YR ATODLENTanwyddau Awdurdodedig

47

Hot Drops, a weithgynhyrchir gan EU Zeme Limited yn Riga, Eksporta Street 15, LV-1045, Latfia—

a

a gyfansoddir o falurion glo caled (sef tua 73% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef tua 18% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr o driagl ac asid orthoffosfforig (sef gweddill y pwysau);

b

a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu, ac wedyn eu trin â gwres o tua 250 i 280ºC;

c

sy’n frics glo, ar siâp gobennydd sydd bron yn grwn, gyda diamedr o 40 o filimetrau a thrwch o tua 21 o filimetrau yng nghanol y fricsen;

d

sy’n pwyso 23 gram ar gyfartaledd; ac

e

nad yw mwy na 0.5% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.