xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL LLAWNAMSER

Myfyrwyr dysgu o bell cymwys

64.—(1Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd ohono â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ddarostyngedig i’r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (8), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu ei gais am gymorth o dan reoliad 72, yn penderfynu bod y person hwnnw yn dod o fewn un o’r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (8) nid yw person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)os, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhoddwyd i A neu os talwyd i A, mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—

(i)bwrsari gofal iechyd pa un a gyfrifir swm y bwrsari hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(1); neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm A ai peidio;

(b)os yw A wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw A wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag A pan oedd A o dan 18 oed;

(d)os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rhan hon; neu

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw A yn garcharor.

(4Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys—

(a)os yw’r person sy’n gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon yn fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd i’r person mewn perthynas â’r cwrs dysgu o bell—

(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y person ai peidio.

(5Nid yw paragraff (3)(e) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn mynd i’r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu’n cael ei ryddhau o’r carchar ar ôl bwrw dedfryd o’r fath.

(6At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(7Mewn achos pan fo’r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, bydd paragraff (3)(c) ddim ond yn gymwys os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur.

(8Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) i (12), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw’n bodloni’r amodau ym mharagraff (9)(a), (b) neu (c).

(9Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8) yw—

(a)bod―

(i)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dysgu o bell presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(ii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y cwrs dysgu o bell presennol; a

(iii)statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu;

(b)bod—

(i)y cwrs dysgu o bell presennol yn gwrs penben;

(ii)y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r cwrs dysgu o bell presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;

(iii)y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â’r cwrs yn is-baragraff (b)(ii) wedi dod i ben oherwydd, yn unig, bod y myfyriwr wedi cwblhau’r cwrs; a

(iv)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b)(ii);

(c)bod—

(i)Gweinidogion Cymru eisoes wedi penderfynu bod y person—

(aa)yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig;

(bb)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig ac eithrio’r cwrs dysgu o bell presennol; neu

(cc)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;

(ii)statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (c)(i) wedi ei drosi neu wedi ei drosglwyddo o’r cwrs hwnnw i’r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(iii)y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (c)(i); a

(iv)statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys heb ei derfynu.

(10Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu briod, partner sifil, rhiant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) neu lys-riant A, yn ôl y digwydd, wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(2)),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(11Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu’n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo’r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys neu’n fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(13Ni chaiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â’r hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn—

(a)at fwy nag un cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(d)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs ôl- radd dynodedig.

Myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd

65.—(1Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i grant o ran ffioedd mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon cyn belled â bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(2Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; a

(b)nid yw grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(3Pan fo un o’r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (e), (f), (g), (h), neu (i) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn unol â’r Rhan hon; ac

(b)nid yw grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ar gael.

(4Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu’n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd a bod y myfyriwr yn wladolyn o’r wladwriaeth honno neu’n aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r wladwriaeth honno;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o’r UE;

(e)bod y wladwriaeth y mae’r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â’r Undeb Ewropeaidd pan fo’r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(f)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio’n barhaol;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(h)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu

(i)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd.

Cyrsiau dysgu o bell dynodedig

66.—(1Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 64 os dynodir ef gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—

(a)bod y cwrs yn cael ei restru yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)bod y cwrs yn gwrs llawnamser;

(c)bod y cwrs yn parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;

(d)nad yw’n ofynnol gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs bod myfyrwyr sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn bresennol ar y cwrs; ac

(e)yn ddarostyngedig i baragraff (5), dechreuodd y cwrs cyn 1 Medi 2012.

(3At ddibenion penderfynu a yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(d) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—

(a)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—

(i)cofrestru neu ymrestru;

(ii)arholiad;

(b)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad sy’n darparu’r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

(c)unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad sy’n darparu’r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw’n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad hwnnw.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)os yw’n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a

(b)os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu’r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.

(5Mae cwrs sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 yn gwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)os yw myfyriwr yn trosglwyddo i’r cwrs hwnnw yn unol â rheoliad 75 o gwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012; neu

(b)os yw’r cwrs hwnnw’n gwrs penben yr ymgymerir ag ef drwy ddysgu o bell, sy’n dilyn ymlaen o gwrs dysgu o bell dynodedig,

a ddechreuodd cyn 1 Medi 2012 a phe byddai’r cwrs hwnnw fel arall yn gwrs dynodedig at ddibenion rheoliad 5.

(6Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu atal dros dro ddynodiad cwrs sydd wedi ei ddynodi o dan y rheoliad hwn.

Cyfnod cymhwystra

67.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig hyd nes y bo’r statws hwnnw’n terfynu yn unol â’r rheoliad hwn neu reoliad 64.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cadw’r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw’r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn a rheoliad 64, mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau ei gwrs dysgu o bell dynodedig ynddi.

(4Mae’r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys (“A” yn y paragraff hwn ac ym mharagraff (5))—

(a)yn tynnu’n ôl o’i gwrs dysgu o bell dynodedig dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu pan na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi statws A o dan reoliad 75, 76, 77 neu 103; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs dysgu o bell dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu’r cyfnod cymhwystra os yw A, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw’n addas i gael cymorth o dan y Rheoliadau hyn.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o’r camau a ganlyn y credent eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu’r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth o dan y Rheoliadau hyn;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i’r myfyriwr o dan y Rheoliadau hyn fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 80.

(7Pan fo’r cyfnod cymhwystra’n terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau’r cwrs dysgu o bell dynodedig ynddi caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.

Cymorth at gyrsiau dysgu o bell

68.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r symiau a ganlyn—

(i)£1,025; neu

(ii)y ffioedd gwirioneddol, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a

(b)grant nad yw’n fwy na £1,155 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan baragraff (1)(b) os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys oddi tano yw paragraff 9.

(3Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn—

(a)os yw’n fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig—

(i)bwrsari gofal iechyd y cyfrifir ei swm drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a gyfrifir swm y lwfans hwnnw drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys ai peidio.

(4Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(5Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl bellach i gael cymorth o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(6Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4) o Atodlen 1.

(7Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfnod cyfanredol o wyth o flynyddoedd academaidd ac wedi cael benthyciad neu grant o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (8) mewn perthynas â phob un o’r blynyddoedd academaidd hynny.

(8Y benthyciadau a’r grantiau yw—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â’r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(3); neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(4).

(9Yn ddarostyngedig i baragraff (12), nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i gael cymorth dan y rheoliad hwn os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(10At ddibenion paragraff (9), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—

(a)os yw’n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer cwrs gradd gyntaf y myfyriwr dysgu o bell cymwys; a

(b)y myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau’r modiwlau, arholiadau neu’r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw’r myfyriwr hwnnw yn parhau’r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu’r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).

(11Nid oes cymorth yn daladwy o dan y Rheoliadau hyn i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â’r myfyriwr hwnnw’n ymgymryd â chwrs dysgu o bell nad yw’n gwrs dysgu o bell dynodedig.

(12Nid yw paragraff (9) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi darparu’r holl wybodaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â gradd gyntaf sydd gan y myfyriwr o sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig;

(b)bod yr wybodaeth honno yn gywir; ac

(c)bod Gweinidogion Cymru wedi darparu’n anghywir hysbysiad bod gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell presennol.

(13Pan fo paragraff (10) yn gymwys, caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn yn unol â pharagraffau (14) i (16).

(14Yn ddarostyngedig i baragraff (16), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (12) cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol, yna caiff y myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol.

(15Yn ddarostyngedig i baragraff (16), os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad o dan baragraff (12) ar neu ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dysgu o bell presennol, yna caiff y myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â—

(a)blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell presennol y mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y penderfyniad ynddi; a

(b)blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell presennol y mae’r myfyriwr wedi ei chwblhau cyn i Weinidogion Cymru wneud y penderfyniad.

(16Caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n ddarostyngedig i benderfyniad o dan baragraff (8) fod â hawl i gael cymorth o dan y rheoliad hwn ac eithrio yn unol â pharagraffau (14) a (15), pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hyn yn briodol o ganlyniad i amgylchiadau eithriadol achos penodol.

Swm y cymorth

69.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 75(6), mae swm y cymorth sy’n daladwy o dan reoliad 68 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)os oes gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ei bartner, ar ddyddiad ei gais, hawlogaeth—

(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(5) i gymhorthdal incwm neu fudd-dal tai;

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(6) i lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;

(iii)o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(7) i lwfans cyflogaeth a chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm;

(iv)i gredyd cynhwysol; neu

(v)i ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor,

mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 68(1) yn daladwy;

(b)pan fo’r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 68(1) yn daladwy;

(c)pan fo’r incwm perthnasol yn £16,865, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 68(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai na’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 68(1)(a);

(d)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £16,865, ond yn llai na £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 68(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 68(1)(a) yw’r swm a benderfynir arno yn unol â pharagraff (2);

(e)pan fo’r incwm perthnasol yn £25,435, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 68(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 68(1)(a) yw £50;

(f)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 68(1)(b) yn daladwy ac nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 68(1)(a);

(g)pan fo’r incwm perthnasol yn £26,095 neu ragor ond yn llai na £28,180, nid oes unrhyw gymorth ar gael o dan reoliad 68(1)(a) a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 68(1)(b) yw’r swm a adewir yn dilyn didynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 68(1)(b) £1 am bob £1.886 o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;

(h)pan fo’r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 68(1)(a) ac mae swm y cymorth taladwy o dan reoliad 68(1)(b) yn £50;

(i)pan fo’r incwm perthnasol yn uwch na £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 68(1).

(2Pan fo paragraff (1)(d) yn berthnasol, penderfynir faint o gymorth sy’n daladwy o dan reoliad 68(1)(a) drwy ddidynnu o’r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 68(1)(a) un o’r symiau a ganlyn—

(a)£50 a £1 ychwanegol am bob £9.26 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865; neu

(b)pan fo’r ffioedd gwirioneddol yn llai na £1,025, cyfanswm sy’n hafal i’r hyn a adewir wedi didynnu o’r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng £1,025 a’r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn rhif negatif ac yn yr achos hwnnw telir yr uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 68(1)(a).

Dehongli rheoliad 69

70.—(1At ddibenion rheoliad 69 a’r rheoliad hwn—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(iii)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel pe bai’n briod i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, pan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn 25 oed neu’n hŷn ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi, a phan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dechrau ar y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

(iv)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel pe bai’n briod neu’n bartner sifil i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, pan fo’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dechrau ar y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(b)nid yw person fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (a) i’w drin fel partner os—

(i)ym marn Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw a’r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi gwahanu; neu

(ii)bod y person fel rheol yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nas cynhelir gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(c)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae incwm perthnasol myfyriwr dysgu o bell cymwys yn hafal i’w ffynonellau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—

(a)£2,000 mewn perthynas â’i bartner;

(b)£2,000 mewn perthynas â’r unig blentyn neu’r plentyn hynaf sy’n ddibynnol ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ar ei bartner; a

(c)£1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy’n ddibynnol ar y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ar ei bartner.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod ffynonellau ariannol y myfyriwr dysgu o bell cymwys am y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na’i ffynonellau ariannol am y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfanswm yn £1,000 neu ragor, rhaid iddynt asesu ffynonellau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at y ffynonellau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr ffynonellau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn blwyddyn ariannol yw swm cyfanredol ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â swm cyfanredol incwm am y flwyddyn honno unrhyw berson sy’n bartner i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar y dyddiad y gwneir y cais am gymorth o dan y Rhan hon.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(d)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy’n gymwys iddo;

(e)ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—

(i)unrhyw daliad a wneir o dan adran 110(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu, yn ôl y digwydd, adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a

(ii)unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002(8);

(f)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw’r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(g)ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir” (“specified designated distance learning course”) yw’r cwrs y mae’r person yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag ef, neu, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo i’r cwrs dysgu o bell presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad neu fwy o’r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru o gwrs dysgu o bell (y “cwrs cychwynnol”) (“initial course”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998, y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir yw’r cwrs cychwynnol.

Grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl

71.—(1Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl yn unol â’r Rhan hon i gael grant i helpu gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei bod yn ofynnol i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys fynd iddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yr unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys odano yw paragraff 9.

(3Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy’n flwyddyn bwrsari.

(4Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(5Ni fydd gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl bellach i gael y grant o dan y rheoliad hwn os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(6Nid yw paragraffau (4) a (5) yn gymwys i berson sydd yn cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4) o Atodlen 1.

(7Yn ddarostyngedig i’r paragraffau a ganlyn, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw’r swm sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr.

(8Ni ddylai swm y grant o dan y rheoliad hwn fod yn fwy na’r canlynol—

(a)£21,181 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,332 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol yr eir iddo—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben gallu bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)o fewn neu o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(d)£1,785 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant yr eir iddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy’n fwy na’r uchafsymiau penodedig.

(9Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) ac (11), mae’r grant o dan y rheoliad hwn yn daladwy i fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn perthynas â phedwar chwarter y flwyddyn academaidd.

(10Pan fo grant o dan y rheoliad hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol (o fewn ystyr paragraff (8)(b)) caiff fod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd gyfan.

(11Pan fo rheoliad 65(3) yn gymwys, dim ond at y dibenion a bennir ym mharagraff (8)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 65(4) ddigwydd y caiff myfyriwr dysgu o bell cymwys fod â hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn.

Ceisiadau am gymorth

72.—(1Rhaid i berson wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani a’i chyflwyno i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid anfon gyda’r cais—

(a)datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a

(b)unrhyw ddogfennaeth ychwanegol a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw’r ceisydd yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, a swm y cymorth sy’n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon, ac os oes ganddo hawl, swm y cymorth sy’n daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y cyflwynir y cais mewn perthynas ag ef.

(6Nid yw paragraff (5) yn gymwys—

(a)pan fo un o’r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) o reoliad 65 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy’n dechrau gyda diwrnod y digwyddiad perthnasol;

(b)pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol; neu

(c)pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau’r achos penodol, y dylid llacio’r terfyn amser, ac os felly rhaid i’r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir ganddynt.

Datganiadau a ddarperir gan awdurdodau academaidd

73.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r awdurdod academaidd, ar gais y ceisydd, gwblhau datganiad yn y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano fynd gyda’r cais am gymorth o dan reoliad 72.

(2Nid yw’n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw’n gallu rhoi’r cadarnhad sy’n ofynnol gan is-baragraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(ii).

(3Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—

(a)pan fo’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—

(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o’r cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)mewn unrhyw achos arall, datganiad—

(i)sy’n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy’n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—

(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y mae’r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â hi;

(b)ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod yn ystyried bod y ceisydd yn ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; ac

(c)mewn unrhyw achos pan fo’r ceisydd yn fyfyriwr anabl, ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod yn ystyried bod y ceisydd wedi dewis ymgymryd â’r cwrs dysgu o bell dynodedig am reswm ac eithrio’r ffaith na all y ceisydd fod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd rhesymau sy’n ymwneud ag anabledd y ceisydd.

Gwybodaeth

74.  Mae Atodlen 3 yn gymwys mewn perthynas â darparu gwybodaeth gan geisydd neu gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys.

Trosglwyddo statws

75.—(1Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo o gwrs dysgu o bell dynodedig i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i’r cwrs arall hwnnw—

(a)pan dderbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)pan ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o’r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi ei derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn yr un sefydliad;

(b)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau’r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn yr un sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth o dan y Rhan hon y penderfynodd Gweinidogion Cymru fod gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys hawl iddo mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’n trosglwyddo oddi arno.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â’r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar gymorth o dan y Rhan hon y myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau’r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 68(1)(b) neu reoliad 71 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo.

(6Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 68(1)(a) mewn perthynas â’r blynyddoedd academaidd y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â’r cwrs sydd â’r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y’u diffinnir yn rheoliad 68.

