xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENNI

Rheoliadau 4 ac 8

ATODLEN 1Gwybodaeth sydd i gael ei Chyflenwi ar Gais i Gofrestru fel Person sy’n Cynnal Practis Deintyddol Preifat

RHAN 1

Gwybodaeth am y ceisydd

1.  Pan fo’r ceisydd yn unigolyn—

(a)enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad presennol, rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (os oes un) y person cyfrifol;

(b)manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person cyfrifol a’i brofiad o gynnal practis deintyddol preifat, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny a’r profiad hwnnw yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat;

(c)manylion am hanes cyflogaeth y person cyfrifol, gan gynnwys enw a chyfeiriad ei gyflogwr presennol ac enw a chyfeiriad unrhyw gyflogwyr blaenorol;

(d)manylion am unrhyw fusnes y mae’r person cyfrifol yn ei gynnal neu wedi ei gynnal;

(e)manylion am unrhyw safle arall neu safleoedd eraill y mae’r person cyfrifol yn cynnal, neu wedi cynnal, practis deintyddol preifat mewn cysylltiad ag ef neu â hwy;

(f)enwau a chyfeiriadau dau ganolwr—

(i)nad ydynt yn berthnasau i’r person cyfrifol;

(ii)y mae’r ddau ohonynt yn gallu darparu geirda o ran cymhwysedd y person cyfrifol i gynnal practis deintyddol preifat o’r un disgrifiad â’r practis deintyddol preifat; a

(iii)y mae un ohonynt wedi cyflogi’r person cyfrifol am gyfnod o 3 mis o leiaf,

ond nid yw’r gofyniad am enw a chyfeiriad canolwr sydd wedi cyflogi’r person cyfrifol am gyfnod o 3 mis o leiaf yn gymwys pan fo’n anymarferol cael geirda oddi wrth berson sy’n bodloni’r gofyniad hwnnw;

(g)os yw’r person cyfrifol yn ddeintydd neu’n broffesiynolyn gofal deintyddol—

(i)rhif cofrestru proffesiynol y person cyfrifol; a

(ii)manylion am unrhyw amodau a osodwyd ar gofrestriad proffesiynol y person cyfrifol neu wrth ei gynnwys ar restr perfformwyr deintyddol;

(h)os yw’r ceisydd yn bwriadu cynnal y practis deintyddol preifat mewn partneriaeth ag eraill, yr wybodaeth a bennir yn is-baragraffau (a) i (g) o’r paragraff hwn mewn perthynas â phob partner i’r ceisydd.

2.  Pan fo’r ceisydd yn bartneriaeth—

(a)enw a chyfeiriad y bartneriaeth;

(b)mewn perthynas â phob aelod o’r bartneriaeth, yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 1(a) i (g).

3.  Pan fo’r ceisydd yn sefydliad—

(a)enw’r sefydliad a chyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r sefydliad;

(b)enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad presennol a rhif ffôn y person cyfrifol;

(c)manylion am gymwysterau proffesiynol neu dechnegol y person cyfrifol a’i brofiad o gynnal practis deintyddol preifat, i’r graddau y mae’r cymwysterau hynny a’r profiad hwnnw yn berthnasol i ddarparu gwasanaethau i bersonau y mae gwasanaethau i gael eu darparu iddynt yn y practis deintyddol preifat;

(d)os yw’r sefydliad yn is-gwmni i gwmni daliannol, enw a chyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r cwmni daliannol ac unrhyw is-gwmni arall i’r cwmni daliannol hwnnw.

4.  Ym mhob achos—

(a)datganiad ynghylch a yw’r person cyfrifol wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr, yn berson y gwnaed gorchymyn rhyddhau o ddyled mewn cysylltiad ag ef neu y gorchmynnwyd secwestru ei ystad, neu a yw’r person cyfrifol wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth ar eu cyfer;

(b)datganiad ynghylch gallu’r ceisydd i sicrhau hyfywedd ariannol y practis deintyddol preifat at ddiben cyflawni nodau ac amcanion y practis deintyddol preifat a nodir yn ei ddatganiad o ddiben.

RHAN 2

Gwybodaeth am y practis deintyddol preifat

5.  Enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) y practis deintyddol preifat.

6.  Pan fo’r practis deintyddol preifat yn cael ei weithredu o fwy nag un safle, enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs (os oes un), a chyfeiriad post electronig (os oes un) pob safle.

7.  Y disgrifiad o’r practis deintyddol preifat y mae’r ceisydd yn ceisio cael ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef.

8.  Datganiad o ddiben y practis deintyddol preifat.

9.  Datganiad o ran y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd i gael eu darparu gan y practis deintyddol preifat gan gynnwys hyd a lled y cyfleusterau a gwasanaethau hynny.

10.  Y dyddiad y sefydlwyd y practis deintyddol preifat neu y bwriedir ei sefydlu.

11.  Manylion am y ffioedd dangosol sy’n daladwy gan y defnyddwyr gwasanaethau.

12.  Mewn cysylltiad â’r fangre sydd i gael ei defnyddio gan bractis deintyddol preifat, disgrifiad o’r fangre, gan gynnwys datganiad ynghylch a yw’r fangre wedi cael ei hadeiladu’n bwrpasol neu a yw wedi cael ei throsi i’w defnyddio fel practis deintyddol preifat.

13.  Mewn cysylltiad â’r fangre sydd i gael ei defnyddio fel practis deintyddol preifat, datganiad ynghylch a ellir defnyddio’r fangre, ar y dyddiad y gwneir y cais, at y dibenion ym mharagraff 14 heb fod angen caniatâd cynllunio, gwaith adeiladu, na throsi’r fangre ac, os na ellir defnyddio’r fangre yn y modd hwnnw ar y dyddiad y gwneir y cais, manylion am y caniatâd, y gwaith adeiladu neu’r gwaith trosi angenrheidiol.

