- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Dreth Gyngor, Cymru
Gwnaed
23 Ionawr 2017
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Ionawr 2017
Yn dod i rym
15 Chwefror 2017
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 15 Chwefror 2017.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2017 neu ar ôl hynny.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992(3) wedi eu diwygio yn unol â’r paragraffau a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli)—
(a)ar ddiwedd y diffiniad o “managing agent” hepgorer y gair “and”;
(b)ar ôl y diffiniad o “managing agent” mewnosoder—
““premium” means an increase in the amount of council tax payable in respect of a dwelling as a result of a determination made by the billing authority under section 12A(1) or 12B(1) of the Act; and”.
(3) Yn y pennawd i Ran IV, yn lle “Discounts” rhodder “Discounts and Premiums”.
(4) Yn rheoliad 14 (canfod hawl i gael disgownt)—
(a)yn y pennawd ar ôl “Ascertainment of entitlement to discount” mewnosoder “or liability to premium”;
(b)ar ôl y gair “discount” yn y ddau le yr ymddengys mewnosoder “or premium”.
(5) Yn rheoliad 15 (tybiaethau)—
(a)yn y pennawd ar ôl “Assumptions as to discount” mewnosoder “or premium”;
(b)ar ôl y gair “discount” ym mhob lle yr ymddengys ym mharagraffau (1) a (2) mewnosoder “or premium”.
(6) Yn rheoliad 16 (cywiro tybiaethau ynghylch disgownt)—
(a)yn y pennawd ar ôl “Correction of discount” mewnosoder “or premium”;
(b)ym mharagraff (1) ar ôl y gair “discount” ym mhob lle yr ymddengys mewnosoder “or premium”.
(7) Ym mharagraff 10 o Atodlen 1 (cynlluniau rhandaliadau’r dreth gyngor) ar ôl is-baragraff (1)(e) mewnosoder—
“(ea)the notice was so served on the assumption that, as regards any day in the period to which the notice relates, the person would be or was liable to a premium and was not or has ceased to be so liable or was or is liable to a premium of a smaller or larger amount than had been assumed;
(eb)the notice was so served on the assumption that, as regards any day in the period to which the notice relates, the person was not or would not be liable to a premium and was or is so liable;”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
23 Ionawr 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) yn gwneud darpariaeth ynghylch bilio, casglu a gorfodi’r dreth gyngor.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 o ran Cymru i gymryd ystyriaeth o bremiymau’r dreth gyngor ar gartrefi gwag hirdymor ac ail gartrefi a gyflwynir o dan adrannau 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a fewnosodir i’r Ddeddf honno gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Mae’r Rheoliadau hyn yn galluogi i’r premiymau gael eu bilio a’u gorfodi.
Mae’r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bilio, cyn cyfrifo’r swm sydd i’w godi mewn cysylltiad ag annedd, gymryd camau rhesymol i ganfod a yw’r swm yn destun premiwm, ac os ydyw, beth yw swm y premiwm (gweler rheoliad 2(4)). Ar ôl cymryd y camau rhesymol hynny, rhaid i’r awdurdod bilio wneud tybiaethau penodol (gweler rheoliad 2(5)). Pan fo person wedi cael gwybod bod tybiaeth wedi ei gwneud ond bod ganddo reswm dros gredu bod y dybiaeth honno yn anghywir, rhaid i’r person hysbysu’r awdurdod yn ysgrifenedig o fewn 21 diwrnod (gweler rheoliad 2(6)).
Mae Atodlen 1 i Reoliadau 1992 yn gwneud darpariaeth ynghylch talu’r dreth gyngor mewn rhandaliadau. Mae’r diwygiadau yn nodi’r amgylchiadau pryd y bydd rhaid i awdurdod bilio addasu’r rhandaliadau sy’n daladwy pan fo hysbysiad galw am dalu wedi ei gyflwyno ar y sail bod premiwm yn gymwys ai peidio (gweler rheoliad 2(7)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1992 p. 14. Diwygiwyd adran 113 gan baragraffau 40 a 52 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26), adran 80(1) a (4) i (6) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Diwygiwyd paragraff 2(4)(j) o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) gan adran 16(1) a (3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17). Diwygiwyd paragraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) gan adran 12(1) ac (8) i (13) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17). Diwygiwyd paragraff 8 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) gan baragraffau 40 a 53(1) a (2) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26).
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddi. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedi hynny i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 1992/613. Diwygiwyd y Rheoliadau hyn, yn eu cymhwysiad o ran Cymru, gan O.S. 1992/558; O.S. 1992/3008; O.S. 2004/785; O.S. 2009/2706; O.S. 2010/713; O.S. 2013/62; O.S. 2013/570; O.S. 2014/129.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: