Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2017

22.  Cosycoke (a farchnetir hefyd fel Lionheart Crusader neu Sunbrite Plus), a weithgynhyrchir gan Monckton Coke & Chemical Company Limited yn Royston, ger Barnsley, De Swydd Efrog ac Aimcor Supercoke (a farchnetir hefyd fel Supercoke), a weithgynhyrchir gan M & G Fuels Limited yn Hartlepool Docks, Hartlepool, ac ym mhob achos—

(a)a gyfansoddir o olosg caled o faint penodol (sef tua 45 i 65% o’r cyfanswm pwysau) a golosg petrolewm o faint penodol (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy eu blendio;

(c)sy’n hapsiapiau heb eu marcio; a

(d)nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.