YR ATODLENTanwyddau Awdurdodedig

35.  Brics glo Extracite, a weithgynhyrchir gan Sophia-Jacoba Handelsgesellschaft GmbH yn Hückelhoven, yr Almaen—

(a)a gyfansoddir o lwch glo caled (sef tua 95.5% o’r cyfanswm pwysau) a lleisw amoniwm lignosylffonad yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thrin â gwres o tua 260°C;

(c)sy’n frics glo ag arlliw ariannaidd ar siâp clustog, wedi eu marcio â’r llythrennau “S” a “J”;

(d)sy’n pwyso 40 gram ar gyfartaledd; ac

(e)y mae cyfanswm eu pwysau yn cynnwys tua 1.2% o sylffwr.