- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety, Gosod Ffioedd ac Asesiad Ariannol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2017 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 1(3) yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—
“ystyr “byrdymor” (“short term”) yw cyfnod nad yw’n hwy nag 8 wythnos;”;
(b)yn rheoliad 2(a) ar ôl “Unedig” mewnosoder “nad yw’n llety byrdymor”.
3. Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 1(4)—
(i)hepgorer y diffiniad o “terfyn cyfalaf”;
(ii)yn y lle priodol mewnosoder y canlynol—
“ystyr “terfyn cyfalaf perthnasol” (“relevant capital limit”) yw’r uchafswm cyfalaf, a asesir yn unol â’r Rheoliadau Asesiad Ariannol, y caniateir i berson y codir ffi arno feddu arno gan ddibynnu pa un a oes arno angen gofal a chymorth preswyl neu amhreswyl, ac uwchlaw’r uchafswm hwnnw y bydd yn ofynnol i’r person hwnnw, yn unol â rheoliad 11, dalu’r ffi safonol yn llawn.”;
(iii)yn y diffiniad o “terfyn ariannol” yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;
(b)yn rheoliad 7(1) yn lle “£60” rhodder “£70”;
(c)yn rheoliad 8(3)(d) yn lle “(terfyn cyfalaf)” rhodder “(terfyn cyfalaf perthnasol)”;
(d)yn rheoliad 9(1) yn lle “amhreswyl” rhodder “preswyl”;
(e)yn rheoliad 11 (terfyn cyfalaf)—
(i)ym mharagraff (1) yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;
(ii)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Mae’r terfynau ariannol at ddibenion adran 66(5) o’r Ddeddf fel a ganlyn—
(a)y terfyn cyfalaf perthnasol at ddibenion gofal preswyl yw £30,000;
(b)y terfyn cyfalaf perthnasol at ddibenion gofal amhreswyl yw £24,000.”;
(iii)ym mharagraff (3) yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;
(iv)ym mhennawd rheoliad 11 yn lle “Terfyn cyfalaf” rhodder “Terfyn cyfalaf perthnasol”;
(f)yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal), yn lle “£26.50” rhodder “£27.50”;
(g)yn rheoliad 15 (dyfarniad diwygiedig), yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad pellach o allu A i dalu ffi yn unol â’r rheoliad hwn—
(a)rhaid iddo ddarparu datganiad o’r dyfarniad diwygiedig i A; a
(b)rhaid iddo ad-dalu i A unrhyw ordaliad am ofal a chymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd cyn y dyfarniad diwygiedig; neu
(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i A dalu unrhyw ffi ychwanegol am ofal a chymorth a ddarparwyd neu a drefnwyd cyn y dyfarniad diwygiedig.”;
(h)yn rheoliad 22(1) yn lle “£60” rhodder “£70”;
(i)yn rheoliad 23(3)(d) yn lle “(terfyn cyfalaf)” rhodder “(terfyn cyfalaf perthnasol)”;
(j)yn rheoliad 26 (terfyn cyfalaf – taliadau uniongyrchol)—
(i)ym mharagraffau (1) a (2) yn lle “terfyn cyfalaf” rhodder “terfyn cyfalaf perthnasol”;
(ii)ym mhennawd rheoliad 26 yn lle “Terfyn cyfalaf – taliadau uniongyrchol” rhodder “Terfyn cyfalaf perthnasol – taliadau uniongyrchol”;
(k)yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£26.50” rhodder “£27.50”;
(l)yn rheoliad 30 (dyfarniad diwygiedig – taliadau uniongyrchol) yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Pan fo awdurdod lleol yn gwneud dyfarniad pellach o allu B i dalu cyfraniad neu ad-daliad yn unol â’r rheoliad hwn—
(a)rhaid iddo ddarparu datganiad o’r dyfarniad diwygiedig i B; a
(b)rhaid iddo ad-dalu i B unrhyw ordaliad o gyfraniad neu ad-daliad a wnaed cyn y dyfarniad diwygiedig; neu
(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i B dalu unrhyw gyfraniad neu ad-daliad ychwanegol mewn perthynas ag unrhyw daliadau a wnaed cyn y dyfarniad diwygiedig.”
4. Mae Rhan 1 (symiau sydd i’w diystyru) o Atodlen 1 (symiau sydd i’w diystyru wrth gyfrifo incwm) i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015(3) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn lle paragraff 16 rhodder—
“16. Unrhyw swm a ddiystyrid o dan baragraff 16 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (pensiynau penodedig) ac eithrio paragraff 16(a) ac (cc), ond fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 16 o’r Atodlen honno at baragraffau 36 a 37 o Atodlen 9 i’r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gyfeiriad at baragraff 46 o’r Atodlen hon.”;
(b)ar ôl paragraff 16 mewnosoder—
“16A. Unrhyw daliad a geir o dan y Pensiwn Anabledd Rhyfel.”
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
27 Chwefror 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: