- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliadau 15 a 19
1. Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a myfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.
2. Rhaid i bob ceisydd a myfyriwr cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a darparu’r manylion i Weinidogion Cymru os bydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd—
(a)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn cael ei atal dros dro ohono, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;
(b)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;
(c)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn peidio ag ymgymryd â’i gwrs ac nid yw’n bwriadu parhau ag ef, neu ni chaniateir iddo barhau ag ef, am weddill y flwyddyn academaidd;
(d)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn absennol o’r cwrs am fwy na 60 niwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;
(f)bod cyfeiriad neu rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor y ceisydd neu’r myfyriwr yn newid;
(g)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn dod yn garcharor neu’n garcharor cymwys neu’n peidio â bod yn garcharor neu’n garcharor cymwys.
3. Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn fod ar y ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru ac, os ydynt yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei llofnodi gan y person sy’n ei darparu, mae llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru yn bodloni’r gofyniad hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: