xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
73.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r awdurdod academaidd, ar gais y ceisydd, gwblhau datganiad yn y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano fynd gyda’r cais am gymorth o dan reoliad 72.
(2) Nid yw’n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw’n gallu rhoi’r cadarnhad sy’n ofynnol gan is-baragraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(ii).
(3) Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—
(a)pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—
(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o’r cwrs dysgu o bell dynodedig;
(b)mewn unrhyw achos arall, datganiad—
(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a
(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—
(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;
(b)ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod yn ystyried bod y ceisydd yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; ac
(c)mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn fyfyriwr anabl, ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod yn ystyried bod y ceisydd wedi dewis ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am reswm ac eithrio’r ffaith na all y ceisydd fod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd rhesymau sy’n ymwneud ag anabledd y ceisydd.