Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwygio) 2017 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017.

2

Mae’r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn gymwys mewn perthynas â gorchymyn prynu gorfodol a wneir gan Weinidogion Cymru neu sy’n ddarostyngedig i gadarnhad ganddynt ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017.

Diwygiadau i Reoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 20042

1

Mae Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Ffurfiau Rhagnodedig) (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 20043 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3 (ffurfiau rhagnodedig mewn cysylltiad â gorchmynion prynu gorfodol)—

a

ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

4A

At ddibenion adran 15(4)(e) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(e) o Atodlen 1 iddi, ffurf y datganiad am effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 19814 y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 1 o Ffurf 9A.

4B

At ddibenion adran 15(4)(f) o’r Ddeddf a pharagraff 6(4)(f) o Atodlen 1 iddi, y ffurf ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod y mae’n rhaid ei defnyddio yw Rhan 2 o Ffurf 9A.

b

ym mharagraff (5) yn lle “adran 15” rhodder “adran 15(5)” ac yn lle “pharagraff 6” rhodder “pharagraff 6(5)”.

3

Yn yr Atodlen—

a

yn y cynnwys, ar ôl yr eitem ar gyfer Ffurf 9, mewnosoder—

Ffurf 9A

Ffurf ar ddatganiad o effaith Rhannau 2 a 3 o Ddeddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 ac ar gyfer rhoi gwybodaeth i’r awdurdod

b

ar ôl Ffurf 9, mewnosoder y ffurf yn Rhan 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;

c

yn lle Ffurf 10, rhodder y ffurf yn Rhan 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn;

d

yn lle Ffurf 11, rhodder y ffurf yn Rhan 3 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Lesley GriffithsYsgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru