- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Rhaid i gais a wneir o dan Atodlen 2 i Ddeddf 2006, at y diben o unioni tir comin heb ei gofrestru neu dir comin a gam-gofrestrwyd o dan Ddeddf 1965, gael ei wneud ar neu cyn 4 Mai, 2032.
(2) Rhaid i gais a wneir o dan Atodlen 2 i Ddeddf 2006 gynnwys disgrifiad o’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(3) Mewn cais a wneir o dan baragraff 2 neu 3 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006, ni chaiff y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef gynnwys tir sydd wedi ei orchuddio gan adeilad neu sydd o fewn cwrtil adeilad os yw’r holl gydsyniadau adeiladu angenrheidiol wedi eu cael (ac y darperir tystiolaeth o gydsyniadau o’r fath) ac nad yw perchennog y tir hwnnw yn cydsynio i’w gofrestru.
(4) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff 2 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006 gynnwys—
(a)tystiolaeth o gymhwysiad y paragraff hwnnw, fel y’i disgrifir ym mharagraff 2(2) o’r Atodlen honno, i’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(b)copi o unrhyw ddeddfiad neu gynllun y cyfeirir ato ym mharagraff 2(2)(b) o’r Atodlen honno, y mae’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn cael ei reoleiddio, ei gydnabod neu ei ddynodi drwyddo, neu y mae’n ddarostyngedig iddo;
(c)tystiolaeth, os yw’n gymwys, bod unrhyw gydsyniad y cyfeirir ato o dan is-baragraff (3) wedi ei roi.
(5) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff 3 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006 gynnwys—
(a)tystiolaeth o gymhwysiad y paragraff hwnnw, fel y’i disgrifir ym mharagraff 3(2) o’r Atodlen honno, i’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(b)copi o unrhyw ddeddfiad y neilltuwyd y tir ganddo neu oddi tano (ac y mae’n parhau i gael ei neilltuo), gan gynnwys unrhyw ddyfarniad; ac
(c)tystiolaeth, os yw’n gymwys, bod unrhyw gydsyniad y cyfeirir ato o dan is-baragraff (3) wedi ei roi.
(6) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff 4, 5, 6, 7, 8 neu 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006 gynnwys tystiolaeth o gymhwysiad y paragraff priodol, fel y’i disgrifir ym mharagraff 4(2), 5(2), 6(2), 7(2), 8(2) neu 9(2) o’r Atodlen honno, i’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: