- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”, ar ôl “Nghymru” mewnosoder, “(yn ddarostyngedig i reoliad 4A)”;
(3) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—
4A.—(1) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru sy’n —
ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw pwyllgor awdurdod perthnasol sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol ac mae’n cynnwys is-bwyllgor;
mae i “swyddogaeth berthnasol” yr un ystyr a roddir i “relevant function” gan adran 319ZD o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4).
(2) Heb fod yn hwyrach na chyfarfod arferol cyntaf yr awdurdod perthnasol ar ôl 5 Mai 2017, ac mewn cysylltiad â’r materion a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i’r awdurdod perthnasol—
(a)gwneud rheolau sefydlog sy’n ymgorffori’r darpariaethau a nodir yn Atodlen 2A, neu ddarpariaethau sy’n cael yr un effaith; a
(b)addasu unrhyw rai o’u rheolau sefydlog presennol i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r darpariaethau hynny.
(3) Y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(a)cworwm ar gyfer cyfarfod pwyllgor;
(b)aelodaeth pwyllgor”.
(4) Ar ôl Atodlen 2, mewnosoder —
rheoliad 4A
1. Ni chaniateir trafod busnes mewn cyfarfod pwyllgor oni bai bod o leiaf hanner cyfanswm nifer aelodau’r pwyllgor yn bresennol, wedi’i dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.
2. Ni chaniateir i awdurdod perthnasol benodi un arall o’i aelodau i fod yn aelod o bwyllgor yn absenoldeb yr aelod a benodwyd yn unol â Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017(5).”
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: