Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 20136

Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

a

yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

i

yn is-baragraff (1) yn lle “£73.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£73.85” ac yn lle “£57.90” rhodder “£58.50”;

ii

yn is-baragraff (2) yn lle “£73.10” rhodder “£73.85”;

iii

yn is-baragraff (3) yn lle “£114.85” rhodder “£116.00”;

b

ym mharagraff 11 (premiwm anabledd difrifol)—

i

yn is-baragraff (2)(a)(iii) ar ôl “DCBNC” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013”;

ii

yng ngeiriau cau is-baragraff (2)(b)—

aa

ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

bb

ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

iii

yn is-baragraff (5)(b)—

aa

ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu fod ganddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

bb

ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu y byddai ganddo ddyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

iv

yn is-baragraff (6) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

v

yn is-baragraff (7)—

aa

ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

bb

ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu a fyddai wedi cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

c

yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

i

yn y golofn gyntaf—

aa

yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;

bb

yn is-baragraff (2)(b)(ii), ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu nad ydynt yn cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

ii

yn yr ail golofn—

aa

yn is-baragraff (1) yn lle “£32.25” a “£45.95” rhodder “£32.55” a “£46.40” yn y drefn honno;

bb

yn is-baragraff (2) yn lle “£61.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£62.45” ac yn lle “£123.70” rhodder “£124.90”;

cc

yn is-baragraff (3) yn lle “£60.06” rhodder “£60.90”;

dd

yn is-baragraff (4) yn lle “£34.60” rhodder “£34.95”;

ee

yn is-baragraff (5) yn lle “£24.43”, “£15.75” a “£22.60” rhodder “£24.78”, “£15.90” a “£22.85” yn y drefn honno;

d

ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£29.05” rhodder “£29.35”;

e

ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£36.20” rhodder “£36.55”.