11. Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwysol i gwrs cymhwysol arall—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i’r cwrs arall ar gais y myfyriwr cymhwysol oni bai bod y cyfnod cymhwystra wedi dod i ben;
(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (c) os yw’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i’r coleg neu’r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn perthynas â’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo iddo, os bodlonir yr amodau ym mharagraff 12 ac os na fydd gan y myfyriwr cymhwysol hawl i gael benthyciad arall at ffioedd coleg mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno;
(c)os yw’r myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo ar ôl i’r benthyciad at ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni chaiff wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwysol y mae’n trosglwyddo iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 17.2.2017, gweler rhl. 1(2)