Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

Swm y grant at deithio

33.—(1Mae swm y grant sy’n daladwy o dan reoliad 32(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i’r gwariant rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu ei bod yn orfodol i’r myfyriwr cymwys fynd iddo at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £303.

(2Cyfrifir swm y grant sy’n daladwy o dan reoliad 32(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

  • lle mae—

  • X yn cynrychioli swm cyfanredol y costau teithio rhesymol y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys fynd iddynt ym mhob chwarter cymhwysol at y dibenion a nodir yn rheoliad 32.

  • Y yn cynrychioli swm cyfanredol y gwariant yr eir iddo ym mhob chwarter cymhwysol ac a bennir ym mharagraff (3).

(3Y gwariant a bennir, y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—

(a)gwariant y mae’r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn mynd iddo wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf corfforol a ddioddefir gan y myfyriwr cymwys yn ystod y cyfnod y mae’n bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus (“y lleoliad” yn y paragraff hwn);

(b)cost fisa neu fisâu y mae’n orfodol i’r myfyriwr cymwys eu cael er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad tramor, yr Athrofa neu’r lleoliad; ac

(c)costau meddygol y mae’n rhesymol i’r myfyriwr cymwys fynd iddynt er mwyn cyflawni amod gorfodol i fynd i’r diriogaeth, y wlad neu’r wladwriaeth lle y mae’r sefydliad tramor, yr Athrofa neu’r lleoliad.