Trosi statws – myfyrwyr cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dysgu o bell dynodedig

76.—(1Pan fo myfyriwr cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig ac yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan Ran 5 i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, y byddai gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo, ar wahân i’r rheoliad hwn, mewn cysylltiad â’r myfyriwr hwnnw yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd, ac o ddau draean os daw’r myfyriwr hwnnw’n fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno;

(c)pan fo swm o grant at gostau byw myfyrwyr anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr o dan Ran 5 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl sy’n daladwy iddo at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â Rhan 5, ac os yw’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; a

(d)pan fo’r myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais am fenthyciad at gostau byw ar gyfer y flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu’r uchafswm a gynyddwyd yr oedd â hawl iddo, caiff y myfyriwr hwnnw wneud cais am y benthyciad hwnnw neu’r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) gostyngir uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm cynnydd y cyfryw fenthyciad am y flwyddyn academaidd yn unol â’r paragraff hwnnw.

(3Pan fo’r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r benthyciad at gostau byw yn daladwy ar ei chyfer, gostyngir uchafswm y benthyciad neu’r uchafswm a gynyddwyd o’r cyfryw fenthyciad (yn ôl y digwydd) o ddau draean, ac os yw’r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno gostyngir y swm hwnnw o un traean.

Trosi statws – myfyrwyr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dynodedig

77.—(1Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a’i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â’r cwrs y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw’r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Mae’r canlynol yn gymwys i fyfyriwr dysgu o bell cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl i’r myfyriwr hwnnw mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â’r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy’n dechrau ar ôl y dyddiad y daw’r myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys;

(b)bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd y trosglwydda’r myfyriwr hwnnw ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai’r myfyriwr hwnnw ar wahân i’r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth y myfyriwr hwnnw yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter diweddarach o’r flwyddyn honno; a

(d)pan fo swm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i’r myfyriwr hwnnw mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy’n daladwy iddo o dan Ran 5 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo at y diben hwnnw, a phan fo’r swm sy’n deillio o hyn yn ddim neu’n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.

Talu grantiau ar gyfer ffioedd

78.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r grant mewn perthynas â ffioedd y mae hawl gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys i’w gael unwaith y byddant wedi cael gan yr awdurdod academaidd perthnasol—

(a)cais am daliad; a

(b)cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) fel y gwelant yn dda.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y barnant sy’n briodol.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “cadarnhad o bresenoldeb y myfyriwr dysgu o bell cymwys ar y cwrs dysgu o bell dynodedig” (“confirmation of the >eligible distance learning student’s attendance on the designated distance learning course”) yw cadarnhad gan yr awdurdod academaidd perthnasol fod y myfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac wedi dechrau ymgymryd â’r cwrs hwnnw, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â thaliad y cyfan o’r grant mewn perthynas â ffioedd neu’r rhandaliad cyntaf o’r grant mewn perthynas â ffioedd; neu

(b)yn parhau wedi ymrestru ar y cwrs dysgu o bell dynodedig ac yn parhau i ymgymryd â’r cwrs hwnnw ar ddyddiad y cadarnhad, pan fo’r cadarnhad yn ymwneud â rhandaliad o’r grant mewn perthynas â ffioedd, ac eithrio’r rhandaliad cyntaf.

(5Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, yn ystod y flwyddyn academaidd, a’r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dychwelyd yn ystod y flwyddyn academaidd honno, rhaid i’r awdurdod academaidd hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ynghylch ymadawiad y myfyriwr dysgu o bell cymwys o’r cwrs dysgu o bell dynodedig.

Talu grantiau at lyfrau, teithio a gwariant arall a grantiau at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl

79.—(1Caiff taliadau’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl eu gwneud mewn dull y barna Gweinidogion Cymru sydd briodol a chânt osod amod ar gyfer yr hawl i daliad bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys i roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gellir gwneud y taliadau iddo drwy drosglwyddiad electronig.

