pe byddai atgyfeiriad neu apêl

20.—(1Pan fo ceisydd am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol, neu wybodaeth bellach, i’r awdurdod cynllunio perthnasol mewn cysylltiad â’r cais hwnnw ac—

(a)mae’r cais yn cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol); neu

(b)mae’r ceisydd yn apelio o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath),

rhaid i’r ceisydd ddarparu’r datganiad i Weinidogion Cymru a, phan fo’n berthnasol, yr wybodaeth bellach oni bai, yn achos cais sydd wedi ei atgyfeirio, bod yr awdurdod eisoes wedi gwneud hynny.

(2Rhaid darparu’r datganiad a’r wybodaeth bellach a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn electronig ac ar bapur oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

Y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru

21.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisydd neu apelydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â chais AEA—

(a)sydd gerbron Gweinidogion Cymru neu arolygydd er mwyn penderfynu arno; neu

(b)sy’n destun apêl i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd gyflwyno’r datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru a’r awdurdod cynllunio perthnasol yn electronig ac ar bapur, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

(3Caiff ceisydd neu apelydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru ddarparu copi ohono i unrhyw gorff arall, ac os gwneir hynny rhaid iddo—

(a)cydymffurfio ag is-baragraffau (a) a (b) o reoliad 18(2) fel pe bai’r cyfeiriad yn rheoliad 18(2)(b) at yr awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru; a

(b)hysbysu Gweinidogion Cymru o’r materion a grybwyllir yn rheoliad 18(2)(c).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rheoliad 18(3) (heblaw is-baragraff (a) o’r rheoliad hwnnw) a rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd gydymffurfio â rheoliad 18(4) fel pe bai—

(a)cyfeiriadau yn y darpariaethau hynny at yr awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a

(b)yn achos apêl, cyfeiriadau at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr apelydd,

a rhaid i Weinidogion Cymru neu’r arolygydd gydymffurfio â rheoliad 18(6) fel pe bai’n cyfeirio at Weinidogion Cymru neu’r arolygydd yn hytrach na’r awdurdod cynllunio perthnasol.

Argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol

22.  Rhaid i geisydd neu apelydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â chais neu apêl, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a osodir yn unol ag erthygl 12 o Orchymyn 2012 neu reoliad 19(2)(g) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o’r fath.

Tâl am gopïau o ddatganiadau amgylcheddol

23.  Caniateir codi tâl rhesymol sy’n adlewyrchu costau argraffu a dosbarthu ar aelod o’r cyhoedd am gopi o ddatganiad a roddir ar gael yn unol â rheoliad 22.

Gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol

24.—(1Os yw awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd sy’n ymdrin â chais neu apêl y mae’r ceisydd neu’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi, o’r farn, er mwyn bodloni gofynion rheoliad 17(3), ei bod yn angenrheidiol ategu’r datganiad gyda gwybodaeth ychwanegol sy’n uniongyrchol berthnasol i ddod i gasgliad rhesymedig ar effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad a ddisgrifir yn y cais, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd hysbysu’r ceisydd neu’r apelydd yn unol â hynny a rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd ddarparu’r wybodaeth ychwanegol honno ar bapur ac yn electronig, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig; a chyfeirir at wybodaeth ychwanegol o’r fath yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).

(2Mae paragraffau (3) i (9) yn gymwys mewn perthynas â gwybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall ac eithrio i’r graddau—

(a)y mae’r wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall yn cael ei darparu at ddibenion ymholiad neu wrandawiad a gynhelir o dan Ddeddf 1990; a

(b)bod y cais am yr wybodaeth bellach a wnaed yn unol â pharagraff (1) yn nodi ei bod i’w darparu at ddibenion o’r fath.

(3Rhaid i dderbynnydd gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb leol sy’n nodi—

(a)enw’r ceisydd am ganiatâd cynllunio neu am gydsyniad dilynol, neu’r apelydd (yn ôl y digwydd), ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y cais at Weinidogion Cymru, os gwnaed hynny, er mwyn penderfynu arno neu ei fod yn destun apêl i Weinidogion Cymru;

(c)yn achos cais dilynol, digon o wybodaeth i alluogi adnabod y caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad;

(d)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(e)bod gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu eisoes;

(f)y caiff aelodau’r cyhoedd edrych ar gopi o’r wybodaeth bellach neu o unrhyw wybodaeth arall ac unrhyw ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud ag unrhyw ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar bob adeg resymol;

(g)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(h)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(i)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir yn unol ag is-baragraffau (g) ac (h) ai peidio) lle gellir cael copïau o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall;

(j)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(k)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(l)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd (yn ôl y digwydd) cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (g); ac

(m)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.

(4Rhaid i’r sawl sy’n derbyn gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall anfon copi ohoni at bob un o’r personau yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(5Pan mai’r awdurdod cynllunio perthnasol yw’r sawl sy’n derbyn yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, rhaid iddo anfon un copi o’r wybodaeth bellach at Weinidogion Cymru.

(6Caiff y sawl sy’n derbyn yr wybodaeth bellach ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd drwy hysbysiad i ddarparu’r cyfryw nifer o gopïau o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall a bennir yn yr hysbysiad (sef y nifer sy’n ofynnol at ddibenion paragraff (4) neu (5)).

(7Pan ofynnir am wybodaeth o dan baragraff (1) neu pan ddarperir unrhyw wybodaeth arall, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd,—

(a)atal y penderfyniad ar y cais neu’r apêl dros dro; a

(b)rhaid peidio â phenderfynu arno cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o blith—

(i)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi;

(ii)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani mewn papur newydd lleol; neu

(iii)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani ar y wefan.

(8Rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, yn unol â pharagraff (1)—

(a)sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd yn unol â pharagraff (3)(i) fel y cyfeiriad lle gellir cael copïau o’r fath; a

(b)cymryd unrhyw gamau rhesymol sy’n ofynnol gan yr awdurdod i sicrhau bod copïau o’r wybodaeth bellach neu wybodaeth arall ar gael i’w gweld ar y wefan y cyfeirir ati yn yr hysbysiad a gyhoeddir yn unol â pharagraff (3).

(9Caniateir codi tâl rhesymol sy’n adlewyrchu costau argraffu a dosbarthu ar aelod o’r cyhoedd am gopi o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a roddir ar gael yn unol â pharagraff (8)(a).

(10Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru neu arolygydd ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd ddangos pa bynnag dystiolaeth y gallant ofyn amdani yn rhesymol i wirio unrhyw wybodaeth yn y datganiad amgylcheddol.

Ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio

25.—(1Wrth benderfynu ar gais neu apêl y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd—

(a)archwilio’r wybodaeth amgylcheddol;

(b)dod i gasgliad rhesymedig ynghylch effeithiau sylweddol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd, gan ystyried yr archwilio y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) a, phan fo’n briodol, eu harchwiliad ategol eu hunain;

(c)integreiddio’r casgliad hwnnw yn y penderfyniad o ran pa un ai i roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol; a

(d)os rhoddir caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol, ystyried pa un a yw’n briodol gosod mesurau monitro.

(2Rhaid i’r casgliad rhesymedig y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gyfoes pan wneir y penderfyniad; a rhaid tybio bod y casgliad hwnnw yn gyfoes os ydyw, ym marn yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ymdrin â’r effeithiau sylweddol sy’n debygol o ddigwydd o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig.

(3Wrth ystyried pa un ai i osod mesur monitro o dan baragraff (1)(d), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol—

(a)os ystyrir bod monitro yn briodol, ystyried pa un ai i wneud darpariaeth ar gyfer camau unioni posibl;

(b)cymryd camau i sicrhau bod y math o baramedrau sydd i’w monitro, a hyd y cyfnod monitro, yn gymesur â natur, lleoliad a maint y datblygiad arfaethedig ac arwyddocâd ei effeithiau ar yr amgylchedd; ac

(c)ystyried, er mwyn osgoi dyblygu monitro, pa un a yw trefniadau monitro sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth yr Undeb (ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb) neu ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys yng Nghymru yn fwy priodol na gosod mesurau monitro.

(4Mewn achosion pan nad oes amserlen statudol wedi ei phennu, rhaid i benderfyniad yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol, gan ystyried natur a chymhlethdod y datblygiad arfaethedig, o’r dyddiad y darparwyd yr wybodaeth amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru.

RHAN 6

Cyd-drefnu asesiadau

26.—(1Pan fo, mewn perthynas â datblygiad AEA, ofyniad i gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd hefyd yn ogystal â’r gofyniad i gynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol (neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd) sicrhau pan fo’n briodol bod yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a’r asesiad o’r effaith amgylcheddol yn cael eu cyd-drefnu.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd” (“Habitats Regulations Assessment”) yw asesiad o dan reoliad 61 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010.

RHAN 7Argaeledd Cyfarwyddydau etc. a Hysbysu am Benderfyniadau

Argaeledd barnau, cyfarwyddydau etc. i’w harchwilio

27.—(1Pan fo manylion am gais cynllunio neu gais dilynol yn cael eu gosod yn Rhan 1 o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod copi yn cael eu gosod yn y Rhan honno hefyd o unrhyw—

(a)barn sgrinio;

(b)cyfarwyddyd sgrinio;

(c)barn gwmpasu;

(d)cyfarwyddyd cwmpasu;

(e)hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 11(1), 12(2) neu 13(5);

(f)cyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) neu (5);

(g)datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall;

(h)datganiad o resymau sy’n dod gydag unrhyw rai o’r uchod.

(2Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu; neu

(b)yn cael gofyniad o dan reoliad 14(1), neu 15(1), neu gopi o gyfarwyddyd sgrinio, cyfarwyddyd cwmpasu, neu gyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) cyn y gwneir cais am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol ar gyfer y datblygiad dan sylw,

rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn, y cais neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n dod gydag ef neu hi yn cael eu rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu ran berthnasol o’r gofrestr honno).

(3Rhaid i gopïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) barhau i fod ar gael yn y modd hwn am gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad y gosodir hwy ar y gofrestr.

Gwybodaeth i fynd gyda phenderfyniadau

28.—(1Pan fo cais neu apêl AEA y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi yn cael ei benderfynu neu ei phenderfynu gan awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, rhaid i’r person sy’n gwneud y penderfyniad hwnnw ddarparu i’r ceisydd neu’r apelydd yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

(2Yr wybodaeth honno yw—

(a)gwybodaeth ynghylch yr hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny; a

(b)os yw’n benderfyniad i roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol—

(i)casgliad rhesymedig yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, ynghylch effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd, gan ystyried canlyniadau’r archwiliad y cyfeirir ato yn rheoliad 25(1)(a) a (b);

(ii)unrhyw amodau y mae’r penderfyniad yn ddarostyngedig iddynt sy’n ymwneud ag effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd;

(iii)disgrifiad o unrhyw un neu ragor o nodweddion y datblygiad ac unrhyw fesurau a ragwelir er mwyn osgoi, atal neu leihau effeithiau andwyol sylweddol tebygol ar yr amgylchedd, a gwrthbwyso’r effeithiau hynny os yw’n bosibl; a

(iv)unrhyw fesurau monitro y mae’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ystyried eu bod yn briodol; neu

(c)os yw’n benderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol, y prif resymau dros wrthod.

Dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd a Gweinidogion Cymru am y penderfyniadau terfynol

29.—(1Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan awdurdod cynllunio lleol, rhaid i’r awdurdod wneud y canlynol yn brydlon—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru am y penderfyniad drwy ddulliau electronig;

(b)hysbysu’r ymgynghoreion am y penderfyniad;

(c)hysbysu’r cyhoedd am y penderfyniad, drwy hysbyseb leol, neu drwy’r fath ddull arall sy’n rhesymol dan yr amgylchiadau; a

(d)sicrhau bod datganiad yn cael ei roi ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu’r rhan berthnasol o’r gofrestr honno), sy’n cynnwys—

(i)manylion y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 28(2);

(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y mae’r penderfyniad wedi ei seilio arnynt gan gynnwys, os yw’n berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;

(iii)crynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd a’r wybodaeth a gasglwyd, mewn cysylltiad â’r cais a sut y mae’r canlyniadau hynny, yn enwedig y sylwadau a gafwyd gan Wladwriaeth AEE yn unol ag ymgynghoriad o dan reoliad 56, wedi eu hymgorffori neu sut yr ymdriniwyd â hwy fel arall.

(2Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru neu arolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol am y penderfyniad; a

(b)darparu datganiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(c) i’r awdurdod.

(3Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dan baragraff (2)(a), gydymffurfio ag is-baragraffau (b) i (d) o baragraff (1) mewn perthynas â’r penderfyniad yr hysbyswyd amdano yn y modd hwn fel pe bai’n benderfyniad yr awdurdod.

RHAN 8Ceisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru

Cymhwyso Rhannau 2 i 7

30.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys pan wneir cais am ganiatâd cynllunio i Weinidogion Cymru ac felly ystyr “cais” (“application”) yn y Rhan hon yw cais am ganiatâd cynllunio a wneir yn y modd hwn.

(2Mae Rhannau 2 i 7 yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn y paragraff canlynol a’r addasiadau a’r darpariaethau atodol yn y Rhan hon.

(3Nid yw rheoliadau 6, 7(1), 7(2), 8 i 15, 20, na 22 yn gymwys.

Ceisiadau am gyfarwyddydau sgrinio Gweinidogion Cymru

31.—(1Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais ofyn i Weinidogion Cymru fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio.

(2Rhaid i’r canlynol ddod gyda gofyniad am gyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â chais—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—

(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;

(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt;

(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae gwybodaeth ar gael am yr effeithiau hynny, o ganlyniad i—

(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a

(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth;

(e)datganiad bod y gofyniad yn cael ei wneud mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion 62D o Ddeddf 1990; ac

(f)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y gofyniad ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno, gan gynnwys unrhyw nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(3Rhaid i’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio ystyried y meini prawf yn Atodlen 3 a’r canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio o dan y Gyfarwyddeb pan fydd y person hwnnw yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (2).

(4Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r gofyniad hwnnw a’r dogfennau sy’n dod gyda’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(5Mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at ofyn am farn o dan reoliad 6(8) yn gyfeiriadau at ofyn am gyfarwyddyd o dan reoliad 31(1).

Ceisiadau a wneir heb ddatganiad amgylcheddol

32.—(1Pan wneir cais ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—

(a)ei fod yn gais AEA; a

(b)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol yn dod gyda’r cais, at ddibenion y Rheoliadau hyn,

rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1) o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais neu ba bynnag gyfnod hwy a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (1) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y darperir datganiad amgylcheddol.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(5Os nad yw’r ceisydd yn cadarnhau yn unol â pharagraff (3), nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ynglŷn â’r cais.

(6Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (1); a

(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19 (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio),

rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais drwy wrthod caniatâd cynllunio yn unig.

Cyfarwyddydau cwmpasu

33.—(1Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd cwmpasu.

(2Rhaid i ofyniad o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;

(c)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd;

(d)datganiad y gofynnir am gyfarwyddyd mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990; ac

(e)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y gofyniad ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno.

(3Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r gofyniad hwnnw a’r dogfennau sy’n dod gyda’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(4Os nad yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol ar gyfer gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y gofyniad.

(5Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(6Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hyn.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi at y person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn cyfnod o 8 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y gofyniad hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.

(8Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y ceisydd ynghylch y datblygiad arfethedig;

(b)nodweddion neilltuol y datblygiad penodol;

(c)nodweddion neilltuol y datblygiad o’r math dan sylw; a

(d)y nodweddion amgylcheddol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio arnynt yn sylweddol.

(9Nid oes dim yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig.

(10Ystyr “Gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddol

34.  Mae rheoliad 16 yn gymwys fel pe bai—

(a)paragraff (3) yn darllen—

(3) Rhaid i dderbynnydd—

(a)hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu

(b)datganiad a wneir yn unol â rheoliad 11(4)(a), 12(6), 13(7) neu 32(3)

(i)hysbysu’r ymgynghoreion o enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhoi ar gael i’r person hwnnw; a

(ii)hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd felly.; a

(b)y cyfeiriadau ym mharagraffau (4) a (5) i’r “awdurdod cynllunio perthnasol” ac “awdurdod” yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.

Cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio

35.  Mae rheoliad 19 yn gymwys fel pe bai paragraffau (2) a (3) yn darllen—

(2) Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad yn nodi’r canlynol mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli—

(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio a chyfeiriad Gweinidogion Cymru;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais;

(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(d)bod copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill sy’n mynd ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol ar gael i aelodau’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)bod yn rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais eu cyflwyno i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (e) neu (f), pa un bynnag sydd ddiweddaraf; a

(k)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.

(3) Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 32(4) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn y rheoliad hwnnw gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), ond ni chaiff y dyddiad a nodir fel y dyddiad olaf y mae’r dogfennau ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt fod yn llai na 21 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad gyntaf.

Argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol

36.  Rhaid i geisydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â chais, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a gyflwynir yn unol ag erthygl 18(2) o Orchymyn 2016 fel y cyfeiriad lle gellir cael copïau o’r fath.

Argaeledd cyfarwyddydau etc. i’w harchwilio

37.  Mae rheoliad 27 yn gymwys fel pe bai paragraff (1)(e) yn darllen “hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 32(2) (ceisiadau a wneir heb ddatganiad amgylcheddol);”.

RHAN 9Cyfyngiadau ar Roi Caniatâd

Cynlluniau parth cynllunio wedi eu symleiddio neu orchmynion parth menter newydd

38.  Ni chaiff—

(a)mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun parth cynllunio wedi ei symleiddio(30);

(b)gorchymyn sy’n dynodi parth menter a wnaed o dan adran 88 o Ddeddf 1990; neu

(c)cymeradwyo cynllun wedi ei addasu mewn perthynas â pharth menter o’r fath,

wneud y canlynol—

(i)rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA; neu

(ii)rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 2 oni bai bod y caniatâd hwnnw yn cael ei wneud yn ddarostyngedig i fabwysiadu barn sgrinio yn flaenorol neu cyn gwneud cyfarwyddyd sgrinio nad yw’r datblygiad arfaethedig penodol yn ddatblygiad AEA.

Gorchmynion datblygu lleol

39.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 y mae awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio iddo drwy orchymyn datblygu lleol.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)ni chaiff awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu na diwygio gorchymyn datblygu lleol oni bai ei fod naill ai wedi gofyn am farn sgrinio a’i mabwysiadu neu bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio;

(b)mae rheoliad 7(1) yn gymwys fel pe bai’r geiriau “yn unol â rheoliad 6(8)” wedi eu hepgor;

(c)mae rheoliadau 6(2) i (9), 7 ac 8 yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau—

(i)at gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn datblygu lleol;

(ii)at awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am fabwysiadu neu ddiwygio’r gorchymyn datblygu lleol;

(iii)at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr awdurdod; a

(iv)at gais Atodlen 2 yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn datblygu lleol i roi caniatâd cynllunio i ddatblygiad Atodlen 2.

(3Mae paragraff (4) ac Atodlen 5 yn gymwys—

(a)pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio,

i’r perwyl bod y datblygiad dan sylw yn ddatblygiad AEA.

(4Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu na diwygio gorchymyn datblygu lleol sy’n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 2 sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn rhinwedd ffactorau megis natur, maint neu leoliad y datblygiad oni bai bod asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi ei gynnal mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

Gorchmynion adran 97 a gorchmynion adran 102

40.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn bwriadu gwneud neu gadarnhau gorchymyn adran 97 sy’n addasu unrhyw ganiatâd i ddatblygu tir neu orchymyn adran 102 sy’n rhoi caniatâd cynllunio.

(2Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol na Gweinidogion Cymru wneud na chadarnhau gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 oni bai bod yr awdurdod wedi gofyn am farn sgrinio a’i mabwysiadu neu bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio.

(3Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)nid yw rheoliad 6(4) yn gymwys;

(b)mae rheoliad 7(1) yn gymwys fel pe bai’r geiriau “yn unol â rheoliad 6(8)” wedi eu hepgor;

(c)mae rheoliadau 6(2), (4), (5) i (9) a 7(1), (3) i (9) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau—

(i)at gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at gynnig am orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;

(ii)at awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at y corff sy’n gyfrifol am wneud y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102;

(iii)at y ceisydd yn gyfeiriadau at y corff cychwyn; a

(iv)at gais Atodlen 1 neu gais Atodlen 2 yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 a fyddai’n rhoi neu’n addasu caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2 yn y drefn honno.

(4Mae paragraffau (5) a (6) ac Atodlen 6 yn gymwys yn y naill achos neu’r llall—

(a)i ddatblygiad Atodlen 1;

(b)pan fo naill ai—

(i)yr awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu

(ii)Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio o dan y Rheoliadau hyn,

i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA.

(5Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol wneud gorchymyn adran 97 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol oni bai bod asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi ei gynnal mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.

(6Ni chaiff Gweinidogion Cymru gadarnhau na gwneud gorchymyn adran 97 na gorchymyn adran 102 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol oni bai bod asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi ei gynnal mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.

Camau gweithredu o dan adran 141 o Ddeddf 1990

41.—(1Mae’r rheoliad hwn ac Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gan Weinidogion Cymru o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990(31).

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad prynu o dan adran 139(4) o Ddeddf 1990, ni chaiff Gweinidogion Cymru addasu caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA neu roi cyfarwyddyd, os y gwneir cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA, bod rhaid rhoi’r caniatâd hwnnw oni bai y cynhaliwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

RHAN 10Datblygiad Anawdurdodedig

Dehongli’r Rhan hon

42.  Yn y Rhan hon—

ystyr “apêl sail (a)” (“ground (a) appeal”) yw apêl a gyflwynir o dan adran 174(2)(a) o Ddeddf 1990 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi)(32); ac

ystyr “datblygiad AEA anawdurdodedig” (“unauthorised EIA development”) yw datblygiad AEA sy’n destun hysbysiad gorfodi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 (dyroddi hysbysiad gorfodi);

ystyr “swyddogaethau gorfodi” (“enforcement functions”) yw—

(a)

dyroddi hysbysiad gorfodi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 (dyroddi hysbysiad gorfodi)(33);

(b)

dyroddi hysbysiad tramgwydd cynllunio o dan adran 171C o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud gwybodaeth ynghylch gweithgarwch ar dir yn ofynnol)(34);

(c)

dyroddi hysbysiad stop dros dro o dan adran 171E o Ddeddf 1990 (hysbysiad stop dros dro)(35);

(d)

dyroddi hysbysiad stop o dan adran 183 o Ddeddf 1990 (hysbysiadau stop)(36);

(e)

cyflwyno hysbysiad torri amodau o dan adran 187A o Ddeddf 1990 (gorfodi amodau)(37); a

(f)

cais i’r llys am waharddeb o dan adran 187B o Ddeddf 1990 (gwaharddebau sy’n atal achosion o dorri rheol gynllunio)(38).

Dyletswydd i sicrhau y cyflawnir amcanion y Gyfarwyddeb

43.  Rhaid i awdurdodau cynllunio perthnasol, wrth arfer eu swyddogaethau gorfodi, roi sylw i’r angen i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ac amcanion y Gyfarwyddeb.

Gwahardd rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA anawdurdodedig

44.  Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac arolygydd roi caniatâd cynllunio na chydsyniad dilynol o dan adran 177(1) o Ddeddf 1990 (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio ar apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi)(39) mewn cysylltiad â datblygiad AEA anawdurdodedig oni bai y cynhaliwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

Barnau sgrinio

45.—(1Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio lleol y dyroddir hysbysiad gorfodi ganddo neu ar ei ran bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1 neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2 rhaid iddo, cyn y dyroddir yr hysbysiad gorfodi—

(a)cymryd y fath gamau sy’n ymddangos yn rhesymol iddynt o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw i ofynion rheoliad 6(2) a (4), i gael gwybodaeth am ddatblygiad anawdurdodedig i hysbysu barn sgrinio; a

(b)mabwysiadu barn sgrinio.

(2Pan ymddengys i’r fath awdurdod cynllunio lleol bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddo gyflwyno gyda chopi o’r hysbysiad gorfodi, hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 45”) y mae’n rhaid iddo—

(a)cynnwys y farn sgrinio sy’n ofynnol gan baragraff (1); a

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n rhoi hysbysiad o apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA hwnnw i Weinidogion Cymru gyda’r hysbysiad.

(3Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol a gyflwynodd hysbysiad rheoliad 45 anfon copi ohono at—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)yr ymgynghoreion; ac

(c)unrhyw berson penodol y mae’r awdurdod yn ymwybodol ohono, sy’n debygol o gael ei effeithio gan, neu sydd â diddordeb yn, yr hysbysiad rheoliad 45.

(4Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn darparu copi o hysbysiad rheoliad 45 i Weinidogion Cymru, rhaid iddo gynnwys gydag ef restr o’r personau eraill y mae copi o’r hysbysiad wedi ei anfon neu sydd am gael ei anfon atynt.

Cyfarwyddydau sgrinio

46.—(1Caiff unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad rheoliad 45 iddo, wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad.

(2Rhaid i’r canlynol gael eu cyflwyno ynghyd â’r cais am gyfarwyddyd sgrinio—

(a)copi o’r hysbysiad rheoliad 45;

(b)copi o’r hysbysiad gorfodi a oedd yn dod gydag ef; ac

(c)yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 6(2), a’r sylwadau a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwnnw, y mae’n rhaid i’r ceisydd eu llunio wrth gydymffurfio â rheoliad 6(4).

(3Ar yr un pryd ag y gwneir cais i Weinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd anfon copi o’r cais a’r wybodaeth ac unrhyw sylwadau a ddarperir neu a gyflwynir yn unol â pharagraff (2)(c) i’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 45.

(4Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (2) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol mewn cysylltiad â hwy; a rhaid i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn pa bynnag gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(5Mae rheoliad 7(6) i (8) yn gymwys i gyfarwyddyd y ceisir yn unol â pharagraff (1).

(6Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cyfarwyddyd at y ceisydd.

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA nac yn cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddynt anfon copi o’r cyfarwyddyd at bob person yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 45 atynt.

Darparu gwybodaeth

47.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw berson, ac eithrio Gweinidogion Cymru, yr anfonwyd copi o hysbysiad rheoliad 45 atynt (“yr ymgynghorai rheoliad 45”), ymgynghori â’r person hwnnw, os gofynnir iddo wneud hynny gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad rheoliad 45 iddo, er mwyn penderfynu a oes gan yr ymgynghorai rheoliad 45 unrhyw wybodaeth yn ei feddiant y mae’r person hwnnw neu’r ymgynghorai rheoliad 45 yn ystyried ei bod yn berthnasol ar gyfer llunio datganiad amgylcheddol ac os oes ganddo, rhaid i’r ymgynghorai rheoliad 45 sicrhau bod unrhyw wybodaeth o’r fath ar gael i’r person hwnnw.

(2Mae rheoliad 16(5) yn gymwys i wybodaeth o dan baragraff (1) fel y mae’n gymwys i unrhyw wybodaeth sy’n dod o fewn rheoliad 16(4).

Apêl i Weinidogion Cymru heb farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio

48.—(1Pan ymddengys i Weinidogion Cymru wrth ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 bod y materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid iddynt wneud cyfarwyddyd sgrinio cyn y cyflwynir unrhyw hysbysiad yn unol â rheoliad 49.

(2Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 a bod cwestiwn yn codi ynghylch a yw’r materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw at Weinidogion Cymru.

(3Cyn cael cyfarwyddyd sgrinio ni chaiff yr arolygydd benderfynu ar gais y tybir ei fod wedi ei wneud yn rhinwedd yr apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 (“y cais tybiedig”) ac eithrio i wrthod y cais hwnnw.

(4Pan atgyfeirir cwestiwn o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y cwestiwn neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol, heb fod yn fwy na 90 o ddiwrnodau o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 46(2)(c).

(5Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig, nad yw’n ymarferol iddynt fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y gofyniad, caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person a ofynnodd am y cyfarwyddyd.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan mewn unrhyw hysbysiad o dan baragraff (5) y rhesymau sy’n cyfiawnhau’r estyniad a dyddiad disgwyliedig y penderfyniad.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (4) at yr arolygydd.

(8Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ceisydd a’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 45 am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol mewn cysylltiad â hwy, ac mae’n rhaid i’r wybodaeth honno y gofynnir amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn unrhyw gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(9Os bydd apelydd sydd wedi cael hysbysiad o dan baragraff (8) yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw mae’r apêl, i’r graddau y mae’n apêl sail (a), yn methu ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

Apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

49.—(1Mae’r weithdrefn ym mharagraff (2) yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

(b)y materion yr honnir eu bod yn golygu torri’r rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA anawdurdodedig neu’n cynnwys datblygiad AEA anawdurdodedig; ac

(c)nid yw’r dogfennau a gyflwynir at ddibenion yr apêl yn cynnwys datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Y weithdrefn yw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir yr apêl, neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol, rhoi hysbysiad i’r apelydd o ofynion is-baragraff (c); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (b);

(b)nid oes angen rhoi hysbysiad o dan is-baragraff (a) pan fo’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru at ddibenion apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) sydd—

(i)yn ymwneud â’r datblygiad y mae’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 yn ymwneud ag ef; a

(ii)i’w benderfynu ar yr un adeg â’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

ac mae’n rhaid trin y datganiad, unrhyw wybodaeth bellach, unrhyw wybodaeth arall a’r sylwadau (os oes rhai) a wneir mewn perthynas ag ef fel yr wybodaeth amgylcheddol at ddiben rheoliad 41;

(c)rhaid i’r apelydd, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad neu pa bynnag gyfnod hwy y caniateir gan Weinidogion Cymru, gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA anawdurdodedig dan sylw i Weinidogion Cymru;

(d)rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw hysbysiad a anfonwyd at yr apelydd o dan is-baragraff (a) i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

(e)os bydd apelydd y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) iddo yn methu â chydymffurfio â gofynion is-baragraff (c), mae’r apêl sail (a) yn methu ar ddiwedd y cyfnod a ganiateir;

(f)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r methu a ddisgrifir yn is-baragraff (e) ddigwydd, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio perthnasol bod yr apêl sail (a) wedi methu.

Gweithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru

50.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag apêl gorfodi (ac eithrio fel y crybwyllir yn rheoliad 49(2)(b)), rhaid iddynt—

(a)anfon copi o’r datganiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol, cynghori’r awdurdod y bydd y datganiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar yr apêl sail (a), a’i hysbysu y caniateir iddo gyflwyno sylwadau;

(b)hysbysu’r personau yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 45 perthnasol atynt y bydd y datganiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar yr apêl sail (a), a’u hysbysu y caniateir iddynt gyflwyno sylwadau ac, os ydynt yn dymuno cael copi o’r datganiad neu unrhyw ran ohono, bod yn rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru o’u gofynion o fewn 7 diwrnod i gael hysbysiad Gweinidogion Cymru; ac

(c)ymateb i ofynion a hysbysir yn unol â pharagraff (b) drwy ddarparu copi o’r datganiad neu o’r rhan y gofynnwyd amdani (yn ôl y digwydd).

Gwybodaeth bellach a thystiolaeth ynghylch datganiadau amgylcheddol

51.  Mae rheoliad 24(1) a (10) yn gymwys i ddatganiadau a ddarperir yn unol â’r Rhan hon gyda’r addasiadau canlynol—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn hysbysu’r apelydd o dan reoliad 24(1), rhaid i’r apelydd ddarparu’r wybodaeth bellach o fewn y fath gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru neu’r arolygydd yn yr hysbysiad neu ba bynnag gyfnod hwy y caniateir gan Weinidogion Cymru neu’r arolygydd;

(b)os bydd apelydd y mae hysbysiad wedi ei roi iddo o dan baragraff (a) yn methu â darparu’r wybodaeth bellach o fewn y cyfnod a bennir neu a ganiateir, mae’r apêl sail (a) yn methu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer datganiadau amgylcheddol neu wybodaeth bellach

52.—(1Pan fo awdurdod yn cael copi o ddatganiad yn rhinwedd rheoliad 50(a) neu unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall, rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb leol sy’n nodi—

(a)enw’r apelydd a bod yr hysbysiad gorfodi wedi ei apelio i Weinidogion Cymru;

(b)cyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a natur y datblygiad;

(c)digon o wybodaeth i alluogi adnabod unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad;

(d)bod copi o’r datganiad, gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall ac o unrhyw ganiatâd cynllunio ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar y datganiad neu wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am unrhyw fater sy’n cael ei drin yn y datganiad neu’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall eu cyflwyno i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad diweddaraf a nodir yn unol ag is-baragraff (e) neu (f); ac

(h)y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw sylwadau o’r fath iddo.

(2Rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad yn unol â pharagraff (1), anfon copi o’r hysbysiad at Weinidogion Cymru, wedi ei ardystio gan neu ar ran yr awdurdod ei fod wedi ei gyhoeddi drwy hysbyseb leol ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif.

(3Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol sicrhau bod y datganiad amgylcheddol ar gael i’w weld ar wefan a gynhelir ganddo neu ar ei ran.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru sy’n cael tystysgrif o dan baragraff (2) nac arolygydd benderfynu ar yr apêl sail (a) mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef hyd nes bod y cyfnod o 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad cyhoeddedig fel y dyddiad olaf yr oedd y datganiad neu’r wybodaeth bellach ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt wedi dod i ben.

Dogfennau ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt

53.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol sicrhau bod copi o’r canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu ran berthnasol o’r gofrestr)—

(a)pob hysbysiad rheoliad 45 a roddwyd gan yr awdurdod;

(b)pob hysbysiad a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 49(2)(d); ac

(c)pob datganiad a phob gwybodaeth bellach a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 50(a);

a rhaid i gopïau o’r dogfennau hynny barhau i fod ar gael felly am gyfnod o 2 flynedd neu hyd y byddant yn cael eu rhoi yn Rhan 2 o’r gofrestr yn unol â pharagraff (2), pa bynnag un sy’n digwydd gyntaf.

(2Pan fo manylion am unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd gan Weinidogion Cymru neu arolygydd o dan adran 177 o Ddeddf 1990 yn cael eu rhoi yn Rhan 2 o’r gofrestr(40), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod y Rhan honno hefyd yn cynnwys copi o unrhyw rai o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) sy’n berthnasol i’r datblygiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.

(3Mae darpariaethau paragraffau (2) a (3) o reoliad 29 yn gymwys i ganiatâd cynllunio a roddir o dan adran 177 o Ddeddf 1990 fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a rhoi caniatâd cynllunio o dan Ran 3 o Ddeddf 1990.

Effeithiau trawsffiniol sylweddol

54.  Mae rheoliad 56 yn gymwys i ddatblygiad AEA anawdurdodedig fel pe bai—

(a)rheoliad 56(1)(a) i’w ddarllen fel—

(a)wrth ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990, mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA a bod y datblygiad wedi neu yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu;

(b)yn rheoliad 56(3)(a), “copi o’r cais dan sylw”, i’w ddarllen fel “disgrifiad o’r datblygiad dan sylw”;

(c)yn rheoliad 56(6), “y cais” i’w ddarllen fel “yr apêl”.

RHAN 11Ceisiadau ROMP

Cymhwysiad cyffredinol y Rheoliadau i geisiadau ROMP

55.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 8—

ystyr “awdurdod cynllunio mwynau perthnasol” (“relevant mineral planning authority”) yw’r corff sy’n gyfrifol, oedd yn gyfrifol neu a fyddai’n gyfrifol, oni bai am gyfarwyddyd o dan—

(a)

paragraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991;

(b)

paragraff 13 o Atodlen 13 i Ddeddf 1995; neu

(c)

paragraff 8 o Atodlen 14 i Ddeddf 1995,

am benderfynu ar y cais ROMP dan sylw;

ystyr “cais dilynol ROMP” (“ROMP subsequent application”) yw cais am gymeradwyo mater—

(a)

pan fo’r gymeradwyaeth yn ofynnol gan neu o dan amod y mae caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo ar ôl penderfynu ar gais ROMP; a

(b)

pan fo rhaid cael y gymeradwyaeth cyn y caniateir dechrau ar neu barhau â’r datblygiad mwynau cyfan neu ran o’r datblygiad mwynau a ganiateir gan y caniatâd cynllunio;

ystyr “cais ROMP” (“ROMP application”) yw cais i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol i benderfynu ar yr amodau y bydd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt o dan—

(a)

paragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 (cofrestru hen ganiatadau mwyngloddio);

(b)

paragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 (adolygu hen ganiatadau cynllunio mwynau); neu

(c)

paragraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (adolygiad cyfnodol o ganiatadau cynllunio mwynau)(41);

mae i “cais ROMP amhenderfynedig” (“undetermined ROMP application”) yr un ystyr ag yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(42);

ystyr “cydsyniad dilynol ROMP” (“ROMP subsequent consent”) yw cydsyniad a roddir yn unol â chais dilynol ROMP;

ystyr “datblygiad ROMP” (“ROMP development”) yw datblygiad nad yw wedi digwydd eto ac sydd wedi ei awdurdodi gan ganiatâd cynllunio y mae cais ROMP wedi neu yn mynd i gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “ROMP” (“ROMP”) yw adolygiad o hen ganiatâd mwynau;

ystyr “y Rheoliadau Cyffredinol” (“the General Regulations”) yw Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992(43).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a’r addasiadau a’r ychwanegiadau a nodir yn Atodlen 8, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—

(a)cais ROMP fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio;

(b)cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i gais dilynol;

(c)datblygiad ROMP fel y maent yn gymwys i ddatblygiad y mae cais am ganiatâd cynllunio yn, wedi neu yn mynd i gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef;

(d)awdurdod cynllunio mwynau perthnasol fel y maent yn gymwys i awdurdod cynllunio perthnasol;

(e)person sy’n gwneud cais ROMP fel y maent yn gymwys i geisydd am ganiatâd cynllunio;

(f)person sy’n gwneud cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i berson sy’n gwneud cais dilynol;

(g)penderfyniad ar gais ROMP fel y maent yn gymwys i roi caniatâd cynllunio; a

(h)rhoi cydsyniad dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i roi cydsyniad dilynol.

(3Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—

(a)unrhyw gais ROMP amhenderfynedig y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009 yn gymwys iddo;

(b)unrhyw apêl mewn perthynas â chais o’r fath.

RHAN 12Datblygiad ag Effeithiau Trawsffiniol Sylweddol

Datblygiad yng Nghymru sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall

56.—(1Pan—

(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad y bwriedir ei gynnal yng Nghymru yn destun cais AEA ac yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu

(b)bod Gwladwriaeth AEE arall sy’n debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol gan ddatblygiad o’r fath yn gofyn iddynt,

rhaid i Weinidogion Cymru—

(i)anfon y manylion a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac, os yn berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) i’r Wladwriaeth AEE cyn gynted ag y bo modd a dim hwyrach na’r dyddiad cyhoeddi yn y London Gazette y cyfeirir ato yn is-baragraff (ii);

(ii)cyhoeddi’r wybodaeth ym mharagraff (2) mewn hysbysiad yn y London Gazette, ac os yw’n berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) a chyfeiriad lle mae gwybodaeth ychwanegol ar gael; a

(iii)rhoi amser rhesymol i’r Wladwriaeth AEE ddynodi a yw’n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer.

(2Y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(i) yw—

(a)disgrifiad o’r datblygiad ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd ar gael ar ei effaith sylweddol bosibl ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; a

(b)gwybodaeth ynghylch natur y penderfyniad y caniateir ei wneud.

(3Pan fo Gwladwriaeth AEE yn dynodi, yn unol â pharagraff (1)(b)(iii), ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i Weinidogion Cymru anfon y canlynol i’r Wladwriaeth AEE honno cyn gynted ag y bo modd—

(a)copi o’r cais dan sylw;

(b)manylion yr awdurdod sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cais;

(c)copi o unrhyw ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r datblygiad;

(d)copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad; a

(e)gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn,

ond dim ond i’r graddau nad yw gwybodaeth o’r fath wedi ei darparu i’r Wladwriaeth AEE yn gynharach yn unol â pharagraff (1)(b)(i).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd sicrhau bod y Wladwriaeth AEE dan sylw yn cael cyfle, cyn y rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, i anfon ymlaen at Weinidogion Cymru o fewn cyfnod rhesymol, farn y cyhoedd a’r awdurdodau sy’n debygol o fod â phryderon yn sgîl y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol am yr wybodaeth a ddarperir.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb—

(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE dan sylw ynghylch, ymysg pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y datblygiad ar amgylchedd y Wladwriaeth AEE honno a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a

(b)penderfynu ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE arall ar gyfnod rhesymol o amser ar gyfer hyd y cyfnod ymgynghori.

(6Pan ymgynghorir â Gwladwriaeth AEE yn unol â pharagraff (5) ar benderfyniad ynghylch y cais dan sylw, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r Wladwriaeth AEE am y penderfyniad ac anfon ati gopi o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 28.

Prosiectau mewn Gwladwriaeth AEE arall sy’n debygol o gael effeithiau trawsffiniol sylweddol

57.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael gwybodaeth gan Wladwriaeth AEE arall, yn unol ag Erthygl 7(1) neu (2) o’r Gyfarwyddeb, a gasglwyd oddi wrth ddatblygwr prosiect arfaethedig yn y Wladwriaeth AEE arall gan y Wladwriaeth AEE honno, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yng Nghymru, rhaid iddynt, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb—

(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE honno ynghylch effeithiau sylweddol posibl y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a

(b)cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect, penderfynu ar gyfnod rhesymol ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE honno pryd y caniateir i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru gyflwyno sylwadau i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, yn unol ag Erthygl 7(3)(b) o’r Gyfarwyddeb.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—

(a)trefnu i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) fod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol ac am gyfnod nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau, i’r awdurdodau yng Nghymru sy’n debygol o fod â phryderon ynghylch y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol, ac i’r cyhoedd dan sylw yng Nghymru hefyd;

(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd at yr awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE berthnasol o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect; ac

(c)sicrhau bod unrhyw wybodaeth a geir gan awdurdod cymwys y Wladwriaeth AEE berthnasol ar gael i’r cyhoedd dan sylw er mwyn cydymffurfio ag Erthygl 9(2) o’r Gyfarwyddeb.

RHAN 13Amrywiol

Gwrthrychedd a rhagfarn

58.—(1Pan fo gan awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt gyflawni’r ddyletswydd honno mewn modd gwrthrychol er mwyn osgoi sefyllfa sy’n arwain at wrthdaro buddiannau.

(2Pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn gweithredu fel datblygwr a bod yr awdurdod hwnnw neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, hefyd yn gyfrifol am benderfynu ar ei gynnig ei hun neu eu cynnig eu hunain, rhaid i’r awdurdod hwnnw neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, wneud trefniadau gweinyddol priodol er mwyn sicrhau bod gwahanu swyddogaethau rhwng y personau hynny sy’n gwneud cais am ganiatâd i ddatblygu, neu y mae caniatâd i ddatblygu yn ofynnol iddynt, a’r personau sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cynnig hwnnw.

Cais i’r Uchel Lys

59.  At ddibenion Rhan 12 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd penderfyniadau penodol), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288(1)(b)(44) nad yw gweithredoedd Gweinidogion Cymru o fewn pwerau Deddf 1990 yn cynnwys peidio â chaniatáu rhoi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol oherwydd rheoliadau 3 neu 44.

Gwastraff peryglus a newid defnydd sylweddol

60.  Mae newid yn nefnydd tir neu adeiladau i ddefnydd at ddiben a grybwyllir ym mharagraff 9 o Atodlen 1 yn cynnwys newid sylweddol yn y defnydd o’r tir hwnnw neu’r adeiladau hynny at ddibenion adran 55(1) o Ddeddf 1990 (ystyr “datblygiad” a “datblygiad newydd”).

Ymestyn y cyfnod ar gyfer penderfyniad awdurdod ar gais cynllunio

61.—(1At ddibenion adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath), o ran penderfynu ar yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio perthnasol roi hysbysiad i’r ceisydd o’i benderfyniad—

(a)pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 11(1) bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â’r datblygiad dan sylw,

nid oes unrhyw ystyriaeth i’w roi i unrhyw gyfnod cyn dyroddi’r cyfarwyddyd.

(2Pan fo awdurdod yn gyfrifol am benderfynu ar gais AEA, mae erthyglau 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) a 23 (ceisiadau a wneir o dan amod cynllunio) o Orchymyn 2012 yn cael effaith fel pe bai—

(a)pob un o’r cyfeiriadau yn erthyglau 22(2)(a) a 23 at gyfnod o 8 wythnos yn gyfeiriad at gyfnod o 16 wythnos; a

(b)y cyfeiriad yn erthygl 22(2)(aa)(45) at y cyfnod o 12 wythnos yn gyfeiriad at y cyfnod o 20 wythnos.

Ymestyn y pŵer i ddarparu mewn gorchymyn datblygu ar gyfer rhoi cyfarwyddydau ynghylch y dull yr ymdrinnir â cheisiadau cynllunio

62.  Rhaid i ddarpariaethau a gynhwysir mewn gorchymyn datblygu yn rhinwedd adran 60 o Ddeddf 1990 (caniatâd a roddir gan orchymyn datblygu)(46) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau, eu galluogi i gyfarwyddo bod datblygiad sydd o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 2, a hefyd o ddosbarth a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd yn ddatblygiad AEA at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cymhwyso i’r Goron

63.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r Goron gyda’r addasiadau canlynol.

(2Mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru heblaw cais o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau am ganiatad cynllunio), rhaid darllen rheoliad 12 (cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)cyn “atgyfeirio” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “wneud i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: cais)(47) neu ei”; a

(ii)cyn “atgyfeirio’r” yn darllen “gwneud neu”;

(b)ym mharagraff (2), cyn “atgyfeirio’r” yn darllen “gwneud neu”; ac

(c)ym mharagraff (3), cyn “a atgyfeiriwyd” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “a wnaed o dan adran 293A o Ddeddf 1990 neu”.

Diwygio offerynnau eraill

64.  Mae’r offerynnau yn Atodlen 9 wedi eu diwygio i’r graddau a nodir yn yr Atodlen honno.

Darpariaethau dirymu, arbed a throsiannol

65.—(1Mae Rheoliadau 2016 wedi eu dirymu, ond mae hynny’n ddarostyngedig i baragraffau (2) i (8).

(2Pan fo’r amod ym mharagraff (3) yn gymwys mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)cais am ganiatâd cynllunio;

(b)cais ROMP y mae Rheoliadau 2016 yn gymwys iddo;

(c)apêl mewn perthynas â chais o fewn is-baragraff (a) neu (b);

(d)mater y mae awdurdod cynllunio lleol wedi dyroddi hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ef o dan adran 172 o Ddeddf 1990.

(3At ddibenion paragraff (2), yr amod yw bod y ceisydd neu’r apelydd (yn ôl y digwydd), cyn 16 Mai 2017, wedi—

(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu

(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol,

mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r cais neu’r apêl yn ymwneud ag ef.

(4Pan fo’r amod ym mharagraff (5) yn gymwys mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;

(b)gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 arfaethedig.

(5At ddibenion paragraff (4), yr amod yw fod yr awdurdod cynllunio lleol, y corff cychwyn neu’r ceisydd (yn ôl y digwydd), cyn 16 Mai 2017, wedi—

(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu

(b)llunio datganiad amgylcheddol,

mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r gorchymyn arfaethedig yn ymwneud ag ef.

(6Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â cham gweithredu arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990 pan fo’r ceisydd, fel y’i diffinnir ym mharagraff 3 o Atodlen 7, cyn 16 Mai 2017, wedi—

(a)gofyn am farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu; neu

(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol,

mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r cam gweithredu arfaethedig yn ymwneud ag ef.

(7Mae Rhannau 1 a 2 o Reoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â—

(a)gofyniadau am farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio;

(b)barnau sgrinio a fabwysiedir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol; ac

(c)cyfarwyddydau sgrinio a wneir gan Weinidogion Cymru,

pan fo, cyn 16 Mai 2017, y fath ofyniadau wedi eu gwneud, neu pan fo’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) wedi cychwyn gwneud barnau sgrinio neu gyfarwyddydau sgrinio neu wedi cychwyn mabwysiadu barnau neu gyfarwyddydau o’r fath.

(8Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith at ddibenion Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(48).

(9Yn unol â hynny, nid yw’r Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn) yn gymwys mewn cysylltiad â datblygiad y mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith arno yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o baragraffau (2) i (8).

(10Yn y rheoliad hwn—

mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”), “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) a “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2016;

mae i “cais ROMP” (“ROMP application”) a “ROMP” (“ROMP”) yr un ystyr ag yn rheoliad 55(1); ac

ystyr “Rheoliadau 2016” (“2016 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(49).

Diwygiadau canlyniadol

66.  Mae’r offerynnau yn Atodlen 10 wedi eu diwygio i’r graddau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

20 Ebrill 2017

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Disgrifiadau o ddatblygiad at ddibenion y diffiniad o “datblygiad Atodlen 1”

Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

nid yw “gorsaf bŵer niwclear” (“nuclear power station”) ac “adweithydd niwclear arall” (“other nuclear reactor”) yn cynnwys gosodiad o safle lle mae pob tanwydd niwclear a deunyddiau wedi eu halogi’n ymbelydrol wedi eu symud oddi yno’n barhaol; a rhaid peidio â thrin datblygiad at ddiben datgymalu neu ddadgomisiynu gorsaf bŵer niwclear neu adweithydd niwclear arall fel datblygiad o ddisgrifiad a grybwyllir ym mharagraff 2(b) yr Atodlen hon;

ystyr “gwibffordd” yw ffordd sy’n cydymffurfio â’r diffiniad o “express road” yng Nghytundeb Ewrop ar Briffyrdd Traffig Rhyngwladol, 15 Tachwedd 1975(50);

ystyr “maes awyr” (“airport”) yw maes awyr sy’n cydymffurfio â’r diffiniad o “airport” yng Nghonfensiwn Chicago 1944 yn sefydlu’r Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (Atodiad 14)(51).

Disgrifiadau o ddatblygiad

Cynnal datblygiad er mwyn darparu unrhyw rai o’r canlynol—

1.  Purfeydd olew crai (ac eithrio ymgymeriadau sy’n gweithgynhyrchu dim ond ireidiau o olew crai) a gosodiadau ar gyfer nwyeiddio a hylifo 500 tunnell neu fwy o lo neu olew siâl bitwminaidd y dydd.

2.   

(a)Gorsafoedd pŵer thermal a gosodiadau ymlosgi eraill sy’n cynhyrchu 300 megawat o wres neu fwy; a

(b)Gorsafoedd pŵer niwclear ac adweithyddion niwclear eraill (ac eithrio gosodiadau ymchwil er mwyn cynhyrchu a thrawsnewid deunyddiau ymholltol a ffrwythlon, nad yw eu pŵer uchaf yn fwy na llwyth thermal parhaus o 1 cilowat).

3.   

(a)Gosodiadau ar gyfer ailbrosesu tanwydd niwclear arbelydredig;

(b)Gosodiadau a gynlluniwyd—

(i)ar gyfer cynhyrchu neu gyfoethogi tanwydd niwclear;

(ii)ar gyfer prosesu tanwydd niwclear arbelydredig neu wastraff ymbelydrol lefel uchel;

(iii)ar gyfer cael gwared yn derfynol ar danwydd niwclear arbelydredig;

(iv)ar gyfer cael gwared yn derfynol ar wastraff ymbelydrol yn unig;

(v)ar gyfer storio (a gynllunnir am dros 10 mlynedd) tanwyddau niwclear arbelydredig neu wastraff ymbelydrol mewn safle gwahanol i’r safle lle eu cynhyrchir yn unig.

4.   

(a)Gwaith integredig ar gyfer toddi cychwynnol haearn bwrw a dur;

(b)Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu metelau crai anfferrus o fwyn, crynodiadau neu ddeunyddiau crau eilaidd drwy brosesau metelegol, cemegol neu electrolytig.

5.  Gosodiadau ar gyfer echdynnu asbestos a phrosesu a thrawsnewid asbestos a chynhyrchion sy’n cynnwys asbestos—

(a)ar gyfer cynhyrchion asbestos-sment, sy’n cynhyrchu mwy na 20,000 tunnell o’r cynhyrchion gorffenedig y flwyddyn;

(b)ar gyfer deunydd ffrithiant, sy’n cynhyrchu mwy na 50 tunnell o’r cynhyrchion gorffenedig y flwyddyn; ac

(c)ar gyfer defnydd arall o asbestos, sy’n defnyddio mwy na 200 tunnell y flwyddyn.

6.  Gosodiadau cemegol integredig, hynny yw, gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu sylweddau drwy ddefnyddio prosesau trawsnewid cemegol ar raddfa ddiwydiannol, lle y cyfosodir nifer o unedau a’u cysylltu’n weithredol â’i gilydd ac sydd—

(a)ar gyfer cynhyrchu cemegau organig sylfaenol;

(b)ar gyfer cynhyrchu cemegau anorganig sylfaenol;

(c)ar gyfer cynhyrchu gwrtaith y mae ffosfforws, nitrogen neu botasiwm yn sylfaen iddo (gwrteithiau syml neu gyfansawdd);

(d)ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion iechyd planhigion sylfaenol a bywleiddiaid;

(e)ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion fferyllol sylfaenol drwy ddefnyddio proses gemegol neu fiolegol;

(f)ar gyfer cynhyrchu ffrwydron.

7.   

(a)Adeiladu rheilffyrdd ar gyfer traffig rheilffordd pellter hir a meysydd awyr sydd â hyd rhedfa sylfaenol o 2,100 metr neu fwy;

(b)Adeiladu traffyrdd a gwibffyrdd;

(c)Adeiladu ffordd newydd o bedair lôn neu fwy, neu adlinio a/neu ledu ffordd bresennol o ddwy lôn neu lai er mwyn darparu pedair neu fwy o lonydd, pan fyddai ffordd newydd o’r fath, neu ran wedi ei hadlinio a/neu ei lledu o ffordd yn 10 cilometr neu fwy mewn hyd parhaus.

8.   

(a)Dyfrffyrdd mewndirol a phorthladdoedd ar gyfer traffig dyfrffyrdd mewndirol sy’n caniatáu hynt llongau dros 1,350 tunnell;

(b)Porthladdoedd masnachu, pierau ar gyfer llwytho a dadlwytho sydd wedi eu cysylltu i dir a thu allan i borthladdoedd (ac eithrio pierau fferi) a all dderbyn llongau sydd dros 1,350 tunnell.

9.  Gosodiadau gwaredu gwastraff ar gyfer llosgi, trin yn gemegol (fel y’i diffinnir yn Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(52) o dan bennawd D9), neu dirlenwi gwastraff peryglus fel y’i diffinnir yn rheoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(53).

10.  Gosodiadau gwaredu gwastraff ar gyfer llosgi neu drin yn gemegol (fel y’i diffinnir yn Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC o dan bennawd D9) gwastraff nad yw’n beryglus gyda chynhwysedd o dros 100 tunnell y dydd.

11.  Cynlluniau tynnu dŵr daear neu ail-lenwi dŵr daear artiffisial pan fo cyfaint blynyddol y dŵr a dynnir neu a ail-lenwir yn cyfateb i neu’n fwy na 10 miliwn metr ciwbig.

12.   

(a)Gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr, heblaw dŵr yfed a bibellir, rhwng basnau afon pan mai nod y trosglwyddiad yw atal prinder dŵr posibl a phan fo swm y dŵr a drosglwyddir yn fwy na 100 miliwn metr ciwbig y flwyddyn;

(b)Ym mhob achos arall, gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr, heblaw dŵr yfed a bibellir, rhwng basnau afon pan fo llif cyfartalog aml-flynyddol y basn y tynnir y dŵr ohono yn fwy na 2,000 miliwn metr ciwbig y flwyddyn a phan fo swm y dŵr a drosglwyddir yn fwy na 5% o’r llif hwn.

13.  Gweithfeydd trin dŵr gwastraff gyda chynhwysedd sy’n fwy na chyfwerth â 150,000 o boblogaeth fel y’i diffinnir yn Erthygl 2 pwynt (6) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC(54).

14.  Echdynnu petrolewm a nwy naturiol at ddibenion masnachol pan fo’r swm a echdynnir yn fwy na 500 tunnell y dydd yn achos petrolewm a 500,000 metr ciwbig y dydd yn achos nwy.

15.  Argloddiau a gosodiadau eraill a gynlluniwyd er mwyn dal dŵr yn ôl neu storio dŵr yn barhaol, pan fo swm newydd neu swm ychwanegol o ddŵr a ddelir yn ôl neu a gaiff ei storio yn fwy na 10 miliwn metr ciwbig.

16.  Piblinellau sydd â diamedr o fwy na 800 milimetr a hyd o fwy na 40 cilometr:

17.  Gosodiadau ar gyfer magu dofednod neu foch yn ddwys gyda mwy na—

(a)85,000 o leoedd ar gyfer brwyliaid neu 60,000 o leoedd ar gyfer ieir;

(b)3,000 o leoedd ar gyfer moch cynhyrchu (dros 30 kg); neu

(c)900 o leoedd ar gyfer hychod.

18.  Gweithfeydd diwydiannol ar gyfer—

(a)cynhyrchu pwlp o goed neu ddeunyddiau ffibrog tebyg;

(b)cynhyrchu papur a bwrdd gyda’r lle i gynhyrchu dros 200 tunnell y dydd.

19.  Chwareli a chloddio glo brig pan fo arwyneb y safle yn fwy na 25 hectar, neu echdynnu mawn pan fo arwyneb y safle yn fwy na 150 hectar.

20.  Gosodiadau ar gyfer storio petroliwm, cynhyrchion petrocemegol neu gemegol gyda lle i 200,000 tunnell neu fwy.

21.  Safleoedd storio yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 23 Ebrill 2009 ar storio carbon deuocsid yn ddaearegol(55).

22.  Gosodiadau ar gyfer dal ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion eu storio’n ddaearegol yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC o osodiadau a gynhwysir yn yr Atodlen hon, neu pan fo cyfanswm o 1.5 megaton neu fwy o garbon deuocsid y flwyddyn yn cael ei ddal.

23.  Unrhyw newid i ddatblygiad neu estyniad ohono a restrir yn yr Atodlen hon pan fo newid neu estyniad o’r fath ynddo’i hun yn bodloni trothwyon, os oes rhai, neu ddisgrifiad o ddatblygiad a nodir yn yr Atodlen hon.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2Disgrifiadau o ddatblygiad a throthwyon a meini prawf cymwys at ddibenion y diffiniad o “datblygiad Atodlen 2”

1.  Yn y tabl isod—

mae “arwynebedd gwaith” (“area of the works”) yn cynnwys unrhyw arwynebedd lle mae aparatws, cyfarpar, peiriannau, deunyddiau, offer, tomen rwbel neu gyfleusterau eraill neu storfeydd y mae eu hangen ar gyfer adeiladu neu osod;

ystyr “arwynebedd llawr” (“floorspace”) yw arwynebedd y lloriau mewn adeilad neu adeiladau.

mae i “dyfroedd a reolir” yr un ystyr ag a roddir i “controlled waters” yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991(56).

2.  Mae’r tabl isod yn nodi disgrifiadau o ddatblygiad a throthwyon a meini prawf cymwys at ddiben dosbarthu datblygiad yn ddatblygiad Atodlen 2.

