- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Adnoddau Dŵr, Cymru
Gwnaed
20 Mawrth 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Mawrth 2017
Yn dod i rym
1 Mai 2017
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr, ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori mewn perthynas â rheoliad 6 o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013(3).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 1 Mai 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (dyfroedd wyneb yng Nghymru) i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar ôl “Tenby South”, mewnosoder “Traeth Glan Don Beach”.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
20 Mawrth 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rhan 2 o Atodlen 2 (dyfroedd wyneb yng Nghymru) i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (“y Rheoliadau”), sy’n rhestru’r dyfroedd a nodwyd gan Weinidogion Cymru fel dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu Traeth Glan Don Beach at y rhestr o ddyfroedd ymdrochi a nodwyd yn y Rheoliadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid oes unrhyw asesiad effaith wedi ei lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn gan nad oes unrhyw newid i bolisïau, nac unrhyw effaith ar fusnesau na’r sector gwirfoddol yn cael ei rhagweld.
Gweler O.S. 2003/2901 ar gyfer y dynodiad a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 28 o Atodlen 11 iddi, mae’r dynodiad hwnnw bellach wedi ei roi i Weinidogion Cymru.
1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).
O.S. 2013/1675; fel y’i diwygiwyd o ran Cymru gan O.S. 2014/1067 (Cy. 106) ac O.S. 2016/314 (Cy. 103).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: