xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 523 (Cy. 109)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017

Gwnaed

4 Ebrill 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Ebrill 2017

Yn dod i rym

28 Ebrill 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Ebrill 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu benthyciadau at radd feistr ôl-raddedig i fyfyrwyr mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2017, pa un a yw unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud cyn, ar neu ar ôl 1 Awst 2017.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio pan fo’r cyd-destun yn mynnu fel arall—

ystyr “a gyllidir yn gyhoeddus” a “cael ei gyllido’n gyhoeddus” (“publicly funded”) yw cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o’r cronfeydd cyhoeddus, ac mae ymadroddion cysylltiedig i gael eu dehongli yn unol â hynny;

ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw’r corff llywodraethu neu gorff arall a chanddo swyddogaethau corff llywodraethu ac mae’n cynnwys person sy’n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

ystyr “benthyciad at radd feistr ôl-raddedig” (“postgraduate master’s degree loan”) yw benthyciad sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan Ran 4 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(3) neu Erthygl 44 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(4);

ystyr “carcharor” (“prisoner”) yw person sy’n bwrw dedfryd mewn carchar yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys person sy’n cael ei gadw’n gaeth mewn sefydliad troseddwyr ifanc;

ystyr “carcharor cymwys” (“eligible prisoner”) yw carcharor—

(a)

sy’n dechrau cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Awst 2017;

(b)

sydd wedi ei awdurdodi gan Lywodraethwr neu Gyfarwyddwr y carchar neu gan awdurdod priodol arall i astudio’r cwrs dynodedig; ac

(c)

y mae ei ddyddiad rhyddhau cynharaf o fewn 4 blynedd i ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig;

ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public >funds”) yw arian a ddarperir gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd a ddarperir gan Weinidogion Cymru;

ystyr “cwrs” (“course”), oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw rhaglen astudio a gaiff ei haddysgu, rhaglen ymchwil, neu gyfuniad o’r ddwy, ac a gaiff gynnwys un neu ragor o gyfnodau o brofiad gwaith, ac sy’n arwain, ar ôl eu cwblhau’n llwyddiannus, at ddyfarnu gradd feistr ôl-raddedig;

ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”), yw cwrs a ddynodir gan reoliad 4(1) neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 4(6);

ystyr “cwrs dysgu o bell” (“distance learning course”) yw cwrs nad yw’r sefydliad sy’n darparu’r cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr sy’n ymgymryd â’r cwrs fod yn bresennol mewn perthynas ag ef, ac eithrio i fodloni unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad—

(a)

at ddiben cofrestru, ymrestru neu unrhyw arholiad; neu

(b)

ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

ystyr “cwrs llawnamser cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs llawnamser sy’n arwain at radd feistr ôl-raddedig yn yr un pwnc â’r cwrs rhan-amser o dan sylw;

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor(5) ar hawl dinasyddion yr Undeb ac aelodau o’u teuluoedd i symud a phreswylio’n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

mae i “cyfnod cymwystra” (“period of eligibility”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5 mewn perthynas â myfyriwr cymwys;

ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—

(a)

cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy’n gysylltiedig â’r cwrs dynodedig mewn sefydliad, ond mewn man y tu allan i’r sefydliad hwnnw;

(b)

cyfnodau pan fydd myfyriwr yn cael ei gyflogi ac yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae’r myfyriwr yn ei hastudio ar gyfer cwrs dynodedig y myfyriwr hwnnw (ar yr amod bod y cyfnod preswylio yn y wlad honno yn un o ofynion cwrs y myfyriwr hwnnw a bod astudio un neu ragor o ieithoedd modern yn cyfrif am ddim llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

ystyr “cymhwyster cyfatebol neu uwch” (“equivalent or higher qualification”) yw cymhwyster y pennir yn unol â pharagraff (2) ei fod yn gymhwyster cyfatebol neu uwch;

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(6), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(7), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980(8) a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny neu’r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(9) a rheoliadau a wneir o dan y Gorchymyn hwnnw neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wneir o dan Ddeddf 1998;

mae i “ffioedd” yr ystyr a roddir i “fees” yn adran 41(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(10);

ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy’n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(11) fel y’i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(12);

ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd—

(a)

sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd; a

(b)

sy’n cael, neu sydd wedi cael, ei gyflogi’n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gwladolyn UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o’r UE;

mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys dogfennau;

ystyr “hawl i breswylio’n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy’n codi o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

(a)

wedi ei ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi ei gysylltu’n rhesymegol â hwy; a

(b)

yn honni ei fod wedi ei ymgorffori neu wedi ei gysylltu felly at ddiben cael ei ddefnyddio i gadarnhau dilysrwydd y cyfathrebiad neu’r data, cyfanrwydd y cyfathrebiad neu’r data, neu’r ddau;

mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person (“A” yn y diffiniad hwn)—

(a)

sydd—

(i)

wedi gwneud cais am statws ffoadur ond sydd, o ganlyniad i’r cais hwnnw, wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref, er yr ystyrir nad yw A yn gymwys i gael ei gydnabod yn ffoadur, y credir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail diogelwch dyngarol neu ganiatâd yn ôl disgresiwn; neu

(ii)

heb wneud cais am statws ffoadur ond sydd wedi ei hysbysu’n ysgrifenedig gan berson sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y credir ei bod yn iawn caniatáu i A ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu aros ynddi ar sail caniatâd yn ôl disgresiwn;

(b)

y mae caniatâd wedi ei roi iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

(c)

nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben, neu y mae’r cyfnod hwnnw wedi ei adnewyddu ac nad yw’r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben, neu y mae apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(13)) mewn cysylltiad â’i ganiatâd i ddod i mewn neu i aros; a

(d)

sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers i A gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;

ystyr “rheoliadau cymorth i fyfyrwyr” (“student support regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(14);

ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw’n cael ei gyllido’n gyhoeddus;

ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

(2Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu bod cymhwyster yn gymhwyster cyfatebol neu uwch—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys gymhwyster addysg uwch o unrhyw sefydliad pa un a yw yn y Deyrnas Unedig ai peidio; a

(b)os yw’r cymhwyster y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yn radd feistr ôl-raddedig o sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu os yw o lefel academaidd sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, yn cyfateb i gymhwyster y mae’r cwrs dynodedig yn arwain ato neu’n uwch na’r cymhwyster hwnnw.

RHAN 2CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys

3.—(1Mae myfyriwr cymwys yn gymwys i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (8), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig os, wrth asesu cais y person i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig o dan reoliad 9, yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3Nid yw person (“A”) yn fyfyriwr cymwys—

(a)os yw A wedi cyrraedd 60 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r cwrs dynodedig yn dechrau ynddi;

(b)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig;

(e)os yw A yn garcharor, oni bai ei fod yn garcharor cymwys;

(f)os yw A wedi ymrestru ar gwrs sy’n gwrs dynodedig o dan reoliad 5 (cyrsiau dynodedig), 66 (cyrsiau dysgu o bell dynodedig) neu 83 (cyrsiau rhan-amser dynodedig) o’r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr ac yn cael cymorth o dan y rheoliadau cymorth i fyfyrwyr ar gyfer y cwrs hwnnw;

(g)os yw A eisoes wedi cael cymhwyster cyfatebol neu uwch;

(h)os yw A eisoes wedi ymrestru ar gwrs dynodedig ac yn cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer y cwrs hwnnw;

(i)os, yn ddarostyngedig i baragraff (8), yw A wedi cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn flaenorol o dan y Rheoliadau hyn;

(j)os rhoddwyd i A neu os talwyd iddo mewn perthynas ag A yn ymgymryd â’r cwrs—

(i)bwrsari gofal iechyd;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(15);

(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(16) ac eithrio i’r graddau y mae A yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio; neu

(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarndal o ddisgrifiad tebyg a wneir o dan adran 116(2)(a) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(17) ac eithrio i’r graddau y mae A yn gymwys i gael y taliad hwnnw mewn cysylltiad â threuliau teithio; neu

(k)os yw A wedi cael benthyciad yn flaenorol mewn cysylltiad â chwrs ac eithrio o dan y Rheoliadau hyn, pan ddarparwyd y benthyciad hwnnw o gronfeydd a ddarperir gan awdurdod llywodraeth o fewn y Deyrnas Unedig.

(4Pan fo’r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â chwrs dynodedig sy’n gwrs dysgu o bell, nid yw’r myfyriwr yn gymwys i gael cymorth mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs, pa un a yw’r cwrs yn gwrs dynodedig ar y dyddiad hwnnw neu’n cael ei ddynodi ar ddyddiad diweddarach yn ystod y flwyddyn academaidd.

(5Mae myfyriwr cymwys yn peidio â bod yn gymwys i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â’r cwrs y tu allan i’r Deyrnas Unedig er gwaethaf a yw Gweinidogion Cymru wedi ystyried yn flaenorol fod y myfyriwr hwnnw yn ymgymryd â’i gwrs o fewn y Deyrnas Unedig.

(6Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd paragraff 1(4) o Atodlen 1 ar y sail bod cyflogaeth dros dro yn dod o fewn paragraff 1(5)(a) o Atodlen 1.

(7At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c), ystyr “benthyciad” yw benthyciad a wneir o dan unrhyw ddarpariaeth o’r ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(8Caiff Gweinidogion Cymru farnu bod person sydd wedi cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn flaenorol o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â chwrs dynodedig yn fyfyriwr cymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn nad oedd y person wedi gallu cwblhau’r cwrs dynodedig yr oedd y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig blaenorol yn ymwneud ag ef o ganlyniad i resymau personol cadarn.

(9Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond arfer eu disgresiwn o dan baragraff (8) unwaith mewn cysylltiad â myfyriwr penodol.

Cyrsiau dynodedig

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 3—

(a)os yw’n gwrs sy’n dod o fewn paragraff (2);

(b)os yw’n un o’r canlynol—

(i)yn cael ei ddarparu’n gyfan gwbl gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus;

(ii)yn cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus sydd yn y Deyrnas Unedig ar ran sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus; neu

(iii)yn cael ei ddarparu gan sefydliad a gyllidir yn gyhoeddus ar y cyd â sefydliad sydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig;

(c)os yw’n cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig; a

(d)os yw’n gwrs—

(i)sy’n arwain at ddyfarniad a roddir neu sydd i gael ei roi gan gorff sy’n dod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(18); a

(ii)y mae’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs wedi eu cymeradwyo gan y corff hwnnw.

(2At ddiben paragraff (1)(a) rhaid i’r cwrs fod yn un o’r canlynol—

(a)cwrs llawnamser sy’n para un flwyddyn academaidd neu ddwy flynedd academaidd;

(b)cwrs rhan-amser y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod sy’n ofynnol fel arfer i gwblhau ei gwrs un flwyddyn academaidd llawnamser cyfatebol neu ei gwrs dwy flynedd academaidd llawnamser cyfatebol; neu

(c)cwrs rhan-amser nad oes ganddo gwrs llawnamser cyfatebol ac y mae fel arfer yn bosibl ei gwblhau ymhen tair blynedd academaidd.

(3At ddibenion paragraff (1)(b) ac (c)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw’n darparu’r addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs, pa un a yw’r sefydliad wedi ymrwymo i gytundeb â’r myfyriwr i ddarparu’r cwrs ai peidio;

(b)mae cwrs yn cael ei ddarparu i raddau helaeth yn y Deyrnas Unedig pan fo o leiaf hanner yr addysgu a’r goruchwylio sy’n ffurfio’r cwrs yn cael eu darparu yn y Deyrnas Unedig;

(c)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg cyfansoddol neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu cyllido’n gyhoeddus os yw naill ai’r brifysgol neu’r coleg cyfansoddol neu’r sefydliad cyfansoddol yn cael ei chyllido neu ei gyllido’n gyhoeddus;

(d)ni fernir bod sefydliad yn cael ei gyllido’n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(19); ac

(e)ni fernir bod cwrs yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad addysgol a gyllidir yn gyhoeddus pan fo rhan o’r cwrs yn cael ei darparu gan sefydliad preifat.

(4Caiff y cwrs dynodedig fod, ond nid oes angen iddo fod, yn gwrs dysgu o bell.

(5Nid yw cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 3 os yw’n cael ei gydnabod yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliadau 5 neu 83 o’r rheoliadau cymorth i fyfyrwyr.

(6At ddibenion adran 22 o Ddeddf 1998(20) a rheoliad (3), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi eu dynodi o dan baragraff (1).

(7Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs sydd wedi ei ddynodi o dan baragraff (6).

Cyfnod cymhwystra

5.—(1Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd nes bod y statws yn terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 3.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra”.

(3Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn a rheoliad 3, mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi.

(4Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu—

(a)pan fydd y myfyriwr cymwys (“A”) yn tynnu’n ôl o’i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru yn gorfod, o dan reoliad 6, drosglwyddo statws A fel myfyriwr cymwys i gwrs arall; neu

(b)pan fydd A yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel ohono.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra pan fo A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i ddarparu gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi darparu gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw un neu ragor o’r camau a ganlyn y maent yn ystyried eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu’r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad yw’r myfyriwr yn gymwys mwyach i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig;

(c)trin unrhyw fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig a delir i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 17.

(7Pan fo’r cyfnod cymhwystra yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr yn cwblhau’r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y maent yn penderfynu arno.

Trosglwyddo statws

6.—(1Pan fo myfyriwr cymwys (“A”) yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws A fel myfyriwr cymwys i’r cwrs hwnnw—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais gan y myfyriwr cymwys i wneud hynny;

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o’r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)pan na fo’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Y seiliau dros drosglwyddo yw—

(a)bod A, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi’r gorau i un cwrs dynodedig ac yn dechrau ymgymryd â chwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; neu

(b)bod A yn dechrau ymgymryd â chwrs dynodedig mewn sefydliad arall.

(3Pan fo A yn trosglwyddo o dan baragraff (1), mae hawlogaeth gan A, mewn cysylltiad â’r cwrs y mae A yn trosglwyddo iddo, i gael gweddill y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig, os oes unrhyw swm yn weddill, yn unol â rheoliad 13 a, phan fo’n berthnasol, rheoliad 16, mewn cysylltiad â’r cwrs y mae A yn trosglwyddo ohono.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod cwrs

7.  Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 8 yn digwydd yn ystod cwrs myfyriwr, caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig, ar yr amod bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r darpariaethau gwneud cais a nodir yn Rhan 3.

Digwyddiadau

8.  Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur neu’n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r UE pan fo’r myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn UE;

(e)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(h)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu

(i)bod y myfyriwr yn cychwyn cwrs dynodedig ar ôl dyddiad dechrau’r cwrs dynodedig am fod yr awdurdod academaidd perthnasol wedi caniatáu i’r myfyriwr gychwyn y cwrs ar y dyddiad dechrau diweddarach hwn.

RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYMORTH

Ceisiadau am fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig

9.—(1Rhaid i berson (“y ceisydd”) wneud cais am fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig mewn cysylltiad â chwrs dynodedig drwy gwblhau a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr cymwys.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd pa un a yw’r ceisydd yn gymwys i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig ai peidio.

Terfynau amser

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o’r flwyddyn academaidd y mae’n cael ei gyflwyno ynddi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo’r ceisydd yn gwneud cais i ddiwygio swm y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig o dan reoliad 12(3), rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o’r flwyddyn academaidd y mae’n cael ei gyflwyno ynddi.

(3Nid yw paragraffau (1) neu (2) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, na ddylai’r terfyn amser fod yn gymwys ac, yn yr achos hwnnw, rhaid i’r cais i ddiwygio’r swm gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag unrhyw ddyddiad a bennir ganddynt yn ysgrifenedig.

Gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad

11.—(1I gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig, rhaid i fyfyriwr ymrwymo i gontract â Gweinidogion Cymru ar delerau sydd i gael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gontract gael ei lofnodi gan fyfyriwr, mae llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru yn bodloni’r gofyniad hwnnw.

RHAN 4Y BENTHYCIAD

Swm benthyciad at radd feistr ôl-raddedig

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff person wneud cais am fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig o hyd at £10,280 tuag at gostau ymgymryd â chwrs dynodedig.

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 16(5), pan fo carcharor cymwys yn gwneud cais am fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig, ni chaiff swm y benthyciad fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(a)y ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs, a

(b)£10,280.

(3Ac eithrio pan fo rheoliad 16(5) i (6) yn gymwys, caiff myfyriwr cymwys wneud cais i Weinidogion Cymru i ddiwygio swm y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig y mae’r myfyriwr wedi gwneud cais amdano, ar yr amod—

(a)nad yw cyfanred y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig y gwneir cais amdano yn fwy na’r symiau cymwysadwy a nodir ym mharagraffau (1) a (2);

(b)bod cais o’r fath yn cael ei wneud yn unol â rheoliad 10(2).

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o dan reoliad 9(2) fod y ceisydd yn fyfyriwr cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm y mae’r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais amdano ac y mae’r myfyriwr cymwys yn gymwys i’w gael yn unol â rheoliad 13, ar yr amod bod y swm y gwneir cais amdano yn unol â pharagraffau (1) neu (2), fel y bo’n gymwys.

Talu benthyciad at radd feistr ôl-raddedig

13.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig y mae myfyriwr yn gymwys i’w gael o dan y Rheoliadau hyn—

(a)naill ai fel cyfandaliad neu mewn rhandaliadau; a

(b)ar unrhyw adegau, ac mewn unrhyw fodd, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod o’r hawlogaeth i gael taliad bod yn rhaid i’r myfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy drosglwyddiad electronig.

(3Yn achos carcharor cymwys, rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig, y mae carcharor cymwys yn gymwys i’w gael, i’r sefydliad y mae’r carcharor cymwys yn atebol i wneud taliad o’r ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r cwrs dynodedig iddo neu i unrhyw drydydd parti y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol at ddiben sicrhau y telir y ffioedd hynny i’r sefydliad perthnasol.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru dalu’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig neu unrhyw randaliad ohono y mae myfyriwr cymwys yn gymwys i’w gael oni bai eu bod wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol gadarnhad (ar unrhyw ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru) am bresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs dynodedig.

(5Rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith a darparu manylion i Weinidogion Cymru os yw’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs dynodedig, yn cael ei atal dros dro neu’n cael ei ddiarddel ohono, neu os yw fel arall yn absennol.

(6Nid yw myfyriwr cymwys i gael ei ystyried yn absennol o’i gwrs os nad yw’n gallu ei fynychu oherwydd salwch ac nad yw’r myfyriwr cymwys wedi bod yn absennol am fwy na 60 niwrnod.

Darparu rhif yswiriant gwladol y Deyrnas Unedig

14.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod o’r hawlogaeth i gael taliad o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig neu unrhyw randaliad ohono, fod rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan baragraff (1), ni chânt wneud taliad o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig neu unrhyw randaliad ohono i’r myfyriwr cymwys, neu yn achos carcharor cymwys i’r sefydliad neu’r trydydd parti perthnasol, cyn iddynt gael eu bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â’r amod hwnnw.

(3Er gwaethaf paragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig neu unrhyw randaliad ohono i fyfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni, o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud y taliad hwnnw heb fod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â’r amod a osodir o dan baragraff (1).

Absenoldeb o gwrs

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), os yw Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan reoliad 13(5) neu baragraff 2(a) i (d) o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad pellach o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig mewn cysylltiad â’r myfyriwr cymwys y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef.

(2Caniateir gwneud taliadau pellach er gwaethaf diffyg presenoldeb y myfyriwr os, ym marn Gweinidogion Cymru, byddai’r taliadau hynny yn briodol o dan yr holl amgylchiadau yn ystod absenoldeb y myfyriwr.

(3Os yw’r myfyriwr cymwys yn ailgychwyn y cwrs dynodedig, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru a rhoi manylion llawn am hyd ac achos yr absenoldeb blaenorol.

(4Ar ôl ystyried hysbysiad y myfyriwr o dan baragraff (3), caiff Gweinidogion Cymru ailgychwyn unrhyw daliadau sy’n weddill o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig o dan reoliad 13, os, ym marn Gweinidogion Cymru, byddai’n briodol o dan yr holl amgylchiadau i’r taliad hwnnw gael ei wneud.

Effaith dod, neu beidio â bod, yn garcharor cymwys

16.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo myfyriwr cymwys sy’n cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn dod yn garcharor cymwys ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)addasu taliad o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn y dyfodol neu randaliadau o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn y dyfodol, er mwyn i gyfanswm y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig a ddyfernir beidio â bod yn fwy na’r swm y mae hawlogaeth gan y myfyriwr, fel carcharor cymwys, i’w gael o dan reoliad 12(2); a

(b)talu unrhyw swm sy’n weddill o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig, neu unrhyw randaliadau o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn y dyfodol, yn unol â rheoliad 13(3).

(3Mae paragraffau (4) i (6) yn gymwys pan fo carcharor cymwys sy’n cael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn peidio â bod yn garcharor cymwys ac yn aros yn fyfyriwr cymwys, ac yn parhau i ymgymryd â chwrs dynodedig.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r swm sy’n weddill o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig, neu randaliadau o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn y dyfodol, os oes rhai, yn unol â rheoliad 13(1).

(5Pan fo myfyriwr cymwys (“A”) yn peidio â bod yn garcharor cymwys ac y byddai wedi bod yn gymwys i gael swm uwch o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig oni fyddai A wedi bod yn garcharor cymwys pan benderfynwyd ar ei gais am fenthyciad yn wreiddiol yn unol â’r Rheoliadau hyn, caiff A, yn ddarostyngedig i baragraff (6), wneud cais am i swm y benthyciad gael ei gynyddu.

(6Yr uchafswm cynnydd ym menthyciad at radd feistr ôl-raddedig A y caiff A wneud cais amdano o dan baragraff (5) yw’r swm a gyfrifir drwy gyfeirio at y fformiwla a ganlyn—

pan fo—

  • F yn gyfwerth â’r swm y byddai A wedi bod yn gymwys i’w gael pe na bai A wedi bod yn garcharor cymwys;

  • R yn gyfwerth â’r swm y mae A yn gymwys i’w gael fel carcharor cymwys;

  • T yn gyfwerth â nifer y diwrnodau o’r cwrs sy’n weddill pan yw A yn peidio â bod yn garcharor cymwys gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae A yn peidio â bod yn garcharor cymwys; ac

  • M yn gyfanswm nifer y diwrnodau y mae’r cwrs yn para.

Gordaliadau o fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig

17.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig oddi wrth—

(a)y sefydliad neu’r trydydd parti a gafodd arian y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig pan wnaed taliad i’r sefydliad hwnnw neu’r trydydd parti hwnnw; neu

(b)y myfyriwr a gafodd y benthyciad at radd feistr ôl-raddedig.

(2Rhaid i fyfyriwr, os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig a delir i’r myfyriwr neu a delir mewn cysylltiad â’r myfyriwr, sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y benthyciad y mae hawlogaeth gan y myfyriwr i’w gael.

(3Caniateir adennill gordaliad o fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig oddi wrth fyfyriwr o dan baragraff (1)(b) ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o’r ffyrdd a ganlyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu’r gordaliad o unrhyw swm o’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig sy’n weddill i’w dalu;

(b)drwy dynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant neu fenthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(c)drwy ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr ad-dalu’r benthyciad at radd feistr ôl-raddedig yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(d)drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.

Ad-dalu

18.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i geisydd neu fyfyriwr cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad at radd feistr ôl-raddedig drwy ddull penodol.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol cael cytundeb ynglŷn â’r dull o ad-dalu o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gadw’n ôl unrhyw daliad o fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig hyd nes bod y ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn sydd wedi cael ei wneud yn ofynnol.

RHAN 5GOFYNION GWYBODAETH

Gofynion gwybodaeth

19.—(1Mae Atodlen 2 yn gymwys mewn cysylltiad â darparu gwybodaeth gan geisydd a myfyriwr cymwys.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn ofynnol i adennill benthyciad at radd feistr ôl-raddedig.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am gael gweld ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, ei basbort dilys a ddyroddir gan y wladwriaeth y mae’n wladolyn ohoni neu ei dystysgrif geni.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gadw’n ôl unrhyw daliad o fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig hyd nes bod y ceisydd neu’r myfyriwr cymwys yn darparu’r hyn y gofynnwyd amdano neu’n darparu eglurhad boddhaol am beidio â chydymffurfio â’r cais.

Kirsty Williams

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru

4 Ebrill 2017

Rheoliadau 3 ac 8

ATODLEN 1MYFYRWYR CYMWYS

RHAN 1Dehongli

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon—

ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw—

(a)

mewn perthynas â gweithiwr trawsffiniol AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunangyflogedig trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig AEE—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil;

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion priod neu bartner sifil y person sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y person; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

(b)

mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

(i)

priod y person neu ei bartner sifil; neu

(ii)

plentyn y person neu blentyn priod neu bartner sifil y person;

(c)

mewn perthynas â gwladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(d)

mewn perthynas â gwladolyn UE sy’n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(iii)

perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;

(e)

mewn perthynas â gwladolyn o’r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—

(i)

priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

(ii)

disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y gwladolyn sydd—

(aa)

o dan 21 oed; neu

(bb)

yn ddibynyddion y gwladolyn neu’n ddibynyddion priod neu bartner sifil y gwladolyn;

ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw’r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;

ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau, o’r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o’r rhan arall, ar Symudiad Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(21) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

ystyr “gweithiwr mudol AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn AEE sy’n weithiwr, ac eithrio gweithiwr trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “gweithiwr trawsffiniol AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn weithiwr yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson cyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person ”) yw—

(a)

mewn perthynas â gwladolyn AEE, person sy’n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

(b)

mewn perthynas â gwladolyn Swisaidd, person sy’n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

ystyr “person hunangyflogedig AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn AEE sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol AEE, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy’n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd, yn y Deyrnas Unedig;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn AEE sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio’r Deyrnas Unedig ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

(a)

yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

(b)

yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE, ac eithrio’r Deyrnas Unedig, ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(22).

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn ac mae “plentyn”(“child”) i gael ei ddehongli yn unol â hynny.

(3At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu’r Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd—

(a)â’r cwrs dynodedig; neu

(b)gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, â chwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig,

i gael ei ystyried yn berson sy’n preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person wedi symud ohono.

(4At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“A” yn yr is-baragraff hwn) i gael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci pe bai A wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)A;

(b)priod neu bartner sifil A; neu

(c)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, plentyn A neu briod neu bartner sifil plentyn A,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

(5At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd neu’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd llynges, byddin neu lu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r Deyrnas Unedig fel aelodau o luoedd o’r fath; a

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir fel aelodau o luoedd o’r fath; ac

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i’r diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o luoedd o’r fath.

(6At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o’r UE neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o’r naill neu’r llall, neu o’r ddwy, o’r ardaloedd hyn,

i gael ei hystyried fel pe bai bob amser wedi bod yn rhan o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

(7At ddibenion yr Atodlen hon mae carcharor cymwys i gael ei ystyried fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y rhan o’r Deyrnas Unedig lle yr oedd y carcharor yn preswylio cyn cael ei ddedfrydu.

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.—(1Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac eithrio am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(b)yn preswylio fel arfer yng Nghymru;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

3.  Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd

4.—(1Person—

(a)sy’n ffoadur;

(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r person gael ei gydnabod yn ffoadur; a

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i ffoadur;

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i ffoadur neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches, a oedd yn blentyn i’r ffoadur neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur y cais am loches;

(d)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan gafodd ganiatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(e)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches;

(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy’n blentyn i berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy’n blentyn i briod neu i bartner sifil person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches,

yn blentyn i’r person hwnnw neu’n blentyn i berson a oedd yn briod neu’n bartner sifil i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(i)y cais am loches; neu

(ii)y cais am ganiatâd yn ôl disgresiwn, pan na wnaed cais am loches;

(d)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd

6.—(1Person—

(a)sydd—

(i)yn weithiwr mudol AEE neu’n berson hunangyflogedig AEE;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr trawsffiniol AEE neu’n berson hunangyflogedig trawsffiniol AEE;

(v)yn berson cyflogedig trawsffiniol Swisaidd neu’n berson hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir yn is-baragraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7.  Person—

(a)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar symudiad rhydd gweithwyr(23), fel y’i hestynnir gan Gytundeb yr AEE.

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;

(c)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod pan fydd tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (d), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (d).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o’r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir) neu’n berson sydd â hawl i breswylio’n barhaol sydd ym mhob achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio’n barhaol, os yw’n mynd i’r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir y mae’n wladolyn iddi neu y mae’r person y mae’n aelod o deulu mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

Gwladolion UE

9.—(1Person—

(a)sydd naill ai—

(i)yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sy’n wladolyn o’r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio; neu

(ii)yn aelod o deulu person o’r fath;

(b)yn mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru neu’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

(3Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r UE ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu gwladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) i fod yn wladolyn UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

(4At ddibenion y paragraff hwn, mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

10.—(1Person—

(a)sy’n wladolyn UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Pan fo gwladwriaeth yn ymaelodi â’r UE ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o’r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) i fod yn wladolyn UE ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.

Plant gwladolion Swisaidd

11.  Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).

Plant gweithwyr Twrcaidd

12.  Person—

(a)sy’n blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Rheoliadau 15 a 19

ATODLEN 2GWYBODAETH

1.  Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a myfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.

2.  Rhaid i bob ceisydd a myfyriwr cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a darparu’r manylion i Weinidogion Cymru os bydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn digwydd—

(a)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn cael ei atal dros dro ohono, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;

(b)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;

(c)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn peidio ag ymgymryd â’i gwrs ac nid yw’n bwriadu parhau ag ef, neu ni chaniateir iddo barhau ag ef, am weddill y flwyddyn academaidd;

(d)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn absennol o’r cwrs am fwy na 60 niwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;

(f)bod cyfeiriad neu rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor y ceisydd neu’r myfyriwr yn newid;

(g)bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn dod yn garcharor neu’n garcharor cymwys neu’n peidio â bod yn garcharor neu’n garcharor cymwys.

3.  Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn fod ar y ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru ac, os ydynt yn ei gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei llofnodi gan y person sy’n ei darparu, mae llofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru yn bodloni’r gofyniad hwnnw.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gwneud benthyciadau i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar gyfer cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2017.

I fod yn gymwys i gael benthyciad, rhaid i fyfyriwr fod yn “myfyriwr cymwys”. Yn fras, mae person yn fyfyriwr cymwys os yw’r person hwnnw yn dod o fewn un o’r categorïau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 ac os yw’r person hwnnw hefyd yn bodloni’r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2 o’r Rheoliadau.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i fyfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, ble bynnag y maent yn astudio cwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir bod person sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, o ganlyniad i fod wedi symud o un o’r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd â chwrs dynodedig, yn preswylio fel arfer yn y lle y mae’r person hwnnw wedi symud ohono (Atodlen 1, paragraff 1(3)). Rhaid i fyfyriwr cymwys hefyd fodloni unrhyw ofynion a nodir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau. Dim ond mewn cysylltiad â chyrsiau “dynodedig” y mae benthyciad ar gael o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 2 yn delio â chymhwystra. Mae rheoliad 3 yn nodi pwy sy’n gallu cael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys at ddibenion benthyciad at radd feistr ôl-raddedig. Mae rheoliad 4 yn nodi pa gyrsiau a fernir yn gyrsiau dynodedig y gall myfyriwr cymwys gael benthyciad amdanynt. Mae rheoliad 5 yn nodi pa bryd y mae myfyriwr yn peidio â chael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys. Mae rheoliad 6 yn cydnabod y caiff myfyriwr cymwys drosglwyddo i gwrs arall o dan amgylchiadau penodol. Mae rheoliadau 7 ac 8 yn nodi’r amgylchiadau y caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael benthyciad at radd feistr ôl-raddedig odanynt ar ôl i’r cwrs dynodedig ddechrau.

Mae Rhan 3 yn delio â’r trefniadau ffurfiol o ran sut y mae myfyriwr cymwys yn gwneud cais am fenthyciad, gan gynnwys y dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais.

Mae Rhan 4 yn delio â’r benthyciad ei hun. Mae rheoliadau 12 a 13 yn darparu mai uchafswm y benthyciad y gall myfyriwr cymwys ei gael yw £10,280, ac eithrio yn achos carcharor cymwys, pan fo’r uchafswm yn gyfwerth â gwerth ffioedd y cwrs dynodedig. Mae rheoliad 13 yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i dalu unrhyw fenthyciad mewn rhandaliadau ac yn darparu bod taliadau yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i gyfrif banc y myfyriwr, ac eithrio yn achos carcharor cymwys pan fo’r taliad yn cael ei wneud i’r sefydliad y mae’r carcharor yn atebol i dalu’r ffioedd iddo neu i drydydd parti. Mae rheoliad 14 yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i wneud taliad o’r benthyciad ar yr amod bod y myfyriwr yn darparu rhif yswiriant gwladol iddynt. Mae rheoliad 15 yn galluogi Gweinidogion Cymru i beidio â thalu rhagor o daliadau’r benthyciad os ydynt yn cael hysbysiad ynghylch diffyg presenoldeb myfyriwr ar y cwrs, ac eithrio pan fônt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud y taliadau hynny yn ystod absenoldeb y myfyriwr.

Mae rheoliad 16 yn nodi sut y mae swm y benthyciad y ceir hawlogaeth iddo yn newid pan fydd myfyriwr cymwys yn dod yn garcharor cymwys ac i’r gwrthwyneb. Mae rheoliad 17 yn nodi sut y gall Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliadau o fenthyciad at radd feistr ôl-raddedig. Mae rheoliad 18 yn rhoi i Weinidogion Cymru y pŵer i’w gwneud yn ofynnol bod myfyriwr yn ymrwymo i gytundeb ad-dalu.

Mae Rhan 5 yn delio â gofynion gwybodaeth.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7, Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257, Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76 ac O.S. 2013/1881. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy. 149) (C. 79)) fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 ( O.S. 2006/1660 (Cy. 159) (C. 56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17) , Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, O.S. 2002/2202, erthygl 4(a) a (b), Rheoliadau Deddf Diwygio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc.) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhif 2) 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480); Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 55; O.S. 2004/957, yr Atodlen; Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43), Atodlen 1, O.S. 2007/961, yr Atodlen, Deddf Iechyd 2009 (p. 21), Atodlen 1 a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), Atodlen 5 a Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413) (Cy. 131).

(5)

OJ Rhif L158, 30.04.2004, t. 77-123.

(6)

1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4, gydag arbedion gweler Gorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/2004) (C. 46).

(7)

O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a’r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddirymwyd, gydag arbedion, gan Rh. St. (G.I.) 1998 Rhif 306.

(9)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

2004 p. 8. Mae adran 41(1) wedi ei diwygio ond nid yw’r diwygiadau hynny yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(11)

Gorchmn. 9171.

(12)

Gorchmn. 3906 (allan o brint).

(13)

2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr, etc) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 9, O.S. 2010/21, Deddf Mewnfudo 2014 (p. 22), Atodlen 9 Rhan 4., O.S. 2011/2581, O.S. 2014/2924 ac O.S. 2016/360.

(16)

2000 p. 14. Mae diwygiadau nad ydynt wedi dod i rym eto (gweler Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, adran 185, Atodlen 3, Rhan 2, paragraffau 40 a 43(d)).

(17)

2016 dccc 2. Nid yw’r ddarpariaeth hon mewn grym eto.

(18)

1988 p. 40; diwygiwyd adran 214(2) gan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), adran 93 ac Atodlen 8.

(19)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(21)

Gorch. 4904 ac OJ Rhif L114, 30.04.02, t. 6.

(22)

1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).

(23)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t. 2 (OJ/SE 1968 (II) t. 475).