Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017

RHAN 9ASESIAD ARIANNOL

Cyfrifo’r cyfraniad

55.—(1Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw’r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i’w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr cymwys.

Cymhwyso’r cyfraniad

56.—(1Mae swm sy’n hafal i’r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 5, i’w gymhwyso hyd nes dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a’r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w cael fel a ganlyn—

(a)yn gyntaf, i ostwng ADG;

(b)yn ail, i ostwng CCG;

(c)yn drydydd, i ostwng PLA;

(d)yn bedwerydd, i ostwng LLC i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;

(e)yn bumed, i ostwng GFT.

(2Yn y rheoliad hwn—

(a)ADG yw swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;

(b)CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;

(c)GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i’w gael o dan reoliad 32, os oes unrhyw swm o gwbl;

(d)LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys (ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol) hawl i’w gael o dan Ran 6 i ddim llai na’r lefel isaf am y flwyddyn academaidd a bennir ym mharagraff (3);

(e)PLA yw swm, os oes unrhyw swm o gwbl, lwfans dysgu’r rhieni a gyfrifir o dan reoliad 29 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yn rheoliad 56(1)(e) yw, yn achos myfyriwr—

(a)yng nghategori 1, £4,019;

(b)yng nghategori 2, £7,273;

(c)yng nghategori 3, £6,190;

(d)yng nghategori 4, £6,190;

(e)yng nghategori 5, £5,191.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os y flwyddyn academaidd o dan sylw yw blwyddyn derfynol cwrs ac eithrio cwrs dwys, y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw, yn achos myfyriwr—

(a)yng nghategori 1, £3,638;

(b)yng nghategori 2, £6,623;

(c)yng nghategori 3, £5,384;

(d)yng nghategori 4, £5,384;

(e)yng nghategori 5, £4,809.

(5Pan fo categorïau gwahanol yn gymwys i fyfyriwr cymwys ar gyfer gwahanol chwarteri o’r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (3) a (4) yw swm cyfanredol y symiau a benderfynir o dan baragraff (6) ar gyfer pob un o’r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.

(6Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter yw traean o’r swm ym mharagraff (3) neu (4) sy’n cyfateb i’r gyfradd sy’n gymwys ar gyfer y chwarter.

(7Mae i’r categorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 52.