Colofn 1

Disgrifiad o ddatblygiad

Colofn 2

Trothwyon a meini prawf cymwys

Cynnal datblygiad ar gyfer darparu unrhyw un o’r canlynol—
1 Amaethyddiaeth a dyframaethu
(a) Prosiectau ar gyfer defnyddio tir heb ei drin neu arwynebau lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys;Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(b) Prosiectau rheoli dŵr ar gyfer amaethyddiaeth, gan gynnwys prosiectau dyfrhau a draenio tir;Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(c) Gosodiadau da byw dwys (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae’r arwynebedd llawr newydd yn fwy na 500 metr sgwâr.
(d) Ffermio pysgod dwys;Mae’r gosodiad a gyfyd o’r datblygiad wedi ei gynllunio i gynhyrchu mwy na 10 tunnell o bwysau pysgod marw y flwyddyn.
(e) Adennill tir o’r môr.Pob datblygiad.
2 Diwydiant echdynnol

(a) Chwareli, cloddio glo brig ac echdynnu mawn (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(b) Cloddio o dan y ddaear;

Pob datblygiad heblaw adeiladu adeiladau neu adeileddau ategol eraill lle nad yw’r arwyneb llawr yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
(c) Echdynnu mwynau drwy garthu afonol neu forol;Pob datblygiad.

(d) Driliadau dwfn, yn enwedig—

(i) drilio geothermol;

(ii) drilio ar gyfer storio deunydd gwastraff niwclear;

(iii) drilio ar gyfer cyflenwadau dŵr;

ac eithrio driliadau ar gyfer ymchwilio i sefydlogrwydd y pridd;

(i) Mewn perthynas ag unrhyw fath o ddrilio, mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu

(ii) mewn perthynas â drilio geothermol a drilio ar gyfer storio deunydd gwastraff niwclear, mae’r drilio o fewn 100 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd a reolir.

(e) Gosodiadau diwydiannol ar yr wyneb ar gyfer echdynnu glo, petrolewm, nwy a mwynau naturiol, yn ogystal â siâl bitwminaidd.Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
3 Diwydiant ynni
(a) Gosodiadau diwydiannol ar gyfer cynhyrchu trydan, stêm a dŵr poeth (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(b) Gosodiadau diwydiannol ar gyfer cludo nwy, stêm a dŵr poeth;Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(c) Storio nwy naturiol ar yr wyneb;

(d) Storio nwyon hylosg o dan y ddaear;

(e) Storio tanwydd ffosil ar yr wyneb;

(i) Mae arwynebedd unrhyw adeilad, gwaddod neu adeiledd newydd yn fwy na 500 metr sgwâr; neu

(ii) adeilad, gwaddod neu adeiledd newydd sydd i’w leoli o fewn 100 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd a reolir.

(f) Cynhyrchu brics o lo a lignit ar raddfa ddiwydiannol;Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
(g) Gosodiadau ar gyfer prosesu a storio gwastraff ymbelydrol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);(i) Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr; neu (ii) bydd yn ofynnol i’r gosodiad sy’n deillio o’r datblygiad gael trwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010(57) mewn perthynas â gweithgaredd sylweddau ymbelydrol a ddisgrifir ym mharagraff 11(2)(b), (2)(c) neu (4) o Ran 2 o Atodlen 23 i’r Rheoliadau hynny, neu amrywiad o drwydded o’r fath.
(h) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu ynni hydrodrydanol;Mae’r gosodiad wedi ei gynllunio i gynhyrchu mwy na 0.5 megawat.
(i) Gosodiadau ar gyfer defnyddio pŵer y gwynt er mwyn cynhyrchu ynni (ffermydd gwynt);

(i) Mae’r datblygiad yn golygu gosod mwy na 2 dyrbin; neu

(ii) mae uchder canol unrhyw dyrbin neu uchder unrhyw adeiledd arall yn fwy na 15 metr.

(j) Gosodiadau ar gyfer dal ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion storio daearegol yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC o osodiadau nad ydynt wedi eu cynnwys yn Atodlen 1.Pob datblygiad.
4 Cynhyrchu a phrosesu metelau

(a) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu haearn crai neu ddur (prif ymdoddiad neu ymdoddiad eilaidd) gan gynnwys castio parhaus;

(b) Gosodiadau ar gyfer prosesu metelau fferrus—

(i) melinau rholio poeth;

(ii) gofaniaeth gyda

morthwylion;

(iii) araenu gyda haenau

metel ymdoddedig

amddiffynnol;

(c) Ffowndrïau metel fferrus;

(d) Gosodiadau ar gyfer toddi, gan gynnwys aloieiddio, metelau anfferrus, ac eithrio metelau gwerthfawr, gan gynnwys cynhyrchion wedi eu hadfer, (coethi, castio ffowndri, etc.);

(e) Gosodiadau ar gyfer trin arwynebedd metelau a deunyddiau plastig drwy ddefnyddio proses electrolytig neu gemegol;

(f) Gweithgynhyrchu a chydosod cerbydau modur a gweithgynhyrchu peiriannau cerbydau modur;

(g) Ierdydd llongau;

(h) Gosodiadau ar gyfer adeiladu a thrwsio awyrennau;

(i) Gweithgynhyrchu offer rheilffordd;

(j) Swagio gyda ffrwydron;

(k) Gosodiadau ar gyfer rhostio a sintro mwynau metelig.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
5 Diwydiant mwynol

(a) Ffyrnau golosg (distyllu glo sych);

(b) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu sment;

(c) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu asbestos a gweithgynhyrchu cynhyrchion sy’n seiliedig ar asbestos (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(d) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu gwydr gan gynnwys gwydrffibr;

(e) Gosodiadau ar gyfer mwyndoddi sylweddau mwynol gan gynnwys cynhyrchu ffibrau mwynol;

(f) Gweithgynhyrchu cynhyrchion ceramig drwy losgi, yn enwedig teils to, briciau, briciau gwrthsafol, teils, crochenwaith caled neu borslen.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
6 Diwydiant cemegol (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1)

(a) Trin rhan-gynhyrchion a chynhyrchu cemegau;

(b) Cynhyrchu plaleiddiaid a chynhyrchion fferyllol, paent a farneisiau, elastomerau a pherocsidau;

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr
(c) Cyfleusterau storio ar gyfer petrolewm, cynhyrchion petrocemegol a chemegol.

(i) Mae arwynebedd unrhyw adeilad neu strwythur newydd yn fwy na 0.05 hectar; neu

(ii) bydd mwy na 200 tunnell o betrolewm, cynhyrchion petrocemegol neu gemegol yn cael eu storio ar unrhyw un adeg.

7 Diwydiant bwyd

(a) Gweithgynhyrchu olew a braster llysiau ac anifeiliaid;

(b) Pacio a chanio cynhyrchion anifeiliaid a llysiau;

(c) Gweithgynhyrchu cynnyrch llaeth;

(d) Bragu a bragio;

(e) Gweithgynhyrchu melysion a surop;

(f) Gosodiadau ar gyfer cigydda anifeiliaid;

(g) Gosodiadau gweithgynhyrchu startsh diwydiannol;

(h) Ffatrïoedd pysg mâl ac olew pysgod;

(i) Ffatrïoedd siwgr.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
8 Diwydiannau tecstil, lledr, pren a phapur

(a) Gwaith diwydiannol ar gyfer cynhyrchu papur a bwrdd (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1);

(b) Gweithfeydd ar gyfer rhagdriniaeth (gweithrediadau megis golchi, cannu, sgleinio) neu liwio ffibrau neu decstilau;

(c) Gweithfeydd ar gyfer trin lledr a chroen;

(d) Gosodiadau prosesu a chynhyrchu seliwlos.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
9. Y diwydiant rwber
Gweithgynhyrchu a thrin cynhyrchion sy’n seiliedig ar elastomer.Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
10. Prosiectau seilwaith
(a) Prosiectau datblygu ystad ddiwydiannol;Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 5 hectar.
(b) Prosiectau datblygu trefol, gan gynnwys adeiladu canolfannau siopa a meysydd parcio, stadiymau chwaraeon, canolfannau hamdden a sinemâu aml-sgrîn;

(i) Mae’r datblygiad yn cynnwys mwy nag 1 hectar o ddatblygiad trefol nad yw’n ddatblygiad tai annedd; neu

(ii) mae’r datblygiad yn cynnwys mwy na 150 o dai annedd; neu

(iii) mae arwynebedd cyffredinol y datblygiad yn fwy na 5 hectar.

(c) Adeiladu cyfleusterau trawslwytho rhyngfoddol a therfynellau rhyngfoddol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(d) Adeiladu rheilffyrdd (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(e) Adeiladu meysydd glanio (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(i) Mae’r datblygiad yn cynnwys estyniad i redfa; neu

(ii) mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(f) Adeiladu ffyrdd (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(g) Adeiladu harbyrau a gosodiadau porthladd gan gynnwys harbyrau pysgota (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(h) Adeiladu dyfrffordd fewndirol nad ydyw wedi ei chynnwys yn Atodlen 1, gwaith camlesu a lleddfu llifogydd;

(i) Argloddiau a gosodiadau eraill sydd wedi eu cynllunio i ddal dŵr neu ei storio yn yr hir dymor (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(j)Tramffyrdd, rheilffyrdd uwch ben a thanddaearol, leiniau crog neu leiniau tebyg o fath penodol, a ddefnyddir i gludo teithwyr yn unig neu’n bennaf;

Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(k)  Gosodiadau piblinellau olew a nwy a phiblinellau i gludo ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion storio daearegol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(l) Gosodiadau traphontydd dŵr pellter hir;

(i) Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu,

(ii) yn achos piblinell nwy, bod gan y gosodiad bwysedd cynllun gweithredu sy’n fwy na medrydd 7 bar.

(m) Gwaith arfordirol er mwyn mynd i’r afael ag erydiad a gwaith morol a all addasu’r arfordir drwy adeiladu, er enghraifft argloddiau, morgloddiau, glanfeydd a gwaith arall sy’n amddiffyn rhag y môr, ac eithrio cynnal a chadw ac ailadeiladu gwaith o’r fath;Pob datblygiad.

(n) Cynlluniau tynnu dŵr daear ac ail-lenwi dŵr daear artiffisial nad ydynt wedi eu cynnwys yn Atodlen 1;

(o) Gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr rhwng basnau afonydd nad ydyw wedi ei gynnwys yn Atodlen 1;

Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(p) Mannau gwasanaeth traffyrdd.Mae arwynebedd y gwaith yn fwy na 0.5 hectar.
11. Prosiectau eraill
(a) Traciau rasio a phrofi cerbydau modur parhaol;Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(b) Gosodiadau ar gyfer cael gwared â gwastraff (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(i) Mae’r gwarediad yn digwydd drwy losgi; neu

(ii) mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar; neu

(iii) bydd y gosodiad yn cael ei leoli o fewn 100 metr i unrhyw ddyfroedd a reolir.

(c) Gweithfeydd trin dŵr gwastraff (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1,000 metr sgwâr.

(d) Safleoedd gwaddodi llaid;

(e) Storio haearn sgrap, gan gynnwys cerbydau sgrap;

(i) Mae arwynebedd y gwaddod neu storio yn fwy na 0.5 hectar; neu

(ii) bydd gwaddod yn cael ei wneud neu sgrap yn cael ei storio o fewn 100 metr i unrhyw ddyfroedd a reolir.

(f) Meinciau arbrofi ar gyfer peiriannau, tyrbinau neu adweithyddion;

(g) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu ffibrau mwynol artiffisial;

(h) Gosodiadau ar gyfer adfer neu ddinistrio deunyddiau ffrwydrol;

(i) Ierdydd naceriaid.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
12 Twristiaeth a hamdden
(a) Llethrau sgïo, lifftiau sgïo a cheir cebl a datblygiadau cysylltiedig;

(i) Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu

(ii) mae uchder unrhyw adeilad neu adeiledd arall yn fwy na 15 metr.

(b) Marinas;Mae arwynebedd y dŵr amgaeedig yn fwy na 1,000 metr sgwâr.

(c) Pentrefi gwyliau a chyfadeiladau gwestai y tu allan i ardaloedd trefol a datblygiadau cysylltiedig;

(d) Parciau thema;

Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(e) Meysydd carafanau a safleoedd gwersylla parhaol;Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1 hectar.
(f) Cyrsiau golff a datblygiadau cysylltiedig.Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1 hectar.
13 Newidiadau ac estyniadau
(a) Unrhyw newid neu estyniad i ddatblygiad o ddisgrifiad a restrir yn Atodlen 1 (heblaw newid neu estyniad sy’n dod o fewn paragraff 23 o’r Atodlen honno) pan fo’r datblygiad wedi ei awdurdodi, ei weithredu neu yn y broses o gael ei weithredu eisoes.Gall y datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir gael effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(b) Unrhyw newid neu estyniad i ddatblygiad o ddisgrifiad a restrir ym mharagraffau 1 i 12 o golofn 1 o’r tabl hwn, pan fo’r datblygiad wedi ei awdurdodi, ei weithredu neu yn y broses o gael ei weithredu eisoes.

(a) Bodlonir neu rhagorir ar y trothwyon a’r meini prawf yn y rhan gyfatebol o Golofn 2 o’r tabl hwn sy’n gymwys i’r datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir; a

(b) mewn achos o’r fath gall y datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir gael effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(c) Datblygiad o ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 1 a wneir ar gyfer datblygu a phrofi dulliau neu gynhyrchion newydd yn unig neu’n bennaf ac nad ydyw wedi ei ddefnyddio am fwy na dwy flynedd.

Pob datblygiad.

Rheoliadau 5(8), (9), (13), 6(4) ac 31(3)

ATODLEN 3Meini prawf dethol ar gyfer sgrinio datblygiad Atodlen 2

Nodweddion y datblygiad

1.  Rhaid ystyried nodweddion y datblygiad gan roi sylw yn benodol i—

(a)maint a dyluniad y datblygiad;

(b)y cyfuniad â datblygiad arall presennol a/neu ddatblygiad a gymeradwyir;

(c)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig tir, pridd, dŵr a bioamrywiaeth;

(d)cynhyrchu gwastraff;

(e)llygredd a niwsans;

(f)y perygl o ddamweiniau difrifol a/neu drychinebau sy’n berthnasol i’r datblygiad dan sylw, gan gynnwys y rheini a achosir gan newid yn yr hinsawdd, yn unol â gwybodaeth wyddonol;

(g)y risgiau i iechyd pobl (er enghraifft yn sgil halogi dŵr neu lygredd aer).

Lleoliad y datblygiad

2.  Rhaid i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan ddatblygiad gael ei ystyried, gan roi sylw, yn arbennig i’r canlynol—

(a)y defnydd presennol o’r tir a’r defnydd a gymeradwywyd o’r tir;

(b)digonedd cymharol, argaeledd, ansawdd a chapasiti atgynhyrchiol adnoddau naturiol (gan gynnwys pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth) yn yr ardal, gan gynnwys adnoddau tanddaearol;

(c)capasiti amsugnad yr amgylchedd naturiol, gan roi sylw arbennig i’r ardaloedd a ganlyn—

(i)gwlypdiroedd, ardaloedd glannau afonydd, ac aberoedd afonydd;

(ii)parthau arfordirol a’r amgylchedd morol;

(iii)ardaloedd mynyddoedd a choedwigoedd;

(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;

(v)safleoedd Ewropeaidd ac ardaloedd eraill a ddosberthir neu a warchodir o dan ddeddfwriaeth genedlaethol;

(vi)ardaloedd lle bu methiant eisoes i gyflawni’r safonau ansawdd amgylcheddol a nodir yn neddfwriaeth yr Undeb ac sy’n berthnasol i’r prosiect, neu ardaloedd lle ystyrir bod methiant o’r fath;

(vii)ardaloedd trwchus eu poblogaeth;

(viii)tirweddau a safleoedd o arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol neu archaeolegol.

Mathau a nodweddion yr effaith bosibl

3.  Rhaid ystyried effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd mewn perthynas â’r meini prawf a nodir o dan baragraffau 1 a 2, gan roi sylw i effaith y datblygiad ar y ffactorau a bennir yn rheoliad 4(2), gan ystyried—

(a)maint a graddau gofodol yr effaith (er enghraifft yr arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth sy’n debygol o gael ei heffeithio);

(b)natur yr effaith;

(c)natur trawsffiniol yr effaith;

(d)dwysedd a chymhlethdod yr effaith;

(e)tebygolrwydd yr effaith;

(f)dechreuad, parhad, amledd a gwrthdroadwyedd disgwyliedig yr effaith;

(g)cyfuniad yr effaith ag effaith datblygiad arall presennol a/neu ddatblygiad a gymeradwywyd;

(h)y posibilrwydd o leihau’r effaith yn effeithiol.

Rheoliad 17(3)

ATODLEN 4Gwybodaeth i’w chynnwys mewn datganiadau amgylcheddol

1.  Disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—

(a)disgrifiad o leoliad y datblygiad;

(b)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan, gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel gofynnol a’r gofynion o ran y defnydd o’r tir yn ystod y cyfnod adeiladu a’r cyfnod gweithredol;

(c)disgrifiad o brif nodweddion cyfnod gweithredol y datblygiad (yn enwedig unrhyw brosesau cynhyrchu), er enghraifft, y galw am ynni a’r ynni a ddefnyddir; natur ac ansawdd y deunyddiau a’r adnoddau naturiol (gan gynnwys dŵr, tir, pridd a bioamrywiaeth) a ddefnyddir;

(d)amcangyfrifiad, yn ôl math ac ansawdd, o’r gweddillion a’r allyriadau (megis llygredd dŵr, llygredd aer, llygredd olew a llygredd isbridd, sŵn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd) a’r swm a’r mathau o wastraff a gynhyrchir yn ystod y cyfnod adeiladu a’r cyfnod gweithredol.

2.  Disgrifiad o’r dewisiadau amgen rhesymol (er enghraifft o ran dyluniad, technoleg, lleoliad, maint a graddfa’r datblygiad) a astudiwyd gan y ceisydd neu’r apelydd sy’n berthnasol i’r datblygiad arfaethedig a’i nodweddion penodol a mynegiad o’r prif resymau dros y dewis a wnaed, gan gynnwys cymhariaeth o’r effeithiau amgylcheddol.

3.  Disgrifiad o’r agweddau perthnasol ar gyflwr presennol yr amgylchedd (senario waelodlin) ac amlinelliad o ddatblygiad tebygol y senario honno heb weithredu’r datblygiad i’r graddau y gellir asesu newidiadau naturiol o’r senario waelodlin gydag ymdrech resymol ar sail argaeledd gwybodaeth amgylcheddol a gwybodaeth wyddonol.

4.  Disgrifiad o’r ffactorau a bennir yn rheoliad 4(2) sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol gan y datblygiad: poblogaeth, iechyd pobl, bioamrywiaeth (er enghraifft ffawna a fflora), tir (er enghraifft meddiannu tir) pridd (er enghraifft deunydd organig, erydiad, cywasgiad, selio), dŵr (er enghraifft newidiadau hydromorffolegol, swm ac ansawdd), aer, yr hinsawdd (er enghraifft allyriadau nwyon tŷ gwydr, effeithiau sy’n berthnasol i ymaddasu), asedau materol, treftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys agweddau pensaernïol ac archaeolegol, a’r dirwedd.

5.  Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd, o ganlyniad i, ymhlith eraill—

(a)y gwaith adeiladu a bodolaeth y datblygiad, gan gynnwys, pan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(b)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig tir, pridd, dŵr a bioamrywiaeth, gan ystyried i’r graddau y bo’n bosibl argaeledd cynaliadwy’r adnoddau hyn;

(c)allyriad llygryddion, sŵn, dirgryniadau, golau, gwres ac ymbelydredd, creu niwsans a gwaredu gwastraff a’i adfer;

(d)y risgiau i iechyd pobl, treftadaeth ddiwylliannol neu’r amgylchedd (er enghraifft o ganlyniad i ddamweiniau neu drychinebau);

(e)cyfuniad yr effeithiau â phrosiectau eraill presennol a/neu brosiectau eraill a gymeradwywyd, gan ystyried unrhyw broblemau amgylcheddol presennol sy’n ymwneud ag ardaloedd o bwysigrwydd amgylcheddol arbennig sy’n debygol o gael eu heffeithio neu’r defnydd o adnoddau naturiol;

(f)effaith y prosiect ar yr hinsawdd (er enghraifft natur a graddau allyriadau nwyon tŷ gwydr) ac i ba raddau y mae newid yn yr hinsawdd yn peryglu’r prosiect;

(g)y technolegau a’r sylweddau a ddefnyddir.

