xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2Ceisiadau a chynigion i ddiwygio’r Cofrestrau

Gwneud cais

5.—(1Rhaid i gais—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig ar ffurflen a ddarperir gan Weinidogion Cymru ar gyfer cais o’r math hwnnw;

(b)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn y ffurflen; a

(c)cael ei lofnodi gan bob ymgeisydd sy’n unigolyn, neu gynrychiolaeth iddo, a chan yr ysgrifennydd neu ryw swyddog arall a awdurdodwyd yn briodol i bob ceisydd sy’n gorff corfforaethol neu’n gymdeithas anghorfforedig.

(2Mae Atodlen 1 yn cynnwys darpariaethau sy’n gymwys mewn perthynas â’r mathau penodol o geisiadau a restrir o ran—

(a)yr amgylchiadau pan ganiateir i’r cais gael ei wneud; a

(b)y materion y mae’n rhaid eu cynnwys yn y cais neu, yn ddarostyngedig i baragraff (3), y mae’n rhaid iddynt gyd-fynd â’r cais.

(3Nid yw’n ofynnol i geisydd gynnwys copi o unrhyw ddogfen a bennir yn Atodlen 1 gyda’r cais—

(a)os yr awdurdod cofrestru a ddyroddodd y ddogfen, neu os oedd yn barti i’r ddogfen; neu

(b)os yw’r ddogfen wedi ei hadneuo gyda’r awdurdod cofrestru yn unol ag unrhyw ddeddfiad.

Ffioedd gwneud cais

6.—(1Rhaid i gais gyd-fynd ag unrhyw ffi (os o gwbl) a bennir ar gyfer cais o’r math hwnnw gan yr awdurdod cofrestru y caiff ei gyflwyno iddo.

(2Rhaid i awdurdod cofrestru gyhoeddi’r ffi a bennir ganddo sy’n daladwy mewn perthynas â chais ar ei wefan.

(3Pan fo ffi a bennwyd am y tro cyntaf gan awdurdod cofrestru o dan y rheoliad hwn yn cael ei ddiwygio wedi hynny gan yr awdurdod hwnnw, ac yn achos unrhyw ddiwygiad pellach, rhaid cyhoeddi ffi ddiwygiedig o’r fath ar wefan yr awdurdod ddim llai na 14 o ddiwrnodau cyn y bydd ffi o’r fath yn cymryd effaith.

(4Ni chaniateir pennu ffi ar gyfer cais a wneir o dan ddarpariaeth a restrir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, ac at ddibenion y ddarpariaeth honno.

(5Pan fo rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i berson penodedig ddyfarnu cais, rhaid i’r ceisydd anfon y ffi ychwanegol (os o gwbl) a bennir ar gyfer cais o’r math hwnnw gan y person penodedig at y person hwnnw.

(6Caiff ffi fod yn daladwy ar y cyfryw adegau ac yn y cyfryw randaliadau a bennir gan yr awdurdod cofrestru a’r person penodedig.

(7Rhaid i unrhyw ffi a godir gan yr awdurdod cofrestru neu’r person penodedig fod yn rhesymol ar gyfer y gwaith a wnaed neu sydd i’w wneud.

(8Nid oes rhaid i awdurdod cofrestru na pherson penodedig gymryd unrhyw gamau i ymdrin â chais hyd nes y bydd y ceisydd wedi talu’r ffi benodedig iddo.

Gwneud cynnig

7.—(1Cyn cymryd unrhyw gamau eraill o dan y Rhan hon mewn perthynas â chynnig, rhaid i awdurdod cofrestru lunio datganiad ysgrifenedig yn disgrifio’r cynnig ac yn egluro’r cyfiawnhad drosto.

(2Ni chaiff awdurdod cofrestru fwrw ymlaen â chynnig o dan Atodlen 2 i Ddeddf 2006 oni bai ei fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1), a pharagraffau (2) i (5) o reoliad 11, ar 4 Mai 2032, neu cyn hynny.

Disgrifiadau tir

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ofyniad i ddisgrifio tir at ddibenion cais neu gynnig, ac eithrio pan fo darpariaeth arall o’r Rheoliadau hyn yn pennu’r modd y dylid disgrifio tir mewn achos penodol.

(2Rhaid disgrifio’r tir, ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, drwy gyfrwng Map Ordnans sy’n cyd-fynd â’r cais neu’r cynnig ac y cyfeirir ato yn y cais neu’r cynnig hwnnw.

(3Pan fo’r tir yn dir cofrestredig, a bod y cais yn ymwneud â’r cyfan o’r tir mewn uned gofrestr, rhaid disgrifio’r tir drwy gyfeirio at rif yr uned gofrestr honno.

(4Pan fo rhan o’r tir yn dir cofrestredig, rhaid disgrifio’r rhan honno o’r tir drwy gyfeirio at rif unrhyw uned gofrestr sy’n cynnwys y rhan honno.

(5Ym mharagraffau (3) a (4), mae’r cyfeiriadau at “tir cofrestredig” yn cynnwys tir a gofrestrwyd dros dro o dan Ddeddf 1965, ond na chafodd y cofrestriad ei gadarnhau wedi hynny, ac yn yr achos hwnnw mae’r gofyniad o dan y paragraffau hynny i’w fodloni drwy ddisgrifio tir o’r fath drwy gyfeirio at y rhif y cafodd ei gofrestru dros dro oddi tano.

(6Rhaid i unrhyw Fap Ordnans sy’n cyd-fynd â chais neu gynnig ddangos y tir sydd i’w ddisgrifio drwy gyfrwng lliw amlwg o fewn ffin a nodwyd yn gywir, a rhaid i’r map fod ar raddfa o ddim llai na 1:2,500 os yw ar gael, ac ni ddylai mewn unrhyw achos fod yn llai na 1:10,000.

Rheoli cais

9.—(1Rhaid i’r awdurdod cofrestru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael cais ac (os o gwbl) y ffi a bennir, anfon at y ceisydd i gydnabod bod y cais wedi dod i law, a rhaid i’r gydnabyddiaeth gynnwys—

(a)y cyfeirnod a ddyrannwyd i’r cais; a

(b)cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost i anfon gohebiaeth ysgrifenedig i’r awdurdod cofrestru iddynt.

(2Caiff yr awdurdod cofrestru roi cyfarwyddyd i’r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau pellach sy’n angenrheidiol i alluogi i’r cais gael ei ddyfarnu.

(3Caiff yr awdurdod cofrestru bennu amser ar gyfer cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn.

(4Os yw’r ceisydd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn neu, pan fo’n gymwys, yn methu â chydymffurfio o fewn yr amser a bennwyd, caiff yr awdurdod cofrestru drin y cais fel petai wedi ei ollwng.

Dyletswydd yr awdurdod cofrestru i roi cyhoeddusrwydd i gais

10.—(1Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais sy’n cydymffurfio â rheoliadau 5 (gwneud cais) a 6 (ffioedd gwneud cais), rhaid i’r awdurdod cofrestru—

(a)cyhoeddi ar ei wefan hysbysiad o’r cais;

(b)cyflwyno hysbysiad o’r cais drwy e-bost i unrhyw un sydd wedi gofyn yn flaenorol i gael gwybod am yr holl geisiadau, ac sydd wedi rhoi cyfeiriad e-bost i’r awdurdod cofrestru at y diben hwnnw; ac

(c)yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), cyflwyno hysbysiad o’r cais i bob un o’r personau a bennir yn Atodlen 3 mewn perthynas â chais o’r math hwnnw.

(2Mewn perthynas ag unrhyw gais, caiff yr awdurdod cofrestru benderfynu nad yw paragraff 1(c) o Atodlen 3 yn gymwys mewn cysylltiad â’r gofyniad i gyflwyno hysbysiad i’r personau sydd wedi eu cofrestru fel perchnogion hawliau comin mewn gros, os yw’n ystyried bod y personau hynny mor niferus fel na fyddai’n rhesymol ymarferol cyflwyno hysbysiad o’r cais i bob un ohonynt.

(3Nid yw gofyniad yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 3 i gyflwyno hysbysiad i berchennog tir yn gymwys os nad yw’n rhesymol ymarferol nodi pwy yw’r person hwnnw.

(4Mae’r gofynion ym mharagraff (5) yn gymwys mewn perthynas â—

(a)cais o dan adran 19 o Ddeddf 2006, i ddileu tir cofrestredig o gofrestr, neu ychwanegu tir ati; neu

(b)cais o dan Atodlen 2 i Ddeddf 2006.

(5Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais o’r fath, rhaid i’r awdurdod cofrestru—

(a)arddangos hysbysiad o’r cais am ddim llai na 42 o ddiwrnodau wrth neu gerllaw o leiaf un fynedfa amlwg (neu, os nad oes mannau o’r fath, wrth neu gerllaw o leiaf un man amlwg ar y ffin) i’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(b)cyflwyno hysbysiad o’r cais i bob awdurdod lleol arall yn yr ardal honno; ac

(c)cyflwyno hysbysiad o’r cais i unrhyw gyngor tiroedd comin a sefydlir ar gyfer tir sy’n cynnwys y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.

(6Pan fo hysbysiad sy’n cael ei arddangos o dan baragraff (5)(a), heb unrhyw fai ar yr awdurdod cofrestru nac unrhyw fwriad ganddo, yn cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 42 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw fynd heibio, mae’r awdurdod i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw.

Dyletswydd yr awdurdod cofrestru i roi cyhoeddusrwydd i gynnig

11.—(1Rhaid i awdurdod cofrestru sydd wedi llunio datganiad o gynnig yn unol â rheoliad 7(1), cyn cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cynnig, gydymffurfio â pharagraffau (2) i (5).

(2Rhaid i’r awdurdod cofrestru gyhoeddi ar ei wefan hysbysiad o’r cynnig.

(3Os y cynnig yw cofrestru neu ddatgofrestru unrhyw dir yn dir comin neu’n faes tref neu bentref, rhaid i’r awdurdod cofrestru arddangos hysbysiad o’r cynnig am ddim llai na 42 o ddiwrnodau wrth neu gerllaw o leiaf un fynedfa amlwg (neu, os nad oes mannau o’r fath, wrth neu gerllaw o leiaf un man amlwg ar y ffin) i’r tir y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef.

(4Rhaid i’r awdurdod cofrestru gyflwyno hysbysiad o’r cynnig i’r personau a ganlyn—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (7), perchennog unrhyw dir sy’n ffurfio’r uned gofrestr gyfan neu unrhyw ran ohoni y mae’r cynnig yn ymwneud â hi;

(b)unrhyw berson sydd wedi gwneud datganiad, a gofnodwyd yn briodol yn y gofrestr, o hawlogaeth i hawl comin dros unrhyw dir sy’n ffurfio’r uned gofrestr gyfan neu unrhyw ran ohoni y mae’r cynnig yn ymwneud â hi;

(c)unrhyw gyngor tiroedd comin a sefydlir ar gyfer tir sy’n cynnwys y tir y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef;

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (8), unrhyw berchennog hawl comin mewn gros sy’n arferadwy dros unrhyw dir sy’n ffurfio’r uned gofrestr gyfan neu unrhyw ran ohoni y mae’r cynnig yn ymwneud â hi; ac

(e)pob awdurdod lleol arall yn yr ardal honno.

(5Rhaid i’r awdurdod cofrestru hefyd gyflwyno hysbysiad o’r cynnig drwy e-bost i unrhyw berson arall sydd wedi gofyn yn flaenorol i gael gwybod am yr holl gynigion, ac sydd wedi rhoi cyfeiriad e-bost i’r awdurdod cofrestru at y diben hwnnw.

(6Pan fo hysbysiad sy’n cael ei arddangos o dan baragraff (3), heb unrhyw fai ar yr awdurdod cofrestru nac unrhyw fwriad ganddo, yn cael ei dynnu ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 42 o ddiwrnodau y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw fynd heibio, mae’r awdurdod i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw.

(7Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4)(a) yn gymwys os nad yw’n rhesymol ymarferol nodi pwy yw’r person hwnnw.

(8Caiff yr awdurdod cofrestru, mewn perthynas ag unrhyw gynnig, benderfynu nad yw paragraff (4)(d) i fod yn gymwys, os yw’n ystyried bod y personau sydd wedi eu cofrestru fel perchnogion hawliau comin mewn gros mor niferus fel na fyddai’n rhesymol ymarferol iddo gyflwyno hysbysiad o’r cynnig i bob un ohonynt.

Cynnwys hysbysiad o gais neu gynnig

12.—(1Rhaid i hysbysiad o gais neu gynnig y mae’n ofynnol iddo gael ei gyhoeddi, ei arddangos neu ei gyflwyno o dan reoliad 10 (dyletswydd yr awdurdod cofrestru i roi cyhoeddusrwydd i gais) neu 11 (dyletswydd yr awdurdod cofrestru i roi cyhoeddusrwydd i gynnig) gynnwys y manylion a ganlyn—

(a)cyfeiriad at “Deddf Tiroedd Comin 2006”, a darpariaeth y Ddeddf honno y gwneir y cais neu’r cynnig oddi tani (neu yn unol â hi);

(b)enw’r ceisydd (yn achos cais);

(c)enw’r awdurdod cofrestru;

(d)enw a lleoliad y tir y mae’r cais neu’r cynnig yn ymwneud ag ef;

(e)crynodeb o effaith y cais (os caiff ei ganiatáu) neu’r cynnig (os gwneir penderfyniad i roi effaith iddo);

(f)cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost yr awdurdod cofrestru y caniateir anfon unrhyw sylwadau ynghylch y cais neu’r cynnig iddynt;

(g)datganiad na fydd unrhyw sylwadau yn cael eu trin yn gyfrinachol, ond yr ymdrinnir â hwy yn unol â rheoliad 14, a phan fo’r cais neu’r cynnig yn cael ei atgyfeirio at berson penodedig i’w ddyfarnu yn unol â rheoliad 15, bydd unrhyw sylwadau’n cael eu hanfon at y person penodedig;

(h)y dyddiad y daw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i ben, na ddylai fod yn llai na 42 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad cyhoeddi, arddangos neu gyflwyno’r hysbysiad; ac

(i)cyfeiriad yr awdurdod cofrestru lle mae’r dogfennau sy’n ymwneud â’r cais neu’r cynnig ar gael i’w harchwilio.