(2Pan fetha Gweinidogion Cymru â gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cânt wneud asesiad dros dro a gwneud taliad o’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall ac o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn rhandaliadau neu mewn un cyfandaliad.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar adegau y barnant hwy yn briodol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu’r rhandaliad cyntaf na chwaith, pan benderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o’r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall na’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl cyn iddynt dderbyn datganiad o dan reoliad 73 oni bai bod eithriad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) yn gymwys.

(6Mae eithriad at ddibenion paragraff (5) yn gymwys—

(a)os oes grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl yn daladwy, a’r pryd hynny gellir talu’r grant hwnnw cyn bo datganiad wedi dod i law Gweinidogion Cymru;

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai’n briodol oherwydd yr amgylchiadau eithriadol i wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.

Gordaliadau

80.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae gan y myfyriwr hwnnw hawl iddo o dan y Rhan hon.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried nad yw’n briodol gwneud hynny.

(4Y dulliau o adennill yw—

(a)tynnu’r gordaliad o unrhyw fath o grant sy’n daladwy i’r myfyriwr dysgu o bell cymwys o bryd i’w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o Ddeddf 1998;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.

(5Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi’r gorau i’r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu’n wahanol.

(6Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.

(7O dan yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu’n wahanol.

(8Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso’r cyfan neu ran o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nad yw’r offer wedi ei ddanfon at y myfyriwr dysgu o bell cymwys cyn diwedd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr.

(9Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7) yw—

(a)bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)bod taliad grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i’r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.

(10Pan fo gordaliad o’r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â’r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o’r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(11At ddibenion y rheoliad hwn, mae cyfeiriad at fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnyws person sydd wedi cael cymorth o dan y Rhan hon ond nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 64 (myfyrwyr dysgu o bell cymwys).

(2)

2002 p. 41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc) 2004 (p. 19), Atodlenni 2 a 4, Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p. 13), adran 9, O.S. 2010/21 a Deddf Mewnfudo 2004 (p. 22), Atodlen 9, paragraffau 30 a 47(1).

(3)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(4)

1980 p. 44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2). Mewnosodwyd adran 73B gan adran 29(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac fe’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg (Gwaddol Graddedigion a Chymorth Myfyrwyr) (Yr Alban) 2001, Atodlen 6 i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1) ac adran 34(1) o Ddeddf Methdaliad a Diwydrwydd etc. (Yr Alban) 2007 (dsa 3). Diwygiwyd adran 74 gan adran 82 o Ddeddf Ysgolion Hunanlywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39) ac Atodlen 10 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(5)

1992 p. 4; diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14; Deddf Nawdd Cymdeithasol (Anallu i Weithio) 1994, Atodlenni 1 a 2; Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3; Deddf Tai 1996 (p. 52), Atodlen 19, Rhan 6; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 6, Rhan 3; Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Credydau Treth 2002 (p. 21), Atodlen 6; O.S. 2002/1937; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, paragraffau 169 a 179; Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 24 ac Atodlen 30; Deddf Diwygio Lles 2007 (p. 5), adrannau 30(2) a 31(1), Atodlen 3, Atodlen 5 ac Atodlen 8; Deddf Diwygio Lles 2009 (p. 24), adran 3; Deddf Diwygio Lles 2012 (p. 5), adran 69 ac Atodlen 14(1); O.S. 2008/632; O.S. 2008/787; O.S. 2009/497; O.S. 2010/793; O.S. 2014/516, O.S. 2014/560 ac O.S. 2015/457.

(6)

1995 p. 18; diwygiwyd Rhan I gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18), Atodlen 1; Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p. 14), Atodlen 7; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlenni 7 ac 8; Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2002 (p. 19), Atodlen 1; O.S. 2006/343; Deddf Diwygio Lles 2007 (p. 5), Atodlen 3; Deddf Diwygio Lles 2009 (p. 24), adran 12; Deddf Diwygio Lles 2012 (p. 5), adrannau 44, 49 a 60 ac Atodlenni 2, 7 a 14.

(7)

2007 p. 5, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5), adrannau 28, 51, 52, 53, 54, 57 a 60 ac Atodlenni 3 a 14 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 7.

(8)

2002 p. 21, diwygiwyd adran 3 gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), adran 254 ac Atodlen 24.