Dylai’r disgrifiad o’r effeithiau sylweddol tebygol ar y ffactorau a bennir yn rheoliad 4(2) gwmpasu’r effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, effeithiau eilaidd, effeithiau cynyddol, effeithiau trawsffiniol, effeithiau byr dymor, tymor canolig a hirdymor, effeithiau parhaol a thros dro ac effeithiau cadarnhaol a negyddol y datblygiad. Dylai’r disgrifiad hwn ystyried yr amcanion diogelu’r amgylchedd a sefydlwyd ar lefel yr Undeb Ewropeaidd neu lefel yr Aelod Wladwriaeth sy’n berthnasol i’r prosiect, gan gynnwys yn benodol y rheini a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC(58) a Chyfarwyddeb 2009/147/EC(59).

6.  Disgrifiad o’r dulliau darogan neu’r dystiolaeth a ddefnyddir i nodi ac asesu’r effeithiau ar yr amgylchedd, gan gynnwys manylion anawsterau (er enghraifft diffygion technegol neu ddiffyg gwybodaeth) a gododd wrth grynhoi’r wybodaeth ofynnol a’r prif ffactorau sy’n peri ansicrwydd.

7.  Disgrifiad o’r mesurau a ragwelir i osgoi, atal, lleihau neu, os yw’n bosibl, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd a nodwyd a, phan fo’n briodol, disgrifiad o unrhyw drefniadau monitro arfaethedig (er enghraifft llunio dadansoddiad ar ôl y prosiect). Dylai’r disgrifiad hwnnw esbonio i ba raddau y mae effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd wedi eu hosgoi, eu hatal, eu lleihau neu eu gwrthbwyso, a dylai gynnwys y cyfnod adeiladu yn ogystal â’r cyfnod gweithredol.

8.  Disgrifiad o effeithiau andwyol sylweddol disgwyliedig y datblygiad ar yr amgylchedd sy’n deillio o’r graddau y mae’r datblygiad yn agored i’r perygl o ddamweiniau difrifol a/neu drychinebau sy’n berthnasol i’r prosiect dan sylw. Caniateir defnyddio gwybodaeth berthnasol sydd ar gael ac a gasglwyd drwy asesiadau risg yn unol â deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd megis Cyfarwyddeb 2012/18/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor neu Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/71/Euratom neu asesiadau perthnasol a gyflawnir yn unol â deddfwriaeth genedlaethol at y diben hwn ar yr amod y cyflawnir gofynion y Gyfarwyddeb. Pan fo’n briodol, dylai’r disgrifiad hwn gynnwys mesurau a ragwelir i atal neu liniaru effeithiau andwyol sylweddol digwyddiadau o’r fath ar yr amgylchedd a manylion y parodrwydd ar gyfer argyfyngau o’r fath a’r ymateb arfaethedig iddynt.

9.  Crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 8.

10.  Rhestr gyfeirio sy’n nodi manylion y ffynonellau a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiadau a’r asesiadau a gynhwysir yn y datganiad amgylcheddol.

Rheoliad 39(3)

ATODLEN 5Gorchmynion Datblygu Lleol

1.  Mewn achos pan fo’r Atodlen hon yn cael effaith, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.

2.  Nid yw rheoliadau 3, 9, 10, 12, 13, 20, ac 21 yn gymwys.

3.  Yn rheoliad 5

(a)nid yw paragraff (2)(a) yn gymwys;

(b)ym mharagraff (2)(b) a (5), yn lle “perthnasol” darllener “lleol”;

(c)darllener fel pe bai paragraffau (10) a (16) wedi eu hepgor.

4.  Mae rheoliad 11 yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at—

(a)cais, neu gais am ganiatâd cynllunio, yn gyfeiriadau at orchymyn datblygu lleol arfaethedig;

(b)awdurdod cynllunio perthnasol, yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am wneud y gorchymyn datblygu lleol;

(c)y ceisydd, yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol sy’n bwriadu gwneud y gorchymyn; a

(d)y cais AEA, yn gyfeiriadau at orchymyn datblygu lleol arfaethedig ar gyfer datblygiad AEA.

5.  Mae rheoliad 14 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

Barnau Cwmpasu

14.(1) Pan fo gorchymyn datblygu lleol arfaethedig yn ddatblygiad AEA, caiff yr awdurdod cynllunio lleol ddatgan ei farn ynghylch cwmpas a manylder yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).

(2) Cyn dyroddi barn gwmpasu o dan baragraff (1) rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol lunio—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad cryno o natur a diben y datblygiad gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;

(c)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd; a

(d)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r awdurdod cynllunio lleol ddymuno ei darparu neu eu cyflwyno.

(3) Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu barn gwmpasu hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion.

(4) Cyn mabwysiadu barn sgrinio rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd i ystyriaeth—

(a)yr wybodaeth a luniwyd gan yr awdurdod ynghylch y datblygiad arfaethedig yn unol â pharagraff (2);

(b)nodweddion penodol y datblygiad neilltuol;

(c)nodweddion penodol datblygiad o’r math dan sylw; a

(d)y nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y datblygiad.

(5) Caiff awdurdod cynllunio lleol ofyn i Weinidogion Cymru o dan reoliad 15(1) wneud cyfarwyddyd o ran yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“cyfarwyddyd cwmpasu”).

6.  Rhaid darllen rheoliad 15 fel pe bai’n darparu—

Cyfarwyddydau cwmpasu

15.(1) Rhaid i ofyniad o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 14(5) gynnwys—

(a)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(2)(a)(i) i (iii); a

(b)unrhyw sylwadau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn dymuno eu cyflwyno.

(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol.

(3) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 5 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y daeth y gofyniad hwnnw i law neu’r fath gyfnod hwy sy’n rhesymol ofynnol.

(5) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a bennir yn rheoliad 14(4).

7.  Rhaid darllen rheoliad 16 fel pe bai’n darparu—

Gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddol

16.(1) Caiff awdurdod cynllunio lleol sy’n bwriadu llunio datganiad amgylcheddol holi ymgynghorai ynghylch pa un a oes gan yr ymgynghorai unrhyw wybodaeth y mae’r ymgynghorai neu’r awdurdod cynllunio lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol i lunio’r datganiad amgylcheddol.

(2) Os oes gan yr ymgynghorai y fath wybodaeth rhaid iddo drin yr ymholiad gan yr awdurdod fel pe bai’r awdurdod cynllunio lleol yn gofyn am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(60).

8.  Mae rheoliad 17 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraffau (1) a (2) wedi eu hepgor;

(b)ym mharagraff (3)(d), yn lle “y ceisydd neu’r apelydd” ei fod yn darllen “yr awdurdod cynllunio lleol”;

(c)ym mharagraff (4)—

(i)yn is-baragraff (a), “neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol,” wedi ei hepgor; a

(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “y ceisydd” ei fod yn darllen “yr awdurdod cynllunio lleol”.

9.  Mae rheoliad 18 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

Y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei lunio mewn perthynas â gorchymyn datblygu lleol

18.(1) Pan fo datganiad, y cyfeirir ato fel “datganiad amgylcheddol”, wedi ei lunio mewn perthynas â datblygiad AEA y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio iddo drwy orchymyn datblygu lleol, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol—

(a)anfon copi o’r datganiad at yr ymgynghoreion a’u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau; a

(b)hysbysu unrhyw berson penodol y mae’r awdurdod yn ymwybodol ohono, sy’n debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu sydd â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, o gyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli, lle gellir cael copi o’r datganiad a’r cyfeiriad y caniateir anfon sylwadau iddo.

(2) Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol wneud y gorchymyn datblygu lleol hyd nes y bydd 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad olaf y cyflwynwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn wedi dod i ben.

10.  Mae rheoliad 19 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraff (1) wedi ei hepgor;

(b)paragraff (2) yn darllen—

(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb leol sy’n datgan—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio lleol;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;

(c)bod copi o’r gorchymyn drafft ac unrhyw blan neu ddogfennau eraill sy’n mynd ynghyd ag ef, yn ogystal â chopi o’r datganiad amgylcheddol, ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;

(d)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar y dogfennau hynny, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(e)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a’r dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)cyfeiriad yn yr ardal leol (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (d) ai peidio) lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(h)os codir tâl am gopi, swm y tâl; ac

(i)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am y gorchymyn eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol cyn y dyddiad diweddaraf a bennir yn unol ag is-baragraff (d) neu (e).;

(c)paragraff (3) wedi ei hepgor;

(d)ym mharagraff (4), bod “ceisydd” yn darllen “awdurdod cynllunio lleol”; ac

(e)paragraffau (6) i (8) wedi eu hepgor.

11.  Mae rheoliad 22 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

Argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol

22.  Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol a luniwyd mewn perthynas â datblygiad AEA y mae’r awdurdod yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio ar ei gyfer drwy orchymyn datblygu lleol ar gael yn—

(a)ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(b)y fath leoedd eraill o fewn ei ardal fel yr ystyria yn briodol; ac

y gellir cyrchu’r datganiad amgylcheddol ar y wefan y cyfeirir ati yn yr hysbysiad sy’n ofynnol o dan reoliad 19(2)(e).

12.  Mae rheoliad 24 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraff (1) yn darllen—

(1) Pan fo datganiad amgylcheddol wedi ei lunio a bod yr awdurdod cynllunio lleol o’r farn, er mwyn bodloni gofynion rheoliad 17(3), ei bod yn angenrheidiol ategu’r datganiad gyda gwybodaeth ychwanegol sy’n uniongyrchol berthnasol i ddod i gasgliad rhesymedig ar effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod sicrhau bod gwybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu, ac y cyfeirir at y fath wybodaeth yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).;

(b)paragraff (3) yn darllen—

(3) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb leol sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;

(c)bod gwybodaeth bellach ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu’n barod;

(d)bod copi o’r wybodaeth bellach ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach, a’r dyddiad olaf y mae ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y maent ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad yn yr ardal leol (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r wybodaeth bellach;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach eu cyflwyno i’r awdurdod cyn y dyddiad diweddaraf a bennir yn unol ag is-baragraffau (e) ac (f);

(k)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.;

(c)paragraff (4) yn darllen—

(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall at bob person, yn unol â’r Rheoliadau hyn, yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi ac at Weinidogion Cymru.;

(d)paragraffau (5) a (6) wedi eu hepgor;

(e)paragraff (7) yn darllen—

(7) Pan ddarperir gwybodaeth o dan baragraff (1) rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol beidio â gwneud y gorchymyn datblygu lleol cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o blith—

(a)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi;

(b)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani mewn papur newydd lleol; neu

(c)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani ar wefan.;

(f)ym mharagraff (8)—

(i)yn lle “ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu” ei fod yn darllen “awdurdod cynllunio lleol sy’n darparu”; a

(ii)yn is-baragraff (a), ar ôl “nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth” ei fod yn darllen “bellach neu wybodaeth arall”.

13.  Mae rheoliad 25 i’w ddarllen fel pe bai ym mharagraff (1) “ar gais neu apêl y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi” i’w ddarllen “pa un ai i wneud gorchymyn datblygu lleol y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef”.

14.  Mae rheoliad 27 i’w ddarllen fel pe bai paragraffau (1) a (2) yn darllen—

(1) Pan fo manylion gorchymyn datblygu lleol drafft yn cael eu gosod ar Ran 3 o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd camau i sicrhau bod copi o unrhyw rai perthnasol o’r canlynol yn cael eu gosod ar y Rhan honno hefyd—

(a)barn sgrinio;

(b)cyfarwyddyd sgrinio;

(c)barn gwmpasu;

(d)cyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) neu (5);

(e)datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach;

(f)datganiad o resymau sy’n mynd ynghyd ag unrhyw rai o’r uchod.

(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu, neu’n cael copi o gyfarwyddyd sgrinio cyn y gwneir gorchymyn datblygu lleol, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o resymau sy’n mynd ynghyd ag ef ar gael i’r cyhoedd gael edrych arno ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu’r adran berthnasol o’r gofrestr honno).

15.  Mae rheoliad 28 i’w ddarllen fel pe bai paragraff (1) yn darllen—

(1) Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn gwneud gorchymyn datblygu lleol sy’n rhoi caniatâd ar gyfer datblygiad AEA, rhaid iddo lunio datganiad sy’n nodi’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

16.  Mae rheoliad 29 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan awdurdod cynllunio lleol” ei fod yn darllen “Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu gorchymyn datblygu lleol sy’n rhoi caniatâd i ddatblygiad sy’n ddatblygiad AEA”;

(b)paragraff (2) wedi ei hepgor; ac

(c)ym mharagraff (3) y cyfeiriad at “awdurdod cynllunio perthnasol” yn darllen “awdurdod cynllunio lleol”.

17.  Mae rheoliad 56 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraff (1)(a) yn darllen—

(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad AEA y bwriedir ei gynnal yng Nghymru y mae awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio drwy orchymyn datblygu lleol ar ei gyfer yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu; a

(b)ym mharagraffau (3) a (6), yn lle “cais” ei fod yn darllen “gorchymyn datblygu lleol arfaethedig”.

Rheoliad 40

ATODLEN 6Gorchmynion adran 97 a 102 o dan Ddeddf 1990

1.  Mewn achos pan fo’r Atodlen hon yn cael effaith, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn.

2.  Nid yw rheoliadau 3, 7(2), 9, 10, 12(1), (2) ac (8), 13 ac 21 yn gymwys.

3.  Yn yr Atodlen hon ac wrth gymhwyso’r Rheoliadau hyn gan yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at yr “awdurdod cynllunio perthnasol” yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am wneud y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102, pa un ai hwy yw’r corff cychwyn ai peidio.

4.  Mae rheoliad 5 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraff (2)(a) heb fod yn gymwys;

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “perthnasol” ei fod yn darllen “lleol”;

(c)paragraff (10) wedi ei hepgor.

5.  Mae rheoliadau 8, 11 a 12(3) i (8) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at—

(a)cais neu gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;

(b)y ceisydd yn gyfeiriadau at y corff cychwyn; ac

(c)cais AEA, yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA neu’n addasu caniatâd o’r fath.

6.  Mae rheoliad 12(8) i’w ddarllen fel pe bai “drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” yn darllen “drwy wrthod gwneud neu gadarnhau’r gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102”.

7.  Mae rheoliad 14 a’i bennawd i’w darllen fel pe baent yn darparu—

Barnau cwmpasu a chyfarwyddydau cwmpasu

14.(1) Pan fo gorchymyn adran 97 arfaethedig neu orchymyn adran 102 arfaethedig yn caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol, caniateir i’r corff cychwyn ddatgan ei farn am gwmpas a manylder yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol.

(2) Cyn dyroddi barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (1) rhaid i’r corff cychwyn gynnwys—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;

(c)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd; a

(d)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y mae’r corff cychwyn yn dymuno eu darparu neu eu cyflwyno.

(3) Rhaid i gorff cychwyn beidio â mabwysiadu barn gwmpasu na chyfarwyddyd cwmpasu hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion.

(4) Cyn mabwysiadu barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu rhaid i’r corff cychwyn ystyried—

(a)yr wybodaeth a luniwyd gan y corff cychwyn am y datblygiad arfaethedig yn unol â pharagraff (2);

(b)nodweddion penodol y datblygiad penodol;

(c)nodweddion penodol datblygiad o’r math dan sylw; a

(d)y nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio arnynt gan y datblygiad.

(5) Caiff awdurdod cynllunio lleol ofyn i Weinidogion Cymru o dan reoliad 15(1) wneud cyfarwyddyd ynghylch yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol.

(6) Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu o’u hewyllys eu hunain neu ar gais trydydd parti, rhaid iddynt anfon copi i’r awdurdod cynllunio lleol sydd wedi cychwyn y gorchymyn.

8.  Mae rheoliad 15 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

Cyfarwyddydau cwmpasu

15.(1) Rhaid i ofyniad a wneir o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 14(5) gynnwys—

(a)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 14(2); a

(b)unrhyw sylwadau y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn dymuno eu cyflwyno.

(2) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r awdurdod cynllunio lleol.

(3) Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae’n ofynnol cael gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 5 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y ceir y gofyniad hwnnw neu’r fath gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.

(5) Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a bennir yn rheoliad 14(4).

9.  Mae rheoliad 16 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

16.(1) Caiff corff cychwyn sy’n bwriadu llunio datganiad amgylcheddol ymgynghori ag ymgynghorai er mwyn penderfynu pa un a oes gan yr ymgynghorai unrhyw wybodaeth y mae’r ymgynghorai neu’r corff cychwyn yn ystyried ei bod yn berthnasol i lunio’r datganiad amgylcheddol.

(2) Os oes gan yr ymgynghorai y fath wybodaeth, rhaid i’r ymgynghorai drin yr ymgynghoriad gan y corff cychwyn fel pe bai’r awdurdod cynllunio lleol yn gofyn am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(61).

10.  Mae rheoliad 17 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraff (1) wedi ei hepgor;

(b)ym mharagraff (3)(d), yn lle “ceisydd neu’r apelydd” ei fod yn darllen “corff cychwyn”;

(c)ym mharagraff (4)(b), yn lle “ceisydd neu’r apelydd” ei fod yn darllen “corff cychwyn”.

11.  Mae rheoliad 18 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

18.(1) Pan fo datganiad, y cyfeirir ato fel datganiad amgylcheddol, wedi ei lunio gan gorff cychwyn mewn perthynas â datblygiad sy’n ymwneud â gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102, rhaid i’r corff hwnnw—

(a)anfon copi o’r gorchymyn adran 97 drafft neu’r gorchymyn adran 102 drafft a’r datganiad at yr ymgynghoreion a’u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau; a

(b)hysbysu unrhyw berson penodol y mae’r corff yn ymwybodol ohono ac sy’n debygol o gael ei effeithio gan y gorchymyn drafft, neu sydd â diddordeb yn y gorchymyn drafft, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, o—

(i)cyfeiriad swyddfa’r corff cychwyn lle gellir cael copi o’r gorchymyn drafft a’r datganiad; a

(ii)y cyfeiriad y caniateir anfon sylwadau iddo.

(2) Ni chaiff y corff cychwyn wneud y gorchymyn hyd nes diwedd 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad diweddaraf y cyhoeddwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 19.

(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn llunio datganiad amgylcheddol, rhaid iddo anfon at Weinidogion Cymru, o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl anfon y datganiad at yr ymgynghoreion, un copi o bob un o unrhyw farn sgrinio, datganiad o resymau a gorchymyn drafft perthnasol yn electronig ac ar bapur oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

12.  Mae rheoliad 19 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)paragraff (1) wedi ei hepgor;

(b)paragraff (2) yn darllen—

(2) Rhaid i’r corff cychwyn gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad y corff cychwyn;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig;

(c)bod copi o’r gorchymyn drafft ac unrhyw blan neu ddogfennau eraill sy’n dod gydag ag ef, yn ogystal â chopi o’r datganiad amgylcheddol ar gael i aelodau’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;

(d)cyfeiriad swyddfa’r corff cychwyn lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(e)manylion gwefan a gynhelir gan neu ar ran yr awdurdod cynllunio perthnasol lle gellir gweld yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a’r dyddiad diweddaraf y maent ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)cyfeiriad (pa un a yw’r un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (d) ai peidio) swyddfa’r corff cychwyn lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(h)os codir tâl am gopi, swm y tâl; ac

(i)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r gorchymyn eu cyflwyno i’r corff cychwyn cyn y dyddiad a bennir yn unol ag is-baragraff (d).;

(c)paragraff (3) wedi ei hepgor;

(d)ym mharagraff (4), bod “ceisydd” yn darllen “corff cychwyn”; ac

(e)paragraffau (6) i (8) wedi eu hepgor.

