RHAN 2CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys3

1

Mae myfyriwr cymwys yn gymwys i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

2

Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (8), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os, wrth asesu cais y person i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig o dan reoliad 9, yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

3

Nid yw person (“A”) yn fyfyriwr cymwys—

a

os yw A wedi cyrraedd 60 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r cwrs dynodedig yn dechrau ynddi;

b

os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

c

os yw A wedi cyrraedd 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

d

os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig;

e

os yw A yn garcharor, oni bai ei fod yn garcharor cymwys;

f

os yw A wedi ymrestru ar gwrs sy’n gwrs dynodedig o dan reoliad 5 (cyrsiau dynodedig), 66 (cyrsiau dysgu o bell dynodedig) neu 83 (cyrsiau rhan-amser dynodedig) o’r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr ac yn cael cymorth o dan y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr ar gyfer y cwrs hwnnw;

g

os yw A eisoes wedi cael cymhwyster cyfatebol neu uwch;

h

os yw A eisoes wedi ymrestru ar gwrs dynodedig ac yn cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer y cwrs hwnnw;

i

os, yn ddarostyngedig i baragraff (8), yw A wedi cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn flaenorol o dan y Rheoliadau hyn;

j

os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs—

i

bwrsari gofal iechyd;

ii

unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 200715;

iii

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 200016 ac eithrio i’r graddau y mae A yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio; neu

iv

unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 201617 ac eithrio i’r graddau y mae A yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio; neu

k

os yw A wedi cael benthyciad yn flaenorol mewn cysylltiad â chwrs ac eithrio o dan y Rheoliadau hyn, pan ddarparwyd y benthyciad hwnnw o gronfeydd a ddarperir gan awdurdod llywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig.

4

Pan fo’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs dynodedig sy’n gwrs dysgu o bell, nid yw’r myfyriwr yn gymwys i gael cymorth mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs, pa un a yw’r cwrs yn gwrs dynodedig ar y dyddiad hwnnw neu’n cael ei ddynodi ar ddyddiad diweddarach yn ystod y flwyddyn academaidd.

5

Mae myfyriwr cymwys yn peidio â bod yn gymwys i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig er gwaethaf a yw Gweinidogion Cymru wedi ystyried yn flaenorol fod y myfyriwr hwnnw yn ymgymryd â’i gwrs o fewn y Deyrnas Unedig.

6

Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd paragraff 1(4) o Atodlen 1 ar y sail bod cyflogaeth dros dro yn dod o fewn paragraff 1(5)(a) o Atodlen 1.

7

At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c), ystyr “benthyciad” yw benthyciad a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth o’r ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

8

Caiff Gweinidogion Cymru farnu bod person sydd wedi cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn flaenorol o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â chwrs dynodedig yn fyfyriwr cymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad oedd y person wedi gallu cwblhau’r cwrs dynodedig yr oedd y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig blaenorol yn ymwneud ag ef o ganlyniad i resymau personol cadarn.

9

Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond arfer eu disgresiwn o dan baragraff (8) unwaith mewn cysylltiad â myfyriwr penodol.

Cyrsiau dynodedig4

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 3—

a

os yw’n gwrs sy’n dod o fewn paragraff (2);

b

os yw’n un o’r canlynol—

i

yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;

ii

yn cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus sydd yn y Deyrnas Unedig ar ran sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus; neu

iii

yn cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

c

os yw’n cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig; a

d

os yw’n gwrs—

i

sy’n arwain at ddyfarniad a roddir neu sydd i gael ei roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 198818; a

ii

y mae’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi eu cymeradwyo gan y corff hwnnw.

2

At ddiben paragraff (1)(a) rhaid i’r cwrs fod yn un o’r canlynol—

a

cwrs llawnamser sy’n para un flwyddyn academaidd neu ddwy flynedd academaidd;

b

cwrs rhan-amser y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau ei gwrs un flwyddyn academaidd llawnamser cyfatebol neu ei gwrs dwy flynedd academaidd llawnamser cyfatebol; neu

c

cwrs rhan-amser nad oes ganddo gwrs llawnamser cyfatebol ac y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau ymhen tair blynedd academaidd.

3

At ddibenion paragraff (1)(b) ac (c)—

a

mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;

b

mae cwrs yn cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig pan fo o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael eu darparu yn y Deyrnas Unedig;

c

bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu cyllido’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg cyfansoddol neu’r sefydliad cyfansoddol yn cael ei chyllido neu ei gyllido’n gyhoeddus;

d

ni fernir bod sefydliad yn cael ei gyllido’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199219; ac

e

ni fernir bod cwrs yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad addysgol a gyllidir yn gyhoeddus pan fo rhan o’r cwrs yn cael ei darparu gan sefydliad preifat.

4

Caiff y cwrs dynodedig fod, ond nid oes angen iddo fod, yn gwrs dysgu o bell.

5

Nid yw cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 3 os yw’n cael ei gydnabod yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliadau 5 neu 83 o’r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr.

6

At ddibenion adran 22 o Ddeddf 199820 a rheoliad (3), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

7

Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (6).

Cyfnod cymhwystra5

1

Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd nes bod y statws yn terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 3.

2

Y cyfnod y mae myfyriwr cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra”.

3

Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn a rheoliad 3, mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.

4

Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu—

a

pan fydd y myfyriwr cymwys (“A”) yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru yn gorfod, o dan reoliad 6, drosglwyddo statws A fel myfyriwr cymwys i gwrs arall; neu

b

pan fydd A yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.

5

Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra pan fo A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig.

6

Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i ddarparu gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi darparu gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw un neu ragor o’r camau a ganlyn y maent yn ystyried eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

a

terfynu’r cyfnod cymhwystra;

b

penderfynu nad yw’r myfyriwr yn gymwys mwyach i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig;

c

trin unrhyw fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig a delir i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 17.

7

Pan fo’r cyfnod cymhwystra yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y maent yn penderfynu arno.

Trosglwyddo statws6

1

Pan fo myfyriwr cymwys (“A”) yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws A fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw—

a

pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais gan y myfyriwr cymwys i wneud hynny;

b

pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o’r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

c

pan na fo’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

2

Y seiliau dros drosglwyddo yw—

a

bod A, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi’r gorau i un cwrs dynodedig ac yn dechrau ymgymryd â chwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; neu

b

bod A yn dechrau ymgymryd â chwrs dynodedig mewn sefydliad arall.

3

Pan fo A yn trosglwyddo o dan baragraff (1), mae hawlogaeth gan A, mewn cysylltiad â’r cwrs y mae A yn trosglwyddo iddo, i gael gweddill y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig, os oes unrhyw swm yn weddill, yn unol â rheoliad 13 a, phan fo’n berthnasol, rheoliad 16, mewn cysylltiad â’r cwrs y mae A yn trosglwyddo ohono.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod cwrs7

Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 8 yn digwydd yn ystod cwrs myfyriwr, caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig, ar yr amod bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r darpariaethau gwneud cais a nodir yn Rhan 3.

Digwyddiadau8

Y digwyddiadau yw—

a

bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

b

bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

c

bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r UE pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

d

bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn UE;

e

bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

f

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

g

bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

h

bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu

i

bod y myfyriwr yn cychwyn cwrs dynodedig ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs dynodedig am fod yr awdurdod academaidd perthnasol wedi caniatáu i’r myfyriwr gychwyn y cwrs ar y dyddiad dechrau diweddarach hwn.