78. Brics glo Thermac, a weithgynhyrchir gan Coal Products Limited yn Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln—
(a)a gyfansoddir o lo caled (sef tua 90% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr organig sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;
(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;
(d)sy’n pwyso 48 gram ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy nag 1.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.