Offerynnau Statudol Cymru
2017 Rhif 46 (Cy. 20)
Y Dreth Gyngor, Cymru
Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017
Gwnaed
18 Ionawr 2017
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1) a pharagraffau 2 i 7 o Atodlen 1B iddi.
Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
(1)
1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno, ac Atodlen 4 iddi.