13.  Mae rheoliad 20 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

20.  Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cyflwyno gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, rhaid i’r awdurdod hefyd gyflwyno un copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol ac unrhyw wybodaeth bellach.

14.  Mae rheoliad 22 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

22.(1) Pan mai’r awdurdod cynllunio lleol yw’r corff cychwyn, rhaid iddo sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol a luniwyd mewn perthynas â’r datblygiad y mae’r awdurdod yn bwriadu gwneud gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 mewn perthynas ag ef ar gael—

(a)yn ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(b)yn y fath leoedd eraill o fewn ei ardal fel yr ystyria yn briodol.

(2) Pan mai Gweinidogion Cymru yw’r corff cychwyn, rhaid iddynt anfon copi o’r datganiad amgylcheddol a luniwyd mewn perthynas â’r gorchymyn arfaethedig i’r awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas â’r datblygiad sy’n dod o dan y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig.

(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn cael copi o ddatganiad amgylcheddol yn unol â pharagraff (2), rhaid iddo sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael—

(a)yn ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(b)yn y fath leoedd eraill o fewn ei ardal fel yr ystyria yn briodol.

15.  Rhaid darllen rheoliad 24 fel pe bai—

(a)paragraff (1) yn darllen—

(1) Pan fo—

(a)datganiad amgylcheddol wedi ei lunio; a gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau; a

(b)Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol i’r datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol sy’n uniongyrchol berthnasol i ddod i gasgliad rhesymedig ar effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol,

rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol; a rhaid i’r awdurdod hwnnw sicrhau bod yr wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu; a chyfeirir at wybodaeth ychwanegol o’r fath yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).;

(b)paragraff (3) yn darllen—

(3) Rhaid i’r corff cychwyn gyhoeddi drwy hysbyseb leol hysbysiad sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig;

(c)bod gwybodaeth bellach ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu eisoes;

(d)y caiff aelodau’r cyhoedd edrych ar gopi o’r wybodaeth bellach ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad swyddfa’r corff cychwyn lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach, a’r dyddiad diweddaraf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod, neu ar ei ran lle gellir gweld yr wybodaeth arall, a’r dyddiad diweddaraf y mae ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad y corff cychwyn (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) lle y gellir cael yr wybodaeth bellach;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach eu cyflwyno i’r awdurdod cyn y dyddiad diweddaraf a bennir yn unol ag is-baragraffau (e) ac (f);

(k)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.;

(c)paragraff (4) yn darllen—

(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r wybodaeth bellach at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac at Weinidogion Cymru.;

(d)paragraffau (5) a (6) wedi eu hepgor;

(e)paragraff (7) yn darllen—

(7) Pan ddarperir gwybodaeth o dan baragraff (1) neu pan ddarperir unrhyw wybodaeth arall, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chadarnhau gorchymyn adran 97 na gorchymyn adran 102 cyn diwedd 30 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o blith—

(a)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi;

(b)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani mewn papur newydd lleol; neu

(c)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani ar wefan.;

(f)ym mharagraff (8)—

(i)“ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu” yn darllen “awdurdod cynllunio lleol sy’n darparu”; a

(ii)yn is-baragraff (a), ar ôl “nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth” ei fod yn dweud “bellach”.

16.  Mae rheoliad 25(1) i’w ddarllen fel pe bai—

(a)“ar gais neu apêl” yn darllen “pa un ai i wneud neu gadarnhau gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102”; a

(b)“cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi” yn darllen “lluniwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef”.

17.  Mae rheoliad 27 i’w ddarllen fel pe bai’n darllen—

27.(1) Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol gadw cofnod sy’n cynnwys copi o bob gorchymyn adran 97 a gorchymyn adran 102 sy’n ymwneud â’i ardal, ynghyd â datganiad o’r rhesymau dros wneud y gorchymyn; a rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi’n cael ei roi ar y cofnod hwnnw hefyd o unrhyw un o’r canlynol sy’n berthnasol—

(a)barn sgrinio;

(b)cyfarwyddyd sgrinio;

(c)barn gwmpasu;

(d)cyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) neu (5);

(e)datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach;

(f)datganiad o resymau sy’n dod gydag unrhyw rai o’r uchod.

(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu, neu’n cael copi o gyfarwyddyd sgrinio neu gyfarwyddyd cwmpasu cyn i orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 gael ei wneud, rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o resymau sy’n dod gydag ef neu hi ar gael i’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y cofnod.

(3) Rhaid i gopïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) barhau i fod ar gael am gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad y’u gosodir ar y cofnod.

18.  Mae rheoliad 28 i’w ddarllen fel pe bai paragraff (1) yn darllen—

(1) Pan fo corff cychwyn yn gwneud gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA, rhaid iddo lunio datganiad sy’n nodi’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

19.  Mae rheoliad 29 i’w ddarllen fel pe bai’n darparu—

29.(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penderfyniad” (“decision”), mewn perthynas â gorchymyn sy’n cael effaith o dan adran 97(7) o Ddeddf 1990, yw’r penderfyniad i wneud y gorchymyn ac fel arall, y penderfyniad i gadarnhau’r gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102.

(2) Pan fo gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol yn cael effaith, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol perthnasol pan fo’r gorchymyn yn cael ei wneud neu ei gadarnhau; a

(b)ac eithrio mewn perthynas â gorchmynion adran 97 sy’n cael effaith heb gael eu cadarnhau gan Weinidogion Cymru(62), ddarparu datganiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (3)(c) i’r awdurdod.

(3) Pan fo gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol yn cael effaith, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)hysbysu’r cyhoedd am y penderfyniad, drwy hysbyseb leol, neu drwy’r fath ddulliau eraill sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau; a

(b)sicrhau bod datganiad sy’n cynnwys y canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y mae’r cofnod o orchmynion adran 97 a gorchmynion adran 102 yn cael eu cadw—

(i)cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau cysylltiedig;

(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt gan gynnwys, os yw’n berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;

(iii)disgrifiad, pan fo angen, o’r prif fesurau i osgoi, lleihau, ac os yn bosibl, wrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad a ganiateir gan y gorchymyn neu sy’n ofynnol gan y gorchymyn; a

(iv)gwybodaeth ynglŷn â’r hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

20.  Mae rheoliad 56 i’w ddarllen fel pe bai—

(a)“penderfyniad” â’r un ystyr ag yn rheoliad 29 fel y’i haddaswyd gan baragraff 19;

(b)paragraff (1)(a) yn darllen—

(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad AEA y bwriedir ei gynnal yng Nghymru ac y mae corff cychwyn yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu drwy orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102, yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu ; ac

(c)ym mharagraffau (3) a (6), yn lle “cais” ei fod yn darllen “gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 arfaethedig”.

Rheoliad 41

ATODLEN 7Swyddogaethau o dan adran 141 o Ddeddf 1990

1.  Mewn achos pan fo’r Atodlen hon yn cael effaith, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn.

2.  Nid yw rheoliadau 3, 7(2), 8 i 13, 18 nac 21 yn gymwys.

3.  Yn yr Atodlen hon, ac wrth gymhwyso rheoliadau eraill gan yr Atodlen hon, mae cyfeiriadau at—

(a)“y ceisydd” (“the applicant”) yn gyfeiriadau at—

(i)y ceisydd am ganiatâd cynllunio a benderfynwyd eisoes;

(ii)yr awdurdod cynllunio mwynau yn achos gorchymyn o dan baragraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf 1990;

(iii)y corff cychwyn mewn cysylltiad â gorchymyn adran 97 neu 102; neu

(iv)person y caniateir iddo wneud cais am ganiatâd cynllunio pe bai Gweinidogion Cymru yn arfer eu swyddogaethau o dan adran 141(3) o Ddeddf 1990;

(b)“y cais” (“the application”) yn gyfeiriadau at—

(i)y cynnig i roi caniatâd cynllunio neu addasu caniatâd cynllunio;

(ii)y cynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;

(iii)y cais am ganiatâd cynllunio a fyddai’n ofynnol ar gyfer y datblygiad dan sylw yn dilyn unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 141(3) o Ddeddf 1990.

4.—(1Pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru, wrth ystyried hysbysiad prynu—

(a)bod y cais perthnasol yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2, neu y byddai’n gais o’r fath; a

(b)mewn perthynas â’r datblygiad dan sylw—

(i)ni fu’n destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; neu

(ii)bu’n destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio neu cyn y’i haddaswyd i’r effaith nad yw’n ddatblygiad AEA; ac

(c)nad yw’r cais perthnasol yn dod gyda datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r gofyniad am gadarnhau’r hysbysiad prynu yn ofyniad gan y ceisydd yn unol â rheoliad 6(8).

(2Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd paragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol, ac i’r graddau y mae’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu, yn achos—

(a)ceisiadau pan na wnaed unrhyw farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2); a

(b)ceisiadau eraill, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(3),

ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio.

5.  Pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod y cais perthnasol yn gais AEA ac nad yw’n dod gyda datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt—

(a)hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol; a

(b)anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol (os nad yr awdurdod hwnnw yw’r ceisydd).

6.—(1Pan fo’r ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ceisydd a’r cais perthnasol—

(a)fel y maent yn gymwys i apelyddion ac apelau, yn achos camau arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990—

(i)i roi caniatâd cynllunio;

(ii)i ddirymu neu ddiwygio’r amodau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio;

(iii)i roi cyfarwyddyd, pe bai cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud, bod rhaid rhoi’r caniatâd hwnnw; ac

(b)fel y maent yn gymwys i’r corff cychwyn a gorchymyn adran 97 arfaethedig neu orchymyn adran 102 arfaethedig, yn achos camau arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990—

(i)i ddirymu neu ddiwygio amodau sy’n gysylltiedig â’r fath orchymyn;

(ii)i ddiwygio’r fath orchymyn.

(2Pan fo’r ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol rhaid i’r ceisydd gydymffurfio â darpariaethau erthygl 12(7A)(63) o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) fel pe bai’r datganiad amgylcheddol wedi ei gyflwyno mewn perthynas â chais cynllunio sy’n dod o fewn erthygl 12(2) o Orchymyn 2012 ac fel pe bai, yn erthygl 12(7A) o Orchymyn 2012, y cyfeiriadau at gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at fwriad i weithredu o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio gan y cais, neu’n debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac yn annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy ddull cyhoeddiad electronig, hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(4Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff 5 o’r Atodlen hon, o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad, gadarnhau yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru y darperir datganiad amgylcheddol.

(5Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu yn unol â pharagraff (4), ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ni chaiff Gweinidogion Cymru weithredu o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990.

7.  Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff 6(3), a

(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19(6),

ni chaiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar y mater ond drwy gadarnhau’r hysbysiad prynu neu wrthod cadarnhau’r hysbysiad hwnnw.

8.  Pan fo’n ymddangos i Weinidogion Cymru bod yr wybodaeth amgylcheddol sydd eisoes ger eu bron—

(a)yn ddigonol i asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad sy’n destun y gweithredu arfaethedig o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990, rhaid iddynt gymryd yr wybodaeth honno i ystyriaeth wrth wneud eu penderfyniad;

(b)yn annigonol i asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad, rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad yn gofyn am wybodaeth bellach yn unol â rheoliad 24(1); ac

mae rheoliadau 14 i 17 a 19 i 28 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ceisydd a’r cais—

(i)fel y maent yn gymwys i apelyddion ac apelau yn achos—

(aa)cynnig i roi caniatâd cynllunio;

(bb)cynnig i ddirymu neu ddiwygio’r amodau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio; neu

(cc)cynnig i roi cyfarwyddyd, pe bai cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud, bod rhaid rhoi’r caniatâd hwnnw; a

(ii)fel y maent yn gymwys i’r corff cychwyn a gorchymyn adran 97 arfaethedig neu orchymyn adran 102 arfaethedig yn achos—

(aa)cynnig i ddirymu neu ddiwygio amodau sy’n gysylltiedig â’r fath orchymyn; neu

(bb)cynnig i ddiwygio’r fath orchymyn; a

(iii)fel pe bai’r cyfeiriadau at yr “awdurdod cynllunio perthnasol” yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n penderfynu ar unrhyw gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw pe bai cais o’r fath yn cael ei gyflwyno.

Rheoliad 55(2)

ATODLEN 8Ceisiadau ROMP

Addasu darpariaethau ynglŷn â gwaharddiad ar roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol

1.  Mae rheoliad 3 (gwaharddiad ar roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol heb ystyried gwybodaeth amgylcheddol) i’w ddarllen fel pe bai, ar ôl “datblygiad AEA” ei fod yn darllen “yn unol â chais ROMP”(64).

Addasu darpariaethau mewn cais i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddol

2.  Yn achos cais ROMP, rhaid i reoliad 11(4) (cais a wnaed i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddol) gael ei ddarllen fel pe bai—

(a)“21 o ddiwrnodau” yn darllen “6 wythnos”; a

(b)ar ôl “yr hysbysiad”, ei fod yn darllen “, neu o fewn cyfnod arall y cytunir arno gyda’r awdurdod yn ysgrifenedig”.

Datgymhwyso rheoliadau ac addasu darpariaethau ar gais a atgyfeiriwyd neu a apelwyd i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

3.—(1Yn achos cais ROMP, nid yw rheoliadau 11(6) ac (8), 12(7) ac (8), 13(8) a (9), a 61 yn gymwys.

(2Yn achos cais ROMP, rhaid darllen rheoliad 12(6) (cais a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) a rheoliad 13(7) (apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai—

(a)“21 o ddiwrnodau” yn darllen “6 wythnos”; a

(b)ar ôl “yr hysbysiad” ei fod yn darllen “, neu o fewn unrhyw gyfnod arall y cytunir arno gyda Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig”.

Amnewid cyfeiriadau at hawl i apelio o dan adran 78 o Ddeddf 1990 ac addasiadau i ddarpariaethau wrth apelio i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

4.—(1Yn achos cais ROMP, yn rheoliadau 13(1) a 20(1)(b), yn lle’r cyfeiriadau at “adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)” darllener—

baragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl i apelio).

(2Yn achos cais ROMP, darllener rheoliad 13(2) (apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai “, ac eithrio drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” wedi ei hepgor.

Addasu darpariaethau ar lunio, cyhoeddusrwydd a gweithdrefnau wrth gyflwyno datganiadau amgylcheddol

5.—(1Yn achos cais ROMP, yn rheoliadau 14(10) a 15(9), yn lle’r geiriau “â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer” darllener “â chais ROMP sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio arall sy’n awdurdodi”.

(2Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 18 (y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i awdurdod cynllunio lleol) yn lle paragraff (4) darllener—

(4) Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1), mae darpariaethau erthygl 12 o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) ac Atodlen 3 iddo yn gymwys i gais ROMP o dan baragraff—

(a)2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, a

(b)6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995(65),

fel y maent yn gymwys i gais cynllunio sy’n dod o fewn paragraff (3A)(66) o erthygl 12 o Orchymyn 2012 ac eithrio bod “benderfynu’r amodau y mae cais cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt” yn cael ei roi yn lle’r cyfeiriadau at “ganiatâd cynllunio” yn yr hysbysiad yn Atodlen 3 i Orchymyn 2012 a bod rhaid i’r hysbysiad gyfeirio at ddarpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy.

(3Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 19 (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio)—

(a)ym mharagraff (2)(a) yn lle’r geiriau “bod cais yn cael ei wneud am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” darllener—

bod cais yn cael ei wneud i benderfynu’r amodau y mae caniatâd cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt, darpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy ;

(b)yn lle paragraff (7) darllener—

(7) Pan fo ceisydd yn dynodi bod y ceisydd yn bwriadu darparu datganiad o’r fath ac o dan y fath amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cynllunio mwynau perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd, ohirio ystyried y cais neu’r apêl hyd nes y dyddiad a bennir gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru ar gyfer cyflwyno’r datganiad amgylcheddol a chydymffurfio â pharagraff (6); a rhaid iddynt beidio â phenderfynu’r cais neu’r apêl yn ystod y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad diweddaraf y mae’r datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllir ym mharagraff (6) yn cael eu cyhoeddi yn unol â’r rheoliad hwn.

(4Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 20(1) (darparu copïau o ddatganiadau amgylcheddol a gwybodaeth bellach i Weinidogion Cymru pe bai atgyfeiriad neu apelio)—

(a)yn is-baragraff (a) yn lle “adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)” darllener “baragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 13(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 8(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995”; a

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)” darllener “baragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1992, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio)”.

(5Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 22 (argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol) ar ôl “Orchymyn 2012” darllener “(fel y’i cymhwysir gan reoliad 18(5) neu gan baragraff 9(5) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995),”.

(6Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 24 (gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol)—

(a)ym mharagraff (3)(a) yn lle’r geiriau “ceisydd am ganiatâd cynllunio neu am gydsyniad dilynol, neu’r apelydd (yn ôl y digwydd)” darllener—

person sydd wedi gwneud cais am benderfynu’r amodau y mae’r cais cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt neu sydd wedi apelio mewn perthynas â hwy, darpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy;

(b)ym mharagraff (7)(a) ar ôl y geiriau “cais neu’r apêl dros dro” darllener “hyd y dyddiad a bennir ganddynt ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth bellach”.

(7Yn rheoliad 25 (ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio), ym mharagraff (1)(d) darllener fel pe bai “os rhoddir caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol” wedi ei hepgor.

Addasu darpariaethau wrth wneud cais i Uchel Lys a rhoi cyfarwyddydau

6.—(1Yn achos cais ROMP, yn lle rheoliad 59 (cais i’r Uchel Lys) darllener—

Cais i’r Uchel Lys

59.  At ddibenion Rhan 12 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd penderfyniadau penodol), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288 o Ddeddf 1990, fel y’i cymhwysir gan baragraff 9(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 16(4) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(4) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995, nad yw gweithredoedd Gweinidogion Cymru o fewn pwerau Deddf 1990, yn ymestyn i benderfynu cais ROMP gan Weinidogion Cymru yn groes i reoliad 3.

(2Mae’r pŵer i roi cyfarwyddyd yn erthygl 18(2) o Orchymyn 2012 yn gymwys i ddatblygiad ROMP fel y mae’n gymwys i ddatblygiad y gwneir cais cynllunio mewn cysylltiad ag ef.

Atal datblygiad mwynau dros dro

7.—(1Pan fo’r awdurdod, Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn ymdrin â chais ROMP neu apêl sy’n codi o gais ROMP ac yn hysbysu’r ceisydd neu’r apeliwr, yn ôl y digwydd, ei bod—

(a)yn ofynnol dan reoliad 11(1), 12(3) neu 13(5) i gyflwyno datganiad amgylcheddol, yna mae’n rhaid i hysbysiad o’r fath bennu’r cyfnod y mae’r datganiad amgylcheddol a chydymffurfiad â rheoliad 19(6) yn ofynnol; neu

(b)y dylai datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol o dan reoliad 24(1), yna mae’n rhaid i hysbysiad o’r fath bennu’r cyfnod y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth ynddo.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff y caniatâd cynllunio y mae’r cais ROMP yn ymwneud ag ef ond awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau (heblaw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw datblygiad ROMP yn ddatblygiad AEA) os yw’r ceisydd neu’r apelydd wedi—

(a)ysgrifennu at yr awdurdod cynllunio mwynau perthnasol neu Weinidogion Cymru o fewn y 6 wythnos neu gyfnod arall y cytunir arno yn unol â rheoliadau 11(3) ac 11(4), 12(4) a 12(6) neu 13(7);

(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol a chydymffurfio â rheoliad 19(6) o fewn y cyfnod a bennir gan yr awdurdod neu Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1) neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig;

(c)darparu gwybodaeth ychwanegol o fewn y cyfnod a bennir gan yr awdurdod, Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn unol â pharagraff (1) neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig; neu

(d)pan fo hysbysiad o dan reoliad 6(5), 7(3), 14(3) neu 15(3) wedi ei gael, ar yr amod bod yr wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani o fewn 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad, neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig.

(3Pan fo paragraff (2) yn gymwys, ni chaiff y caniatâd cynllunio awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd—

(a)y cyfnod perthnasol a bennir yn rheoliadau 11(3) a 11(4), 12(4) a 12(6) neu 13(7) neu gyfnod y cytunir arno yn unol â’r rheoliadau hynny; a

(b)y cyfnod a bennir neu y cytunir arno yn ysgrifenedig fel y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b), (c), a (d),

hyd nes bod y ceisydd wedi cydymffurfio â’r holl ddarpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) sy’n berthnasol i’r cais neu’r apêl dan sylw.

(4Rhaid i fanylion atal datblygiad mwynau dros dro a dyddiad y bydd yr ataliad hwnnw’n dod i ben gael eu nodi yn y rhan briodol o’r gofrestr(67) cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

(5Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar unrhyw ddatblygiad mwynau a gynhelir o dan y caniatâd cynllunio cyn dyddiad atal y datblygiad mwynau dros dro.

(6At ddibenion paragraffau (2) i (5), ystyr “datblygiad mwynau” (“minerals development”) yw datblygiad sy’n cynnwys tynnu mwynau a gweithio ar fwynau, neu’n cynnwys gwaddodi gwastraff mwynol.

Penderfynu ar amodau a hawl apelio wrth beidio â phenderfynu

8.—(1Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau yw penderfynu ar gais Atodlen 1 neu gais Atodlen 2, nid yw paragraff 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 yn cael effaith fel bod yr awdurdod yn cael ei drin fel pe bai wedi penderfynu ar yr amodau y mae unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol i fod yn ddarostyngedig iddynt oni bai—

(a)bod yr awdurdod wedi mabwysiadu barn sgrinio; neu

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad ROMP dan sylw yn ddatblygiad AEA;

(2Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais Atodlen 1 neu Atodlen 2—

(a)mae adran 69 o Ddeddf 1990 (cofrestr o geisiadau etc.), ac unrhyw ddarpariaethau o Orchymyn 2012 a wnaed yn rhinwedd yr adran honno, yn cael effaith gydag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol fel pe bai cyfeiriadau at geisiadau am ganiatâd cynllunio yn cynnwys ceisiadau ROMP o dan baragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995(68); a

(b)pan nad yr awdurdod yw’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo gadw’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod ddarparu’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo ei chadw gyda dogfennau a gwybodaeth o’r fath y mae ar yr awdurdod eu hangen i gydymffurfio ag adran 69 o Ddeddf 1990 fel y’i cymhwysir gan baragraff (a), gyda rheoliad 27 fel y’i cymhwysir gan reoliad 55, a chyda paragraff 7(4) o’r Atodlen hon.

(3Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais AEA a wnaed o dan baragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 nid yw paragraff 4(4) o’r Atodlen honno yn gymwys.

(4Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol yw penderfynu ar gais AEA, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o’i benderfyniad am y cais ROMP o fewn 16 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y y ceir cais ROMP gan yr awdurdod neu unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig rhwng y ceisydd a’r awdurdod.

(5At ddibenion paragraff (4), ceir cais ROMP gan awdurdod cynllunio mwynau pan fydd yn cael—

(a)dogfen y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn;

(b)unrhyw ddogfennau gofynnol i gyd-fynd â’r datganiad hwnnw; ac

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r awdurdod wedi hysbysu’r ceisydd y dylai’r datganiad amgylcheddol ei chynnwys.

(6Pan fo paragraff (1) yn gymwys—

(a)mae paragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe bai hefyd hawl apelio i Weinidogion Cymru pan nad yw’r awdurdodd cynllunio mwynol wedi rhoi rhybudd o’i benderfyniad am y cais ROMP yn unol â pharagraff (4); a

(b)paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe baent hefyd yn darparu ar gyfer hysbysiad am apêl i gael ei wneud o fewn 6 mis ar ôl i’r 16 wythnos ddod i ben neu gyfnod arall y cytunwyd arno yn unol â pharagraff (4).

(7Wrth benderfynu at ddibenion—

(a)paragraffau 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (penderfynu ar amodau); neu

(b)paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) fel y’u cymhwysir gan baragraff 8(6)(b) o’r Atodlen hon,

yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio mwynol hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad ynglŷn ag achos pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 11(1)bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â’r datblygiad ROMP dan sylw, ni chaniateir ystyried unrhyw gyfnod cyn y dyroddwyd y cyfarwyddyd hwnnw.

Cais ROMP gan awdurdod cynllunio mwynol

9.—(1Pan fo awdurdod cynllunio mwynol yn bwriadu gwneud neu yn gwneud cais ROMP sy’n gais Atodlen 1 neu Atodlen 2 i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 (cydsyniadau eraill) o’r Rheoliadau Cyffredinol(69), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r cais neu’r cais arfaethedig hwnnw fel y maent yn gymwys i gais ROMP yr atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 13(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 8(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (atgyfeirio ceisiadau i Weinidogion Cymru) yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw rheoliadau 6 i 11, 13, 14, 15, 18 (ac eithrio at ddibenion rheoliadau 21(3) a (4)), 20 a 29(1) yn gymwys;

(b)yn rheoliad 5 (darpariaethau cyffredinol yn ymwneud â sgrinio), nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys;

(c)mae rheoliad 12(3) (cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol), yn gymwys fel pe bai “a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(d)yn rheoliad 16 (gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddol)—

(i)ym mharagraff (3)(b) yn lle “11(4)(a), 12(6) neu 13(7)” darllener “12(6)”;

(ii)darllener paragraff (4) fel pe bai “awdurdod cynllunio perthnasol ac” ac “awdurdod neu’r” yn y ddau le y mae’n digwydd wedi eu hepgor;

(e)yn rheoliad 19(2) (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio)—

(i)yn is-baragraff (a) darllener fel pe bai “ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(ii)darllener fel pe bai is-baragraff (b) yn darparu—

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’i fod wedi ei wneud i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol;;

(f)darllener rheoliad 21(2) (y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru), fel pe bai “a’r awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(g)yn rheoliad 24(3) (gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol)—

(i)darllener is-baragraff (a) fel pe bai “ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(ii)darllener is-baragraff (b) fel pe bai’n darparu—

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’i fod wedi ei wneud i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol;; a

(h)rheoliadau 25 (ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunio), 27 (argaeledd barnau, cyfarwyddyd etc. i’w harchwilio), 28(1) (gwybodaeth i ddod gyda phenderfyniadau) a 29(2) (dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd a Gweinidogion Cymru am y penderfyniadau terfynol) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at awdurdod cynllunio mwynol.

(2Caiff awdurdod cynllunio mwynol sy’n bwriadu gwneud cais ROMP i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio, ac mae paragraffau (3) i (6) o reoliad 7 yn gymwys i gais o’r fath fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 6(8) ac eithrio fel pe bai ym mharagraff (5) “, hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny” wedi ei hepgor.

(3Rhaid i ofyniad o dan baragraff (2) ddod gyda’r canlynol—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad o natur a diben y datblygiad ROMP, gan gynnwys yn benodol—

(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;

(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd sy’n debygol o gael eu heffeithio yn sylweddol gan y datblygiad;

(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol tebygol, i’r graddau bod gwybodaeth ar gael ar yr effeithiau hynny, y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd o ganlyniad i—

(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a

(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth; ac

(e)y fath wybodaeth arall y gallai’r awdurdod ddymuno ei darparu gan gynnwys unrhyw nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fod wedi bod fel arall yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(4Rhaid i awdurdod sy’n gwneud cais o dan baragraff (2) anfon at Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth ychwanegol y caniateir iddynt ofyn amdani i wneud cyfarwyddyd.

Ceisiadau ROMP: dyletswydd i wneud gorchymyn gwahardd ar ôl atal caniatad dros dro am ddwy flynedd

10.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys, mewn perthynas â datblygiad mwynau—

(a)os yw’r cyfnod o 2 flynedd yn dechrau ar y dyddiad atal wedi mynd heibio, a

(b)os yw’r camau a bennir ym mharagraff 7(2) heb eu cymryd eto.

(2Y “dyddiad atal” yw’r dyddiad y mae atal y pŵer i awdurdodi datblygiad mwynau (o fewn ystyr paragraff 7(6)) yn dechrau.

(3Mae paragraff 3 o Atodlen 9 i Ddeddf 1990 (gwahardd ailddechrau gwaith mwynau) (70) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw ran o safle fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â’r safle cyfan.

(4Mae is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw yn cael effaith fel pe bai “the mineral planning authority may by order” i’r diwedd yn darllen—

the mineral planning authority—

(i)must by order prohibit the resumption of the winning and working or the depositing; and

(ii)may in the order impose, in relation to the site, any such requirement as is specified in sub-paragraph (3).

(5Yn is-baragraff (2)(a) a (b) o’r paragraff hwnnw, rhaid darllen cyfeiriadau at dynnu a gweithio neu waddodi fel cyfeiriadau at dynnu a gweithio neu waddodi lle nad yw caniatâd wedi ei atal yn unol â pharagraff 7(3).

(6Mae paragraff 4(7) o Atodlen 9 i Ddeddf 1990 yn cael effaith fel pe bai “have effect” yn darllen “authorise that development”.

Rheoliad 64

SCHEDULE 9Diwygiadau i offerynnau eraill

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

1.—(1Mae Gorchymyn 2012 wedi ei ddiwygio yn unol â’r paragraff hwn.

(2Yn erthygl 2(1)—

(a)hepgorer y diffiniadau o “cais AEA” (“EIA application”), “datblygiad AEA” (“EIA development”), “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) a “gwybodaeth amgylcheddol” (“environmental information”);

(b)yn y lleoedd perthnasol, mewnosoder—

(i)mae i “unrhyw wybodaeth arall” (“any other information”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA,

(ii)mae i “cais AEA” (“EIA application”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA,

(iii)mae i “datblygiad AEA” (“EIA development”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA,

(iv)ystyr “Rheoliadau AEA” (“EIA Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017;

(v)mae i “gwybodaeth amgylcheddol” (“environmental information”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;

(vi)mae i “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;

(vii)mae i “gwybodaeth bellach” (“further information”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA,

(viii)mae i “datblygiad Atodlen 1” (“Schedule 1 development”) a “datblygiad Atodlen 2” (“Schedule 2 development”) yr ystyron a roddir yn y Rheoliadau AEA;

(ix)mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA; a

(x)mae i “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA.

(3Yn erthygl 10(4), ar ôl “ganiatâd cynllunio”, mewnosoder “ac eithrio ceisiadau AEA”.

(4Yn erthygl 12(71)

(a)ym mharagraff (2), yn lle “Yn” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff (3A), yn”;

(b)hepgorer paragraff (2)(a);

(c)ar ôl paragraff (3), mewnosoder—

(3A) Yn achos cais AEA, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi cyhoeddusrwydd i’r cais yn unol â gofynion paragraff (7A) a, phan fo’r datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno gyda’r cais, drwy roi hysbysiad gofynnol—

(a)drwy arddangos ar y safle mewn o leiaf un man ar neu gerllaw’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, am gyfnod o ddim llai na 30 diwrnod; a

(b)drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn y gymdogaeth lle mae’r tir yr ymwneir ag ef yn y cais.;

(d)ym mharagraff (4), yn lle “paragraff (4A)” rhodder “paragraff (3A) neu (4A)”;

(e)ym mharagraff (4A), yn lle “(2)(a) neu (c)” rhodder “(2)(c) neu (3A)”;

(f)ym mharagraff (5), ar ôl “paragraff (2),”, mewnosoder “paragraff (3A),”;

(g)ym mharagraff (6), ar ôl “neu (5)(a)”, mewnosoder “, neu cyn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff (3A)(a),”

(h)ym mharagraff (7), ar ôl “ganiatâd cynllunio”, mewnosoder “ac eithrio ceisiadau AEA”; ac

(i)ar ôl paragraff (7) mewnosoder—

(7A) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol sicrhau ei fod yn cynnal gwefan at ddiben rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau AEA a rhaid cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar y wefan—

(a)cyfeiriad neu leoliad y datblygiad arfaethedig;

(b)disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig;

(c)y ffaith bod y datblygiad yn ddarostyngedig i’r weithdrefn asesu effeithiau amgylcheddol;

(d)y datganiad amgylcheddol, unrhyw farn gwmpasu berthnasol neu gyfarwyddyd cwmpasu perthnasol ac unrhyw wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall;

(e)yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 1998, y prif adroddiadau a chyngor a ddyroddwyd i’r awdurdod ar yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth (os oes rhai);

(f)yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(72), gwybodaeth heblaw am yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan unrhyw is-baragraff arall sy’n berthnasol i’r penderfyniad ac sydd ond yn dod ar gael ar ôl yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth sy’n ofynnol gan y paragraff hwn am y tro cyntaf;

(g)lle, pryd a thrwy ba ddull y gellir edrych ar y cais a’r datganiad amgylcheddol;

(h)sut y gellir cael copïau o’r datganiad amgylcheddol a chost y fath gopïau;

(i)y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau am y cais, na chaiff fod cyn diwrnod olaf y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad diweddaraf y cyhoeddir y datganiad amgylcheddol naill ai ar y wefan, yn unol â pharagraff (3A) neu yn unol â rheoliad 19 o’r Rheoliadau AEA;

(j)manylion eraill y trefniadau ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd yn y weithdrefn gwneud penderfyniadau gan gynnwys disgrifiad o’r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyflwynir wedi hynny gan y ceisydd;

(k)sut y caniateir cyflwyno sylwadau ynghylch y cais;

(l)manylion y person neu’r corff sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad;

(m)yn achos cais deiliad tŷ neu gais masnachol bach, os digwydd bod apêl yn mynd rhagddi drwy’r weithdrefn hwylusach, bod unrhyw sylwadau a gyflwynir ynghylch y cais yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru ac ni fydd cyfle i gyflwyno sylwadau pellach.

(5Yn erthygl 14(4)(b), yn lle “21 diwrnod” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “30 diwrnod yn achos cais AEA neu 21 diwrnod mewn unrhyw achos arall”.

(6Yn erthgyl 15A(2)(73), ar ôl “21 diwrnod” mewnosoder “, neu 30 diwrnod yn achos cais AEA, yn y naill achos neu’r llall”.

(7Yn erthygl 15C ar ôl “21 diwrnod” mewnosoder “, neu 30 diwrnod yn achos cais AEA, yn y naill achos neu’r llall”.

(8Yn erthygl 16 ar ôl “14 diwrnod” yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “, (neu 30 diwrnod yn achos cais AEA,)”.

(9Yn erthygl 18(2), yn lle “i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016”, rhodder “i’r Rheoliadau AEA”.

(10Yn erthygl 21—

(a)ym mharagraff (1)(a), ar ôl “21 diwrnod”, mewnosoder “, neu, yn achos cais AEA sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol 30 diwrnod, yn y naill achos neu’r llall”; a

(b)ym mharagraff (1)(c), ar ôl “14 diwrnod”, mewnosoder “, neu, yn achos cais AEA sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol 30 diwrnod, yn y naill achos neu’r llall”.

(11Yn erthygl 22—

(a)ym mharagraff (6)(a), ar ôl “21 diwrnod”, mewnosoder “neu, yn achos cais AEA sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol 30 diwrnod, yn y naill achos neu’r llall”; a

(b)ym mharagraff (6)(c), ar ôl “14 diwrnod”, mewnosoder “neu, yn achos cais AEA sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol 30 diwrnod, yn y naill achos neu’r llall”.

(12Hepgorer erthygl 24(2).

(13Yn erthygl 27—

(a)ym mharagraff (5)(b), yn lle “28 diwrnod”, rhodder “30 diwrnod”;

(b)ym mharagraff (6)(b)(iii) yn lle “28 diwrnod” rhodder “30 diwrnod”;

(c)ym mharagraff (6)(c)(iii), yn lle “28 diwrnod” rhodder “30 diwrnod”;

(d)ym mharagraff (7)(a) ac (c) yn lle “28 diwrnod” rhodder “30 diwrnod”; ac

(e)ym mharagraff (13)(b), yn lle “o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2016”, rhodder “o’r Rheoliadau AEA”.

(14Yn Atodlen 3, yn yr hysbysiad o dan erthygl 12(3) o gais am ganiatâd cynllunio—

(a)ar ôl “ERTHYGL 12(3)” mewnosoder “NEU 12(3A)”;

(b)ar ôl “yn ystod unrhyw oriau rhesymol hyd at (dd)…” mewnosoder “(dda)” ac ar ddiwedd yr hysbysiad ar ôl nodyn (dd) mewnosoder y nodyn (dda) a ganlyn—

(dda)manylion y wefan lle gellir edrych ar y datganiad amgylcheddol ac unrhyw ddogfennau eraill;

(c)ar ôl “am dâl o (f)*…” mewnosoder “(fa)” ac ar ddiwedd yr hysbysiad ar ôl nodyn (f) mewnosoder y nodyn (fa) a ganlyn—

(fa)y wefan lle cyhoeddir unrhyw wybodaeth arall a gafwyd oddi wrth y ceisydd mewn cysylltiad â’r datblygiad arfaethedig; ac

(d)yn nodyn (dd) yn lle “dyddiad”, rhodder— “dyddiad:

(i)yn achos cais AEA, sy’n rhoi cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau â’r diweddaraf o blith dyddiad arddangos yr hysbysiad am y tro cyntaf ar neu gerllaw’r safle, dyddiad cyhoeddi’r hysbysiad am y tro cyntaf mewn papur newydd neu ddyddiad cyhoeddi’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chyhoeddi ar wefan yr awdurdod cynllunio lleol yn unol ag erthygl 12(7); neu

(ii)mewn unrhyw achos arall,.

Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016

2.—(1Mae Gorchymyn 2016 wedi ei ddiwygio yn unol â’r paragraff hwn.

(2Yn erthygl 2—

(a)yn y diffiniad o “y Rheoliadau AEA” (“EIA Regulations”), yn lle “2016”, rhodder “2017”; a

(b)yn y lleoedd perthnasol, mewnosoder—

(i)“mae i “datblygiad AEA” (“EIA development”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;

(ii)“mae i “datblygiad Atodlen 1” (“Schedule 1 development”) a “datblygiad Atodlen 2” (“Schedule 2 development”) yr ystyron a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;

(iii)“mae i “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”;

(iv)“mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”) yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau AEA;”.

(3Yn erthygl 18—

(a)ar ôl paragraff (3)(b), mewnosoder—

(ba)yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol—

(i)y ffaith bod y datblygiad yn ddarostyngedig i weithdrefn asesu effaith amgylcheddol;

(ii)y datganiad amgylcheddol, unrhyw gyfarwyddyd cwmpasu perthnasol, ac unrhyw wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall;

(iii)yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 1998, y prif adroddiadau a chyngor a ddyroddwyd i Weinidogion Cymru ar yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth (os oes rhai);

(iv)yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(74), gwybodaeth heblaw am yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan unrhyw is-baragraff arall sy’n berthnasol i’r penderfyniad ac sydd ond yn dod ar gael ar ôl yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth sy’n ofynnol gan y paragraff hwn am y tro cyntaf;

(v)sut y gellir cael copïau o’r datganiad amgylcheddol a chost y fath gopïau;

(vi)manylion eraill y trefniadau ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd yn y weithdrefn gwneud penderfyniadau gan gynnwys disgrifiad o’r weithdrefn ar gyfer cyhoeddi unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyflwynir wedi hynny gan y ceisydd;

(vii)manylion yr awdurdod sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad;;

(b)ym mharagraff (3)(c), ar ôl “cais”, mewnosoder “, na chaiff, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, fod cyn diwrnod olaf y cyfnod o 30 diwrnod sy’n dechrau ar y dyddiad diweddaraf y rhoddwyd cyhoeddusrwydd i’r cais yn unol ag erthygl 18(2), (3) neu 19(2)”;

(c)ym mharagraff (4), yn y lle priodol, mewnosoder—

mae i “gwybodaeth bellach” (“further information”) ac “unrhyw wybodaeth arall” (“any other information”) yr un ystyron ag yn y Rheoliadau AEA;.

