xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Caffael Tir, Cymru
Gwnaed
8 Mawrth 2017
Yn dod i rym
6 Ebrill 2017
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.
(2) Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan Weinidogion Cymru neu sy’n ddarostyngedig i gadarnhad ganddynt ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.
2.—(1) Mae Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â gorchmynion prynu gorfodol)—
(a)ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(4A) At ddibenion adran 15(4)(e) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(e) o Atodlen 1 iddi, ffurf y datganiad am effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981(4) y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 1 o Ffurf 9A.
(4B) At ddibenion adran 15(4)(f) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(f) o Atodlen 1 iddi, y ffurf ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 2 o Ffurf 9A.”;
(b)ym mharagraff (5) yn lle “adran 15” rhodder “adran 15(5)” ac yn lle “pharagraff 6” rhodder “pharagraff 6(5)”.
(3) Yn yr Atodlen—
(a)yn y cynnwys, ar ôl yr eitem ar gyfer Ffurf 9, mewnosoder—
“Ffurf 9A | Ffurf ar ddatganiad o effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 ac ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod”; |
(b)ar ôl Ffurf 9, mewnosoder y ffurf yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;
(c)yn lle Ffurf 10, rhodder y ffurf yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;
(d)yn lle Ffurf 11, rhodder y ffurf yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Mawrth 2017
Reheoliad 2(3)(b)
Rheoliad 2(3)(c)
Rheoliad 2(3)(d)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”) (O.S. 2004/2732 (Cy. 239)). Deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.
Mae rheoliad (2) yn diwygio Rheoliadau 2004 i ragnodi ffurfiau ychwanegol at ddibenion Deddf Caffael Tir 1981 (p. 67) (“DCT 1981”). At ddibenion adran 15(4)(e) o DCT 1981 a pharagraff 6(4)(e) o Atodlen 1 iddi, ffurf y datganiad am effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (p. 66) yw Rhan 1 o Ffurf 9A newydd. At ddibenion adran 15(4)(f) o DCT 1981 a pharagraff 6(4)(f) o Atodlen 1 iddi, y ffurf ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod caffael yw Rhan 2 o Ffurf 9A newydd.
Mae rheoliad 2(3)(b) yn mewnosod Ffurf 9A newydd (yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn) yn yr Atodlen i Reoliadau 2004.
Mae rheoliad (c) yn disodli Ffurf 10 yn Rheoliadau 2004 ac yn ei lle yn rhoi fersiwn newydd (yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn).
Mae rheoliad (d) yn disodli Ffurf 11 yn Rheoliadau 2004 ac yn ei lle yn rhoi fersiwn newydd (yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn).
Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan Weinidogion Cymru neu sy’n ddarostyngedig i gadarnhad gan Weinidogion Cymru, ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.
Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.
1981 p. 67; mewnosodwyd adran 15 a pharagraff 6 o Atodlen 1 gan adrannau 100(1) a (7) a 101(1) a (5), yn y drefn honno, o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5). Mewnosodwyd adran 15(4)(e) ac (f) a pharagraff 6(4)(e) ac (f) gan baragraffau 1, 2(1) a (2), a 3(1) a (2) o Atodlen 15 i Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22).
Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau o dan adran 7(2) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) i’r graddau yr oedd yn arferadwy yn unig mewn perthynas â gorchmynion o’r fath sydd i’w gwneud neu i’w cadarnhau gan y Cynulliad. Trosglwyddwyd y swyddogaeth hon wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).