xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
21 Mawrth 2017
Yn dod i rym
5 Mai 2017
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw —
cyngor sir yng Nghymru;
cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw awdurdod cynllunio lleol perthnasol(4);
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
mae “pwyllgor” (“committee”) yn cynnwys is-bwyllgor awdurdod perthnasol;
ystyr “ward amlaelod(5)” (“multiple member ward”) yw ward etholiadol yr etholir drosti fwy nag un aelod; ac
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti aelodau i awdurdod lleol.
3. —Mae’r gofynion a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 319ZB o Ddeddf 1990.
4.—(1) Mae awdurdod perthnasol i benodi i bwyllgor yr awdurdod sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol(6)—
(a)dim llai nag 11 o’u haelodau; a
(b)dim mwy nag 21 o’u haelodau.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i reoliad 5.
5.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i awdurdod perthnasol sy’n—
(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol; neu
(b)bwrdd cydgynllunio(7).
(2) Rhaid i nifer yr aelodau a benodir i bwyllgor yn unol â’r rheoliad 4 beidio â bod yn fwy na hanner cyfanswm nifer aelodau’r awdurdod perthnasol, wedi ei dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.
6.—(1) Yn achos ward amlaelod, un o aelodau’r awdurdod lleol yn unig o’r ward hwnnw sy’n gymwys i’w benodi i bwyllgor awdurdod perthnasol.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i awdurdod lleol sy’n cynnwys wardiau amlaelod yn unig.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
21 Mawrth 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gofynion sy’n ymwneud â maint a chyfansoddiad pwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdodau cynllunio lleol perthnasol yng Nghymru sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol.
“Awdurdodau cynllunio lleol perthnasol” yw cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol, byrddau cydgynllunio ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. “Swyddogaeth berthnasol” yw swyddogaeth sy’n arferadwy gan awdurdod cynllunio lleol perthnasol mewn perthynas â chais o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (gweler adran 319ZD o’r Ddeddf honno).
Y gofynion yw bod pwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdodau cynllunio lleol perthnasol i gynnwys dim llai nag 11 o aelodau a dim mwy nag 21 o aelodau o’r awdurdod. Mewn perthynas â wardiau amlaelod, un aelod o’r ward yn unig sy’n gymwys i gael ei benodi i bwyllgor neu is-bwyllgor. Nid yw’r cyfyngiad ar benodi un aelod yn unig yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cynnwys wardiau amlaelod yn unig.
Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.
1990 p. 8. Mewnosodwyd adrannau 319ZB a 319ZC yn y Ddeddf honno gan adran 39(1) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).
Diwygiwyd adran 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a pharagraff 3 o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cofnod yn Atodlen 1 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.
Gweler adran 319ZD o Ddeddf 1990 ar gyfer y diffiniad o “relevant local planning authority”.
Gweler adran 29(11) o Ddeddf Democratiaeth Llywodraeth Leol (Cymru) 2013 ( 2013 dccc 4).
Gweler adran 319ZD ar gyfer y diffiniad o “relevant function”.
Caniateir cyfansoddi bwrdd cydgynllunio ar gyfer ardal yng Nghymru drwy orchymyn o dan adran 2(1B) o Ddeddf 1990.