xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
77. Therma Briquettes, a weithgynhyrchir gan Maxibrite Limited yn Ystad Ddiwydiannol Mwyndy, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf—
(a)a gyfansoddir o ronynnau glo caled (sef tua 84% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef tua 12% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr starts (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 250°C;
(c)sy’n frics glo hirgrwn/ar siâp deigryn gyda llinell drwy’r canol;
(d)sy’n pwyso 26 gram ar gyfartaledd; ac
(e)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.