Archwilio copïau o ddogfennau

13.—(1Rhaid i’r awdurdod cofrestru sicrhau bod copïau o’r dogfennau a ganlyn ar gael i’w harchwilio yn y cyfeiriad a bennwyd at y diben hwnnw mewn unrhyw hysbysiad o’r cais neu’r cynnig—

(a)yn achos cais, copïau o’r cais ac unrhyw ddogfennau sy’n cyd-fynd â’r cais; neu

(b)yn achos cynnig, copïau o—

(i)y datganiad a luniwyd yn unol â rheoliad 7(1); a

(ii)unrhyw ddogfennau sydd ym meddiant yr awdurdod cofrestru sy’n berthnasol i’r cynnig.

(2Rhaid i’r amserau a’r dyddiadau pan fo’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ar gael i’w harchwilio gynnwys yr holl oriau swyddfa arferol yn ystod cyfnod o ddim llai na 42 o ddiwrnodau sy’n dod i ben pan ddaw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau i ben.

Sylwadau

14.—(1Caiff unrhyw berson gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod cofrestru ynghylch y cais neu’r cynnig erbyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o gais neu gynnig.

(2O ran y sylwadau o dan baragraff (1)—

(a)rhaid iddynt nodi enw a chyfeiriad post y person sy’n eu gwneud, a natur buddiant y person hwnnw (os o gwbl) mewn unrhyw dir y mae’r cais neu’r cynnig yn effeithio arno;

(b)cânt gynnwys cyfeiriad e-bost y person sy’n eu gwneud;

(c)rhaid iddynt fod wedi eu llofnodi gan y person sy’n eu gwneud; a

(d)rhaid iddynt nodi ar ba sail y’u gwneir.

(3Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â chais ddod i ben, rhaid i’r awdurdod cofrestru—

(a)hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw sylwadau wedi eu cyflwyno; neu

(b)rhoi copi i’r ceisydd o’r holl sylwadau sydd wedi dod i law.

(4Caiff y ceisydd ymateb yn ysgrifenedig i’r awdurdod cofrestru o fewn 21 diwrnod calendr o gael copi o’r sylwadau (neu o fewn cyfnod hwy fel y caiff yr awdurdod cofrestru bennu wrth gyflwyno’r copi o’r sylwadau), gan nodi ymateb y ceisydd i’r sylwadau.

(5Rhaid i ymateb o dan baragraff (4) gael ei lofnodi gan y person sy’n ei wneud.

(6Pan fo’r ceisydd yn ymateb o dan baragraff (4), rhaid i’r awdurdod cofrestru anfon copi ohono at bob person a gyflwynodd sylwadau o dan baragraff (1).

Y cyfrifoldeb dros ddyfarnu ceisiadau a chynigion

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2)—

(a)rhaid i gais a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn gael ei ddyfarnu gan yr awdurdod cofrestru sy’n gyfrifol am y gofrestr lle cofnodir y tir y mae’r cynnig yn ymwneud ag ef, neu awdurdod cofrestru sydd â’r pŵer i ddyfarnu ceisiadau ar ran awdurdod cofrestru o’r fath; a

(b)rhaid i awdurdod cofrestru sydd wedi gwneud cynnig yn unol â’r Rheoliadau hyn ddyfarnu pa un ai i ddiwygio ei gofrestrau yn unol â’r cynnig ai peidio.

(2Yn yr achosion a bennir ym mharagraff (3), rhaid i awdurdod cofrestru gyfeirio at y person penodedig er mwyn iddo ddyfarnu—

(a)unrhyw gais a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn; a

(b)unrhyw gynnig a wneir gan yr awdurdod cofrestru yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(3Yr achosion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) uchod yw achosion pan fo gan yr awdurdod cofrestru fuddiant yng nghanlyniad y cais neu’r cynnig i’r graddau ei bod yn annhebygol y bydd hyder yng ngallu’r awdurdod i’w ddyfarnu’n ddiduedd, neu pan fo person sydd â buddiant cyfreithiol yn y tir sy’n destun cais neu gynnig (neu rywun sy’n gweithredu ar ran person o’r fath) wedi gwneud (a heb dynnu’n ôl wedi hynny) sylwadau sy’n gyfystyr â gwrthwynebiad mewn cysylltiad â’r cais neu’r cynnig, ac—

(a)y gwneir y cais neu’r cynnig o dan adran 19(4) o Ddeddf 2006, a’i fod yn ceisio—

(i)ychwanegu tir at gofrestr, neu dynnu tir oddi ar gofrestr; neu

(ii)cywiro gwall o ran meintoliad hawliau comin mewn cofrestr; neu

(b)y gwneir y cais neu’r cynnig o dan unrhyw un o baragraffau 2 i 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 2006.

(4Pan fo’r awdurdod cofrestru yn cyfeirio cais neu gynnig at berson penodedig i’w ddyfarnu—

(a)rhaid i’r awdurdod cofrestru roi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei gyfeirio at berson awdurdodedig i’w ddyfarnu;

(b)rhaid i’r awdurdod cofrestru anfon yr holl ddeunyddiau yn ei feddiant sy’n berthnasol i’r dyfarniad ynghylch y cais neu’r cynnig at y person penodedig;

(c)yn achos cais, caiff y person penodedig gyfarwyddo’r ceisydd i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau pellach sy’n angenrheidiol i alluogi i’r cais gael ei ddyfarnu; a

(d)caiff y person penodedig gyfarwyddo’r awdurdod cofrestru i ddarparu unrhyw wybodaeth neu ddogfennau pellach sy’n angenrheidiol i alluogi i’r cais neu’r cynnig gael ei ddyfarnu.

(5Caiff y person penodedig bennu amser ar gyfer cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn.

(6Os yw’r ceisydd yn methu â chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn neu, os yw’n gymwys, yn methu â chydymffurfio o fewn yr amser a bennwyd, caiff y person penodedig drin y cais fel petai wedi ei ollwng.

Y dull o ddyfarnu ceisiadau a chynigion

16.—(1Rhaid i’r awdurdod sy’n dyfarnu ystyried yr hyn a ganlyn wrth ddyfarnu unrhyw gais neu gynnig—

(a)cynnwys y cais neu’r cynnig, ac unrhyw ddeunydd sy’n cyd-fynd ag ef;

(b)unrhyw ddeunydd a ddarperir gan yr awdurdod cofrestru o dan reoliad 15(4)(b);

(c)yn achos cais, unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth bellach a ddarperir gan y ceisydd yn unol â chyfarwyddyd o dan reoliad 9(2) neu 15(4)(c);

(d)yn achos cynnig, unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth bellach a ddarperir gan yr awdurdod cofrestru yn unol â chyfarwyddyd o dan reoliad 15(4)(d);

(e)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wneir gan unrhyw berson yn unol â rheoliad 14, neu yn unol â gwahoddiad o dan baragraff (4);

(f)unrhyw sylwadau ar lafar a wneir gan unrhyw berson yn unol â pharagraff (7);

(g)canfyddiadau arolygiad o safle, os o gwbl; a

(h)pan fo arolygydd wedi cynnal ymchwiliad cyhoeddus neu wrandawiad—

(i)y dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr ymchwiliad neu’r gwrandawiad (os yw’r dyfarniad yn cael ei wneud gan yr arolygydd a fu’n gwrando ar y dystiolaeth); neu

(ii)adroddiad ac argymhelliad yr arolygydd (os nad yw’r dyfarniad yn cael ei wneud gan yr arolygydd).

(2Caiff yr awdurdod sy’n dyfarnu ddod i benderfyniad bod ymchwiliad cyhoeddus i’w gynnal mewn perthynas ag unrhyw gais neu gynnig.

(3Pan mai person penodedig yw’r awdurdod sy’n dyfarnu, caiff benderfynu y dylid cynnal gwrandawiad yn unol â rheoliad 21 mewn perthynas ag unrhyw gais neu gynnig.

(4Caiff yr awdurdod sy’n dyfarnu, os yw o’r farn bod hynny’n angenrheidiol er mwyn galluogi i gais neu gynnig gael ei ddyfarnu, wahodd sylwadau ysgrifenedig pellach ynghylch unrhyw fater penodedig gan—

(a)y ceisydd, yn achos cais;

(b)yr awdurdod cofrestru, yn achos cynnig;

(c)person sydd wedi cyflwyno sylwadau yn unol â rheoliad 14; neu

(d)unrhyw berson arall,

a chaiff nodi’r amser y mae’n rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau pellach o’i fewn.

(5Rhaid i sylwadau a wneir yn unol â gwahoddiad o dan baragraff (4) gael eu llofnodi gan y person sy’n eu gwneud.

(6Mae paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gais neu gynnig y mae’r awdurdod sy’n dyfarnu yn penderfynu ei ddyfarnu heb gynnal ymchwiliad cyhoeddus neu, pan mai person penodedig yw’r awdurdod sy’n dyfarnu, gwrandawiad yn unol â rheoliad 21.

(7Ni chaiff yr awdurdod sy’n dyfarnu—

(a)gwrthod cais heb yn gyntaf gynnig cyfle i’r ceisydd wneud sylwadau ar lafar; a

(b)rhoi neu wrthod cais neu gynnig heb yn gyntaf gynnig cyfle i unrhyw berson (ac eithrio’r ceisydd) y byddai rhoi neu wrthod cais neu gynnig (yn ôl y digwydd) yn cynrychioli dyfarniad o hawliau sifil y person hwnnw i wneud sylwadau ar lafar.

Hysbysiad o ymchwiliad cyhoeddus neu wrandawiad

17.—(1Os yw ymchwiliad cyhoeddus neu wrandawiad i’w gynnal mewn perthynas â chais neu gynnig, rhaid i’r awdurdod sy’n dyfarnu sicrhau, mewn perthynas â hysbysiad o’r ymchwiliad neu’r gwrandawiad—

(a)y’i cyhoeddir ar wefan briodol;

(b)y’i cyflwynir—

(i)i’r awdurdod sy’n cyfeirio, os person penodedig yw’r awdurdod sy’n dyfarnu;

(ii)yn achos cais, i’r ceisydd;

(iii)i unrhyw berson sydd wedi gwneud sylwadau yn unol â rheoliad 14; a

(iv)i unrhyw berson arall y gwnaeth yr awdurdod sy’n dyfarnu ei wahodd o dan reoliad 16(4)(d) i wneud sylwadau ysgrifenedig; ac

(c)y rhoddir cyhoeddusrwydd iddo, fel y mae’r awdurdod sy’n dyfarnu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, drwy’r cyfryw ddulliau eraill neu ei gyflwyno i’r cyfryw bersonau eraill fel y bo’n briodol i ddwyn yr ymchwiliad i sylw personau y mae’r cais neu’r cynnig yn debygol o effeithio arnynt.

Ymchwiliadau cyhoeddus: darpariaethau cyffredinol

18.—(1Pan benderfynwyd cynnal ymchwiliad cyhoeddus mewn perthynas â chais neu gynnig, rhaid i’r awdurdod sy’n dyfarnu benodi arolygydd—

(a)i gynnal yr ymchwiliad; a

(b)os nad yr arolygydd sydd hefyd i ddyfarnu’r cais, i ddarparu adroddiad ac argymhelliad i’r awdurdod sy’n dyfarnu.

(2Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r rheoliad hwn, ac i reoliad 20, mae’r weithdrefn ar gyfer yr ymchwiliad i’w phennu gan yr arolygydd, gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos.

(3Pan nad yw’r arolygydd yn bwriadu cynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad, caiff yr arolygydd roi’r cyfryw gyfarwyddydau yn baratoad at yr ymchwiliad ag y gellid bod wedi eu rhoi mewn cyfarfod o’r fath, ac nid yw rhoi cyfarwyddydau o dan y paragraff hwn yn atal cyfarfod cyn yr ymchwiliad rhag cael ei gynnal wedi hynny, os yw’r arolygydd yn ystyried ei bod yn ddymunol, nac ychwaith yn atal yr arolygydd rhag rhoi cyfarwyddydau pellach mewn cyfarfod o’r fath.

(4Caiff unrhyw berson sydd â buddiant yn nhestun ymchwiliad ymddangos yn yr ymchwiliad drosto’i hun neu drwy gynrychiolydd.

(5Caiff yr arolygydd, yn ystod unrhyw gam o ymchwiliad, atal unrhyw berson rhag—

(a)rhoi tystiolaeth;

(b)croesholi person sy’n rhoi tystiolaeth; neu

(c)cyflwyno unrhyw fater,

os yw’r arolygydd yn ystyried nad yw’n berthnasol neu ei fod yn ailadroddus.

(6Os yw person yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, caiff yr arolygydd—

(a)ei gwneud yn ofynnol i berson adael ymchwiliad;

(b)rhwystro person rhag cymryd rhan yn yr ymchwiliad drwy roi tystiolaeth, croesholi person sy’n rhoi tystiolaeth neu gyflwyno unrhyw fater; neu

(c)caniatáu i berson aros yn yr ymchwiliad, neu i gymryd rhan ynddo o dan amodau penodedig yn unig.

(7Caiff yr arolygydd fwrw ymlaen ag ymchwiliad yn absenoldeb unrhyw berson a chanddo hawl i ymddangos ynddo.

(8Caiff yr arolygydd gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau ysgrifenedig neu dystiolaeth neu unrhyw ddogfen arall a ddaeth i law’r arolygydd oddi wrth unrhyw berson cyn dechrau ymchwiliad neu yn ystod ymchwiliad ar yr amod bod yr arolygydd yn eu datgelu yn yr ymchwiliad.

(9Caiff yr arolygydd, os bernir bod hynny’n rhesymol o dan yr amgylchiadau—

(a)gohirio ymchwiliad hyd ddyddiad arall;

(b)gohirio ymchwiliad er mwyn mynd i safle unrhyw dir yr effeithir arno gan y cais neu’r cynnig, a chynnal rhan o’r ymchwiliad ar y safle hwnnw ar y cyd ag arolygiad o’r safle.

Cyfarfod cyn yr ymchwiliad

19.—(1Pan benderfynwyd cynnal ymchwiliad cyhoeddus, caiff yr arolygydd, os yw’n ystyried ei bod yn ddymunol, gynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad i bennu pa faterion i fynd i’r afael â hwy a’r weithdrefn i’w dilyn yn yr ymchwiliad.

(2Os yw’r arolygydd yn penderfynu cynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad, rhaid rhoi hysbysiad o ddim llai na 14 diwrnod calendr yn ysgrifenedig i—

(a)y ceisydd, yn achos cais;

(b)yr awdurdod cofrestru;

(c)unrhyw berson sydd wedi gwneud sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cynnig neu’r cais; a

(d)unrhyw berson arall y mae’r arolygydd yn ystyried ei bod yn ddymunol iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod cyn yr ymchwiliad.

(3Mae paragraffau (2) a (4) i (7) o reoliad 18 (i’r graddau y maent yn berthnasol) yn gymwys i gyfarfodydd cyn yr ymchwiliad fel y maent yn gymwys i ymchwiliadau.

(4Caiff yr arolygydd, mewn cyfarfod cyn yr ymchwiliad—

(a)rhoi cyfar0wyddydau ynghylch pethau sydd i’w gwneud i baratoi ar gyfer yr ymchwiliad i—

(i)y ceisydd, yn achos cais;

(ii)yr awdurdod cofrestru; a

(iii)unrhyw berson arall sy’n dymuno ymddangos yn yr ymchwiliad; a

(b)pennu dyddiad neu ddyddiadau erbyn pryd y mae’n rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyfryw gyfarwyddydau.

(5Yn benodol, caiff yr arolygydd roi cyfarwyddyd i unrhyw berson sy’n dymuno rhoi tystiolaeth i gyflwyno datganiad ysgrifenedig o’r dystiolaeth honno i—

(a)yr arolygydd; a

(b)personau eraill y caiff yr arolygydd eu pennu.

Gweithdrefn ymchwiliadau

20.—(1Ar ddechrau ymchwiliad, rhaid i’r arolygydd—

(a)nodi’r prif faterion i’w hystyried yn yr ymchwiliad;

(b)nodi unrhyw faterion y mae angen eglurhad pellach yn eu cylch gan unrhyw berson sy’n ymddangos yn yr ymchwiliad; ac

(c)egluro’r weithdrefn sydd i’w dilyn yn yr ymchwiliad.

(2Nid yw paragraff (1)(a) yn atal materion eraill rhag cael eu hystyried yn yr ymchwiliad, nac (yn ddarostyngedig i bwerau’r adolygydd o dan reoliad 18(5)) materion a godir gan bersonau sy’n ymddangos yn yr ymchwiliad.

(3Os yw person sy’n rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad wedi darparu datganiad ysgrifenedig o dystiolaeth yn unol â chyfarwyddyd o dan reoliad 18(3) neu 19(5), caiff yr arolygydd gyfarwyddo—

(a)bod y datganiad ysgrifenedig i’w drin fel tystiolaeth y person, neu fel rhan o dystiolaeth y person; a

(b)y caiff partïon eraill yn yr ymchwiliad groesholi’r person ynghylch y datganiad ysgrifenedig.

Gwrandawiadau

21.—(1Pan fo person penodedig yn penderfynu bod gwrandawiad i’w gynnal mewn perthynas â chais neu gynnig ac ef yw’r awdurdod sy’n dyfarnu, rhaid iddo benodi arolygydd i gynnal y gwrandawiad.

(2Rhaid cynnal gwrandawiad ar ffurf trafodaeth a arweinir gan yr arolygydd.

(3Mae paragraffau (2) a (4) i (9) o reoliad 18 yn gymwys i wrandawiad fel y maent yn gymwys i ymchwiliad cyhoeddus.

(4Yn ddarostyngedig i reoliad 18(5) i (7)—

(a)yn achos cais, mae gan y ceisydd yr hawl i roi, neu alw ar berson arall i roi, tystiolaeth ar lafar; a

(b)caiff unrhyw berson arall roi tystiolaeth ar lafar gyda chaniatâd yr arolygydd.

(5Ni chaniateir croesholi onid yw’r arolygydd yn penderfynu ei bod yn angenrheidiol i sicrhau archwiliad digonol o’r materion.

Arolygiadau safle

22.—(1Pan fo arolygydd yn cael ei benodi i gynnal ymchwiliad cyhoeddus, rhaid i’r arolygydd (oni bai y gwrthodir unrhyw ganiatâd sy’n angenrheidiol i wneud hynny) arolygu’r tir y mae’r cais neu’r cynnig yn effeithio arno cyn dyfarnu’r cais neu’r cynnig neu lunio adroddiad i’r awdurdod sy’n dyfarnu.

(2Mewn unrhyw achos arall, cyn i gais neu gynnig gael ei ddyfarnu, caiff yr awdurdod sy’n dyfarnu gynnal arolygiad o’r tir y mae’r cais neu’r cynnig yn effeithio arno.

(3Cyn cynnal arolygiad o safle o dan baragraff (1) neu (2) mewn perthynas â chais, rhaid i’r arolygydd neu’r awdurdod sy’n dyfarnu ofyn i’r ceisydd pa un a yw’r ceisydd yn dymuno bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli.

(4Os yw’r ceisydd yn mynegi dymuniad i fod yn bresennol neu gael ei gynrychioli, rhaid i’r arolygydd neu’r awdurdod sy’n dyfarnu roi hysbysiad rhesymol i’r ceisydd o ddyddiad ac amser yr arolygiad, a rhoi’r cyfle i’r ceisydd neu ei gynrychiolydd fod yn bresennol.

(5Nid oes angen gohirio’r arolygiad os nad yw’r ceisydd neu ei gynrychiolydd yn bresennol ar yr amser a bennwyd.

Newidiadau i’r weithdrefn

23.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo hysbysiad wedi ei roi o dan reoliad 17 bod ymchwiliad cyhoeddus, neu wrandawiad os y person penodedig yw’r awdurdod sy’n dyfarnu, i’w gynnal mewn perthynas â’r cais neu’r cynnig.

(2Pan mai awdurdod cofrestru yw’r awdurdod sy’n dyfarnu a’i fod o’r farn fod hynny’n rhesymol o dan yr amgylchiadau caiff, yn ddarostyngedig i baragraff (3), benderfynu ar unrhyw adeg cyn dechrau ymchwiliad cyhoeddus i ganslo’r ymchwiliad a dyfarnu’r cais heb gynnal ymchwiliad.

(3Rhaid i’r awdurdod cofrestru ymgynghori â’r ceisydd cyn penderfynu canslo ymchwiliad cyhoeddus mewn perthynas â chais.

(4Pan mai person penodedig yw’r awdurdod sy’n dyfarnu a’i fod o’r farn fod hynny’n rhesymol o dan yr amgylchiadau caiff, yn ddarostyngedig i baragraff (5), benderfynu ar unrhyw adeg cyn dechrau ymchwiliad cyhoeddus neu wrandawiad—

(a)canslo’r ymchwiliad neu’r gwrandawiad a dyfarnu’r cais heb gynnal ymchwiliad neu wrandawiad; neu

(b)cynnal gwrandawiad yn hytrach nag ymchwiliad, neu i’r gwrthwyneb.

(5Rhaid i’r person penodedig ymgynghori â—

(a)y ceisydd, cyn penderfynu newid y weithdrefn ar gyfer dyfarnu cais; neu

(b)yr awdurdod sy’n cyfeirio, cyn penderfynu newid y weithdrefn ar gyfer dyfarnu cynnig.

Camau i’w cymryd yn dilyn dyfarnu cais neu gynnig

24.—(1Pan fo cais yn cael ei ganiatáu neu y gwneir penderfyniad i roi effaith i gynnig, yn llawn neu’n rhannol, rhaid i’r awdurdod cofrestru roi effaith i’r dyfarniad yn y gofrestr briodol drwy ychwanegu, dileu, cywiro neu fel arall fel y bo’n briodol.

(2Rhaid i’r awdurdod cofrestru roi hysbysiad ysgrifenedig o’r dyfarniad i—

(a)y ceisydd, os gwnaed y dyfarniad ar gais;

(b)pob person a gyflwynodd sylwadau ynghylch y cais neu’r cynnig; ac

(c)pob person (ac eithrio’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (b)) a roddodd dystiolaeth mewn ymchwiliad cyhoeddus neu wrandawiad, pan fo enw a manylion cyswllt y person yn hysbys.

(3Rhaid i hysbysiad o’r fath gynnwys—

(a)rhesymau dros y penderfyniad; a

(b)manylion unrhyw newidiadau a wnaed i’r gofrestr i roi effaith i’r penderfyniad.

(4Rhaid i’r awdurdod cofrestru gyhoeddi’r penderfyniad mewn perthynas ag unrhyw gais neu gynnig, a’r rhesymau drosto, ar ei wefan.

Dyfarndalu costau mewn perthynas â cheisiadau penodol

25.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chais o dan Atodlen 2 i Ddeddf 2006—

(a)pan gyfeirir y cais at berson penodedig; a

(b)pan gynhelir ymchwiliad cyhoeddus mewn perthynas â’r cais.

(2Caiff yr arolygydd sy’n cynnal yr ymchwiliad cyhoeddus wneud gorchymyn am gostau yn erbyn unrhyw un o’r personau a bennir ym mharagraff (3) sydd, ym marn yr arolygydd, wedi ymddwyn yn afresymol, gan ei gwneud yn ofynnol talu i unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (4) a bennir yn y gorchymyn mewn cysylltiad â chostau yr aeth y person a grybwyllir ym mharagraff (4) iddynt yn rhesymol yn unol â chamau afresymol y person a grybwyllir ym mharagraff (3).

(3Y personau y caniateir eu gorchymyn i dalu costau yw—

(a)y ceisydd;

(b)unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad cyhoeddus; neu

(c)unrhyw awdurdod cofrestru sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad cyhoeddus.

(4Y personau y caniateir gwneud gorchymyn am gostau o’u plaid yw—

(a)y ceisydd;

(b)unrhyw berson sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad cyhoeddus; neu

(c)unrhyw awdurdod cofrestru sy’n cymryd rhan yn yr ymchwiliad cyhoeddus.