2017 Rhif 26 (Cy. 10)

Rhenti A Rhent-daliadau, Cymru

Rheoliadau Rhent-daliadau (Pris Adbrynu) (Cymru) 2017

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 10(1) o Ddeddf Rhent-daliadau 19771 ac a freinir bellach ynddynt hwy2.

Enwi a chychwyn

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhent-daliadau (Pris Adbrynu) (Cymru) 2017, a deuant i rym ar 10 Chwefror 2017.

2

Pris Adbrynu

3

1

At ddibenion—

a

adran 9 o Ddeddf Rhent-daliadau 19773, a

b

adran 9 o Ddeddf Rhent-daliadau 1977 fel y’i cymhwysir gan adran 20(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 19274,

cyfrifir y pris adbrynu mewn perthynas â thir yng Nghymru drwy gymhwyso’r fformiwla a ganlyn—

P=£(RY)(RY(1+Y)n)math

2

At ddibenion y fformiwla ym mharagraff (1)—

  • P = y pris adbrynu;

  • R = swm blynyddol y Rhent-dal (neu, yn ôl y digwydd, y rhent y mae adran 20(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927 yn berthnasol iddo) i’w adbrynu (mewn punnoedd sterling);

  • Y = cyfradd aeddfedu, wedi ei mynegi fel ffracsiwn degol, cyfradd log “dros 30 ond nid dros 30.5 mlynedd” y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol; ac

  • n = y cyfnod, wedi ei fynegi mewn blynyddoedd (gan dalgrynnu unrhyw ran o flwyddyn i flwyddyn gyfan), y byddai’r rhent-dal (neu, yn ôl y digwydd, y rhent y mae adran 20(1) o Ddeddf Landlord a Thenant 1927 yn berthnasol iddo) yn parhau’n daladwy pe na fyddai’n cael ei adbrynu.

3

Ym mharagraff (2), y gyfradd aeddfedu yw’r gyfradd log sydd wedi ei chyhoeddi ar ddiwedd y diwrnod busnes ar ddiwrnod masnachu olaf yr wythnos cyn yr wythnos y cyflwynir y cyfarwyddiadau i adbrynu o dan adran 9(4) o Ddeddf Rhent-daliadau 1977.

Carl SargeantYsgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r fformiwla i’w defnyddio wrth gyfrifo pris adbrynu rhent-daliadau a rhenti eraill yng Nghymru.

Mae’r fformiwla yn defnyddio cyfradd log “dros 30 ond nid dros 30.5 mlynedd” gyhoeddedig y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol (mae hyn yn darparu gwerth yr “Y” yn y fformiwla ragnodedig). Cyhoeddir cyfraddau llog y Gronfa Benthyciadau Cenedlaethol ar wefan Swyddfa Rheoli Dyledion y DU ar www.dmo.gov.uk. Cyhoeddir y cyfraddau llog fel cyfraddau canrannol ac mae angen eu trosi i ffracsiynau degol (eu rhannu â 100) cyn bod modd eu defnyddio yn y fformiwla ragnodedig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.