Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Ebrill 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu benthyciadau at radd feistr ôl-raddedig i fyfyrwyr mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2017, pa un a yw unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2017.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “a gyllidir yn gyhoeddus” a “cael ei gyllido’n gyhoeddus” (“publicly funded”) yw cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o’r cronfeydd cyhoeddus, ac mae ymadroddion cysylltiedig i gael eu dehongli yn unol â hynny;

ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu gorff arall a chanddo swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

ystyr “benthyciad at radd feistr ôl-raddedig” (“postgraduate master’s degree loan”) yw benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan Ran 4 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(1) neu Erthygl 44 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(2);

ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc;

ystyr “carcharor cymwys” (“eligible prisoner”) yw carcharor—

(a)

sy’n dechrau cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2017;

(b)

sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs dynodedig; ac

(c)

y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 4 blynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig;

ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public >funds”) yw arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “cwrs” (“course”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw rhaglen astudio a gaiff ei haddysgu, rhaglen ymchwil, neu gyfuniad o’r ddwy, ac a gaiff gynnwys un neu ragor o gyfnodau o brofiad gwaith, ac sy’n arwain, ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus, at ddyfarnu gradd feistr ôl-raddedig;

ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”), yw cwrs a ddynodir gan reoliad 4(1) neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(6);

ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio i fodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

(a)

at ddiben cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad; neu

(b)

ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy’n arwain at radd feistr ôl-raddedig yn yr un pwnc â’r cwrs rhan-amser o dan sylw;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(3) ar hawl dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

mae i “cyfnod cymwystra” (“period of eligibility”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5 mewn perthynas â myfyriwr cymwys;

ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—

(a)

cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy’n gysylltiedig â’r cwrs dynodedig mewn sefydliad, ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;

(b)

cyfnodau pan fydd myfyriwr yn cael ei gyflogi ac yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae’r myfyriwr yn ei hastudio ar gyfer cwrs dynodedig y myfyriwr hwnnw (ar yr amod bod y cyfnod preswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr hwnnw a bod astudio un neu ragor o ieithoedd modern yn cyfrif am ddim llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

ystyr “cymhwyster cyfatebol neu uwch” (“equivalent or higher qualification”) yw cymhwyster y pennir yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfatebol neu uwch;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(4), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(5), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980(6) a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny neu’r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(7) a rheoliadau a wneir o dan y Gorchymyn hwnnw neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1998;

mae i “ffioedd” yr ystyr a roddir i “fees” yn adran 41(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(8);

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(9) fel y’i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(10);

ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd; a

(b)

sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r UE;

mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys dogfennau;

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

(a)

wedi ei ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi ei gysylltu’n rhesymegol â hwy; a

(b)

yn honni ei fod wedi ei ymgorffori neu wedi ei gysylltu felly at ddiben cael ei ddefnyddio i gadarnhau dilysrwydd y cyfathrebiad neu’r data, cyfanrwydd y cyfathrebiad neu’r data, neu’r ddau;

mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“A” yn y diffiniad hwn)—

(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn;

(b)

y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(c)

nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(11)) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; a

(d)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i A gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;

ystyr “rheoliadau cymorth i fyfyrwyr” (“student support regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(12);

ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw’n cael ei gyllido’n gyhoeddus;

ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

(2Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfatebol neu uwch—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys gymhwyster addysg uwch o unrhyw sefydliad pa un a yw yn y Deyrnas Unedig ai peidio; a

(b)os yw’r cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn radd feistr ôl-raddedig o sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu os yw o lefel academaidd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cyfateb i gymhwyster y mae’r cwrs dynodedig yn arwain ato neu’n uwch na’r cymhwyster hwnnw.

(1)

1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17) , Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, O.S. 2002/2202, erthygl 4(a) a (b), Rheoliadau Deddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc.) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhif 2) 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480); Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 55; O.S. 2004/957, yr Atodlen; Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43), Atodlen 1, O.S. 2007/961, yr Atodlen, Deddf Iechyd 2009 (p. 21), Atodlen 1 a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), Atodlen 5 a Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413) (Cy. 131).

(3)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, t. 77-123.

(4)

1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4, gydag arbedion gweler Gorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/2004) (C. 46).

(5)

O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a’r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddirymwyd, gydag arbedion, gan Rh. St. (G.I.) 1998 Rhif 306.

(7)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

2004 p. 8. Mae adran 41(1) wedi ei diwygio ond nid yw’r diwygiadau hynny yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

Gorchmn. 9171.

(10)

Gorchmn. 3906 (allan o brint).

(11)

2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr, etc) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 9, O.S. 2010/21, Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9 Rhan 4., O.S. 2011/2581, O.S. 2014/2924 ac O.S. 2016/360.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources