xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

6.  Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£73.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£73.85” ac yn lle “£57.90” rhodder “£58.50”;

(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£73.10” rhodder “£73.85”;

(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£114.85” rhodder “£116.00”;

(b)ym mharagraff 11 (premiwm anabledd difrifol)—

(i)yn is-baragraff (2)(a)(iii) ar ôl “DCBNC” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013”;

(ii)yng ngeiriau cau is-baragraff (2)(b)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(iii)yn is-baragraff (5)(b)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu fod ganddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu y byddai ganddo ddyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(iv)yn is-baragraff (6) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(v)yn is-baragraff (7)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu a fyddai wedi cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(c)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)yn y golofn gyntaf—

(aa)yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;

(bb)yn is-baragraff (2)(b)(ii), ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu nad ydynt yn cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(ii)yn yr ail golofn—

(aa)yn is-baragraff (1) yn lle “£32.25” a “£45.95” rhodder “£32.55” a “£46.40” yn y drefn honno;

(bb)yn is-baragraff (2) yn lle “£61.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£62.45” ac yn lle “£123.70” rhodder “£124.90”;

(cc)yn is-baragraff (3) yn lle “£60.06” rhodder “£60.90”;

(dd)yn is-baragraff (4) yn lle “£34.60” rhodder “£34.95”;

(ee)yn is-baragraff (5) yn lle “£24.43”, “£15.75” a “£22.60” rhodder “£24.78”, “£15.90” a “£22.85” yn y drefn honno;

(d)ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£29.05” rhodder “£29.35”;

(e)ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£36.20” rhodder “£36.55”.