14.  Y dibenion y cyfeirir atynt ym mharagraff 13 yw—

(a)cyflawni’r nodau ac amcanion a nodir yn natganiad o ddiben y practis deintyddol preifat; a

(b)darparu cyfleusterau a gwasanaethau yn unol â’r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff 9.

15.  Datganiad ynghylch y trefniadau diogelwch, gan gynnwys trefniadau at ddibenion—

(a)diogelu mynediad at wybodaeth a gedwir gan y practis deintyddol preifat; a

(b)cyfyngu mynediad o fangreoedd cyfagos neu, pan fo’r fangre yn rhan o adeilad, o rannau eraill o’r adeilad.

16.  Enw a chyfeiriad unrhyw bractis deintyddol preifat arall, y mae gan y ceisydd fuddiant busnes neu ariannol ynddo, neu y bu ganddo fuddiant o’r fath ynddo, neu lle y cyflogir neu y cyflogwyd y ceisydd, a manylion am y buddiant hwnnw neu’r gyflogaeth honno.

17.  A oes, neu a fydd, unrhyw fusnes arall yn cael ei gynnal yn yr un fangre â mangre’r practis deintyddol preifat ac, os felly, manylion am y busnes hwnnw.

18.  Manylion am unrhyw gynhyrchion laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4(1) a fydd yn cael eu defnyddio i ddarparu triniaeth ddeintyddol i gleifion gan gynnwys a yw’r protocol proffesiynol gofynnol wedi cael ei lunio ac a ymgymerwyd â’r hyfforddiant priodol.

Gwybodaeth am swyddi staff

19.  Rhestr o swyddi staff yn y practis deintyddol preifat a’r dyletswyddau a’r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth bob swydd.

RHAN 3

Gwybodaeth bellach am staff

20.  Mewn cysylltiad ag unrhyw berson, ac eithrio’r ceisydd, sy’n gweithio yn y practis deintyddol preifat neu y bwriedir iddo weithio yno—

(a)os yw’n berthynas i unrhyw berson sydd wedi gwneud cais mewn cysylltiad â’r practis deintyddol preifat, ei berthynas â’r person hwnnw;

(b)gwybodaeth ynghylch cymwysterau’r person, ei brofiad a’i sgiliau i’r graddau y maent yn berthnasol i’r gwaith y mae’r person i’w gyflawni;

(c)datganiad gan y ceisydd ei fod wedi ei fodloni o ran dilysrwydd y cymwysterau, a’i fod wedi gwirio’r profiad a’r sgiliau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c);

(d)datganiad ynghylch—

(i)addasrwydd cymwysterau’r person ar gyfer y gwaith y mae’r person i’w gyflawni;

(ii)oes gan y person y sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y gwaith hwnnw;

(iii)addasrwydd y person i weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau ac i gael cyswllt rheolaidd â hwy;

(e)datganiad gan y person ynghylch cyflwr ei iechyd corfforol a meddyliol;

(f)datganiad gan y ceisydd i gadarnhau a yw wedi ei fodloni ynghylch hunaniaeth y person, y dull a ddefnyddiodd y ceisydd i’w fodloni ei hunan ynglŷn â hynny, ac a yw’r ceisydd wedi cael copi o dystysgrif geni’r person;

(g)cadarnhad gan y ceisydd fod ganddo ffotograff diweddar o’r person;

(h)datganiad gan y ceisydd ei fod wedi cael dau eirda sy’n ymwneud â’r person a bod y ceisydd wedi ei fodloni ynghylch dilysrwydd y geirdaon hynny;

(i)manylion am unrhyw droseddau y mae’r person wedi ei euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau sydd wedi eu disbyddu o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y caniateir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975, ac, mewn perthynas â phob trosedd o’r fath, ddatganiad gan y person—

(i)ynghylch a yw ei drosedd yn berthnasol yn ei farn ef i’w addasrwydd i ofalu am unrhyw berson, i hyfforddi unrhyw berson, i oruchwylio unrhyw berson neu i fod â gofal ar ei ben ei hun am unrhyw berson ac, os felly,

(ii)ynghylch pam y mae’n ystyried ei fod yn addas i wneud y gwaith y mae i gael ei gyflogi i’w gyflawni;

(j)manylion am unrhyw droseddau y mae wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad â hwy, ac a gyfaddefodd ar yr adeg y rhoddwyd y rhybuddiad;

(k)cadarnhad gan y ceisydd bod y person wedi cael archwiliadau iechyd safonol ac archwiliadau iechyd ychwanegol pan fydd y person yn cynnal triniaethau a all arwain at gysylltiad;

(l)os yw’r person yn ddeintydd neu’n broffesiynolyn gofal deintyddol, datganiad—

(i)bod y person wedi ei gofrestru â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol; a

(ii)bod gan y person dystysgrif sicrwydd indemniad sy’n darparu sicrwydd i’r person mewn cysylltiad ag atebolrwyddau a all godi wrth gyflawni gwasanaethau’r person.

(1)

I gael ystyr cynnyrch laser Dosbarth 3B neu Ddosbarth 4 gweler Rhan 1 Safon Prydeinig EN 60825 – 1 (Diogelwch ymbelydredd cynhyrchion a systemau laser). Gellir cael copïiau oddi wrth: BS1 Customer Services, 389 Chiswick High Road, London W4 4AL.