(4Yn erthygl 19—

(a)ym mharagraff (2), yn lle “21 diwrnod” rhodder “30 diwrnod, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, ac 21 diwrnod mewn unrhyw achos arall”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “21 diwrnod” rhodder “21 neu 30 diwrnod, fel y bo’n briodol,”.

(5Yn erthygl 22(4)(b), ar ôl “21 diwrnod” mewnosoder “, neu yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, 30 diwrnod,”.

(6Yn erthygl 23(2)(a), yn lle “21 diwrnod”, rhodder “30 diwrnod, yn achos cais sy’n dod gyda datganiad amgylcheddol, a 21 diwrnod mewn unrhyw achos arall, yn y naill achos neu’r llall”.

(7Yn erthygl 29, hepgorer paragraffau (4) a (5).

(8Yn y ffurflen yn Atodlen 4—

(a)ar ôl “+Mae’r cais wedi ei gyflwyno ynghyd â Datganiad Amgylcheddol”, mewnosoder “+Mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o gael effeithiau sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall”;

(b)yn nodyn j)—

(i)yn lle “21” rhodder “30”; a

(ii)ar ôl “chyhoeddi”, mewnosoder “, neu yn achos cais nad yw’n ofynnol i ddatganiad amgylcheddol ddod gydag ef yn unol â’r Rheoliadau AEA, rhaid i’r cyfnod hwnnw fod yn 21 diwrnod”.

Rheoliad 66

ATODLEN 10Diwygiadau canlyniadol

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995

1.—(1Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(75) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3—

(a)ym mharagraff (10), yn lle “2016”, rhodder “2017”; a

(b)ym mharagraffau (10) ac (11)—

(i)yn lle “regulation 4(8)” rhodder “regulation 5(11)”;

(ii)yn lle “regulation 6(6)” rhodder “regulation 7(6)”; a

(iii)yn lle “regulation 4(4)” rhodder “regulation 5(4)”.

Rheoliadau Gwaith Piblinellau Trawsgludo Nwy Cyhoeddus (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999

2.—(1Mae Rheoliadau Gwaith Piblinellau Trawsgludo Nwy Cyhoeddus (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999(76) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “the 2016 EIA Regulations” rhodder—

“the 2017 Regulations” means the Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) (Wales) Regulations 2017;.

(3Yn rheoliad 4(3)—

(a)yn is-baragraff (b), yn lle “regulation 6(6)”, rhodder “regulation 7(6)”; a

(b)yn lle “2016” (yn y ddau le y mae’n digwydd) rhodder “2017”.

Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006

3.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006(77) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y diffiniad o “cais Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol” (“EIA application”) yn rheoliad 6(8), yn lle “2016”, rhodder “2017”.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddatgan gyda diwygiadau ddarpariaethau Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(78) (“Rheoliadau 2016”). Roedd Rheoliadau 2016 yn cydgrynhoi ac yn diweddaru offerynnau cynharach a oedd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC (“Cyfarwyddeb 1985”) ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(79) o ran cynllunio gwlad a thref yng Nghymru.

Mae Cyfarwyddeb 1985 wedi ei disodli gan Gyfarwyddeb 2011/92/EU (“y Gyfarwyddeb”) Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(80). Mae’r Gyfarwyddeb wedi ei diwygio gan Gyfarwyddeb yr UE 2014/52/EU(81).

Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion gweithdrefnol mewn perthynas â rhoi caniatâd cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(82).

Mae’n ofynnol cynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol (AEA) ar gyfer pob datblygiad yn Atodlen 1. Mae’n ofynnol cynnal AEA ar gyfer datblygiad yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 sydd naill ai i’w wneud mewn ardal sensitif neu sy’n bodloni trothwy neu faen prawf yng ngholofn 2 os yw’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd.

Y prif ddiwygiadau i Reoliadau 2016 yw:

Asesiad o’r effaith amgylcheddol

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol cynnal AEA cyn y rhoddir cydsyniad i ddatblygiad sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd (“datblygiad AEA”).

Mae’r rheoliad 4 newydd yn disgrifio’r broses o asesu effeithiau amgylcheddol.

Sgrinio

Mae’r broses sgrinio wedi ei diwygio. Mae rheoliad 6(2) a (3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio ddarparu gwybodaeth benodol, gan ystyried y meini prawf dethol yn Atodlen 3.

Yn unol â rheoliad 5(8), wrth wneud penderfyniad sgrinio, bellach rhaid i wneuthurwr y penderfyniad ystyried yr wybodaeth honno, y canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill yn ogystal â’r meini prawf dethol yn Atodlen 3. Mae’r meini prawf dethol hynny wedi eu diwygio.

Pan fo gwneuthurwr y penderfyniad yn mabwysiadu penderfyniad sgrinio rhaid iddo ddatgan y prif resymau dros wneud y penderfyniad yn ogystal â materion newydd eraill, yn unol â rheoliad 5(9).

Mae rheoliadau 6(6) a 7(6) yn ei gwneud yn ofynnol i benderfyniadau sgrinio gael eu gwneud yn ddim hwyrach nag o fewn 90 o ddiwrnodau o ddyddiad cyflwyno’r holl wybodaeth berthnasol oni bai bod amgylchiadau eithriadol a bod rheoliad 7(7) yn gymwys.

Cwmpasu

Mae rheoliad 14(2) yn gwneud newidiadau i natur yr wybodaeth y mae’n rhaid i berson ei darparu wrth ofyn am farn gwmpasu. Mae paragraff (6) yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff sy’n gwneud y penderfyniad cwmpasu ystyried yr wybodaeth ychwanegol cyn mabwysiadu’r penderfyniad cwmpasu.

Datganiadau amgylcheddol

Mae’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad amgylcheddol wedi ei hehangu gan reoliad 17(3) ac Atodlen 4. Mae rheoliadau 4(4) a 17(4) yn cynnwys gofynion newydd mewn perthynas â datganiadau amgylcheddol.

Y penderfyniad ynghylch pa un ai i roi caniatâd cynllunio

Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth fanwl ynghylch y weithdrefn y mae’n rhaid i wneuthurwr y penderfyniad ei dilyn wrth benderfynu pa un ai i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef. Mae paragraff (2) yn cynnwys gofyniad i gasgliad gwneuthurwr y penderfyniad ar effeithiau sylweddol y datblygiad fod yn gyfoes ar yr adeg y mae’n penderfynu pa un ai i roi caniatâd cynllunio. Mae paragraff (4) yn nodi manylion y materion y mae’n rhaid i wneuthurwr y penderfyniad eu hystyried mewn perthynas â chamau unioni a mesurau monitro posibl.

Mae rheoliad 28 yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu gyda phenderfyniad ynghylch pa un ai i roi caniatâd cynllunio.

Cyhoeddusrwydd ac ymgynghori

Mae rheoliad 19(2)(e) a diwygiadau a wnaed i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(83) gan baragraff 1(3)(c) o Atodlen 9 yn darparu ar gyfer cyfnod ymgynghori cyhoeddus sy’n para o leiaf 30 o ddiwrnodau.

Mae rheoliad 29(1)(d) yn gwneud darpariaeth ar gyfer darparu gwybodaeth fanylach i’r cyhoedd ar ôl gwneud penderfyniad mewn perthynas â pha un ai i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA.

Cosbau a gorfodi

Mae rheoliad 43 yn cynnwys dyletswydd ar awdurdodau cynllunio lleol i roi sylw i’r angen i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion ac amcanion y Gyfarwyddeb wrth iddynt arfer eu swyddogaethau gorfodi.

Gofynion eraill

Mae rheoliad 19 a diwygiadau a wnaed i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 gan baragraff 1(3)(h) o Atodlen 9 yn ei gwneud yn ofynnol i’r datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill fod ar gael yn electronig i’w gweld.

Mae rheoliad 26 yn ofyniad i gyd-drefnu, pan fo’n briodol, AEA o dan y Rheoliadau hyn gydag unrhyw asesiad o dan reoliad 61 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(84).

Mae rheoliad 58 yn gwneud darpariaeth i sicrhau nad oes dim gwrthdaro buddiannau a bod swyddogaethau wedi eu gwahanu’n briodol pan fydd y corff sy’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio hefyd yn wneuthurwr y penderfyniad ar y cais hwnnw. Mae’r darpariaethau penodol sy’n ymwneud â datblygiad gan awdurdod cynllunio lleol wedi eu dileu.

Gwnaed diwygiadau tebyg i’r prosesau yn Rhan 7 (Datblygiadau o Bwysigrwydd Cenedlaethol), Rhan 9 (Cyfyngiadau ar Roi Caniatâd), Rhan 10 (Datblygu Anawdurdodedig) a Rhan 11 (Ceisiadau ROMP).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.llyw.cymru.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno.

(2)

O.S. 2007/1679. Gweler erthygl 4.

(3)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 71A gan adran 15 o Ddeddf 1991. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf honno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf 1991. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno, y swyddogaethau yn swyddogaethau perthnasol i’r Cyulliad fel y diffinnir ym mharagraff 30(2).

(4)

Mae Cyfarwyddeb 2011/92/EU wedi ei diwygio gan Gyfarwyddeb 2014//52/EU. Gweler Erthyglau 2(1) a 3(1) o Gyfarwyddeb 2014/52/EU.

(5)

O.J. Rhif L 26, 28.1.2012, t. 1. Mae’r Gyfarwyddeb wedi ei diwygio gan Gyfarwyddeb 2014/52/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor, O.J. Rhif L 124, 25.4.2014, t. 1. Gweler yn benodol Erthygl 3(1).

(6)

1981 p. 69. Amnewidiwyd adran 28(1) gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2001 (p. 37), adran 75(1) ac Atodlen 9, paragraff 1, a’i ddiwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16) adran 105(1), Atodlen 11, Rhan 1, paragraff 79, a chan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) adran 148, Atodlen 13, Rhan 2, paragraff 2(1).

(7)

1949 p. 97, gweler adran 5(3). Gweler adran 27AA ar gyfer cymhwysiad adran 28 mewn perthynas â thir yng Nghymru.

(8)

Gweler Papur Gorchymyn 9424 a http:/whc.unesco.org/en/list.

(9)

1979 p. 46. Gweler y diffiniad yn adran 1(11).

(10)

2000 p. 37. Diwygiwyd adran 82(2) gan O.S. 2013/755.

(11)

Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).

(12)

Diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf 1991, Atodlen 7, paragraff 18.

(13)

Amnewidwyd adran 69 gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, adran 188(1) ac Atodlen 6, paragraffau 1 a 3; diwygiwyd adran 69 gan Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 190(1) a (4); Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), adran 237 a Rhan 18 o Atodlen 25. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(16)

O.S. 2012/801 (Cy. 110); diwygiwyd gan O.S. 2016/1330 (Cy. 123); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un yn berthnasol.

(18)

Mewnosodwyd adran 61A gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), adran 40(1); cafodd is-adran (1) ei diddymu gan Ddeddf Cynllunio 2008, adrannau 188(1), (2), 238 ac Atodlen 13; diwygiwyd is-adran (2) gan Ddeddf Cynllunio 2008, adran 188(1) a (3).

(19)

O.J. Rhif L 26, 28.1.2012, t. 1-21. Diwygiwyd Cyfarwyddeb y Cyngor 2011/92/EU gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2014/52/EU, O.J. Rhif L 124, 25.4.2014, t. 1-18.

(20)

1972 p. 70. Ystyr “principal council” yw cyngor a etholwyd ar gyfer bwrdeistref sirol.

(21)

O.S. 2010/490. Ceir diwygiadau i reoliad 8 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(23)

Diwygiwyd adran 329 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) (Rhif 1) 2004 (O.S. 2004/3156 (Cy. 273)).

(24)

Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC dyddiedig 21 Mai 1992 ar warchod cynefinoedd naturiol a gwarchod ffawna a fflora gwyllt O.J. L 206, 22.7.1992, tt. 7-50.

(25)

Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 30 Tachwedd 2009 ar warchod adar gwyllt O.J. L 20, 26.1.2010, tt. 7-25.

(26)

Gweler Erthygl 2(5) o’r Gyfarwyddeb.

(27)

Diwygiwyd adran 78 gan Ddeddf 1991, adran 17(2); Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), adran 43(2); Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), adran 121 ac Atodlen 12, paragraffau 1 ac 11 ac adran 123(1) a (3); Deddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 196(4) ac Atodlen 10, paragraffau 1 a 3, adran 197 ac Atodlen 11, paragraffau 1 a 2; Deddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27), adran 1(2) ac Atodlen 1, paragraffau 1 ac 8; Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), adran 45; a chan O.S. 2014/2773 (Cy. 280), erthygl 3 ac Atodlen 1, paragraffau 1 a 3. Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(28)

Diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf 1991, adran 32, Atodlen 7, paragraff 18; Deddf Seilwaith 2015 (p. 7), adran 30(1) ac Atodlen 4, Rhan 2, paragraffau 2 ac 11(a), a chan O.S. 2014/2773 (Cy. 280), erthygl 3 ac Atodlen 1, paragraffau 1 a 2. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(30)

Gweler y diffiniad o “simplified planning zone” yn adran 336 o Ddeddf 1990.

(31)

Mae adran 141 o Ddeddf 1990 yn galluogi Gweinidogion Cymru i gymryd camau penodol mewn perthynas â chaniatâd cynllunio yn hytrach na chadarnhau hysbysiad prynu a gyflwynir iddynt yn unol ag adran 140 o Ddeddf 1990. Gellir cyflwyno hysbysiad prynu i gyngor yn unol ag adran 137 o Ddeddf 1990.

(32)

Diwygiwyd adran 174 gan adrannau 6, 32 ac 84 o Ddeddf 1991, O.S. 2004/3156 (Cy. 273) a pharagraff 22 o Ran 1 o Atodlen 19 iddi, adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24) a pharagraffau 2 a 5 o Atodlen 17 iddi a chan adran 46 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4). Ceir diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol o ran Cymru. Gweler hefyd adran 177(5) a ddiwygiwyd gan baragraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf 1991.

(33)

Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf 1991.

(34)

Mewnosodwyd adran 171C gan adran 1 o Ddeddf 1991 ac fe’i diwygiwyd gan erthygl 5(a) o O.S. 2004/3156 (Cy. 273).

(35)

Mewnosodwyd adran 171E gan adran 52 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5).

(36)

Amnewidiwyd adran 183 gan adran 9 o Ddeddf 1991.

(37)

Mewnosodwyd adran 187A gan adran 2 o Ddeddf 1991. Ceir diwygiad pellach nad yw’n berthnasol o ran Cymru.

(38)

Mewnosodwyd adran 187B gan adran 3 o Ddeddf 1991.

(39)

Diwygiwyd adran 177 gan adrannau 6(3) a 32 o Ddeddf 1991 a pharagraff 24 o Atodlen 7 iddi, a chan adran 123(1), (6) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20) a chan adran 46 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(40)

Gweler adran 177(8) o Ddeddf 1990.

(41)

Diwygiwyd paragraff 6 gan O.S. 2004/3156 (Cy. 273). Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(43)

O.S. 1992/1492. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1892 ac O.S. 1997/3006.

(44)

Diwygiwyd adran 288(1)(b) gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), adran 27 ac Atodlen 4, paragraff 16.

(45)

Mewnosodwyd is-baragraff (aa) o erthygl 22(2) gan erthygl 11(b) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 (O.S. 2016/59 (Cy. 29)).

(46)

Mae diwygiadau i adran 60 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(47)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Deddf 2004”) ac fe’i diwygiwyd gan adran 16 ac Atodlen 2, paragraffau 8 a 9 ac adran 27 a pharagraffau 1 a 17(1) i (3) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae adran 118(3) o Ddeddf 2004 yn darparu bod rhaid cymryd bod cyfeiriad yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) at ddeddfiad a ddiwygiwyd gan Ddeddf 2004 yn gyfeiriad at y deddfiad fel y’i diwygiwyd felly.

(48)

O.S. 2009/3342 (Cy. 293) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2003/755 (Cy. 90) ac O.S. 2016/58 (Cy. 28) gweler ar gyfer ceisiadau ROMP a wnaed cyn 15 Tachwedd 2000.

(50)

Gweler Papur Gorchymyn 6993.

(51)

Gweler Papur Gorchymyn 6614.

(52)

O.J. Rhif L 194, 25.7.1975, t. 39. Diwygiwyd Cyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/156/EEC (O.J. Rhif L 78, 26.3.1991, t. 32) a chan Benderfyniad y Comisiwn 94/3/EC (O.J. Rhif L 5, 7.1.1994, t. 15).

(54)

O.J. Rhif L 135, 30.5.1991, t. 40.

(55)

O.J. Rhif L 140, 5.6.2009, t. 114.

(56)

1991 p. 57. Gweler adran 104.

(58)

Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC dyddiedig 21 Mai 1992 ar warchod cynefinoedd naturiol a fflora a ffawna O.J. L 206, 22/07/1992 tt. 7-50.

(59)

Cyfarwyddeb 2009/147/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 30 Tachwedd 2009 ar warchod adar gwyllt O.J. L 20, 26/1/2010, tt. 7-25.

(62)

Gweler adran 99(7) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â gorchmynion a gadarnhawyd gan Weinidogion Cymru.

(63)

Mewnosodir erthygl 12(7A) yng Ngorchymyn 2012 gan baragraff 1(3)(h) o Atodlen 9 i’r Rheoliadau hyn.

(64)

Ar gyfer ystyr “cais ROMP” a “ROMP” gweler rheoliad 55(1).

(65)

Mae darpariaethau Gorchymyn 2012 yn gymwys i geisiadau o dan baragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno.

(66)

Mewnosodir paragraff (3A) yng Ngorchymyn 2012 gan baragraff 1(3)(c) o Atodlen 9 i’r Rheoliadau hyn.

(67)

Gweler paragraff 8(2) o’r Atodlen hon.

(68)

Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i geisiadau o dan baragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 fel y’u cymhwysir gan baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991.

(69)

Diwygiwyd rheoliad 11 gan O.S. 1999/1810 ac O.S. 1999/1892.

(70)

Diwygiwyd paragraff 3 gan Ddeddf 1991, Atodlen 1, paragraff 15(6).

(71)

Diwygiwyd erthygl 12 gan erthyglau 2 a 5(a) o O.S. 2015/1330 (Cy. 123) a chan erthyglau 2 a 10(2) o O.S. 2016/59 (Cy. 29).

(73)

Mewnosodwyd erthygl 15A(2) gan erthyglau 2 a 7 o O.S. 2015/1330 (Cy. 123). Fe’i digwygiwyd ymhellach gan erthyglau 2 a 10(5)(b) o O.S. 2016/59 (Cy. 29).

(75)

O.S. 1995/418 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(79)

O.J. Rhif L 175, 5.7.1985, t. 40. Diwygiwyd Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC, O.J. Rhif L 73, 14.3.1997, t. 5; Cyfarwyddeb 2003/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, O.J. Rhif L 156, 25.6.2003, t. 17; a Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, O.J. Rhif L 140, 5.6.2009, t. 114. Cafodd Cyfarwyddeb 1985 a darpariaethau diwygio Cyfarwyddeb ddilynol eu codeiddio yn y Gyfarwyddeb, O.J. Rhif L 26 28.1.2012, t. 1.

(80)

O.J. Rhif L 26, 28.1.2012, t. 1.

(81)

O.J. Rhif L 124, 25.4.2014, t. 1.

(82)

1990 p. 8.