xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 46 (Cy. 20)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

18 Ionawr 2017

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.

Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn, a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu ar ôl hynny.

(4Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013(2), neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

2.  Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.

3.  Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—

(i)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£12.25” rhodder “£12.70”;

(ii)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.05” rhodder “£4.20”;

(iii)yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00” rhodder “£200.00”;

(iv)yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00” rhodder “£200.00”;

(v)yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;

(vi)yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;

(vii)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” rhodder “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” yn y drefn honno;

(b)ym mharagraff 11 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr)—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “is-baragraff (2) neu (4)” rhodder “is-baragraff (2), (3A), (4A) neu (5)”;

(ii)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid cymryd i ystyriaeth incwm a gyfrifir yn unol ag is-baragraffau (2) a (3)—

(a)yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;

(b)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu

(c)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae enillion o gyflogaeth y ceisydd yn newid er mwyn ei gwneud yn ofynnol ailgyfrifo o dan y paragraff hwn, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio.;

(iii)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(4A) Rhaid cymryd i ystyriaeth enillion o gyflogaeth ceisydd fel enillydd cyflogedig na chyfrifir yn unol ag is-baragraffau (2) a (3)—

(a)yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;

(b)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu

(c)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn dyddiad y newid, a dechrau pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio.;

(c)ym mharagraff 13(5)(a) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr)—

(i)yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35, 36 neu 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;

(ii)hepgorer “(lwfansau personol)”;

(iii)yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”;

(d)ym mharagraff 22(b) (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc) yn lle “ryddhad treth personol” rhodder “ryddhadau treth personol o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3 o Ddeddf Treth Incwm 2007(3)”;

(e)ym mharagraff 24(1)(b) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig) yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35, 36 neu 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”.

4.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn y fersiwn Gymraeg—

(aa)yn is-baragraff (1) yn lle “£155.60” a “£168.70” rhodder “£159.35” a “£172.55” yn y drefn honno;

(bb)yn is-baragraff (2) yn lle “£237.55” a “£252.30” rhodder “£243.25” a “£258.15” yn y drefn honno;

(cc)yn is-baragraff (3) yn lle “£237.55” a “£81.95” rhodder “£243.25” a “£83.90” yn y drefn honno;

(dd)yn is-baragraff (4) yn lle “£252.30” a “£83.60” rhodder “£258.15” a “£85.60” yn y drefn honno;

(ii)yn y fersiwn Saesneg—

(aa)yn is-baragraff (1) yn lle “£155.60” a “£170.45” rhodder “£159.35” a “£172.55” yn y drefn honno;

(bb)yn is-baragraff (2) yn lle “£237.55” a “£255.00” rhodder “£243.25” a “£258.15” yn y drefn honno;

(dd)yn is-baragraff (4) yn lle “£255.50” a “£84.55” rhodder “£258.15” a “£85.60” yn y drefn honno;

(b)ym mharagraff 6 (premiwm anabledd difrifol)—

(i)yn is-baragraff (2)(a)(iii) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “o dan adran 70 o DCBNC(4) neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(5)”;

(ii)yng ngeiriau cau is-baragraff (2)(b)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(iii)yn is-baragraff (7)(d)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu fod ganddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu y byddai ganddo ddyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(iv)yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(v)yn is-baragraff (8)(b)—

(bb)ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu a fyddai wedi cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(c)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)yn y golofn gyntaf—

(aa)yn is-baragraff (1)(b)(i), ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;

(bb)yn is-baragraff (1)(b)(ii), ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu nad ydynt yn cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(ii)yn yr ail golofn—

(aa)yn is-baragraff (1) yn lle “£61.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£62.45” ac yn lle “£123.70” rhodder “£124.90”;

(bb)yn is-baragraff (2) yn lle “£24.43” rhodder “£24.78”;

(cc)yn is-baragraff (3) yn lle “£60.06” rhodder “£60.90”;

(dd)yn is-baragraff (4) yn lle “£34.60” rhodder “£34.95”.

5.  Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(i)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£12.25” rhodder “£12.70”;

(ii)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.05” rhodder “£4.20”;

(iii)yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00” rhodder “£200.00”;

(iv)yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00” rhodder “£200.00”;

(v)yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;

(vi)yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;

(vii)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” rhodder “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” yn y drefn honno;

(b)ym mharagraff 10(2)(a) (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) ar ôl “os cafodd y ceisydd unrhyw enillion” mewnosoder “neu os yw’n disgwyl cael swm o enillion”;

(c)ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

Y dyddiad y cymerir i ystyriaeth incwm sy’n cynnwys enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

10A.  Rhaid cymryd i ystyriaeth enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth ceisydd a amcangyfrifir yn unol â pharagraff 10 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) a pharagraffau 14 a 15 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) o’r Atodlen hon—

(a)yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;

(b)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu

(c)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn dyddiad y newid, a dechrau pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio.;

(d)ym mharagraff 15(6)(a) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(i)yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;

(ii)hepgorer “(lwfansau personol)”;

(iii)yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”;

(e)ym mharagraff 19(10)(a) (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(i)yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;

(ii)hepgorer “(lwfansau personol)”;

(iii)yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”;

(f)ym mharagraff 23(b) (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc) yn lle “ryddhad treth personol” rhodder “ryddhadau treth personol o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3 o Ddeddf Treth Incwm 2007”;

(g)ym mharagraff 25(1)(b) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig)—

(i)yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;

(ii)hepgorer “(lwfansau personol)”.

6.  Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£73.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£73.85” ac yn lle “£57.90” rhodder “£58.50”;

(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£73.10” rhodder “£73.85”;

(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£114.85” rhodder “£116.00”;

(b)ym mharagraff 11 (premiwm anabledd difrifol)—

(i)yn is-baragraff (2)(a)(iii) ar ôl “DCBNC” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013”;

(ii)yng ngeiriau cau is-baragraff (2)(b)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(iii)yn is-baragraff (5)(b)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu fod ganddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu y byddai ganddo ddyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(iv)yn is-baragraff (6) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(v)yn is-baragraff (7)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu a fyddai wedi cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(c)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)yn y golofn gyntaf—

(aa)yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;

(bb)yn is-baragraff (2)(b)(ii), ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu nad ydynt yn cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(ii)yn yr ail golofn—

(aa)yn is-baragraff (1) yn lle “£32.25” a “£45.95” rhodder “£32.55” a “£46.40” yn y drefn honno;

(bb)yn is-baragraff (2) yn lle “£61.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£62.45” ac yn lle “£123.70” rhodder “£124.90”;

(cc)yn is-baragraff (3) yn lle “£60.06” rhodder “£60.90”;

(dd)yn is-baragraff (4) yn lle “£34.60” rhodder “£34.95”;

(ee)yn is-baragraff (5) yn lle “£24.43”, “£15.75” a “£22.60” rhodder “£24.78”, “£15.90” a “£22.85” yn y drefn honno;

(d)ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£29.05” rhodder “£29.35”;

(e)ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£36.20” rhodder “£36.55”.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013

7.  Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013(6) wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 8 i 18.

8.  Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£12.25” rhodder “£12.70”;

(b)yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.05” rhodder “£4.20”;

(c)yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00” rhodder “£200.00”;

(d)yn is-baragraff (2)(a) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00” rhodder “£200.00”;

(e)yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Gymraeg, yn lle “£195.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;

(f)yn is-baragraff (2)(b) o’r fersiwn Saesneg, yn lle “£194.00”, “£338.00” a “£8.10” rhodder “£200.00”, “£346.00” a “£8.40” yn y drefn honno;

(g)yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£338.00”, “£420.00” a “£10.25” rhodder “£346.00”, “£430.00” a “£10.60” yn y drefn honno.

9.  Ym mharagraff 37 (cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr)—

(a)yn is-baragraff (1) yn lle “is-baragraff (2) neu (4)” rhodder “is-baragraff (2), (3A), (4A) neu (5)”;

(b)ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—

(3A) Rhaid cymryd i ystyriaeth incwm a gyfrifir yn unol ag is-baragraffau (2) a (3)—

(a)yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;

(b)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu

(c)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae enillion o gyflogaeth y ceisydd yn newid er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ailgyfrifo o dan y paragraff hwn, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio.;

(c)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(4A) Rhaid cymryd i ystyriaeth enillion o gyflogaeth ceisydd fel enillydd cyflogedig na chyfrifir yn unol ag is-baragraffau (2) a (3)—

(a)yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;

(b)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu

(c)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn dyddiad y newid, a dechrau pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno.

10.  Ym mharagraff 39(5)(a) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr)—

(a)yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;

(b)hepgorer “(lwfansau personol)”;

(c)yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”.

11.  Ym mharagraff 44(2)(a) (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) ar ôl “os cafodd y ceisydd unrhyw enillion” mewnosoder “neu ei fod yn disgwyl cael swm o enillion”.

12.  Ar ôl paragraff 44 mewnosoder—

Y dyddiad y cymerir i ystyriaeth incwm sy’n cynnwys enillion o gyflogaeth fel enillydd cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr

44A.  Rhaid cymryd i ystyriaeth enillion wythnosol cyfartalog ceisydd o gyflogaeth wedi ei amcangyfrif yn unol â pharagraff 44 (enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr) a pharagraffau 48 a 49 (enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yn achos cais, ar y dyddiad y gwnaed y cais neu’r dyddiad y trinnir y cais fel pe bai wedi ei wneud, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio;

(b)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo’r ceisydd yn cychwyn cyflogaeth, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn y dyddiad y mae’r ceisydd yn cychwyn y gyflogaeth honno, a diwrnod cyntaf pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio; neu

(c)yn achos cais neu ostyngiad o dan gynllun pan fo enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd yn newid, y diwrnod cyntaf o’r wythnos ostyngiad yn dilyn dyddiad y newid, a dechrau pob wythnos ostyngiad wedi hynny, ni waeth pa un a gafwyd yr enillion hynny mewn gwirionedd yn ystod yr wythnos ostyngiad honno ai peidio.

13.  Ym mharagraff 49(6)(a) (cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;

(b)hepgorer “(lwfansau personol)”;

(c)yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”.

14.  Ym mharagraff 53(10)(a) (incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A”;

(b)hepgorer “(lwfansau personol)”;

(c)yn lle “rhyddhad” yn yr ail le y mae’n digwydd rhodder “rhyddhadau”.

15.  Ym mharagraff 57(b) (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc) yn lle “ryddhad treth personol” rhodder “ryddhadau treth personol o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3 o Ddeddf Treth Incwm 2007”.

16.  Ym mharagraff 59(1)(b) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig)—

(a)yn lle “rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adrannau 35 i 37” rhodder “rhyddhadau personol y mae hawl gan y ceisydd i’w cael o dan Benodau 2, 3 a 3A o Ran 3”;

(b)hepgorer “(lwfansau personol)”.

17.  Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn y fersiwn Gymraeg—

(aa)yn is-baragraff (1) yn lle “£155.60” a “£168.70” rhodder “£159.35” a “£172.55” yn y drefn honno;

(bb)yn is-baragraff (2) yn lle “£237.55” a “£252.30” rhodder “£243.25” a “£258.15” yn y drefn honno;

(cc)yn is-baragraff (3) yn lle “£237.55” a “£81.95” rhodder “£243.25” a “£83.90” yn y drefn honno;

(dd)yn is-baragraff (4) yn lle “£252.30” a “£83.60” rhodder “£258.15” a “£85.60” yn y drefn honno;

(ii)yn y fersiwn Saesneg—

(aa)yn is-baragraff (1) yn lle “£155.60” a “£170.45” rhodder “£159.35” a “£172.55” yn y drefn honno;

(bb)yn is-baragraff (2) yn lle “£237.55” a “£255.00” rhodder “£243.25” a “£258.15” yn y drefn honno;

(cc)yn is-baragraff (3) yn lle “£237.55” a “£81.95” rhodder “£243.25” a “£83.90” yn y drefn honno;

(dd)yn is-baragraff (4) yn lle “£255.50” a “£84.55” rhodder “£258.15” a “£85.60” yn y drefn honno;

(b)ym mharagraff 6 (premiwm anabledd difrifol)—

(i)yn is-baragraff (2)(a)(iii) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “o dan adran 70 o DCBNC neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013”;

(ii)yng ngeiriau cau is-baragraff (2)(b)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(iii)yn is-baragraff (7)(d)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu fod ganddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu y byddai ganddo ddyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(iv)yn is-baragraff (8)(a) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(v)yn is-baragraff (8)(b)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu a fyddai wedi cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(c)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)yn y golofn gyntaf—

(aa)yn is-baragraff (1)(b)(i) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;

(bb)yn is-baragraff (1)(b)(ii), ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu nad ydynt yn cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(ii)yn yr ail golofn—

(aa)yn is-baragraff (1) yn lle “£61.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£62.45” ac yn lle “£123.70” rhodder “£124.90”;

(bb)yn is-baragraff (2) yn lle “£24.43” rhodder “£24.78”;

(cc)yn is-baragraff (3) yn lle “£60.06” rhodder “£60.90”;

(dd)yn is-baragraff (4) yn lle “£34.60” rhodder “£34.95”.

18.  Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—

(a)yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “£73.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£73.85” ac yn lle “£57.90” rhodder “£58.50”;

(ii)yn is-baragraff (2) yn lle “£73.10” rhodder “£73.85”;

(iii)yn is-baragraff (3) yn lle “£114.85” rhodder “£116.00”;

(b)ym mharagraff 11 (premiwm anabledd difrifol)—

(i)yn is-baragraff (2)(a)(iii) ar ôl “DCBNC” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013”;

(ii)yng ngeiriau cau is-baragraff (2)(b)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(iii)yn is-baragraff (5)(b)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu fod ganddo ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu y byddai ganddo ddyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(iv)yn is-baragraff (6) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(v)yn is-baragraff (7)—

(aa)ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr”;

(bb)ar ôl “lwfans hwnnw” mewnosoder “neu a fyddai wedi cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(c)yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—

(i)yn y golofn gyntaf—

(aa)yn is-baragraff (2)(b)(i) ar ôl “lwfans gofalwr” mewnosoder “neu sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr o dan reoliad 29 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013,”;

(bb)yn is-baragraff (2)(b)(ii), ar ôl “lwfans o’r fath” mewnosoder “neu nad ydynt yn cael dyfarniad o’r fath o gredyd cynhwysol”;

(ii)yn yr ail golofn—

(aa)yn is-baragraff (1) yn lle “£32.25” a “£45.95” rhodder “£32.55” a “£46.40” yn y drefn honno;

(bb)yn is-baragraff (2) yn lle “£61.85” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£62.45” ac yn lle “£123.70” rhodder “£124.90”;

(cc)yn is-baragraff (3) yn lle “£60.06” rhodder “£60.90”;

(dd)yn is-baragraff (4) yn lle “£34.60” rhodder “£34.95”;

(ee)yn is-baragraff (5) yn lle “£24.43”, “£15.75” a “£22.60” rhodder “£24.78”, “£15.90” a “£22.85” yn y drefn honno;

(d)ym mharagraff 23 (swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith), yn lle “£29.05” rhodder “£29.35”;

(e)ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£36.20” rhodder “£36.55”.

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Ionawr 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.

Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu pa ostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, yr ystyria’r awdurdod eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi pa faterion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.

Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(a), 4(a) ac (c)(ii), 5(a), 6(a) ac (c)(ii) i (e) yn cynyddu rhai o’r ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson yr hawl i gael gostyngiad ai peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigurau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawl gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd gyferbyn ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawl gan y ceisydd i’w gael). Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 8, 17(a) ac (c)(ii), 18(a) ac (c)(ii) i (e).

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(a)(iii) i (vi), 4(a) a 5(a)(iii) i (vi) hefyd yn cywiro anghysondebau rhwng y ffigurau yn fersiynau Cymraeg a Saesneg y Rheoliadau hynny a fewnosodwyd gan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2016. Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 8(c) i (f) a 17(a).

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir yn rheoliadau 3(b) a 5(b) ac (c) yn gwneud newidiadau i ddarpariaethau ynghylch pa bryd yr ystyrir enillion wythnosol cyfartalog o gyflogaeth y ceisydd. Ystyrir yr enillion yn yr wythnosau gostyngiad a bennwyd, hyd yn oed os nad yw’r ceisydd mewn gwirionedd yn cael yr enillion gan ei gyflogwr yn ystod yr wythnos honno. Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 9, 11 a 12.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 3(c) i (e) a 5(d) i (g) yn diweddaru cyfeiriadau at “rhyddhadau personol” er mwyn cyfeirio at ddarpariaethau perthnasol Deddf Treth Incwm 2007. Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 10 a 13 i 16.

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a wneir gan reoliadau 4(b) i (c)(i) a 6(b) ac (c)(i) yn darparu, pan fo gan ofalwr person ag anabledd difrifol ddyfarniad o gredyd cynhwysol sy’n cynnwys yr elfen gofalwr, na fydd gan y person hwnnw ag anabledd difrifol yr hawl i’r premiwm anabledd difrifol wrth bennu swm cymwysadwy’r person hwnnw. Gwneir yr un diwygiadau mewn perthynas â’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 17(b) ac (c)(i) a 18(b) ac (c)(i).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno, ac Atodlen 4 iddi.

(4)

Ystyr “DCBNC” (“SSCBA”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (p. 4); gweler y diffiniad yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013.

(5)

O.S. 2013/376 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2015/1754.