2017 Rhif 557 (Cy. 128)
Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2017
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 146(4)(b) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 20141, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cod Ymarfer Diwygiedig ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwrnod Penodedig) (Cymru) 2017.
2
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Cod Diwygiedig” (“the Revised Code”) yw’r Cod Ymarfer ar arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â Rhan 4 (taliadau uniongyrchol a dewis o lety) a Rhan 5 (codi ffioedd ac asesiadau ariannol) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, y gosodwyd drafft ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2017 ac a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru ar 9 Ebrill 2017.
Y diwrnod penodedig2
Y diwrnod penodedig i’r Cod Diwygiedig ddod i rym yw 10 Ebrill 2017.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)