YR ATODLENTanwyddau Awdurdodedig
2
Brics glo Aimcor Excel, a weithgynhyrchir gan Applied Industrial Materials UK Limited yn Newfield, Swydd Durham, neu a weithgynhyrchir gan Oxbow Carbon & Minerals UK Limited yn Windsor House, Cornwall Road, Harrogate, Gogledd Swydd Efrog—
a
a gyfansoddir o olosg petrolewm (sef tua 60 i 75% o’r cyfanswm pwysau), glo anweddolrwydd-isel a golosg adweithiol (sef tua 20 i 25% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr resin sy’n caledu wrth oeri (sef gweddill y pwysau);
b
a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu;
c
sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd;
d
sy’n pwyso 73 gram ar gyfartaledd; ac
e
nad yw mwy na 2% o gyfanswm eu pwysau yn sylffwr.